Neidio i'r prif gynnwy

Araith gan Jerermy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Noswaith dda gyfeillion, ac mae’n bleser cael y cyfle i fod yma heno yng Ngholeg y Cymoedd yma yn Nantgarw i drafod dyfodol addysg bellach yng Nghymru gyda chi. A diolch i Goleg y Cymoedd am y croeso - ac i chi i gyd am roi o’ch hamser i fod yma.

Noswaith dda, bawb. Mae’n bleser cael y cyfle i fod yma heno yng Ngholeg y Cymoedd yn Nantgarw i drafod dyfodol addysg bellach yng Nghymru. Diolch i Goleg y Cymoedd am gynnal y digwyddiad hwn yn yr amgylchedd trawiadol hwn, ac i chi am roi o’ch amser i fod yma heno hefyd. 

Ers ymgymryd â rôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y llynedd, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun gyfraniad enfawr y sector addysg bellach yng Nghymru. Ac mae wedi bod yn braf iawn gweld y berthynas gref rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector addysg bellach.

Ond wrth gwrs, mae gennym ddiddordebau a gwerthoedd cyffredin. Rydyn ni i gyd yn ymdrechu i gael system addysg sy’n galluogi ein holl fyfyrwyr i gyflawni eu potensial; ac sydd hefyd yn cyfoethogi ein cymunedau a’n bywyd dinesig.

Mewn ffordd, mae’r rhain yn eiriau hawdd i weinidog eu dweud, ond dwi’n meddwl ein bod ni wedi gweld ffrwyth y berthynas honno yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. A hoffwn ddiolch i chi fel sector am y ffordd y gwnaethoch chi ymateb i dreialon a phrofion y pandemig Covid. 

FE wnaethoch chi roi dysgwyr a’u hanghenion wrth galon eich ymateb. Ac roedd y cymorth a’r gofal a ddangoswyd gennych tuag at eich dysgwyr a’ch staff yn eithriadol.

Ac rydych chi wedi gweithio’n dda gydag ysgolion i gydnabod anghenion dysgwyr sydd wir wedi dioddef y tarfu a fu ar ein system. Ac mae hynny wedi bod yn hanfodol i helpu ein pobl ifanc i symud ymlaen i gamau nesaf eu haddysg a chadw eu cymhelliant.

Roeddech chi’n hynod o hyblyg o ran addasu i’r galw newydd am ddysgu ar-lein, ac am ddarpariaeth gyfunol i fyfyrwyr. Ac rydych chi wedi chwarae eich rhan fel colegau yn yr ymateb ehangach i Covid, gan gynnwys fel rhan o’r ddarpariaeth ysbytai maes, hyd yn oed.

Canolbwyntio ar y dysgwr, cydweithio, y gallu i addasu, llesiant a chydnerthedd, arweinyddiaeth leol. Y 5 gwerth a dull gweithredu hyn yw’r rhai rydych chi – yn fy marn i, o leiaf – wedi eu dangos ar eu gorau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac wrth i ni edrych tua’r dyfodol yng Nghymru, mae angen i’r gwerthoedd hyn helpu i lunio ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer addysg bellach yn fy marn i.

Ers dod yn Weinidog yng nghanol y pandemig, ni fu cyfle arbennig o naturiol i nodi fy ngweledigaeth ehangach ar gyfer y cyfraniad y gall y sector addysg bellach ei wneud at ddyfodol Cymru.

Ochr yn ochr â gweithio gyda chi i ymateb i’r pandemig, rydym wrth gwrs wedi bod yn cydweithio ar y diwygiadau mwyaf pellgyrhaeddol i addysg ôl-16 y mae Cymru wedi eu gweld yn y Bil Addysg Drydyddol ac Yymchwil.

Ac mae’r rhain yn sail hanfodol i sector ôl-16 sy’n addas ar gyfer y dyfodol, ond nid dyma ein gweledigaeth gyfan ar gyfer addysg bellach yng Nghymru.

