Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths MS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, rwy’n rhoi gwybod i Aelodau'r Senedd fy mod wedi mynychu cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 21 Mawrth.

Yn bresennol yn y cyfarfod oedd George Eustice AS y DU (cadeirydd), yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth y DU; Victoria Prentis AS y DU, y Gweinidog Gwladol, Defra, Llywodraeth y DU; Mairi Gougeon ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a'r Ynysoedd, Llywodraeth yr Alban; Lorna Slater ASA, y Gweinidog dros Sgiliau Gwyrdd, Yr Economi Gylchol, a Bioamrywiaeth, Llywodraeth yr Alban; Edwin Poots ACD, y Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Roedd David TC Davies AS y DU, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru a Connor Burns AS y DU, Gweinidog Gwladol Gogledd Iwerddon hefyd yn bresennol.

Yn y cyfarfod trafodwyd y sefyllfa ofnadwy yn Wcráin a'r effeithiau ar gostau cynhyrchu gwrtaith, porthiant a phrosesu pysgod gwyn. Codwyd pryderon ynghylch teithio a chwarantin o ran anifeiliaid anwes hefyd.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU ei chynigion ar gyfer dynodiadau safleoedd gwarchodedig a amlinellwyd yn ei Phapur Gwyrdd ar Natur. Rhoesant yr wybodaeth ddiweddaraf hefyd am gyhoeddi Fframweithiau Cyffredin a chraffu arnynt.

Wrth drafod paratoadau ar gyfer rheoli ffiniau, pwysais ar Lywodraeth y DU am sicrwydd y byddai'n ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig cyn gynted â phosibl wrth ddrafftio unrhyw ddeddfwriaeth bellach angenrheidiol a’u cynnwys mewn trafodaethau ynghylch ariannu seilwaith.

Nododd pob gweinyddiaeth benderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu eithriad i Ddeddf y Farchnad Fewnol ar gyfer plastigau untro. Ar ran y Gweinidog Newid Hinsawdd, ymunais â'm cyd-Aelodau yn Llywodraeth yr Alban i nodi siom ynghylch natur gul yr eithriad.

Codwyd sawl eitem o dan Unrhyw Fater Arall, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion ar gyfer Partneriaeth Data Bwyd a Thryloywder, trafodaethau'n ymwneud â'r arfer o ddefnyddio pysgod mewn porthiant pysgod ar gyfer eogiaid ym maes dyframaethu, a chododd Gweinidogion yr Alban bryderon ynghylch materion treth y Cynllun Dychwelyd Ernes.  Estynnais wahoddiad hefyd i’r aelodau i Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf.

Bydd hysbysiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU ynhttps://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs.