Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r llwyth cyntaf o gyflenwadau meddygol, sy’n cynnwys peiriannau anadlu, rhwymynnau a masgiau wyneb, yn cael eu hanfon o Gymru hediw i gefnogi pobl Wcráin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cychwynnodd y cyflenwadau meddygol ar eu taith o Gymru y bore yma a byddant yn cael eu cludo mewn awyren i Wlad Pwyl, ac yna ymlaen i Wcráin.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Mae Cymru'n sefyll yn gadarn gydag Wcráin a'i phobl.

Mae’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Wcráin yn rhai hir a dwfn ac rydym yn barod i gynnig unrhyw gymorth ymarferol a dyngarol a allwn.

Y ffordd orau i bobl Cymru gefnogi Wcráin yw rhoi arian i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, fel y gall cyflenwadau gael eu prynu mor agos ag sy’n bosibl i’r mannau sydd eu hangen.

Fodd bynnag, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i ganfod pa gyflenwadau meddygol sydd eu hangen ar frys. Mae gennym ragor y gyflenwadau meddygol yn barod i fynd i Wcráin. Os gallwn ni helpu pobl Wcráin mewn unrhyw ffordd, fe wnawn ni hynny.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £4 miliwn i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau i ddarparu cymorth lle mae ei angen fwyaf yn Wcráin.