Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Hydref, fe wnes i lansio Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio, a oedd yn nodi sut rydym am gefnogi pobl i fyw a heneiddio’n dda. Mae hefyd yn herio’r ffordd rydym yn meddwl am heneiddio. Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r cynllun cyflawni, i’n helpu i wireddu’r weledigaeth hon.

Yn rhy aml, mae heneiddio’n cael ei gysylltu â salwch a dirywiad ac mae cyfraniadau pobl hŷn i gymdeithas yn cael eu hanwybyddu. O ddarparu gofal i’r plant ifanc yn eu teuluoedd, i wirfoddoli a chydgysylltu gwasanaethau cymunedol lleol; o redeg busnesau i rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau â chenedlaethau’r dyfodol – mae cyfraniadau pobl hŷn yn eang, yn amrywiol ac yn werthfawr.

Mae pobl hŷn wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â chreu Cymru o blaid pobl hŷn. Mae fy Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio wedi bod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth, gan rannu syniadau a chynrychioli barn pobl hŷn o bob rhan o Gymru. Gyda chymorth y grŵp hwn ac ystod amrywiol o bartneriaid, rydym wedi cynhyrchu’r cynllun cyflawni i ddod â’r strategaeth hon yn fyw.

Mae’r cynllun cyflawni yn nodi sut y byddwn yn cyflawni’r pedwar nod allweddol yn y strategaeth. Bydd angen inni gael cefnogaeth timau ar draws Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru – o ddiwallu anghenion tai pobl hŷn, creu cyfleoedd i aros yn iach ac yn egnïol, i sicrhau bod gennym system drafnidiaeth sy’n addas i’w diben.

I gefnogi’r cynllun cyflawni, rydym yn dyrannu £1.1 miliwn i awdurdodau lleol i gefnogi eu hymdrechion i sicrhau aelodaeth o Rwydwaith Dinasoedd a Chymunedau o blaid pobl hŷn, Sefydliad Iechyd y Byd. Bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn darparu cymorth ac arweiniad gwerthfawr i awdurdodau lleol wrth iddynt weithio tuag at statws o blaid pobl hŷn. 

Bydd Age Cymru yn cynnal ymgyrch hawliau fel rhan o’r cynllun cyflawni. Mae canllawiau wedi’u llunio ar gyfer darparwyr gwasanaethau a’r cyhoedd ar barchu Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn. Drwy amrywiaeth o ddeunyddiau a chynhyrchion, gan gynnwys fideos ar-lein a grwpiau rhwydweithio wyneb yn wyneb, byddwn yn helpu i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu parchu.

Mae cydlyniant cymdeithasol a dod â chenedlaethau’n agosach at ei gilydd yn thema allweddol sy’n llifo drwy’r strategaeth. Gwyddom o’n gwaith yn datblygu’r strategaeth fod llawer o brosiectau gwych sy’n pontio’r cenedlaethau ledled Cymru. Rydym eisiau gallu rhannu’r gwaith da hwn ledled Cymru ac ysbrydoli eraill. Bydd fideo sy’n tynnu sylw at y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig yn cael ei ddangos yn ystod Wythnos Ryngwladol Pontio'r Cenedlaethau sy’n dechrau ar 25 Ebrill.

Drwy gydnabod a gwerthfawrogi’r cyfraniadau y mae pobl hŷn yn eu gwneud, gallwn wrthsefyll rhagfarn ar sail oedran a gweithio ar draws cenedlaethau i greu Cymru o blaid pobl hŷn.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.