Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

  • Cafodd y cyfyngiadau ar deithio yn y wlad hon ac ar deithio rhyngwladol oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) effaith drom ar gludiant awyr yng Nghymru yn 2020. Roedd yr effaith hon hefyd yn amlwg yn 2021 gan fod rhai cyfyngiadau teithio mewn grym o hyd, a chyfrannodd hyn at ostyngiad pellach yn nifer y teithwyr awyr.
  • Gwelwyd gostyngiad mawr yn nifer y teithwyr a oedd yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd ar ddechrau pandemig COVID-19 yn 2020. Yn 2021, gostyngodd nifer y teithwyr 44% o’u cymharu â 2020 i 123,000 (Siart 1). Mae’r ffigurau’n cynnwys y teithwyr oedd yn ymadael a’r rheini oedd yn cyrraedd.
  • Gwelwyd cynnydd o 16% (368 o dunelli) yn 2021 o’u cymharu â 2020 yn y symudiadau cludo nwyddau mewn awyrennau, ond gostyngiad o 93% o gymharu â 2019.
  • Gwelwyd rhyw 11,000 o hediadau i mewn ac allan o faes awyr rhyngwladol Caerdydd yn 2021, cynnydd o 11% ers 2020, a gostyngiad o 65% ers 2019.
  • Yn 2021, gwelwyd awyrennau’n teithio i 53 o gyrchfannau rhyngwladol o Faes Awyr Caerdydd.

Byddwch yn ofalus wrth ddehongli'r newid yn y canrannau gan fod y ffigurau lawer is na'r rhai hanesyddol ac felly'n fwy anwadal.   

Image
Mae nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd wedi amrywio dros y tymor hir o 2.1 miliwn ar ei uchaf i 1 miliwn. Yn 2021, cwympodd nifer y teithwyr ymhellach i 123,000 o'r 220,000 a nodwyd yn 2020.

Effaith COVID-19 ar gludiant awyr

Gallwch weld y dyddiadau allweddol a effeithiodd ar drafnidiaeth awyr yng Nghymru yn y flwyddyn 2020 yn natganiad 2020 am Gludiant Awyr.

Yn 2021 gwnaeth y tarfu ar deithio barhau i effeithio ar Faes Awyr Caerdydd o ran nifer y teithwyr domestig a rhyngwladol, a hynny yn sgil cyfyngiadau teithio COVID-19 yn fwy na thebyg.

Cyd-destun

Mae cludiant awyr yn sbardun pwysig ar gyfer datblygu’r economi. Mae’n cysylltu Cymru ag economi’r byd gan ysgogi mewnfuddsoddi a masnach. Mae meysydd awyr yn borth i deithwyr busnes a hamdden, gan gynnal twristiaeth ac yn hwb i ddiwydiant.

Y data teithwyr a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw cyfanswm y teithiau teithwyr (hediadau allan ac yn ôl wedi’u cyfuno), nid nifer y teithwyr unigol. Y rheswm am hynny yw am ei bod yn amhosib gwahaniaethu rhwng teithwyr ymadael a theithwyr sy’n cyrraedd yn ôl ffynonellau’r data.  Yn yr adroddiad hwn, rydyn ni’n defnyddio’r term teithwyr y derfynell neu deithwyr, i olygu teithiau teithwyr.  Ar lawer o lwybrau, mae nifer y teithwyr unigol yn debygol o fod yn agos iawn at hanner cyfanswm y teithiau teithwyr, gan fod y rhan fwyaf yn deithiau dwyffordd. 

Yn 2021, cafwyd 64 miliwn o deithiau teithwyr trwy feysydd awyr y DU o’u cymharu â 74 miliwn yn 2020,a 297 miliwn yn 2019 . Heathrow oedd brysuraf (19.4 miliwn), yna Standsted (7.1 miliwn), Gatwick (6.3 miliwn), a Manceinion (6.1 miliwn). Maes Awyr Caerdydd oedd yr 25ain prysuraf yn y DU (allan o 51) gyda 123,000 o deithwyr, sef 0.2% o gyfanswm y DU.  

Maes Awyr Caerdydd

Maes Awyr Caerdydd yw’r unig faes awyr domestig a rhyngwladol o bwys yng Nghymru. 

