Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod holl gyrff sector cyhoeddus Cymru a ariennir yn llawn yn gallu cael mynediad at Raglen Gallu Rheoli Contractau Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth – hyfforddiant Sylfaen a Thu Hwnt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Safonau Proffesiynol ar Reoli Contractau (Saesneg yn unig) wedi’u datblygu gan Swyddogaeth Fasnachol Llywodraeth y DU i sicrhau cysondeb ar draws y dirwedd a gosod meincnodau gallu clir ar gyfer unigolion sydd ynghlwm â’r gwaith. Mae'r safonau a'r hyfforddiant ategol wedi'u strwythuro ar draws tair lefel; sylfaen, ymarferwr ac arbenigwr sy'n ystyried yr amrywiol gyfranogiad, gwerth, risg a chymhlethdod contractau sy'n cael eu rheoli a'r sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen i reoli'r contractau.

Bydd yr hyfforddiant Sylfaen yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth o bob elfen o gylch oes y contract, fel yr amlinellir yn y Safonau Proffesiynol ar Reoli Contractau. Mae'r hyfforddiant wedi'i rannu'n chwe modiwl rhyngweithiol, gan roi'r hyblygrwydd i chi ddysgu ar adeg sy'n gweddu orau i chi ac sy'n eich galluogi i gydbwyso'r hyfforddiant ag ymrwymiadau gwaith bob dydd.

Mae'r gyfres ddysgu Tu Hwnt i Sylfaen wedi'i chynllunio i adeiladu ar eich dysgu lefel Sylfaen ac mae'n addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb neu’n ymwneud â rheoli contractau. Bydd yn rhoi gwybodaeth ymarferol ddyfnach i chi o'r broses rheoli contractau a'ch rôl wrth sicrhau bod contractau'n cael eu rheoli'n llwyddiannus. Mae'r gyfres hon yn cynnwys naw modiwl y gellir eu cwblhau mewn unrhyw drefn a ddewiswch, ac ar gyflymder sy'n addas i chi.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r hyfforddiant ar-lein, mae asesiad ar gael i gadarnhau achrediad. Bydd ennill achrediad yn cydnabod eich arbenigedd rheoli contractau, yn ogystal â helpu i greu iaith rheoli contractau gyffredin, sylfaen wybodaeth amrywiol a set sgiliau ar draws y sector cyhoeddus.

Gellir cael mynediad i'r hyfforddiant ar-lein drwy gofrestru yma (dolen allanol - Saesneg yn unig).

Rhaid i'r ddau gwrs gael eu cwblhau gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn cwblhau'r Rhaglenni Ymarferydd ac Arbenigwr. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant Ymarferydd ac Arbenigwr ac i fynegi eich diddordeb, ewch i'n gwefan.