Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y symiau a gasglwyd, ôl-ddyledion a symiau a ddilëwyd ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Prif bwyntiau

  • Yn 2021-22, casglwyd 96.3% o filiau'r dreth gyngor gan awdurdodau bilio, cynnydd o 0.6 pwynt canran.
  • Cofnododd y rhan fwyaf o awdurdod gynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn eu cyfradd gasglu yn 2021-22 yn bennaf oherwydd atal adennill dyledion yn ystod pandemig COVID-19 yn y flwyddyn flaenorol. 
  • Cafwyd y gyfradd gasglu uchaf y flwyddyn hon yng Nghastell-nedd Port Talbot (98.0%) a’r gyfradd gasglu isaf ym Mlaenau Gwent (92.3%).
  • Yr union swm a gasglwyd o safbwynt biliau 2021-22, heb gynnwys cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, oedd £1,837 miliwn allan o’r £1,908 miliwn a oedd yn ddyledus.
  • Yn ystod 2021-22, casglwyd £43 miliwn o ôl-ddyledion o ran blynyddoedd blaenorol gan awdurdodau bilio, a chafodd gwerth £5 miliwn eu dileu fel dyledion drwg.
  • Y cyfanswm a oedd yn ddyledus ar 31 Mawrth 2022 oedd £173 miliwn, gyda £70 miliwn o’r swm hwn yn ôl-ddyledion yn ystod y flwyddyn.

Adroddiadau

Cyfraddau casglu'r Dreth Gyngor: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 421 KB

PDF
Saesneg yn unig
421 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.