Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig 
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd
  • Fliss Bennee, Cydgadeirydd y Gell Cyngor Technegol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn wedi COVID-19, Adolygiad 21 Diwrnod
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn wedi COVID-19
  • Michelle Morgan, Tîm COVID-19
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol
  • Sharon West, Pennaeth Diwygio Partneriaeth Gymdeithasol

Eitem 1: Cofnodion cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet y cofnodion dyddiedig 14 Mawrth.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Wcráin

2.1 Roedd gwaith wedi parhau dros y penwythnos gydag Awdurdodau Lleol, asiantaethau a’r Trydydd Sector ar y trefniadau ymarferol ar gyfer croesawu ffoaduriaid Wcreinaidd i Gymru.

2.2 Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi ynghylch opsiynau llety addas yng Nghymru. Nodwyd bod yr Urdd wedi cynnig y defnydd o un o’i chanolfannau preswyl.

2.3 Nodwyd bod teithio am ddim ar drenau yn cael ei gynnig i bob ffoadur Wcreinaidd. Roedd hyn yn estyniad ar raglen y Llywodraeth i gynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob ceisiwr lloches yng Nghymru.

2.4 Nodwyd y byddai pobl sy’n dymuno cynnig llety angen cofrestru ar gynllun Llywodraeth y DU ac yn dilyn hyn, byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru, fel yr uwch-noddwr.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn. Nodwyd bod yr amser pleidleisio wedi’i drefnu at 5:45pm ar ddydd Mawrth ac o gwmpas 6:25pm ar ddydd Mercher.

Eitem 4: Adolygiad 21 Diwrnod o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 24 Mawrth

4.1 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i’r Cabinet na fyddai’n bosibl gwneud penderfyniadau y diwrnod hwnnw ynghylch yr adolygiad tair wythnos o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5). Y rheswm am hyn oedd bod angen deall yr wybodaeth a oedd newydd ddod i law yn llawn, yn ogystal ag ystyried ffigyrau iechyd y cyhoedd diweddaraf yn ddiweddarach yn yr wythnos.

4.2 Roedd cyfraddau achosion yn codi eto, yn enwedig ymysg y grŵp oedran dros 60 oed. Nodwyd bod pwysau yn sgil COVID-19 ar ysbytai ac yn benodol ar unedau gofal dwys wedi cynyddu dros yr wythnos ddiwethaf.

4.3 Nodwyd y byddai angen ystyried effaith BA.2, yr is-amrywiolyn Omicron newydd sy’n fwy trosglwyddadwy, lefelau imiwnedd sy’n gwanhau, yn ogystal â newidiadau mewn ymddygiad. O ganlyniad, dylid ystyried y negeseuon a roddir i’r cyhoedd er mwyn annog pobl i barhau i gymryd gofal er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws.

4.4 Cytunodd y Gweinidogion fod angen rhannu gwybodaeth o ran y penderfyniadau anodd y byddai angen i’r Llywodraeth eu gwneud er mwyn osgoi bod y senario waethaf sy’n rhesymol ei thybied yn dod yn wir.

4.5 Cytunwyd y byddai’r Cabinet yn cyfarfod eto ddydd Iau er mwyn cwblhau’r adolygiad o’r Rheoliadau.

Eitem 5: Unrhyw fater arall

Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

5.1 Cofnodwyd bod y Cabinet yn ddiolchgar i bawb a oedd wedi sicrhau’r gwaith o gyflawni Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020. O heddiw ymlaen, byddai pob math o gosb gorfforol tuag at blant, megis smacio, taro, slapio ac ysgwyd yn anghyfreithlon. Byddai’r ddeddf newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr.

Taliad i ofalwyr di-dâl

5.2 Rhoddwyd gwybod i Weinidogion y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud ddydd Mercher ynghylch taliad o £500 ar gyfer pob un gofalwr di-dâl cofrestredig yng Nghymru. Byddai’r taliad yn un ôl-weithredol er mwyn cydnabod y caledi ariannol a’r caledi emosiynol a wynebwyd gan ofalwyr di-dâl yn sgil y pandemig yn ystod 2021-22. Nodwyd bod gan bobl hyd nes 31 Mawrth i gofrestru eu bod yn ofalwyr di-dâl.