Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod y ddogfen hon yw sicrhau asesiad o effeithiau’r cynnig arfaethedig i ddileu’r cyfyngiadau fel y nodir yn Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: Covid-19 -Cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig (Mawrth 2022).

Gan fod y cynigion hyn yn ymwneud â dileu’r cyfyngiadau, nid oes Asesiad Effaith Cryno llawn wedi’i gwblhau. Mae’r canfyddiadau isod wedi’u llywio gan Asesiadau Effaith Cryno blaenorol y gellir dod o hyd iddynt yma: Asesiadau o effaith: coronafeirws.

Cefndir deddfwriaethol

Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i rym ar 26 Mawrth 2020, ac fe’u disodlwyd yn ddiweddarach gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2), (Rhif 3), (Rhif 4) a (Rhif 5) (Cymru). Gellir dod o hyd i fersiwn wedi’i chydgrynhoi o’r Rheoliadau diweddaraf ar LLYW.CYMRU.

Mae’r Datganiad Cryno hwn o Effeithiau yn ymwneud â dod â’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 i ben ar 28 Mawrth 2022.

Adolygiad o reoliadau’r cyfyngiadau

Yn unol â’r dystiolaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf, mae’n rhaid adolygu’r Rheoliadau bob tair wythnos. Gyda lefelau uchel o frechlynnau wedi’u rhoi i’r boblogaeth, llai o achosion o bobl yn gorfod mynd i’r ysbyty a llai o farwolaethau yn sgil COVID-19, mae’n bosibl nad yw cyfyngiadau yn gymesur mwyach ac na fyddant felly o bosibl yn cael eu hadnewyddu. Golyga hyn na fyddai’r darpariaethau craidd yn ofyniad cyfreithiol mwyach. Fodd bynnag, byddai llawer o gamau gweithredu amddiffynnol yn parhau i gael eu cynghori.

Asesiadau effaith

  1. Dileu’r gofynion cyfreithiol o ran defnyddio gorchuddion wyneb mewn lleoliadau penodol
  2. Dileu’r gofyniad cyfreithiol o ran hunanynysu
  3. Dileu’r gofyniad cyfreithiol ar fusnesau a sefydliadau i gwblhau asesiadau risg yn unol ag erthygl 16 o’r Rheoliadau, a bod busnesau, sefydliadau ac ymgyrchwyr etholiadau yn cwblhau camau rhesymol i reoli lledaeniad COVID-19

Effeithiau ar lesiant

Disgwylir y bydd dileu’r cyfyngiadau cyfreithiol sy’n weddill yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant rhai unigolion a allai deimlo eu bod yn cael eu heffeithio’n negyddol gan y darpariaethau presennol sy’n ymwneud â gwisgo gorchuddion wyneb. Gall hyn fod yn berthnasol hefyd i unigolion sydd wedi wynebu unigrwydd os ydynt wedi gorfod hunanynysu.

I’r gwrthwyneb, gall rhai unigolion wynebu pryderon a gorbryder os ydynt o’r farn bod dileu’r cyfyngiadau yn digwydd yn rhy fuan gan beryglu iechyd. Gall hyn effeithio’u llesiant yn negyddol a gallant yn hytrach ddewis encilio o gymdeithas.

Gall dileu’r gofynion penodol ynghylch ymgyrchu etholiadol achosi gorbryder i ymgyrchwyr a phleidleiswyr a allai fod yn ansicr a yw’r gwaith ymgyrchu’n cael ei wneud yn ddiogel. Dylai cyngor iechyd y cyhoedd fod o gymorth i leddfu pryderon.

Mae gorchuddion wyneb yn enwedig yn gam lliniaru gweladwy iawn. Mae dileu’r gofyniad cyfreithiol o ran defnyddio gorchuddion wyneb yn debygol o arwain at ostyngiad yn y defnydd ohonynt a allai effeithio’n negyddol ar lesiant. Efallai y bydd unigolion hefyd yn bryderus bod unigolion sydd wedi profi’n bositif am COVID-19 yn parhau i ledaenu’r feirws gan nad yw’n ofynnol iddynt hunanynysu mwyach.

Gall y canllawiau a’r cyngor parhaus liniaru rhai o’r pryderon hyn, fodd bynnag, mae’n debygol y bydd unigolion yn bryderus bod dileu’r gofynion cyfreithiol am newid ymddygiadau.

Wedi i’r gofyniad cyfreithiol o ran hunanynysu ddod i ben, gallai unigolion fod yn bryderus bod unigolion yn parhau i ledaenu’r feirws os ydynt wedi profi’n bositif am COVID-19, yn ogystal â chysylltiadau agos sydd heb eu brechu gan nad yw’n ofyniad cyfreithiol arnynt mwyach i hunanynysu. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall y canllawiau a’r cyngor parhaus ynglŷn â hunanynysu ac aros gartref os yw unigolion yn bositif, yn ogystal â chwblhau profion llif unffordd cyn gorffen hunanynysu liniaru rhai o’r pryderon hyn. Mae hyn yn enwedig gan y bydd y dull hwn o weithredu yn cael ei gyplysu â pharhad y cynllun cymorth hunanynysu. Bydd pobl sydd wedi profi’n bositif ac sydd angen hunanynysu yn parhau i gael eu cefnogi i wneud hynny. Bydd profion llif unffordd yn canfod y rhai hynny sy’n parhau i fod yn heintus a gallant felly barhau i gymryd camau i atal trosglwyddiad pellach gan felly amddiffyn y rhai hynny sy’n agored i niwed. Ymhellach at hynny, bydd pob cyswllt yn parhau i gael cyngor o ran bod yn wyliadwrus am symptomau, yn ogystal â chael cyngor ar sut i leihau’r posibilrwydd o drosglwyddo COVID-19 i eraill, er enghraifft drwy roi sylw ychwanegol i olchi dwylo.

Gall effeithiau negyddol yn sgil y mesurau ‘aros gartref’ mewn perthynas â menywod a phlant sy’n wynebu camdriniaeth gael eu lliniaru os oes angen hyblygrwydd arnynt o ran ble y maent yn hunanynysu. Mae hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer sawl carfan o’r boblogaeth y mae teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd wedi dwysáu iddynt, yn ogystal ag effeithiau anghymesur ar fywydau pobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a menywod. 

O ganlyniad i’r broses o ddileu gofynion erthygl 16, gallai rhai unigolion deimlo eu bod yn cael eu gorfodi i fynd yn ôl i’w man gwaith. Gall hyn achosi straen a gorbryder gan effeithio’n negyddol ar eu llesiant. Gall unigolion hefyd deimlo’n anniogel yn y gwaith os yw’r holl fesurau rhesymol sydd wedi’u rhoi ar waith yn dod i ben. Gall eraill elwa o ragor o gyfleoedd i fynd i’r gwaith gan leihau teimladau o unigrwydd a sicrhau budd i’w llesiant.

Bydd dyletswyddau cyfreithiol o dan gyfraith iechyd a diogelwch yn gymwys er mwyn rheoli risgiau galwedigaethol sy’n deillio o’r coronafeirws ac sy’n cael eu creu yn y gweithle neu drwy weithgareddau gwaith. Enghreifftiau o hyn yw staff sy’n gweithio gyda’r rhai sydd wedi’u heintio â COVID-19 yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, neu drwy weithgareddau ymchwil. Yn y lleoliadau hyn, bydd mesurau rheoli iechyd a diogelwch yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol. Mae cyfraith iechyd a diogelwch hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr sicrhau bod safleoedd wedi’u hawyru’n dda ac yn cael eu glanhau yn ddigonol.

Bydd cyngor iechyd y cyhoedd yn cael ei ddarparu, fodd bynnag, ni fydd y cyngor hwn yn disodli cyfrifoldebau statudol busnesau a chyflogwyr o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, Rheoliadau Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992, Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015 na chyfreithiau cyflogaeth.

Wrth symud ymlaen, diben cyngor iechyd y cyhoedd fydd cynorthwyo busnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau i ganfod mesurau rheoli iechyd y cyhoedd sy’n addas ac yn effeithiol i liniaru'r risgiau yn erbyn clefydau trosglwyddadwy (gan gynnwys y ffliw, coronafeirws a norofeirws).

Effeithiau economaidd

Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau economaidd yn sgil dileu’r gofyniad cyfreithiol o ran defnyddio gorchuddion wyneb. Mae unrhyw effeithiau economaidd yn sgil dod ag erthygl 16 i ben yn debygol o fod yn fach iawn o ganlyniad i’r gofynion cyfreithiol parhaus sydd ar waith o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch sy’n bodoli eisoes.

Gall dileu’r gofyniad cyfreithiol o ran hunanynysu gael effaith gadarnhaol ar fusnesau sydd wedi wynebu trafferthion yn sgil absenoldebau staff. Fodd bynnag, cynlluniwyd y ddyletswydd hunanynysu er mwyn tarfu ar drosglwyddiad pellach o COVID-19 yn y gweithle, gan arwain at lai o absenoldebau oherwydd salwch. Os bydd unigolion yn penderfynu mynd i’w gwaith pan fyddant yn symptomatig, gallai hyn arwain at glwstwr o achosion a gallai hyn gael mwy o effaith. Gellir lliniaru hyn drwy gadw at ganllawiau hunanynysu a pharhau â'r cynllun cymorth hunanynysu.

Effeithiau amgylcheddol

Ni ragwelir unrhyw effeithiau penodol yn sgil dileu’r gofynion cyfreithiol mewn perthynas â gorchuddion wyneb, hunanynysu na gofynion erthygl 16.

Drwy gydol y pandemig, mae swyddogion yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cadw llygad ar yr effeithiau o ran ansawdd yr aer. Mae ymgynghorwyr allanol wedi’u comisiynu er mwyn dadansoddi’r effeithiau. Bydd y gwaith hwn yn llywio polisïau’r dyfodol gyda’r bwriad i gynnal gwelliannau ansawdd aer ar gyfer y dyfodol, cyn belled ag y bo modd.

Asesiadau effaith

Effeithiau ar gydraddoldeb

Ystyriwyd yr effeithiau ar y nodweddion neu’r grwpiau gwarchodedig canlynol:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd (y weithred o drawsnewid a Phobl Drawsryweddol)
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd, cred a diffyg cred
  • Rhyw / Rhywedd
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed
  • Aelwydydd incwm isel

Canfuwyd yr effeithiau canlynol:

  • Gall unigolion sy’n wynebu risg uwch o salwch difrifol yn sgil COVID-19 fod yn arbennig o bryderus ynghylch y risgiau cynyddol o ganlyniad i’r ffaith bod y cyfyngiadau hyn yn dod i ben. Gall hyn effeithio ar bobl hŷn a phobl anabl a allai fod yn fwy tebygol o fod yn agored i niwed yn glinigol.
  • O ran y newidiadau i ofynion hunanynysu, gallai dileu’r gofyniad o ran hunanynysu olygu y bydd angen i rai unigolion ddewis rhwng parhau i weithio pan fyddant wedi’u heintio â COVID-19 ai peidio. Fodd bynnag, ceir effeithiau negyddol yn sgil y mesurau ‘aros gartref’ mewn perthynas â menywod a phlant sy’n wynebu camdriniaeth, sawl carfan o’r boblogaeth y mae teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd wedi dwysáu iddynt, yn ogystal ag effeithiau anghymesur ar fywydau pobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a menywod.

Gan ystyried ffocws cul y cyfyngiadau sy’n weddill, ni chanfuwyd unrhyw effeithiau eraill.

Bydd y camau lliniaru canlynol yn cael eu rhoi ar waith:

  • Bydd camau gweithredu amddiffynnol yn parhau i gael eu cynghori’n gryf. Bydd canllawiau hefyd ar gael i helpu busnesau a sefydliadau i ddeall eu rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch. Bydd cyngor craidd ar gael i’r cyhoedd yn ogystal.
  • Gall parhau â'r canllawiau hunanynysu a'r cynllun cymorth hunanynysu olygu bod sefyllfaoedd yn cael eu lliniaru, yn enwedig ar gyfer aelwydydd incwm isel.

Hawliau Dynol a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig

Prif bwrpas y cyfyngiadau a’r gofynion oedd yn gysylltiedig â’r ymateb i’r pandemig oedd gwarchod yr hawl sydd gan bawb i fywyd. Arweiniodd hyn at gyfyngiadau ar hawliau pobl megis yr hawl i fywyd preifat a bywyd teuluol, yn ogystal â’r rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu y gellir cyfiawnhau hynny ar sail iechyd. Mae iechyd y cyhoedd yn cael ei ddisgrifio yn rheswm derbyniol dros gyfyngu ar yr hawliau hyn, ar yr amod bod hynny yn angenrheidiol ac yn gymesur.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Ni chanfuwyd unrhyw effeithiau ar hawliau plant.

Yr Iaith Gymraeg

Ni chanfuwyd bod y cynnig yn achosi unrhyw effeithiau negyddol ar y Gymraeg.