Neidio i'r prif gynnwy

Paid cadw’n dawel am gam-drin a thrais – dyma sut y galli di helpu

Mae'n anodd codi'r mater â rhywun a allai fod angen help arno. Fodd bynnag, gallech chi fod yn dod â gobaith i rywun am y tro cyntaf drwy ofyn y cwestiwn syml "wyt ti'n iawn?".

Efallai y byddwch yn ofni canlyniadau gofyn, neu’n meddwl nad yw e'n ddim o'ch busnes chi, neu'n meddwl eu bod eisoes yn cael help gan rywun arall. Ond, efallai mai chi yw'r unig berson sydd wedi sylwi.

Mae'r rheini sydd wedi goroesi cael eu cam-drin yn dweud yn glir eu bod nhw eisiau i bobl godi'r mater gyda nhw a'u holi a oedd angen help arnynt, bod angen iddynt wybod bod yna bobl o'u cwmpas sy'n barod i helpu pan fyddan nhw'n barod i newid pethau.

Sut y gallwch chi helpu rhywun

Os ydych chi'n poeni bod rhywun mewn perygl a rhywbeth ar fin digwydd iddynt, ffoniwch 999.

Os nad ydynt mewn perygl a rhywbeth ar fin digwydd iddynt:

  • Gofynnwch "ydych chi’n iawn?" - rhowch wybod iddynt eich bod chi yno i'w helpu.
  • Rhowch sicrwydd iddyn nhw nad nhw sydd ar fai.
  • Rhowch sicrwydd iddyn nhw eich bod chi'n eu credu nhw.
  • Siaradwch â nhw am y cymorth proffesiynol y gallan nhw ei gael.
  • PEIDIWCH â siarad â'r unigolyn sy'n cam-drin - Gallai hynny roi'r unigolyn sy'n dioddef mewn sefyllfa beryglus.
  • PEIDIWCH ag annog unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig i adael - mae gadael yn gallu bod yn sefyllfa beryglus.

Os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu codi'r mater gyda'r unigolyn yr ydych yn poeni amdano, ffoniwch linell gymorth am ddim Byw Heb Ofn i gael cyngor ar sut i helpu.

Siaradwch â ni nawr

Os bydd rhywun yr ydych chi'n ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwn ni roi'r cyngor sydd ei angen arnoch.

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.

Roedd gofyn a oeddent yn iawn wedi helpu'r goroeswyr hyn