Felly heno, hoffwn ddweud wrthych pa mor bwysig i mi yw’r bartneriaeth strategol sydd gennym gyda’r sector, a sut yr hoffwn ddyfnhau’r berthynas honno ymhellach.

Ac mae hon yn llywodraeth sydd wedi ymrwymo i addysg bellach. Roeddwn i’n benderfynol y byddem yn adlewyrchu hynny yn ein setliad cyllideb eleni. Felly, ar gyfer 2022 i 2023, byddwch yn gweld buddsoddiad o £415 miliwn yn uniongyrchol i golegau ar gyfer cymorth a darpariaeth graidd, sef y cynnydd mwyaf mewn blynyddoedd lawer. Ac rwy’n falch hefyd ein bod ni’n gallu manteisio ar setliad amlflwydd o Whitehall i roi gwybod i chi am gyllidebau dros gyfnod o 3 blynedd.

Yn ogystal â hynny, rwy’n cyhoeddi heddiw £17.209 miliwn arall o fuddsoddiad i foderneiddio amgylcheddau dysgu.

Yn ogystal â chyllid, mae mentrau fel Taith, sef ein rhaglen cyfnewid addysg fyd-eang newydd, yn dangos pa mor bwysig yw creu cyfleoedd newydd ym maes addysg bellach ac addysg alwedigaethol.

Dyma’r rhaglen symudedd rhyngwladol sydd wedi cael y lefel fwyaf hael o gyllid erioed ym maes addysg bellach yng Nghymru, gyda £3.5 miliwn ar gael ar gyfer ceisiadau eleni – yr un faint ag ar gyfer addysg uwch. Mae wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer Cymru, a bydd yn galluogi myfyrwyr a staff i dreulio cyfnod yn astudio neu’n gweithio dramor. Bydd ceisiadau ar gyfer y rhaglen yn agor yfory, a byddwn yn annog pob un o’n colegau i wneud cais. Gadewch i ni fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cyffrous y bydd Taith yn eu cynnig i staff a dysgwyr Addysg Bellach ledled Cymru.

Ond yn ôl at y 5 gwerth hynny. Beth maen nhw’n ei ddweud wrthym ni am y llwybr i’r dyfodol? O ran y cyntaf [gwerthoedd]: canolbwyntio ar y dysgwr…

Wrth wraidd popeth a wnawn mae’r angen i sicrhau bod ein myfyrwyr yn ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i ffynnu, yn ogystal â symud ymlaen yn ddi-dor ar draws yr amrywiaeth o lefelau cymwysterau - wrth i ni anelu at un system sgiliau integredig.

Gall llwybr sy’n cychwyn fel cwrs lefel mynediad, o bosibl, arwain at gymhwyster galwedigaethol, neu radd. Ac mae angen i’r llwybr hwnnw fod mor hawdd teithio ar ei hyd ac wedi ei nodi mor glir ar gyfer dysgu galwedigaethol ag ydyw ar gyfer y llwybr academaidd.

Fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth cyflogadwyedd newydd yr wythnos hon ac rwy’n gweld y sector addysg bellach fel partner cyflawni allweddol o ran uchelgeisiau’r strategaeth - gan sicrhau mynediad at y sgiliau iawn ar yr adeg iawn, ac ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i anghenion y farchnad lafur. 

Ac wrth i ni weld newidiadau yn yr economi, mae gennym newidiadau yn ein system addysg hefyd. P’un ai a yw’r rhain yn ddiwygiadau i gymwysterau galwedigaethol yn Lloegr sy’n siŵr o effeithio ar Gymru – neu’n newidiadau i’n cwricwlwm ysgol ein hunain, a fydd yn ailosod disgwyliadau ac uchelgeisiau dysgwyr ar ôl 16 oed.

Bydd arnom angen llwybrau cynnydd clir a chydlynol o’r cwricwlwm newydd ar gyfer addysg ôl-16.

Bydd y gwaith o gynllunio cwricwlwm newydd ôl-16 yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn newydd pan gaiff ei sefydlu o’r flwyddyn nesaf ymlaen, ar ôl i’r mesur ddod yn gyfraith.

