Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, yr wyf wedi cyhoeddi penodiadau i'm Bwrdd Cynghori newydd, a fydd yn rhoi cyngor arbenigol ar faterion polisi economaidd.

Mae’r Bwrdd yn dwyn ynghyd unigolion sydd ag ystod amrywiol o sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd i gyflwyno eu safbwynt mewn meysydd busnes, y byd academaidd, llais gweithwyr a'r agenda Gwaith Teg.

Trwy ein Cenhadaeth Economaidd rydym am greu'r amodau lle mae mwy o bobl yn teimlo'n hyderus am gynllunio eu dyfodol yng Nghymru.  Bydd y Bwrdd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y materion economaidd sy'n effeithio ar bobl ifanc, yn ogystal â nodi arfer gorau a dysgu o ardaloedd y tu allan i'r DU ac archwilio sut y gallai hyn lywio ein syniadau polisi yng Nghymru.

Wrth i’r aelodau ddefnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd personol, bydd eu mewnbwn yn ategu ac yn ychwanegu gwerth at ffynonellau cyngor allanol presennol a ddarperir gan fforymau a phartneriaid eraill. 

Mae'n bleser gennyf benodi'r Athro Andrew Campbell yn Gadeirydd. Mae profiad Andrew fel arweinydd ac academydd mewn sector economaidd allweddol yn golygu y bydd yn gaffaeliad i’r swydd allweddol hon. Bydd yn cael ei gefnogi'n fedrus gan yr Is-gadeirydd, Andrea Wayman, sydd â phrofiad helaeth ym maes menter gymdeithasol a chyflogaeth gynhwysol.

Mae manylion llawn am gylch gwaith ac aelodaeth y Bwrdd i'w gweld yma.

Bwrdd Cynghori'r Gweinidog Economaidd