Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers dechrau’r gwrthdaro yn Wcráin, mae ein neges wedi bod yn glir – mae Cymru yn Genedl Noddfa ac mae’n barod i groesawu’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel. Rydym wedi cael ymateb cadarnhaol iawn i’n llwybr Uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin a lansiwyd ddiwedd mis Mawrth. Mae llawer mwy o fisâu wedi’u rhoi na’n hymrwymiad cychwynnol i groesawu 1000 o bobl. Mae mwyfwy o bobl yn cyrraedd ein Canolfannau Croeso bob dydd ac maent yn cael eu trin â thosturi ac yn cael cymorth ymarferol i’w helpu i ailsefydlu ac i ailgydio yn eu bywydau.

Mae’r cyhoedd yng Nghymru hefyd wedi dangos eu cefnogaeth i’n dull Cenedl Noddfa, gyda llawer mwy o bobl yn cyrraedd ac yn ymgartrefu mewn cartrefi ar hyd a lled y wlad. Mae’r noddwyr nid yn unig yn cynnig llety ond maent hefyd yn helpu pobl i sefydlu wrth iddynt ddechrau ar eu bywydau yng Nghymru. Rydym yn hynod ddiolchgar am y caredigrwydd hwn.

Rydym wedi llwyddo i wneud hyn drwy gydweithredu a chydweithio â’n partneriaid mewn llywodraeth leol a grwpiau cymunedol a’n partneriaid yn y byrddau iechyd a’r trydydd sector. Mae’r lefel o ymrwymiad i bobl Wcráin ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus wedi bod yn sylweddol. Rydym yn cydnabod pa mor heriol yw cael cydbwysedd rhwng y gwaith hwn ac ymrwymiadau parhaus i’r cyhoedd yn ehangach, gan ailsefydlu grwpiau eraill o geiswyr noddfa hefyd. Eto, hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Rydym yn benderfynol o gynnal y lefel hon o gefnogaeth i bawb sy’n cyrraedd er mwyn rhoi’r dechrau gorau iddynt i’w harhosiad yng Nghymru. Gan ein bod ni wedi cael ymateb mor gadarnhaol i’n cynllun Uwch-noddwr, rydym yn cyflwyno saib gweithredol ar geisiadau newydd yn ystod mis Mehefin. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn ganolbwyntio ar ymgorffori ein trefniadau ar gyfer llety yn y cam nesaf, gan barhau i ddarparu gwasanaethau cofleidiol ehangach. 

Bydd hefyd yn rhoi cyfle inni fireinio’r holl drefniadau sydd ar waith gennym i gefnogi pobl pan fyddant yn cyrraedd a sicrhau y gall pob gwasanaeth cyhoeddus barhau i ddarparu’r safon o gefnogaeth yr ydym am ei chynnig. Ni fydd y saib gweithredol yn effeithio ar unrhyw geisiadau sydd eisoes wedi’u cyflwyno, a bydd pobl yn parhau i gyrraedd Cymru wrth i fisâu gael eu rhoi a threfniadau teithio yn cael eu cadarnhau.

Bydd y saib hwn yn dechrau ddydd Gwener 10 Mehefin a byddwn yn rhoi gwybod i’r Aelodau pan fydd llwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru ar gael eto.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn nodi ar 30 Mai 2022:

  • Mae 5,668 o geisiadau wedi’u cadarnhau wedi’u cyflwyno gyda noddwr yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr ar gyfer 2,866 ohonynt.
  • Mae 4,909 o fisâu wedi’u rhoi i’r rhai â noddwr yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr ar gyfer 2,453 ohonynt.
  • Mae 1,961 o bobl gyda noddwyr yng Nghymru wedi cyrraedd y DU, gyda Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr ar gyfer 480 ohonynt.