Rwy’n disgwyl adroddiad gan Estyn yn fuan yn yr haf, a fydd yn edrych ar argaeledd ac ansawdd yr hyn mae’r cwricwlwm cyfredol yn ei gynnig. Bydd hynny’n ein galluogi i fwrw ymlaen ag adolygiad ehangach o’r cwricwlwm lleol sydd ar gael i ddysgwyr 16-19 oed, a chefnogi ein carfan gyntaf o ddysgwyr y cwricwlwm newydd a fydd yn mynd i leoliadau ôl-16 o 2027 ymlaen.

A bwriadaf wedyn, yn fy natganiad cyntaf o flaenoriaethau i’r comisiwn newydd pan sefydlir ef, bennu’r broses ar gyfer diwygio ein cwricwlwm ôl-16.

Yn ogystal, bydd angen i ni gael mynediad at gymwysterau yng Nghymru sy’n ymateb i anghenion y diwydiant. Mae ein rhaglen lywodraethu a’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn nodi ein hymrwymiad ar y cyd i ehangu’n sylweddol yr amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol a wnaed ar gyfer Cymru er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr a’n heconomi.

Byddwn yn adolygu’r cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn defnyddio’r canfyddiadau i gyflwyno diwygiadau. Rydym yn gweithio gyda Phlaid Cymru ar hyn a byddwn yn awyddus i sicrhau nad oes yr un dysgwr yng Nghymru dan anfantais o ganlyniad i'r diwygiadau sy’n cael eu gyrru gan lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ac mae ein dysgwyr eisiau dysgu yn Gymraeg ac yn Saesneg wrth gwrs. Mae cynyddu nifer y bobl sy’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn flaenoriaeth i bob un ohonom – mae’n hanfodol i lwyddiant ein polisi Cymraeg 2050 ac i’r ddyletswydd strategol newydd yn ein Bil i ehangu’r ddarpariaeth drydyddol cyfrwng Cymraeg.

Yn ein cytundeb cydweithredu byddwn yn cyllido’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu’r gyfran o brentisiaethau a rhaglenni addysg bellach sydd ar gael yn Gymraeg.

Mae hynny’n amlwg yn newyddion da, ond yr her i gydweithwyr heno yw gweld y nod o sicrhau bod mwy o astudio yn y Gymraeg yn rhan hanfodol o’ch cenhadaeth. Pa nodau a thargedau fyddwch chi’n eu gosod i chi eich hunain, a sut byddwch chi’n eu cyflawni? Mae angen gweithlu hyderus a dwyieithog ar Gymru – ond gadewch i mi ddweud yn blaen, rydyn ni'n gwybod hefyd mai un o’r prif rwystrau i hynny yn aml yw sicrhau gweithlu hyderus, dwyieithog ym maes addysg bellach.

Mae’r Coleg eisoes yn cefnogi colegau i gyflogi staff i ddarparu cyrsiau yn y Gymraeg mewn meysydd blaenoriaeth. Ond rydw i eisiau gweithio gyda chi fel sector i nodi sut gallwn ni wneud mwy i sicrhau bod y gweithlu yno i’n helpu ni i gyflawni’r uchelgais hwn – felly gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i ddatrys yr her hon yn greadigol.

Ac mae ein dysgwyr yn gynyddol awyddus i ddysgu ar unrhyw adeg mewn bywyd.

Rydyn ni i gyd yn gwybod nad yw pawb yn gallu manteisio i’r eithaf ar gyfle addysg y tro cyntaf yn yr ysgol neu’r coleg.

Felly, rydw i eisiau i Gymru fod yn genedl o ail gyfleoedd ym maes addysg. Gwlad lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Gwlad lle mae gan bobl yr hyder, y cymhelliant a’r modd i fynd yn ôl i fyd addysg er mwyn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio a ffynnu ar unrhyw adeg. A dyletswydd i hyrwyddo dysgu gydol oes yw’r ddyletswydd strategol gyntaf yn ein Bil newydd.

