Neidio i'r prif gynnwy

Dylid anfon unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r ddogfen hon at GweithreduADY@llyw.cymru.

Cyflwyniad

1.1 Lluniwyd y canllaw hwn i gynorthwyo awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), staff addysgu ysgolion ac UCDau, a chydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADY) i ddeall y trefniadau ar gyfer gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADY).

1.2 Mae'r canllaw hwn yn nodi'r trefniadau ar gyfer symud plant o'r system anghenion addysgol arbennig (AAA) i'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae'n canolbwyntio ar y broses a'r amserlenni ar gyfer symud y grwpiau canlynol o blant i'r system ADY:

  • plant sydd newydd eu dynodi fel rhai sydd ag ADY, neu y credir am y tro cyntaf bod ganddynt ADY
  • plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac nad oeddent yn derbyn gofal neu wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad ar 1 Ionawr 2022 neu 1 Medi 2022
  • plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac sy'n derbyn gofal neu wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad ar 1 Ionawr 2022 neu 1 Medi 2022
  • plant sydd â datganiad ar 1 Medi 2022
  • plant sydd ag achos datganiad ar y gweill. Mewn achos datganiad ar y gweill, mae gan blentyn ddatganiad ond mae apêl ar waith mewn perthynas â'i gynnwys, nid yw'r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl wedi dod i ben, neu mae'r awdurdod lleol yn ceisio rhoi'r gorau i gynnal y datganiad
  • plant ag achos cyn datganiad ar y gweill ar 1 Medi 2022. Mewn achos cyn datganiad ar y gweill, nid oes gan blentyn ddatganiad ond mae'n ceisio cael datganiad
  • plant nad ydynt wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD ar 1 Medi 2022, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac nad ydynt yn derbyn gofal neu nad ydynt yn cael addysg heblaw yn yr ysgol
  • plant nad ydynt wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD ar 1 Medi 2022, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac sy'n derbyn gofal neu'n cael addysg heblaw yn yr ysgol
  • plant sydd â chynllun addysg, iechyd a gofal neu sydd ag achos cynllun addysg, iechyd a gofal (cynllun AIG) ar y gweill ar 1 Medi 2022

1.3 Mae'r canllaw hwn yn nodi'r trefniadau ar gyfer y grwpiau hyn sy'n symud i'r system ADY, ac, i'r rhan fwyaf o'r grwpiau, y camau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion ac UCDau eu cymryd i symud y plant yn y grwpiau hynny.

1.4 Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â'r Cod ADY. Mae'r Cod ADY yn nodi sut mae'r system ADY yn gweithio, gan gynnwys darparu arweiniad ar wneud penderfyniadau ynghylch a oes gan blentyn ADY a pharatoi cynllun datblygu unigol (CDU).

1.5 Mae manylion y darpariaethau cychwyn, trosiannol ac arbed yn y gorchmynion Cychwyn sy'n dechrau'r Ddeddf ADY ar gyfer y grwpiau hyn i'w gweld yn y canllaw technegol. Bydd canllaw technegol arall yn ymwneud â’r ail,drydedd a’r pedwaredd flwyddyn o weithredu (2022 i 2023 hyd at 2024 i 2025) yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

1.6 Mae'r canllaw hwn wedi'i rannu'n adrannau. Mae'r adrannau yn darparu gwybodaeth am sut y bydd grwpiau penodol o blant yn cael eu symud o'r system AAA i'r system ADY.

Cefndir

2.1 Bydd y broses o weithredu'r system ADY a nodir yn y Ddeddf ADY ar gyfer plant yn cael ei chyflwyno'n raddol dros y blynyddoedd ysgol 2021 i 2022, 2022 i 2023,2023 i 2024 a 2024 i 2025.

2.2 Ar 1 Medi 2021, cychwynnodd y system ADY ar gyfer pob plentyn hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 10 y credwyd am y tro cyntaf bod ganddo ADY, neu a oedd newydd ei ddynodi fel plentyn sydd ag ADY ar neu ar ôl 1 Medi 2021. Mae hyn yn golygu bod y system ADY yn berthnasol i bob plentyn sydd newydd ei ddynodi fel plentyn sydd ag ADY, neu y credir am y tro cyntaf bod ganddo ADY, waeth sut y caiff ei addysg ei darparu. Hefyd, cychwynnodd y system ar gyfer plant hyd at ac yn cynnwys Blwyddyn 11 a gadwyd yn gaeth.

2.3 O 1 Ionawr 2022, cychwynnodd y system ADY ar gyfer plant hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 10 a oedd yn cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar/gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy neu weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac a oedd yn mynychu meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu UCD ar 1 Ionawr 2022. Cyflwynwyd y system yn raddol, a'r plant ym Mlynyddoedd Meithrin 1 neu 2, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10 oedd y cyntaf i gael eu symud i'r system ADY. Mae gwybodaeth am sut mae'r plant hyn yn cael eu symud wedi'i nodi mewn adrannau diweddarach.

2.4 Ar ôl cyflwyno Gorchymyn Diwygio, estynnwyd yr amser a oedd ar gael i symud plant a oedd fod i symud i'r system ADY rhwng Ionawr 2022 ac Awst 2022 fel bod modd eu symud yn ystod blwyddyn ysgol 2022 i 2023.

2.5 Hefyd, daeth y Ddeddf ADY i rym ar 1 Ionawr 2022 ar gyfer rhai plant a oedd yn newydd i'r system. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys plant a oedd ag AAA, neu a oedd yn ymwneud â phroses datganiad AAA, ar 1 Medi 2021 ond nad oedd ganddynt AAA, neu nad oeddent yn ymwneud â phroses datganiad AAA mwyach, ar 1 Ionawr 2022. Daeth y Ddeddf i rym ar gyfer y grŵp hwn o blant waeth sut roedd eu haddysg yn cael ei darparu.

2.6 Os yw plant yn cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar/gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy neu weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy, mae’n debygol y bydd ganddynt ADY.

2.7 Weithiau, ni fydd gan blentyn a oedd ag AAA ADY am fod ei anghenion wedi newid, ac nad oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) arno i'w helpu i ddysgu.

2.8 Mae gwybodaeth am y grwpiau penodol o blant sydd i'w symud i'r system ADY yn yr ail a'r drydedd flwyddyn o weithredu wedi'i chynnwys mewn adrannau diweddarach.

Rheoli’r broses o weithredu’r system ADY ochr yn ochr â'r system AAA

3.1 Er mwyn sicrhau bod plant yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod gweithredu, bydd y system ADY yn gweithredu ochr yn ochr â'r system AAA. Bydd y system AAA yn cael ei dileu'n raddol yn ystod y cyfnod gweithredu. Hyd nes y bydd plentyn yn symud i'r system ADY, mae'r ddeddfwriaeth AAA yn parhau mewn grym, sy'n golygu bod yn rhaid i ysgolion, UCDau ac awdurdodau lleol barhau i gyflwyno'r ddarpariaeth addysgol arbennig sydd wedi'i nodi yng nghynlluniau gweithredu gan yr ysgol, gweithredu gan yr ysgol a mwy neu mewn datganiadau.

3.2 Er bod y ddeddfwriaeth AAA yn parhau i fod mewn grym, a rhaid parhau i gyflwyno darpariaeth addysgol arbennig nes bod plentyn yn symud i'r system ADY, mae darpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996 sy'n parhau i fod mewn grym yn gyfyngedig. Mae hyn yn golygu na fydd modd gwneud cais am asesiad AAA ar ôl 1 Ionawr 2022.

3.3 Rhaid i awdurdodau lleol a lleoliadau a gynhelir barhau i gydymffurfio â Deddf Addysg 1996, a'r rheoliadau a wnaed oddi tani, tra bod y ddeddf a'r rheoliadau yn parhau i fod yn berthnasol i'r plentyn. Rhaid iddynt gydymffurfio hefyd â'r trefniadau a gyflwynir yn 'Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru’.

3.4 O 1 Medi 2022, ni fydd plant ym Mlwyddyn 11 yn gallu cael asesiad adran 140 o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.

Gweithredu o 1 Medi 2022

4.1 Bydd plant hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 11 ym mlwyddyn ysgol 2022 i 2023 (ac na chyfeirir atynt ym mharagraffau 2.2, 2.3 a 2.5) yn symud o'r system AAA i'r system ADY rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2024. Eglurir sut a phryd y byddant yn symud mewn adrannau diweddarach.

4.2 Mae'r rhan fwyaf o grwpiau o blant yn cael eu symud i'r system ADY drwy roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a rhiant y plentyn. Mae pwy sy'n gyfrifol am roi'r hysbysiad CDU neu'r hysbysiad Dim CDU yn dibynnu ar y plentyn, er enghraifft, bydd awdurdod lleol yn rhoi'r hysbysiad os yw'r plentyn yn derbyn gofal neu os yw wedi'i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd corff llywodraethu'r ysgol lle mae'r plentyn yn ddysgwr cofrestredig yn rhoi'r hysbysiad. Mae'r flwyddyn ysgol y bydd rhaid rhoi'r hysbysiad yn gysylltiedig â grŵp blwyddyn y plentyn.

4.3 Bydd rhai plant, er enghraifft, plant sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig sy'n mynychu ysgol annibynnol, yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 1 Medi 2022 heb yr angen am hysbysiad CDU. 

4.4 Gall plant, neu eu rhieni, ofyn am i’r plentyn gael symud i'r system ADY yn gynt na'r bwriad trwy ofyn am hysbysiad CDU.

4.5 Nid oes rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion roi hysbysiad neu gopi o CDU i blentyn lle nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall yr wybodaeth yn yr hysbysiad neu'r CDU.

4.6 Nid yw'r trefniadau trosiannol sydd wedi'u rhoi ar waith i weithredu'r system ADY yn union yr un fath â'r trefniadau a nodir yn y Ddeddf ADY a'r Cod ADY. Enghraifft o hyn yw'r amserlenni ar gyfer penderfynu a oes gan blentyn ADY yn dilyn cais, a'r amserlenni ar gyfer llunio CDU.

4.7 Mae'n bwysig rhoi gwybodaeth i deuluoedd am y trefniadau ar gyfer trosglwyddo o'r system AAA i'r system ADY yn ystod y cyfnod gweithredu. Dylai ysgolion, UCDau a/neu awdurdodau lleol anfon gwybodaeth benodol at blant a'u rhieni sy'n:

  • datgan y tymor y disgwylir i'r plentyn symud i'r system ADY, hynny yw, y tymor y mae'r ysgol, UCD neu awdurdod lleol yn disgwyl neu'n bwriadu rhoi'r hysbysiad CDU neu'r hysbysiad Dim CDU a beth mae'r hysbysiadau'n ei olygu
  • esbonio hawl y plentyn a'r rhiant i ofyn am gael symud i'r system ADY
  • nodi beth sy'n digwydd ar ôl i hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU gael ei roi
  • darparu gwybodaeth am yr hyn y gall rhieni ei wneud os nad ydynt yn cytuno â'r penderfyniad a wnaed gan ysgol neu UCD neu awdurdod lleol a nodir yn yr hysbysiad CDU neu'r hysbysiad Dim CDU

4.8 Mae ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhan annatod o'r system ADY, gan gynnwys y broses o ddatblygu CDUau.

Adran 5

Trefniadau ar gyfer plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy, ac nad ydynt yn blant sy'n derbyn gofal neu sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad ar 1 Ionawr 2022

5.1 Bydd plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy, ac nad ydynt yn blant sy'n derbyn gofal neu wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad ar 1 Ionawr 2022 yn symud i'r systemau ADY fel a ganlyn:

  • blwyddyn ysgol 2021 i 2022: Meithrin (M1, M2), Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10
  • blwyddyn ysgol 2022 i 2023: Blwyddyn 6, Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11
  • blwyddyn ysgol 2023 i 2024 a 2024 i 2025: Pob plentyn sy'n weddill nad ydynt eisoes wedi symud, y rhai yn y Meithrin, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4 a Blwyddyn 8 yn y flwyddyn ysgol 2023 i 2024.

