Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer 2021.

Prif bwyntiau

Gwnaeth 2021 ddechrau gyda busnesau’n cau dros dro ar draws yn y sector llety gyda chyfyngiadau clo COVID-19 ar waith. Parhaodd i gael effaith sylweddol ar dwristiaeth ddomestig a rhyngwladol. Yng Nghymru, effeithiwyd ar lety ar draws pob is-sector er nad i’r graddau a welwyd yn 2020. 

Llety â gwasanaeth

Yn 2021, roedd defnydd ystafelloedd yn gyffredinol yn 64%. Yn y cyfamser, roedd defnydd gwelyau, sef cyfran y gwelyau a oedd ar gael a werthwyd, yn 44%. Roedd y lefelau hyn yn is na lefelau perfformiad cyn-bandemig ond yn nodi gwelliant sylweddol o gymharu â 2020.

Roedd defnydd ystafelloedd a gwelyau blynyddol ar draws y sector tai llety/gwely a brecwast yn 60% a 50% yn y drefn honno, bron ddwywaith yr hyn a welwyd yn 2020.

Llety hunanarlwyo

Yn wahanol i’r gwestai a’r tai llety/gwely a brecwast, roedd lefelau defnydd yn y sector hunanarlwyo yn ystod 2021 yn parhau i fod yn uwch nag erioed o’r blaen. Roedd defnydd unedau yn 61%, cynnydd o 9 pwynt canran ar y flwyddyn flaenorol.

Roedd defnydd cyfartalog unedau rhwng Mai a Hydref yn 81%, cynnydd o 7 pwynt canran ar 2020. 

Sector parciau gwyliau a meysydd gwersylla

Yn 2021 cyrhaeddodd y cyfartaledd tymhorol (Mai i Hydref) ar gyfer carafanau statig a chartrefi gwyliau 94%, i fyny 5 pwynt canran ar 2020 (89%) a’r lefel uchaf a gyflawnwyd trosodd yn y cyfnod dan sylw.

Hosteli a thai bync Cymru

Roedd defnydd gwelyau cyfartalog blynyddol yn 2021 yn 37%, sef cynnydd mewn lefelau defnydd o 12 pwynt canran o gymharu â 2020 (25%). 

Adroddiadau

Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rhif ffôn: 0300 025 3187

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.