Ond rydym yn gwybod bod cyfranogiad cyffredinol oedolion mewn addysg yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng dros y degawd diwethaf, a’r ffaith os ydych chi’n llai cefnog, rydych chi’n llai tebygol o fod wedi cael unrhyw hyfforddiant ers gadael yr ysgol neu’r coleg.

Felly, mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod cyfleoedd dysgu ar gael i’r rhai a fydd yn elwa fwyaf. A bydd ein Bil newydd yn rhoi dyletswydd ar y comisiwn newydd i sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant i oedolion cymwys. Mae'n gam mawr ymlaen o ran darparu i oedolion - a bydd yn cael ei ategu gan gyllid. Rwyf am weithio gyda chi i ddiffinio cwmpas y ddyletswydd honno mewn rheoliadau.

A bydd y ddwy flynedd nesaf yn hollbwysig er mwyn datblygu’r gallu sydd ei angen arnom i gyflawni’r ymrwymiad hwn.

Er mwyn ein helpu ni i wneud hynny, rwyf wedi sefydlu grŵp cyfeirio allanol ar gyfer dysgu i oedolion, gyda chynrychiolaeth mewn addysg bellach, er mwyn i ni allu gweithio gyda phob rhan o’r sector trydyddol i wella ansawdd, mynediad a chynnydd mewn dysgu oedolion sy’n seiliedig ar sgiliau, yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Bydd yn edrych ar sut rydym yn darparu mynediad mwy cyfartal, gwell cydweithio rhwng darparwyr, fframwaith cwricwlwm clir i ategu dilyniant drwy ddysgu pellach, a sut rydym yn datblygu ac yn cynorthwyo’r gweithlu sydd ei angen i wireddu hyn. Mae’r grŵp yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.

Byddwch wedi gweld mai un o themâu’r drafodaeth hyd yma fu cydweithio. Felly, fe symudwn ni ymlaen at y nesaf o’r pum gwerth – Cydweithio.

Un o’r egwyddorion sy’n sail i’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil yw ein bod ni’n gallu gwneud mwy ar lefel system gyfan i sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu diwallu gan ddarparwyr sy’n gweithredu mewn ecosystem gydlynol ac ategol. Ac yn hollbwysig, mae cael sector cydweithredol yn un o nodau a dyletswyddau’r comisiwn newydd.

Ond mae hefyd yn wir ar lefel sefydliadol, wrth gwrs, mai darparwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd a chyda diwydiant a busnes a’r llywodraeth sy’n aml yn diwallu anghenion dysgwyr a’r economi orau.

Ac rydym eisoes yn gweld rhai enghreifftiau o gydweithio llwyddiannus rhwng addysg bellach, addysg uwch a diwydiant ym maes gweithgynhyrchu uwch, adeiladu, ynni gwyrdd, trafnidiaeth, digidol a rheoli. Mae llawer o fodelau posibl. Mae hyn eisoes yn dangos i ni sut gallwn ni ddatblygu llwybrau strategol newydd, cyfleoedd gwell i ddysgwyr a gweithlu â mwy o sgiliau, a mynediad at ymchwil i fusnesau, hyd yn oed - drwy anghofio am ffiniau sectoraidd confensiynol.

Eto, bwriad y Bil yw dileu rhai o’r ffiniau hyn - ond ar wahân i hynny, os oes gennych chi gynlluniau lle mae angen i ni edrych eto ar rai o’r rhwystrau ymarferol, fy neges i chi yw fy mod i’n agored iawn i glywed sut gallwn ni edrych ar hynny’n greadigol.

Ond hyd yn oed os nad partneriaeth strategol eang o'r fath yw’r nod, mae’n amlwg bod gan golegau hanes hir o weithio gyda chyflogwyr lleol i ganfod anghenion sgiliau a chyfleoedd i’w dysgwyr. A chredaf mai’r dasg i bawb ohonom yn awr yw adeiladu ar y gwaith hwnnw fel ein bod ni’n creu’r hyn y gallwn ni ei alw’n arfer strategol o gydweithio rhwng colegau a chyflogwyr - ie, - ond hefyd gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol, a’r llywodraeth. Bydd hyn yn gyfle i edrych ar y tueddiadau hirdymor, a bydd hefyd yn ymateb yn sensitif i anghenion mwy uniongyrchol.

Os ydych chi eisiau enghraifft o’r math o beth sydd gen i mewn golwg, does dim angen i chi edrych ymhellach na chyfrifon dysgu personol. Rydym wedi gallu gweithio gyda’n gilydd ar gynllun i ymateb yn gyflym i enghreifftiau o fethiant yn y farchnad, i dargedu cyllid i ateb y galw gan gyflogwyr, wedi ei ategu gan wybodaeth Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol - er enghraifft, gyda thrwyddedau cerbyd nwyddau trwm, a phrinder iechyd a gofal cymdeithasol. 

Felly, cafodd y gyntaf o’r trwyddedau cerbydau nwyddau trwm a oedd yn cael eu cyllido o’r newydd ei chyflawni o fewn wythnosau i gyhoeddi’r cyllid.

Fy her i’r sector yw defnyddio’r dull gweithredu hwn, sef gweithio gyda chyflogwyr a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, i ddylanwadu ar ddarpariaeth prif ffrwd yn yr un modd, nid yn unig lle mae angen i ni ymateb i fethiannau’r farchnad heddiw, ond er mwyn rhagfynegi anghenion cyflogwyr a dysgwyr yfory. 

Ac mae fy swyddogion yn gweithio gyda Colegau Cymru i ddatblygu dull mwy hyblyg o fewn dyraniad prif ffrwd pob coleg, i’ch helpu i ymateb i anghenion sy’n dod i’r amlwg drwy ddileu rhai o’r risgiau i chi, sydd weithiau’n gysylltiedig â meysydd darparu newydd.

A’r peth olaf yr hoffwn ei ddweud am y maes cydweithio hwn yw sôn am gydweithio rhwng colegau addysg bellach ac ysgolion. Gwn y bydd colegau’n gwneud popeth o fewn eich gallu i gefnogi cynnydd dysgwyr sydd wedi wynebu heriau unigryw yn eu cymwysterau. Rydych chi wedi gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion mewn cyfnod anodd iawn.

Credaf mai’r dasg i ni i gyd yn awr yw gwneud mwy, fel ysgolion a cholegau, i adeiladu ar y cydweithio agos rydym wedi ei weld, i ddod â’r asedau unigryw sydd gan ysgolion a cholegau at ei gilydd - i roi gwell ymdeimlad i’n dysgwyr o fyd gwaith, o lwybrau galwedigaethol fel rhan o’u taith yn yr ysgol, ac i hwyluso’r broses o bontio i addysg ôl-16 i bawb.

Yr egwyddor nesaf yw’r gallu i addasu.

Rydyn ni’n byw mewn byd lle mai newid yw’r unig beth cyson. Ac rydych chi yng nghanol y diagram Venn rhwng economi sy’n newid a’r newid mewn darpariaeth addysg.

Mae sut, beth a phryd mae pobl yn dysgu yn newid. Rydym wedi sôn am rywfaint o hynny eisoes ond rwyf am dynnu sylw at un o’r newidiadau mawr sy’n her o ran diwylliant yn fy marn i, yn ogystal â her o ran cyflawni.

Trawsnewid dysgu'n ddigidol yw hynny. Nid yw hyn yn dir newydd. Ond yr hyn sy’n newydd yw’r ehangder a dyfnder - a’r disgwyliadau sydd gan ddysgwyr a staff erbyn hyn. A dim ond dwysáu hynny mae profiadau o’r pandemig wedi ei wneud.

Dylai defnyddio offer a thechnolegau digidol ddod yn rhan naturiol o daith ddysgu ehangach dysgwyr, ac rwyf am weld ein dysgwyr yn cael eu harfogi â’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gallu buddsoddi llawer i gyflawni fframwaith strategol digidol 2030. Ac yn ystod Covid bu modd i ni ddiwallu’r galw gan y sector yn llawn am ddyfeisiau, cysylltedd ac offer arall i wneud yn siŵr bod pob dysgwr yn gallu astudio o bell pan oedd angen. Felly mae hon yn sylfaen dda.

Ond rydw i hefyd yn gwybod bod colegau wedi dechrau cydweithio ar rai dulliau arloesol, fel dosbarthiadau meistr gyda siaradwyr gwadd, sesiynau “cwrdd â’r athrawon” rhanbarthol a dosbarthiadau ar-lein ar y cyd mewn rhai achosion. Ac rwy’n awyddus iawn i archwilio sut gallem adeiladu ar hyn i sicrhau darpariaeth ddysgu gyfunol fwy cydlynol a modern er mwyn i ddysgwyr addysg bellach ledled Cymru allu manteisio ar y ddarpariaeth ar-lein o’r ansawdd gorau posibl. Felly cofiwch gyflwyno eich cynigion ar gyfer sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd i ymestyn hyn.

Ein pedwerydd egwyddor yw llesiant a chydnerthedd

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi’n sylweddol iawn i gefnogi iechyd meddwl a llesiant staff a dysgwyr yn y sectorau addysg bellach, dysgu yn y gwaith ac addysg oedolion.

A bydd y pwysau enfawr mae’r pandemig wedi ei roi ar ddysgwyr a staff yn cael ei deimlo am flynyddoedd i ddod.

Un o’r pethau pwysicaf y gall addysg ei wneud yw helpu dysgwyr i fod yn fwy cydnerth, er mwyn iddynt allu ymdopi ag adfyd a newid. Gwn fod llawer o golegau’n gwneud gwaith arloesol yn y maes hwn, yn ogystal â gweithio gyda Colegau Cymru i gefnogi llesiant gweithredol

Gan hynny, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda chi i wneud yn siŵr bod y cymorth priodol ar gael - rwyf wedi cynyddu’r ffrydiau cyllido presennol ar gyfer y flwyddyn nesaf i gefnogi iechyd meddwl a llesiant dysgwyr ôl-16, ond rwy’n cydnabod bod hwn yn fater hirdymor.

Ac rwyf hefyd yn cydnabod pa mor hanfodol yw’r gweithlu a chydnerthedd y sector er mwyn i ni gefnogi darlithwyr yn eu haddysg broffesiynol a datblygiad gyrfaol. Rwyf eisiau gweld darlithwyr ac aseswyr sydd â mynediad at ffynhonnell gyfoethog o ddatblygiad proffesiynol ac sy’n gallu adnewyddu a gloywi eu sgiliau sy’n canolbwyntio ar y sector drwy rwydwaith o ymgysylltu â’r diwydiant.

Felly, dros y 12 mis nesaf, byddwn yn bwrw ymlaen â phedwar darn hanfodol o waith i gefnogi’r proffesiwn.

Yn gyntaf, byddwn yn datblygu cynllun dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg bellach a fydd yn dwyn ynghyd amrywiaeth o hyfforddiant, cyngor ac arweiniad i staff ar bob lefel er mwyn datblygu eich gyrfaoedd a’ch bywydau proffesiynol.

Bydd hyn yn cynnwys pecyn craidd o ddatblygiad proffesiynol parhaus er mwyn i chi gael mynediad at y cyrsiau sydd eu hangen arnoch, gan ganolbwyntio ar wella sgiliau digidol. Rydym wedi comisiynu Jisc i ddatblygu rhaglen bwrpasol i chi ar ddylunio a darparu dysgu cyfunol. Mae’n cael ei dreialu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyflwyno o’r haf ymlaen.

Yn ail, byddwn yn adolygu Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer y sector, gan edrych ar effaith ac effeithiolrwydd y cymwysterau a’r cymhellion presennol a pha ddiwygiadau y gallai fod eu hangen.