5.2 Nid yw'r trefniadau yn yr adran hon yn berthnasol i blant sydd ag achos cyn datganiad ar y gweill.

5.3 Yn gyffredinol, bydd ysgolion ac UCDau yn symud plentyn i'r system ADY trwy roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU. Mewn rhai achosion, ni fydd ysgolion ac UCDau yn symud plant yn y grŵp hwn o'r system AAA i'r system ADY. Yr achosion hyn yw:

  • lle mae plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY oherwydd bod ei amgylchiadau wedi newid
  • lle mae plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar ddiwedd blwyddyn ysgol

5.4 Yn wahanol i sefyllfa lle mae plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, os yw'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr a'i fod wedi'i gofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD yng Nghymru, bydd yr ysgol neu'r UCD yn gyfrifol am symud y plentyn.

5.5 O 1 Ionawr 2022 ymlaen, ni fydd modd gofyn am asesiad AAA ar gyfer plant yn y grŵp hwn. Mae hyn er mwyn atal plant rhag bod yn rhan o achos ar y gweill yn ystod y cyfnod gweithredu.

5.6 Penderfynu a oes gan blentyn yn y grŵp hwn ADY a rhoi hysbysiad yw'r broses ar gyfer symud plant o'r system AAA i'r system ADY. Ar ôl penderfynu a oes gan blentyn ADY, rhaid i'r ysgol neu'r UCD roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a'i rieni.

5.7 Rhoddir hysbysiad CDU os yw'r ysgol neu'r UCD o'r farn bod gan y plentyn ADY. Rhoddir yr hysbysiad CDU i blentyn a rhiant y plentyn, ac mae'n cadarnhau bod yr ysgol neu'r UCD wedi penderfynu bod gan y plentyn ADY at ddibenion pennod 2 o Ran 2 o'r Ddeddf ADY.

5.8 Rhoddir hysbysiad Dim CDU os yw'r ysgol neu'r UCD o'r farn nad oes gan y plentyn ADY. Rhoddir yr hysbysiad i blentyn a rhiant y plentyn, ac mae'n cadarnhau bod yr ysgol neu'r UCD wedi penderfynu nad oes gan y plentyn ADY at ddibenion pennod 2 o Ran 2 o'r Ddeddf ADY.

5.9 Mae'r system ADY yn berthnasol i'r plentyn o ddyddiad yr hysbysiad, ac nid yw'r hen gyfraith yn berthnasol bellach.

5.10 Pan fo plentyn, neu ei riant, yn anhapus â'r penderfyniad a wnaed gan yr ysgol neu'r UCD ynghylch a oes gan y plentyn ADY, fel arfer disgwylir i'r mater gael ei ddatrys yn uniongyrchol gyda'r ysgol neu'r UCD neu drwy ddefnyddio trefniadau datrys anghytundeb yr awdurdod lleol. Fel arall, neu yn ogystal, os na chaiff yr anghytundeb ei ddatrys, gall plant a'u rhieni ofyn i'r awdurdod lleol cyfrifol ailystyried y penderfyniad a wnaed gan yr ysgol neu'r UCD.

5.11 Os yw hysbysiad CDU wedi'i roi ac mae'r ysgol neu'r UCD o'r farn bod gan y plentyn ADY:

  • a all alw am DDdY na fyddai’n rhesymol i’r ysgol neu'r UCD ei sicrhau
  • na all bennu eu graddau neu eu natur yn ddigonol
  • na all benderfynu'n ddigonol ar y DDdY ar eu cyfer

gall ysgol neu UCD gyfeirio achos y plentyn at yr awdurdod lleol.

5.12 Rhaid i'r ysgol neu'r UCD gyhoeddi CDU o fewn 35 diwrnod ysgol i ddyddiad yr hysbysiad CDU ac eithrio:

  • mewn amgylchiadau eithriadol
  • os yw’r ysgol neu'r UCD o'r farn bod gan y plentyn ADY:
    • a allai alw am DDdY na fyddai’n rhesymol i’r ysgol neu'r UCD ei sicrhau
    • na all bennu eu graddau neu eu natur yn ddigonol
    • na all benderfynu'n ddigonol ar DDdY ar eu cyfer
  • os yw'r ysgol neu'r UCD yn gofyn i awdurdod lleol yn Lloegr sicrhau asesiad o dan adran 36(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014
  • os yw awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun addysg, iechyd a gofal ar gyfer y plentyn

5.13 Wrth lunio'r CDU, rhaid i'r ysgol neu'r UCD roi sylw i'r ddarpariaeth addysgol arbennig a roddwyd i’r plentyn.

5.14 Os nad yw ysgol neu UCD wedi rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn a'i riant sydd i fod i dderbyn hysbysiad yn 2022 i 2023 erbyn 30 Awst 2023, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 31 Awst 2023. Mae hyn yn golygu na fydd yr hen gyfraith yn berthnasol ar 31 Awst 2023 a bydd y gyfraith newydd yn berthnasol ar y dyddiad hwn. Mae'r dyletswyddau y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol.

5.15 Os nad yw ysgol neu UCD wedi rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn a'i riant sydd i fod i dderbyn hysbysiad yn 2024 i 2025 erbyn 30 Awst 2025, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 31 Awst 2025. Mae hyn yn golygu na fydd yr hen gyfraith yn berthnasol ar 31 Awst 2025 a bydd y gyfraith newydd yn berthnasol ar y dyddiad hwn. Mae'r dyletswyddau y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol.

5.16 Mae gan blant, neu eu rhieni, yr hawl i wneud cais, ar unrhyw adeg, i'r ysgol neu'r UCD am symud i'r system ADY yn gynt na'r bwriad. Gall plant, neu eu rhieni, wneud hyn trwy ofyn i'r ysgol neu'r UCD roi hysbysiad CDU. Gellir gwneud cais am hysbysiad CDU ar lafar neu'n ysgrifenedig.

5.17 Rhaid i'r ysgol neu'r UCD roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a'i riant o fewn 15 diwrnod ysgol i'r cais. Os yw'r ysgol neu'r UCD o'r farn bod gan y plentyn ADY, a'i bod yn cyhoeddi hysbysiad CDU, rhaid i'r ysgol neu'r UCD lunio CDU o fewn 35 diwrnod ysgol i ddyddiad yr hysbysiad, ac eithrio pan fydd eithriadau neu amgylchiadau eithriadol yn berthnasol fel y nodir yn 5.12.