Yn 2021, hedfanodd 88% o deithwyr Maes Awyr Caerdydd i wledydd eraill gydag 12% yn hedfan i gyrchfannau domestig. O’i gymharu â’r flwyddyn  flaenorol, gostyngodd nifer y teithwyr rhyngwladol 43% tra gostyngodd nifer y teithwyr domestig 55%.  

Image
Mae nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd wedi amrywio dros y tymor hir o 2.1 miliwn ar ei uchaf i 1 miliwn. Yn 2021, cwympodd nifer y teithwyr ymhellach i 123,000 o'r 220,000 a nodwyd yn 2020.

Gostyngodd cyfanswm y teithwyr a ddefnyddiodd hediadau rheolaidd 53 yn 2021 o gymharu â 2020 a gostyngiad o 28% dros yr un cyfnod yn nifer y rheini ar hediadau siartredig (cyfrifwyd y canrannau gan ddefnyddio rhifau heb eu talgrynnu).

Gwnaeth saith o ddeg prif gyrchfan Maes Awyr Caerdydd o ran nifer y teithwyr awyr yn 2021 weld cwymp mawr yn nifer eu teithwyr.  Gwelwyd cwymp o 66% yn nifer y teithwyr rhwng Maes Awyr Caerdydd ac Amsterdam, Caeredin (-59%) a Belfast (-25%). Alicante yw’r gyrchfan ryngwladol fwyaf poblogaidd o hyd a Chaeredin yw’r gyrchfan ddomestig fwyaf poblogaidd, er y gwelwyd llawer llai o deithwyr nag yn y flwyddyn cynt (Siart 3).

Image
Mae'r Siart yn dangos y tri chyrchfan fwyaf cyffredin o Faes Awyr Caerdydd yn 2021. Gwelwyd cwympo yn nifer y teithwyr i'r rhan fwyaf o gyrchfannau o'i gymharu â 2020.

Tueddiadau tymor hir

Gwelwyd cwymp o 50% yn nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd rhwng 2007 a 2012, o 2.1 miliwn i 1.0 miliwn. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r dirwasgiad byd-eang yn 2008, a arweiniodd at weld rhai cwmnïau’n cario llai o deithwyr ac eraill yn rhoi’r gorau iddi’n llwyr. 

Ar ôl cwympo o’i uchafbwynt yn 2007, gwnaeth nifer y teithwyr gynyddu rhwng 2014 a 2019. Ond bu gostyngiad mawr o 87% yn 2020 o’i chymharu â’r flwyddyn cynt yn nifer y teithwyr, yn dilyn dechrau pandemig COVID-19.

Cyrhaeddodd nifer y teithwyr rhyngwladol ei anterth o 1.65 miliwn yn 2007 gan gwympo i 0.8 miliwn yn 2012 cyn cynyddu’n raddol unwaith eto tan 2019. Yn 2020, gwelwyd nifer y teithwyr rhyngwladol yn cwympo 83% i 188,000. Cwympodd y nifer 43% rhwng 2020 a 2021 i 108,000 o deithwyr, yr isaf ers dechrau’r gyfres amser. Sbaen yw un o’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd bob tro, gan gyfrif am 42% o’r holl deithwyr rhyngwladol yn 2021.

Fe welwch fanylion y teithwyr rhyngwladol ar StatsCymru.

Gwelodd y prif lwybrau rhyngwladol o Faes Awyr Caerdydd ostyngiad yn nifer y teithwyr yn 2021 o’u cymharu â 2020. Mae Paris, Amsterdam a Dulyn yn ddinasoedd ‘hyb’ allweddol y mae teithwyr yn eu defnyddio i deithio ymlaen ohonynt i amrywiaeth o gyrchfannau eraill.

Yn 2021, cwympodd nifer y teithwyr awyr trwy feysydd awyr Paris i 1,076 (-90%), trwy Amsterdam i 11,000 (-66%) a thrwy Ddulyn i 8,000 (-54%) o’u cymharu â’r flwyddyn cynt.

Fe welwch ragor o fanylion am dueddiadau tymor hir llwybrau gwahanol yn y datganiad am Cludiant awyr 2019.

Symudiadau awyrennau (hediadau)

Symudiad awyren yw awyren sy’n codi o faes awyr neu’n glanio mewn maes awyr.

  • Hediadau masnachol yw awyrennau sy’n cael eu defnyddio i gludo teithwyr neu nwyddau ar delerau masnachol, yn ogystal â lleoli hediadau a symudiadau lleol.
  • Mae hediadau anfasnachol yn cynnwys pob math arall o hediad, gan gynnwys rhai preifat a hediadau’r Aero Club (clybiau hedfan).

Gostyngodd nifer y symudiadau awyrennau yn fawr ar ddechrau pandemig COVID-19 yn 2020, cyn cynyddu yn 2021. 11,000 o symudiadau awyrennau a gafwyd ym Maes Awyr Caerdydd yn 2021, cynnydd o 11% o’u cymharu â 2020 (10,000) (Siart 4), ond gostyngiad o 65% o gymharu â 2019.

Image
 Mae'r Siart yn dangos llinell amser o symudiadau awyrennau i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd ers 2011. Cynyddodd nifer yr Awyrennau a laniodd ac a gododd ym Maes Awyr Caerdydd 11% yn 2021 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Cludo nwyddau

Mae swm y nwyddau sydd wedi bod yn cael ei gludo trwy Faes Awyr Caerdydd wastad wedi amrywio (Siart 5). Cyrhaeddodd y cludiant ei anterth yn 2004 gyda 2,600 o dunelli ond gwelwyd cwymp o 93% rhwng 2007 a 2009 o 2,400 i 178 o dunelli. Mae wedi para’n isel oddi ar hynny ac yn 2007, dim ond 4 tunnell o nwyddau gafodd fynd trwy’r maes awyr, y ffigur isaf erioed.

  • Yn 2018, cynyddodd lefelau nwyddau i 1,500 o dunelli, yn bennaf yn sgil cyflwyno teithiau i Qatar ym mis Mai 2018, sy’n cludo llawer o gargo yn ogystal â theithwyr.
  • Yn 2019, gwelwyd cynnydd o 24% i 1,800 o dunelli o’i chymharu â 2018 yn lefelau’r nwyddau trwy Faes Awyr Caerdydd.
  • Yn 2020, gwelwyd cwymp o 82% i 317 o dunelli o gargo o’i chymharu â 2019.
  • Yn 2021, gwelwyd cynnydd o 16% i 368 o dunelli o gargo o’i chymharu â 2020.

Mae’r gostyngiadau yn 2020 a 2021 yn fwy na thebyg oherwydd effaith cyfyngiadau COVID-19 oedd mewn grym yn ystod y cyfnodau hyn.

Y nwyddau sy’n cael eu cludo amlaf mewn awyrennau yw nwyddau uchel eu gwerth sy’n gorfod cael eu cludo ychydig ar y tro neu nwyddau darfodus fel bwyd a moddion, sydd ddim yn gallu para’n hir. Eitemau fel nwyddau electronig, telathrebu, cerbydau a rhannau cerbydau a chynnyrch biodechnegol ac iechyd.

Image
Mae Siart 5 yn dangos nifer y teithiau cludo nwyddau drwy Faes Awyr Caerdydd ers 1996. O'i gymharu â 2020, gwelwyd cynnydd o 16% yng nghyfanswm y teithiau cludo nwyddau ym Maes Awyr Caerdydd.

Arolwg o deithwyr awyr

Gellir defnyddio arolwg y Awdurdod Hedfan Sifil o deithwyr ymadael i weld pa feysydd awyr sy’n cael eu defnyddio gan deithwyr sy’n teithio i ac o Gymru.  Mae’r arolwg yn casglu data o sampl o feysydd awyr yn y DU bob blwyddyn ac yn gofyn cwestiynau am y person, y maes awyr, y cwmni hedfan a’r daith..  Cafodd yr arolwg diweddaraf sy’n ymdrin â’r holl brif feysydd awyr a ddefnyddir gan deithwyr i ac o Gymru ei gynnal yn 2019 a chewch weld y manylion yn ein datganiad 2019 ar dudalen 9.  Fe welwch ragor o fanylion yr adroddiad ar arolwg teithwyr 2019 ar wefan y CAA. Ni chafodd arolwg ei gynnal yn 2020 nac yn 2021.

Nodiadau

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae’r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu cyfres sy’n dod â’r holl ddogfennau am Ystadegau Hedfan y DU ynghyd.

Mae Transport Scotland yn cynhyrchu compendiwm o’r enw 'Scottish Transport Statistics" sy’n cynnwys pennod am Gludiant Awyr.