Yn drydydd, eleni byddwn yn bwrw ymlaen â rhaglen trosglwyddo gwybodaeth, gan ddod ag arbenigedd o sectorau allweddol i mewn i golegau i helpu ein dysgwyr i ddysgu gan rai o’r ymarferwyr mwyaf medrus sydd i’w cael.

Ac yn bedwerydd, rydym hefyd yn edrych yn greadigol ar ffyrdd o helpu i wella cysylltiadau’r gweithlu â diwydiant i sicrhau bod ein hathrawon a’n haseswyr yn cadw ac yn mireinio eu sgiliau a’u harbenigedd proffesiynol.

Gall gyrfa yn y sector ôl 16 fod yn werth chweil felly rydym eisiau codi proffil y proffesiwn dysgu ôl 16 a thynnu sylw at y cyfleoedd – felly yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn yn lansio ymgyrch recriwtio fawr i godi ymwybyddiaeth, i hyrwyddo’r proffesiwn ac i ddenu pobl newydd.

Ac yn olaf...yr olaf o’r 5 gwerth hynny: arweinyddiaeth leol

Rydym wedi gweld mor glir yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf pa mor bwysig yw lle i lesiant ac iechyd economaidd pobl. Ac mae rôl colegau fel sefydliadau angor yn eu cymunedau a’u heconomïau lleol yn dod yn fwyfwy pwysig.

Mae gennych chi gyrhaeddiad drwy eich adeiladau ffisegol, eich gweithlu, eich capasiti caffael, eich gwaith datblygu sgiliau, eich rhwydweithiau o gysylltiadau busnes a diwydiant, a’ch rolau arweinyddiaeth sefydliadol sy’n gallu cael effaith sylweddol iawn yn y rhan fwyaf o ardaloedd lleol.

Yn 2017, awgrymodd adroddiad gan Colegau Cymru fod effaith economaidd colegau Addysg Bellach yng Nghymru ar y gymuned fusnes leol yng Nghymru yn £4 werth biliwn y flwyddyn.

Ers hynny, rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y diddordeb mewn cryfhau economïau lleol, boed hynny drwy’r economi sylfaenol, rôl trawsnewid canol trefi, swyddi’n nes at y cartref yn ogystal â’r patrymau gweithio newydd rydym wedi eu gweld yn ystod Covid sy’n tanlinellu potensial – a chyfrifoldeb colegau i geisio cyfrannu at gyfleoedd a ffyniant lleol gymaint ag y bo modd.

Felly, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion wneud darn o waith gyda Colegau Cymru i ddatblygu dealltwriaeth gyfredol o effaith economaidd ehangach y sector colegau yng Nghymru ac - yn bwysig - sut gallwn ni gydweithio i gynorthwyo gwaith colegau fel sefydliadau angor yn eich economïau lleol - a hefyd wrth i chi weithio i wireddu’r ffocws newydd ar genhadaeth ddinesig, a fydd yn flaenoriaeth i’r sector cyfan pan ddaw ein Bil yn gyfraith.

Gydweithwyr, i gloi, rydym yn byw mewn cyfnod o newid a heriau mawr. P’un ai a yw’n bandemig, yr ymateb i Brexit, newid yn yr hinsawdd, trawsnewid technolegol, tueddiadau demograffig - byddai unrhyw un o’r rheiny’n her ddigon mawr i'r rhan fwyaf o genedlaethau, ac rydym yn eu hwynebu nhw i gyd ar unwaith. Ond rydyn ni’n eu hwynebu nhw gyda’n gilydd.

Mae’r sector addysg bellach yng Nghymru yn esiampl o’r reddf ymarferol ac entrepreneuraidd sydd ei hangen arnom ni i gyd er mwyn cydnabod bod cyfleoedd hefyd yng nghanol yr heriau hyn - os ydym yn barod i addasu, yn barod i gydweithio, os ydym yn canolbwyntio ar ein cydnerthedd, ar arwain yn ein cymunedau ac os rhoddwn anghenion y dysgwr wrth galon popeth a wnawn.

Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle sydd gennym fel sector yn y blynyddoedd i ddod ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd, i fanteisio i’r eithaf arno.