Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau'r rhestr etholiadol

Ar 5 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bennawd ystadegol am ystadegau'r rhestr etholiadol i Gymru ar gyfer  2021. Mae data manwl wedi'i gyhoeddi ar StatsCymru.

Mae ystadegau etholiadol yn gyfrifiadau blynyddol o nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru ar gofrestri etholiadol, ac sydd felly â hawl i bleidleisio. Mae Ystadegau'r gofrestr etholiadol (ONS) ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau llywodraeth leol i'r DU ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae ONS wedi nodi nad yw'r ystadegau hyn yn adlewyrchu'r newidiadau i feini prawf cymhwysedd ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ers 2020. O ganlyniad, mae cofrestriadau etholiadol llywodraeth leol ar gyfer pobl 16 oed a phobl ifanc 15 oed sy'n cofrestru ymlaen llaw, yng Nghymru, ar goll o'r ystadegau hyn. Gweler gwefan ONS am ragor o wybodaeth.

Y prif bwyntiau

  • Cyfanswm nifer etholwyr Senedd Cymru ac etholwyr llywodraeth leol a oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio ym mis Rhagfyr 2021 yng Nghymru oedd 2,348,600.
  • Roedd hyn yn gynnydd o 0.3% rhwng 1 Rhagfyr 2020 a 1 Rhagfyr 2021, er bod gostyngiad o 0.4% o'i gymharu â'r uchafbwynt ar 2 Mawrth 2020.
  • Cyfanswm nifer etholwyr Senedd y DU a oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio ym mis Rhagfyr 1 yng Nghymru oedd 2,307,900.
  • Roedd hyn yn gynnydd o 0.1% rhwng 1 Rhagfyr 2020 a 1 Rhagfyr 2021, er bod gostyngiad o 0.6% o'i gymharu â'r uchafbwynt ar 2 Mawrth 2020.
  • Gostyngodd cyfanswm nifer etholwyr Seneddol y DU a oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio yn y DU  0.7% yn gyffredinol rhwng 1 Rhagfyr 2020 ac 1 Rhagfyr 2021.

Cyfrifiad

Cyfrifiad 2021

Ar 1 Mawrth, creodd ONS cynllun dadansoddi yn ôl pwnc wedi'i ddiweddaru a gafodd ei greu ochr yn ochr â rhan un o’r ymateb i’r ymgynghoriad (ONS) a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr a rhan dau (ONS) a gyhoeddwyd ar 31 Mawrth. Bydd y cynlluniau dadansoddi terfynol ac wedi'u ddiweddaru yn cael eu cyhoeddi ddiwedd y gwanwyn, gyda'r canlyniadau cyntaf wedi'u hamserlennu ar gyfer dechrau'r haf.

Cyhoeddodd ONS gyfrifiadau rhagarweiniol Cyfrifiad 2021 o wlad enedigol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Wcráin a gwledydd cyfagos neu berthnasol i helpu i gynllunio ymateb i argyfwng lleol a chenedlaethol. Mae'r data ar gael i'r awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.

Ar gyfer cwestiynau am yr ymgynghoriad neu allbynnau Cyfrifiad 2021 cysylltwch â

census.outputs@ons.gov.uk

Cyfrifiad 1921

Ar 12 Ebrill, cyhoeddodd ONS newly digitalised county and district level statistics on the 1921 Census.

Y newyddion diweddaraf am ystadegau'r boblogaeth, ONS

Ar 25 Chwefror, cyhoeddodd ONS trosolwg o boblogaeth y DU yn 2020. Mae'r trosolwg yn rhoi crynodeb o boblogaeth y DU yn 2020, gan dynnu sylw at y newidiadau a'r ffactorau sy'n cyfrannu at hyn. Mae'n canolbwyntio ar gydrannau newid yn y boblogaeth dros amser, gan gynnwys ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo.

Ar 2 Mawrth, Cyhoeddodd ONS ganllaw ar gyfer ystadegau a ffynonellau’r boblogaeth. Mae'r canllaw hwn yn rhoi crynodeb o'r dyddiadau cyhoeddi arfaethedig ar gyfer amcangyfrifon o'r boblogaeth, ym mha ffyrdd maent yn cael eu defnyddio a'r ffynonellau data sy'n sail iddynt. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i ddiweddaru'r dudalen hon wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt.

Ystadegau mudo

Ar 1 Mawrth, cyhoeddodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) a review of international migration statistics produced by the ONS. Mae ONS wedi bod yn trawsnewid ei ystadegau drwy ddefnyddio amcangyfrifon wedi'u modelu a data gweinyddol yn hytrach na'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol (IPS).

Ar 26 Mai, cyhoeddodd yr ONS ystadegau dros dro ar fudo rhyngwladol hirdymor ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021. Cyhoeddwyd blog (ONS) ochr yn ochr â hyn yn trafod effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar fudo rhyngwladol.

Cyhoeddwyd ystadegau mewnfudo’r Swyddfa Gartref hefyd ar 26 Mai, yn cwmpasu Cynllun Noddi ar gyfer Wcráin, ystadegau mewnfudo (Swyddfa Gartref) a Chynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (Swyddfa Gartref).

Ystadegau'r Gymraeg

I gael gwybodaeth am Ystadegau'r Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol ystadegau Cymru.

Contact

Martin Parry

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099