Mae’r Adran dros Ddatblygu Rhanbarthol yng Ngogledd Iwerddon yn cynhyrchu cyhoeddiad o’r enw 'Northern Ireland Transport Statistics'. Mae Pennod 7 yn cynnwys gwybodaeth am Gludiant Awyr.

Hefyd, mae’r ONS yn cyhoeddi nifer arbrofol hediadau dyddiol yn y DU a chyfartaledd treigl saith niwrnod, gan gynnwys hediadau i, o ac o fewn y DU.

Ffynhonnell y Data

Mae’r wybodaeth am gludiant awyr trwy faes awyr Caerdydd yn y bwletin hwn a thablau cysylltiedig StatsCymru yn atgynhyrchu’r ystadegau a gesglir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA). Diolchir iddo am ei waith. Mae data'r CAA y tu allan i gwmpas yr Ystadegau Gwladol.  Mae’r wybodaeth yn cynnwys nodiadau’r CCA ei hun am y ffigurau.

Diffiniadau

Symudiadau cludiant awyr

Awyrennau sy’n cludo teithwyr neu gargo ar delerau masnachol sy’n glanio ac yn codi. Cynhwysir pob symudiad rheolaidd, boed lawn, gwag neu at ddiben lleoli, symudiadau siartredig sy’n cludo teithwyr neu gargo a symudiadau tacsis awyr. At ddiben yr ystadegau hyn, bydd hediadau trwy is-siarter yn cael eu hadnabod wrth rif yr hediad a chynhwysir hediad mewnol fel un symudiad cludiant awyr.

Gwasanaeth domestig

Hediad o fewn y Deyrnas Unedig, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel. 

Gwasanaeth rhyngwladol

Hediad rhwng y Deyrnas Unedig gan gynnwys Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel a lleoedd y tu hwnt i’w ffiniau.

Gwasanaeth siartredig

Pob symudiad cludiant awyr heblaw am wasanaethau rheolaidd.

Gwasanaeth rheolaidd

Y rheini sy’n cael eu cynnal yn ôl amserlen sydd wedi’i chyhoeddi gan gynnwys amserlenni ategol, gan gynnwys y rheini a ddefnyddir gan aelodau’r cyhoedd.

Teithwy

Teithwyr refeniw a di-refeniw ar symudiadau cludiant awyr.

Teithwyr terfynell

Teithiwr sy’n ymuno neu’n ymadael â’r awyren yn y maes awyr riportio.  Mae teithiwr sy’n teithio rhwng dau faes awyr riportio yn cael ei gyfrif ddwywaith, unwaith ym mhob maes awyr.  Mae teithiwr sy’n newid o un awyren i un arall, gyda’r un rhif hediad, yn cael ei drin fel teithiwr terfynell.

Teithiwr transit

Teithiwr sy’n cyrraedd ac yn gadael maes awyr riportio ar yr un awyren.  Bydd pob teithiwr transit yn cael ei gyfrif unwaith yn unig.

Nwyddau

Pwysau’r eiddo sy’n cael ei gludo ar awyren gan gynnwys er enghraifft pwysau cerbydau, bagiau dros ben a bagiau diplomatig, ond heb gynnwys post a’r bagiau a ganiateir ar gyfer teithwyr a chriw. Ni chynhwysir y nwyddau sydd mewn transit trwy faes awyr ar yr un awyren.

Gwybodaeth o ansawdd

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu allan iddi i fonitro tueddiadau cludiant awyr ac fel llinell sylfaen ar gyfer gwaith dadansoddi pellach.

Cywirdeb

Disgrifir hyn gan y CAA ar y ddolen o dan ‘ffynonellau’r data’ uchod.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r wybodaeth yn y bwletin hwn am gludiant awyr trwy Faes Awyr Caerdydd, yn seiliedig ar Ystadegau blynyddol diweddaraf y CAA am Feysydd Awyr y DU.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r bwletin hwn yn cael ei ddatgan ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ar gyfer Cymru, gyda’r ffigurau sylfaenol yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Fe welwch fanylion y dangosyddion ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Dyma ragor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gellir defnyddio’r ystadegau yn y datganiad hwn i ategu naratif y dangosyddion cenedlaethol a chaiff y byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio ar gyfer eu hasesiadau llesiant eu hunain a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alexandra Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 13/2022