Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion e-Gaffael diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfen Gaffael Sengl (SPD)

Rydym wrthi'n ychwanegu cwestiynau ychwanegol at y cwestiynau dethol rhan 3 yn yr SPD. O ganlyniad, byddwn ni angen i bobl brofi'r swyddogaeth newydd hon, sy'n cynnwys sicrhau bod cwestiynau cywir yn cael eu hallforio a'u mewnforio rhwng GwerthwchiGymru ac eDendrocymru, yn ogystal â gweithrediad y Gymraeg.

Rydym wedi sefydlu cyfarfodydd chwarterol i adolygu cwestiynau rhan 3, y disgwyliwn iddynt ddechrau ym mis Mehefin. Os hoffech fynychu, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru

Basware

Ar hyn o bryd, mae Basware yn y broses o drosglwyddo eu gwasanaethau cwmwl o'r darparwr presennol Lumen i Amazon Web Services (AWS).

Ni fydd y newid yn effeithio ar y gwasanaethau presennol a ddarperir gan Basware. Bydd yn ofynnol i ddefnyddwyr ail-bwyntio eu system i'r cyfeiriad IP newydd erbyn diwedd mis Mehefin. Disgwylir i'r mudo llawn ddigwydd ddiwedd Awst (26-29). I gael rhagor o fanylion ac i dderbyn y cyfeiriad IP newydd, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru

I gwsmeriaid sy'n defnyddio Basware Marketplace drwy borwr, mae'r URL ar gyfer y safleoedd byw a chynhyrchu hefyd yn newid ac mae'r cyfeiriadau newydd fel a ganlyn:

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr uchod, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru

eFasnachu

Rydym yn edrych ar opsiynau a gofynion ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol yn barod ar gyfer pryd y daw'r contract Basware presennol i ben ddiwedd mis Mawrth 2023. Os hoffech chi gymryd rhan mewn gosod gofynion, cysylltwch â'r blwch post ICTProcurement@llyw.cymru

AWARD

Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar gyfer hyfforddiant ar ddefnyddio offeryn gwerthuso tendr AWARD. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru

WPPN 02/22 Tryloywder

Nodyn i’ch atgoffa, mae ein WPPN ar Dryloywder – cyhoeddi hysbysiadau dyfarnu contract wedi’i gyhoeddi. I weld y WPPN, ewch i’n gwefan.