Neidio i'r prif gynnwy
Sue Flack

Ymgynghorydd ynnibynnol.

Mae Sue bellach yn rhedeg ei busnes ymgynghori ei hun yn cynghori ar faterion strategol sy'n ymwneud â chynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth, gan arbenigo mewn integreiddio cynllunio a thrafnidiaeth, gan gynnwys Ardoll ar Barcio yn y Gweithle. Bu'n Gyfarwyddwr Cynllunio a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Dinas Nottingham rhwng 2012 a 2016, ar ôl bod yn gyfrifol yn flaenorol am ddatblygu'r cynllun Ardoll Parcio yn y Gweithle cyntaf (a hyd yn hyn yr unig un) yn Nottingham o'i gamau cychwynnol, a datblygu cynlluniau teithio arloesol a fforymau trafnidiaeth cyflogwyr, gan gynnwys comisiynu ymgyrch marchnata trafnidiaeth integredig y ‘Big Wheel’. Rhwng y cyfnodau yn Nottingham bu'n gweithio'n rhyngwladol fel ymgynghorydd mewn strategaethau trafnidiaeth a datblygu syniadau ynghylch symudedd fel gwasanaeth.