5.18 Mewn rhai amgylchiadau, gall yr awdurdod lleol roi hysbysiad ADY. Nid yw hysbysiad ADY yr un fath â hysbysiad CDU gan nad yw'r hysbysiad yn golygu gwneud penderfyniad. Swyddogaeth yr hysbysiad ADY yw symud y plentyn i'r system ADY yn unig. Mae'n galluogi awdurdodau lleol i symud plant yn y grŵp hwn o'r system AAA i'r system ADY ar unrhyw adeg. Nid yw wedi'i gyfyngu i gael ei gyflwyno mewn blwyddyn weithredu benodol. Ni ddisgwylir y bydd awdurdodau lleol yn defnyddio'r pŵer hwn yn aml gan mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir ei arfer (oni bai bod rhiant yn gofyn am hysbysiad ADY). Caiff plentyn sy'n perthyn i'r grŵp hwn ac nad yw'n ddysgwr cofrestredig mewn ysgol a gynhelir mwyach ac nad yw eisoes wedi symud i'r system ADY, neu riant y plentyn, ofyn i'r awdurdod lleol roi hysbysiad ADY. Pan fydd plentyn neu ei riant yn gofyn i'r awdurdod lleol roi hysbysiad ADY, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad ADY o fewn 10 diwrnod gwaith i'r cais.

5.19 Bydd plentyn yn y grŵp hwn nad yw eisoes wedi symud i'r system ADY yn symud yn awtomatig o'r system AAA i'r system ADY os yw ei amgylchiadau'n newid:

  • roedd wedi peidio â bod yn ddysgwr yn yr ysgol a gynhelir neu'r UCD lle'r oedd y plentyn yn ddysgwr cofrestredig ar 1 Ionawr 2022, ac eithrio pan fydd y plentyn yn peidio â bod yn ddysgwr cofrestredig oherwydd ei fod yn pontio'n arferol neu oherwydd cau ysgol neu UCD
  • roedd wedi'i gofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD ar 1 Ionawr 2022 ac, ar ryw adeg ar ôl 1 Ionawr 2022, daeth yn ddisgybl cofrestredig neu'n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall hefyd (hynny yw, wedi'i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad) ac y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano
  • roedd wedi'i gofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD ar 1 Ionawr 2022 ac, ar ryw adeg ar ôl 1 Ionawr 2022, daeth yn blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru

Adran 6

Trefniadau ar gyfer plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy, ac nad ydynt yn blant sy'n derbyn gofal neu sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad ar 1 Medi 2022

6.1 Mae'r rhan fwyaf o blant sy'n perthyn i'r grŵp hwn ar 1 Medi 2022 yn debygol o fod yn blant a oedd wedi’u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD, a oedd yn cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac a oedd ag achos ar y gweill ar 1 Ionawr 2022, ond bod proses yr achos ar y gweill wedi dod i ben erbyn 1 Medi 2022.

6.2 Mae achos ar y gweill yn cyfeirio at achosion lle mae plentyn naill ai'n ymwneud â'r broses datganiad AAA y darperir ar ei chyfer yn Neddf Addysg 1996 neu â phroses sy'n ymwneud â chynlluniau addysg, iechyd a gofal y darperir ar ei chyfer yn Neddf Plant a Theuluoedd 2014.

6.3 Hefyd, mae'r grŵp hwn yn cynnwys plant a oedd â datganiad ar 1 Ionawr 2022 ond y mae eu datganiad wedi peidio â chael ei gynnal ac sy'n mynychu ysgol a gynhelir neu UCD ac yn derbyn darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/ gweithredu gan yr ysgol a mwy ar 1 Medi 2022.

6.4 Bydd plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD a oedd ag achos ar y gweill ar 1 Ionawr 2022 a ddaeth i ben cyn 1 Medi 2022, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ar 1 Medi 2022, ac nad ydynt yn derbyn gofal neu wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad, yn symud o'r system AAA i'r system ADY. Byddant yn symud o'r system AAA i'r system ADY trwy hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU (gweler 5.14 a 5.15 am ragor o wybodaeth am hysbysiadau CDU) a gyhoeddir gan ysgol neu UCD os ydynt yn perthyn i'r blynyddoedd canlynol:

  • blwyddyn ysgol 2022 i 2023: Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4, Blwyddyn 6, Blwyddyn 8, Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11
  • blwyddyn ysgol 2023 i 2024, Blwyddyn 6, a Blwyddyn 10
  • blwyddyn ysgol 2023 i 2024 a 2024 i 2025: Pob plentyn sy'n weddill nad ydynt eisoes wedi symud, y rhai yn y Meithrin, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4 a Blwyddyn 8 yn y flwyddyn ysgol 2023 i 2024

6.5 Rhaid i'r ysgol neu'r UCD gyhoeddi CDU o fewn 35 diwrnod ysgol i ddyddiad yr hysbysiad ac eithrio yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • mae yna amgylchiadau eithriadol
  • mae'r ysgol neu'r UCD o'r farn bod gan y plentyn ADY:
    • a all alw am DDdY na fyddai’n rhesymol i’r ysgol neu'r UCD ei sicrhau
    • na all bennu eu graddau neu eu natur yn ddigonol
    • na all benderfynu'n ddigonol ar DDdY ar eu cyfer
  • mae'r ysgol neu'r UCD yn gofyn i awdurdod lleol yn Lloegr sicrhau asesiad o dan adran 36(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014
  • mae awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun addysg, iechyd a gofal ar gyfer y plentyn

6.6 Mae gan blant, neu eu rhieni, yr hawl i wneud cais, ar unrhyw adeg, i'r ysgol neu'r UCD am gael symud i'r system ADY yn gynt na'r bwriad. Gall plant, neu eu rhieni, wneud hyn trwy ofyn i'r ysgol neu'r UCD roi hysbysiad CDU. Gellir gwneud cais am hysbysiad CDU ar lafar neu'n ysgrifenedig.

6.7 Rhaid i'r ysgol neu'r UCD roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a'i riant o fewn 15 diwrnod ysgol i'r cais. Os yw'r ysgol neu'r UCD o'r farn bod gan y plentyn ADY, a'i bod yn rhoi hysbysiad CDU, rhaid i'r ysgol neu'r UCD baratoi CDU o fewn 35 diwrnod ysgol i ddyddiad yr hysbysiad, ac eithrio pan fydd eithriadau neu amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.

6.8 Mewn amgylchiadau eithriadol, gall yr awdurdod lleol roi hysbysiad ADY. Mae hysbysiad ADY yn galluogi awdurdodau lleol i symud plant yn y grŵp hwn o'r system AAA i'r system ADY ar unrhyw adeg (gweler 5.18 am ragor o wybodaeth am hysbysiadau ADY).

6.9 Bydd plentyn yn y grŵp hwn yn symud yn awtomatig i'r system ADY os yw'r newidiadau canlynol mewn amgylchiadau yn berthnasol:

  • roedd wedi peidio â bod yn ddysgwr cofrestredig yn yr ysgol a gynhelir neu'r UCD lle'r oedd y plentyn yn ddysgwr cofrestredig ar 1 Medi 2022, ac eithrio pan fydd y plentyn yn peidio â bod yn ddysgwr cofrestredig oherwydd ei fod yn pontio'n arferol neu oherwydd cau ysgol/UCD
  • ar ryw adeg ar ôl 1 Ionawr 2022, daeth yn ddisgybl cofrestredig neu'n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall hefyd (hynny yw, wedi'i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad) ac mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn
  • rywbryd ar ôl 1 Medi 2022, daeth yn blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru

6.10 Pan fydd plentyn yn y grŵp hwn yn symud i flwyddyn a ddylai gael hysbysiad yn ystod blwyddyn ysgol 2022 i 2023 ar ôl 1 Medi 2022, rhaid i'r ysgol neu'r UCD roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a rhieni'r plentyn yn ystod blwyddyn ysgol 2023 i 2024. Dyma'r sefyllfa oni bai bod y plentyn neu ei rieni yn gofyn i'r ysgol neu'r UCD roi hysbysiad CDU neu fod yr awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad ADY.

Trefniadau ar gyfer plant sy'n mynychu ysgol a gynhelir neu UCD, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy, ac sy'n derbyn gofal neu wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad ar 1 Ionawr 2022

7.1 Bydd awdurdodau lleol yn symud plant sy'n mynychu ysgol a gynhelir neu UCD, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy, ac sy'n derbyn gofal neu wedi'u cofrestru neu eu hymrestru mewn mwy nag un lleoliad ar 1 Ionawr 2022, i'r system ADY fel a ganlyn:

  • blwyddyn ysgol 2021 i 2022: Meithrin (M1, M2), Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10
  • blwyddyn ysgol 2022 i 2023: Blwyddyn 6 a Blwyddyn 10 
  • blwyddyn ysgol 2023 i 2024 a 2024 i 2025: Pob plentyn sy'n weddill nad ydynt eisoes wedi symud, y rhai yn y Meithrin, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4 a Blwyddyn 8 yn y flwyddyn ysgol 2023 i 2024

7.2 Bydd awdurdodau lleol yn symud plant i'r system ADY trwy roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU.

7.3 O 1 Ionawr 2022 ymlaen ni fydd modd gofyn am asesiad AAA ar gyfer plant yn y grŵp hwn. Y rheswm am hyn yw atal plant rhag bod yn rhan o achos ar y gweill yn ystod y cyfnod gweithredu.

7.4 Penderfynu a oes gan blentyn yn y grŵp hwn ADY a rhoi hysbysiad yw'r broses ar gyfer symud plant o'r system AAA i'r system ADY. Ar ôl penderfynu a oes gan blentyn ADY, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a'i rieni.

7.5 Rhoddir hysbysiad CDU os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod gan y plentyn ADY. Rhoddir yr hysbysiad CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn, ac mae'n cadarnhau bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu bod gan y plentyn ADY at ddibenion pennod 2 o Ran 2 o'r Ddeddf ADY.

7.6 Rhoddir hysbysiad Dim CDU os yw'r awdurdod lleol o'r farn nad oes gan y plentyn ADY. Rhoddir yr hysbysiad i’r plentyn a rhiant y plentyn, ac mae'n cadarnhau bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn ADY at ddibenion pennod 2 o Ran 2 o'r Ddeddf ADY.

7.7 Mae'r system ADY yn berthnasol i'r plentyn o ddyddiad yr hysbysiad, ac nid yw'r hen gyfraith yn berthnasol bellach.

7.8 Pan fydd plentyn, neu ei riant, yn anhapus â'r penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod lleol ynghylch a oes gan y plentyn ADY, fel arfer disgwylir i'r mater gael ei ddatrys yn uniongyrchol gyda'r awdurdod lleol neu drwy ddefnyddio trefniadau datrys anghytundeb yr awdurdod lleol. Fel arall, neu yn ogystal, os na chaiff yr anghytundeb ei ddatrys, gall y plentyn, neu ei riant, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y penderfyniad.

7.9 Pan fydd awdurdod lleol yn penderfynu bod gan blentyn ADY, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU i'r plentyn, a rhiant y plentyn, a llunio CDU o fewn 12 wythnos i roi'r hysbysiad CDU oni bai bod yna amgylchiadau eithriadol. Os oes yna amgylchiadau eithriadol, rhaid cyhoeddi'r CDU cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Mae'r hysbysiad yn golygu bod y penderfyniad bod gan y plentyn ADY yn cael ei drin fel pe bai wedi'i wneud ar ddyddiad yr hysbysiad. Dyddiad yr hysbysiad yw'r dyddiad pan fydd y gyfraith newydd yn berthnasol, ac mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn berthnasol i'r plentyn.

7.10 Wrth baratoi CDU, rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i'r ddarpariaeth addysgol arbennig a roddwyd i’r plentyn.

7.11 Os nad yw awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn a'i riant sydd i fod i dderbyn hysbysiad yn 2022 i 2023 erbyn 30 Awst 2023, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 31 Awst 2023. Mae hyn yn golygu na fydd yr hen gyfraith yn berthnasol ar 31 Awst 2023 a bydd y gyfraith newydd yn berthnasol ar y dyddiad hwn. Mae'r dyletswyddau y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol.

7.12 Os nad yw awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn a'i riant sydd i fod i dderbyn hysbysiad yn 2023 i 2024 erbyn 30 Awst 2024, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 31 Awst 2024. Mae hyn yn golygu na fydd yr hen gyfraith yn berthnasol ar 31 Awst 2024 a bydd y gyfraith newydd yn berthnasol ar y dyddiad hwn. Mae'r dyletswyddau y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol.

7.13 Mae gan blant, neu eu rhieni, yr hawl i wneud cais, ar unrhyw adeg, i'r awdurdod lleol am gael symud i'r system ADY yn gynt na'r bwriad. Gall plant, neu eu rhieni, wneud hyn trwy ofyn i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU. Gellir gwneud cais am hysbysiad CDU ar lafar neu'n ysgrifenedig.

7.14 Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU o fewn 15 diwrnod gwaith i'r cais. Os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod gan y plentyn ADY a'i fod yn rhoi hysbysiad CDU, rhaid i'r awdurdod lleol lunio CDU o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, ac eithrio pan fydd amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.

7.15 Mewn rhai amgylchiadau, gall yr awdurdod lleol roi hysbysiad ADY. Mae hysbysiad ADY yn galluogi awdurdodau lleol i symud plant yn y grŵp hwn o'r system AAA i'r system ADY ar unrhyw adeg. Ni ddisgwylir y bydd awdurdodau lleol yn defnyddio'r pŵer hwn yn aml gan mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir ei arfer.

7.16 Bydd plant yn y grŵp hwn nad ydynt wedi'u symud eisoes i'r system ADY yn symud yn awtomatig o'r system AAA i'r system ADY os ydynt yn peidio â bod:

  • yn blant sy'n derbyn gofal
  • yn blant sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad

7.17 Pan fydd plentyn yn peidio â derbyn gofal, dylai'r awdurdod lleol hysbysu'r ysgol neu'r UCD nad yw’r plentyn yn derbyn gofal mwyach, ac felly ei fod wedi symud yn awtomatig i'r gyfraith newydd a bod y dyletswyddau a osodir ar yr ysgol neu'r UCD yn y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol.

7.18 Pan fo plentyn a gofrestrwyd mewn mwy nag un lleoliad yn cael ei gofrestru mewn un ysgol a gynhelir neu UCD yn unig, dylai'r awdurdod lleol hysbysu'r ysgol neu'r UCD nad yw’r plentyn wedi’i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad mwyach ac, felly, ei fod wedi symud yn awtomatig i'r gyfraith newydd, a bod y dyletswyddau a osodir ar yr ysgol neu'r UCD yn y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol.

7.19 Pan fydd plentyn yn y grŵp hwn yn symud i grŵp blwyddyn y mae angen rhoi hysbysiad iddo yn ystod blwyddyn ysgol 2022 i 2023, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a rhieni'r plentyn yn ystod blwyddyn ysgol 2023 i 2024. Mae'r system ADY yn berthnasol o ddyddiad yr hysbysiad, ac nid yw'r system AAA yn berthnasol bellach. Dyma'r sefyllfa oni bai bod y plentyn neu ei rieni yn gofyn i'r ysgol neu'r UCD roi hysbysiad CDU, neu fod yr awdurdod lleol priodol yn rhoi hysbysiad ADY.

Adran 8

Trefniadau ar gyfer plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD, sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy, ac sy'n derbyn gofal neu sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad ac sydd ag achos ar y gweill ar 1 Medi 2022

8.1 Rhaid i awdurdodau lleol symud plant yn y grŵp hwn o'r system AAA i'r system ADY trwy hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU pan fyddant yn un o'r blynyddoedd canlynol:

  • blwyddyn ysgol 2022 i 2023: Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4, Blwyddyn 6, Blwyddyn 8, Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11
  • blwyddyn ysgol 2023 i 2024: Blwyddyn 6, a Blwyddyn 10
  • blwyddyn ysgol 2023 i 2024 a 2024 i 2025: Pob plentyn sy'n weddill nad ydynt eisoes wedi symud, y rhai yn y Meithrin, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4 a Blwyddyn 8 yn y flwyddyn ysgol 2023 i 2024

8.2 Bydd awdurdodau lleol yn symud plant i'r system ADY trwy roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU.

8.3 Penderfynu a oes gan blentyn ADY a rhoi hysbysiad yw'r broses ar gyfer symud plant o'r system AAA i'r system ADY. Ar ôl penderfynu a oes gan blentyn ADY, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a'i rieni (i gael rhagor o wybodaeth am hysbysiadau CDU gweler 7.5 a 7.6).

8.4 Mae'r system ADY yn berthnasol i'r plentyn o ddyddiad yr hysbysiad, ac nid yw'r hen gyfraith yn berthnasol bellach.

8.5 Pan fydd plentyn, neu ei riant, yn anhapus â'r penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod lleol, fel arfer disgwylir i'r mater gael ei ddatrys yn uniongyrchol gyda'r awdurdod lleol neu drwy ddefnyddio trefniadau datrys anghytundeb yr awdurdod lleol. Fel arall, neu yn ogystal, os na chaiff yr anghytundeb ei ddatrys, gall y plentyn, neu ei riant, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y penderfyniad.

8.6 Pan fydd awdurdod lleol yn penderfynu bod gan blentyn ADY, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU i'r plentyn, a rhiant y plentyn, a llunio CDU o fewn 12 wythnos i roi'r hysbysiad CDU oni bai bod yna amgylchiadau eithriadol. Os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid cyhoeddi'r CDU cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Mae'r hysbysiad yn golygu bod y penderfyniad bod gan y plentyn ADY yn cael ei drin fel pe bai wedi'i wneud ar ddyddiad yr hysbysiad. Dyddiad yr hysbysiad yw'r dyddiad pan fydd y gyfraith newydd yn berthnasol, ac mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn berthnasol i'r plentyn.

8.7 Wrth lunio’r CDU, rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i'r ddarpariaeth addysgol arbennig a roddwyd i’r plentyn.

8.8 Mae gan blant, neu eu rhieni, yr hawl i wneud cais, ar unrhyw adeg, i'r awdurdod lleol am gael symud i'r system ADY yn gynt na'r bwriad. Gall plant, neu eu rhieni, wneud hyn trwy ofyn i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU. Gellir gwneud cais am hysbysiad CDU ar lafar neu'n ysgrifenedig.

8.9 Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU o fewn 15 diwrnod gwaith i'r cais. Os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod gan y plentyn ADY, a'i fod yn rhoi hysbysiad CDU, rhaid i'r awdurdod lleol lunio CDU o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, ac eithrio pan fydd amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.

8.10 Mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, gall yr awdurdod lleol roi hysbysiad ADY. Effaith yr hysbysiad ADY yw bod y system ADY yn berthnasol ar ddyddiad yr hysbysiad a bod y system AAA yn peidio â bod yn berthnasol ar y dyddiad hwnnw. O ganlyniad, mae'r dyletswyddau y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

8.11 Os nad yw awdurdod lleol yn cael y cyfle i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn a'i riant erbyn diwedd y flwyddyn ysgol berthnasol, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar ddiwedd y flwyddyn ysgol (31 Awst). Mae'r ddarpariaeth hon yn golygu bod y Ddeddf ADY a'r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol i'r plentyn ar ddiwedd y flwyddyn ysgol.

8.12 Bydd plentyn yn y grŵp hwn nad yw wedi symud eisoes i'r system ADY yn symud yn awtomatig i'r system ADY os yw'r newidiadau canlynol mewn amgylchiadau yn berthnasol:

  • nid oedd y plentyn yn derbyn gofal ac roedd wedi'i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad ar 1 Medi 2022 a’i fod wedi peidio â bod wedi’i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad wedi hynny
  • roedd yn derbyn gofal ar 1 Medi 2022 a’i fod wedi peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal wedi hynny

8.13 Pan fydd plentyn yn y grŵp hwn yn symud i grŵp blwyddyn y mae angen rhoi hysbysiad iddo yn ystod 2022 i 2023 ar ôl 1 Ionawr 2022, rhaid i'r awdurdod lleol naill ai roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a rhieni'r plentyn yn ystod blwyddyn ysgol 2023 i 2024. Mae'r system ADY yn berthnasol o ddyddiad yr hysbysiad, ac nid yw'r system AAA yn berthnasol bellach. Dyma'r sefyllfa oni bai bod y plentyn neu ei rieni yn gofyn i'r ysgol neu'r UCD roi hysbysiad CDU, neu fod yr awdurdod lleol priodol yn rhoi hysbysiad ADY.

Trefniadau ar gyfer plant sydd â datganiad ar 1 Medi 2022

9.1 Bydd plant hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 11 sydd â datganiad AAA ar 1 Medi 2022 yn cael eu trosglwyddo'n raddol i'r system ADY newydd o 1 Medi 2022. Bydd symud i'r system newydd yn mynd rhagddi dros ddwy flynedd fel a ganlyn:

  • blwyddyn ysgol 2022 i 2023: y rhai o dan oedran ysgol gorfodol, Derbyn, Blwyddyn 6, Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11
  • blwyddyn ysgol 2023 i 2024: Blwyddyn 6 a Blwyddyn 10 
  • blwyddyn ysgol 2023 i 2024 a 2024 i 2025: Pob plentyn sy'n weddill nad ydynt eisoes wedi symud, y rhai yn Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5, Blwyddyn 8 a Blwyddyn 9 yn y flwyddyn ysgol 2023 i 2024

9.2 Er mwyn symud plant yn y grŵp hwn o'r system AAA i'r system ADY, bydd awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU. Hyd nes y bydd hyn yn digwydd, bydd dyletswydd ar yr awdurdod lleol o hyd i gynnal y datganiad AAA a threfnu'r ddarpariaeth addysgol arbennig sydd wedi'i nodi yn y datganiad AAA.

9.3 Bydd y broses o symud plant i'r system newydd yn cael ei rheoli gan yr awdurdod lleol drwy gydol y flwyddyn ysgol (1 Medi i 31 Awst) lle rhoddir hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU.

9.4 Ar ôl penderfynu a oes gan blentyn ADY, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a'i rieni.

9.5 Rhoddir hysbysiad CDU os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod gan y plentyn ADY. Rhoddir yr hysbysiad CDU i blentyn a rhiant y plentyn, ac mae'n cadarnhau bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu bod gan y plentyn ADY at ddibenion pennod 2 o Ran 2 o'r Ddeddf ADY.

9.6 Yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol, rhoddir hysbysiad Dim CDU os yw'r awdurdod lleol o'r farn nad oes gan y plentyn ADY. Rhoddir yr hysbysiad i blentyn a rhiant y plentyn, ac mae'n cadarnhau bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn ADY at ddibenion pennod 2 o Ran 2 o'r Ddeddf ADY.

9.7 Mae'r system ADY yn berthnasol i'r plentyn o ddyddiad yr hysbysiad, ac nid yw'r hen gyfraith yn berthnasol bellach.

9.8 Ni ddylai awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU os oes apêl ar y gweill o dan Ddeddf Addysg 1996 yn erbyn unrhyw un o'r materion sy'n berthnasol i ddatganiad AAA (h.y. achos ar y gweill).

9.9 Gall yr awdurdod lleol roi hysbysiad ADY mewn amgylchiadau eithriadol (ac eithrio pan fo apêl ar y gweill mewn perthynas â'r plentyn).

9.10 Os nad yw awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn a'i riant sydd i fod i dderbyn hysbysiad yn 2022 i 2023 erbyn 30 Awst 2023, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 31 Awst 2023 oni bai bod achos datganiad ar y gweill ar gyfer y plentyn. Mae hyn yn golygu na fydd yr hen gyfraith yn berthnasol ar 31 Awst 2023 a bydd y gyfraith newydd yn berthnasol ar y dyddiad hwn. Mae'r dyletswyddau y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol.

9.11 Os nad yw awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn a'i riant sydd i fod i dderbyn hysbysiad yn 2024 i 2025 erbyn 30 Awst 2025, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 31 Awst 2025 oni bai bod achos datganiad ar y gweill ar gyfer y plentyn. Mae hyn yn golygu na fydd yr hen gyfraith yn berthnasol mwyach ar 31 Awst 2025 a bydd y gyfraith newydd yn berthnasol ar y dyddiad hwn. Mae'r dyletswyddau y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol.

9.12 Gall plant, neu eu rhieni, ofyn am gael symud i'r system ADY yn gynharach na’r bwriad trwy ofyn am hysbysiad CDU. Gellir gwneud cais am hysbysiad CDU ar lafar neu'n ysgrifenedig.

9.13 Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a'i riant cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol yn dilyn cais am yr hysbysiad.

9.14 Yn ymarferol, gallai awdurdodau lleol, er enghraifft, roi hysbysiad CDU cyn dyddiad adolygiad blynyddol y datganiad, a gallent gynnal cyfarfod CDU yn hytrach na'r adolygiad blynyddol.

9.15 Os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod gan y plentyn ADY, a'i fod yn rhoi hysbysiad CDU, rhaid i'r awdurdod lleol lunio CDU o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, ac eithrio pan fydd amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.

9.16 Unwaith y bydd y plentyn wedi symud i'r system ADY, bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am drefnu ac ariannu lleoliadau ar gyfer plentyn ym Mlwyddyn 11 sydd angen lleoliad coleg arbenigol o fis Medi 2023. Er mwyn hwyluso cynlluniau pontio effeithiol ar gyfer plant ym Mlwyddyn 11 sy'n symud i addysg ôl-16, yn enwedig y rhai a allai fod angen lleoliad arbenigol mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol, er enghraifft, dylai awdurdodau lleol symud plant ym Mlwyddyn 11 o'r system AAA i'r system ADY yn ystod tymor yr hydref 2022 i 2023.

9.17 Pan fydd plentyn ym Mlwyddyn 11 yn rhan o achos ar y gweill, ni fydd modd i'r awdurdod lleol symud y plentyn o'r system AAA i'r system ADY nes bod yr achos wedi dod i ben. Mewn achosion o'r fath, dylai’r awdurdod lleol wneud gwaith paratoi er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gallu cyhoeddi'r hysbysiad CDU neu'r hysbysiad Dim CDU a, lle y bo'n briodol, y CDU, yn fuan ar ôl i'r achos ddod i ben.

9.18 Bydd plant nad ydynt wedi'u symud eisoes i'r system ADY yn symud yn awtomatig o'r system AAA i'r system ADY yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mae awdurdod lleol yn peidio â chynnal eu datganiad
  • mae plentyn yn symud o ardal yr awdurdod lleol a oedd yn cynnal ei ddatganiad ar 1 Medi 2022

9.19 Pan fydd awdurdod lleol yn peidio â chynnal datganiad ar gyfer plentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar y dyddiad y bydd yr awdurdod lleol yn peidio â chynnal y datganiad. Mae'r ddeddfwriaeth ADY, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol i'r plentyn o'r dyddiad hwnnw.

9.20 Pan fydd plentyn yn symud i grŵp blwyddyn a fydd yn cael ei symud yn ystod blwyddyn ysgol 2022 i 2023 ar ôl 1 Medi 2022, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a rhieni'r plentyn yn ystod blwyddyn ysgol 2023 i 2024. Mae'r ddeddfwriaeth ADY, gan gynnwys y cod ADY, yn berthnasol o ddyddiad yr hysbysiad, ac nid yw'r system AAA yn berthnasol bellach. Dyma'r sefyllfa oni bai bod y plentyn neu ei rieni yn gofyn i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU, neu fod yr awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad ADY.

Trefniadau ar gyfer plant hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 11 sy'n rhan o achos datganiad ar y gweill neu a fu'n rhan o achos o'r fath

10.1 Mewn achos datganiad ar y gweill, mae gan blentyn ddatganiad ond mae apêl ar y gweill mewn perthynas â'i gynnwys, nid yw'r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl wedi dod i ben, neu mae'r awdurdod lleol yn ceisio rhoi'r gorau i gynnal y datganiad.

10.2 Os na roddwyd hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn y flwyddyn ysgol roedd yr awdurdod lleol i fod i'w symud oherwydd ei fod yn rhan o achos datganiad ar y gweill ac nad yw'r plentyn wedi symud i'r system ADY, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn, a'i riant, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, sef:

  • ar ôl i'r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl ddod i ben, os nad oes apêl wedi'i chyflwyno
  • pan fydd apêl wedi'i chyflwyno, ar ôl gwneud dyfarniad terfynol ynghylch yr apêl.

10.3 Rhoddir hysbysiad CDU os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod gan y plentyn ADY. Rhoddir yr hysbysiad CDU i blentyn a rhiant y plentyn, ac mae'n cadarnhau bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu bod gan y plentyn ADY at ddibenion pennod 2 o Ran 2 o'r Ddeddf ADY.

10.4 Yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol, gellir rhoi hysbysiad Dim CDU os yw'r awdurdod lleol o'r farn nad oes gan y plentyn ADY. Rhoddir yr hysbysiad i blentyn a rhiant y plentyn, ac mae'n cadarnhau bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn ADY at ddibenion pennod 2 o Ran 2 o'r Ddeddf ADY.

10.5 Mae'r system ADY yn berthnasol i'r plentyn o ddyddiad yr hysbysiad, ac nid yw'r hen gyfraith yn berthnasol bellach.

10.6 Rhaid rhoi CDU o fewn 12 wythnos i'r hysbysiad CDU ac eithrio yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • mae'r awdurdod lleol yn peidio â bod yn gyfrifol am y plentyn
  • nid yw plentyn sy'n derbyn gofal yn byw mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru mwyach
  • mae'r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn ADY mwyach
  • mae yna amgylchiadau eithriadol

10.7 Wrth lunio CDU, rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i'r ddarpariaeth addysgol arbennig a roddwyd i’r plentyn.

10.8 Mae gan blant, neu eu rhieni, yr hawl i wneud cais, ar unrhyw adeg, i'r awdurdod lleol am gael symud plentyn i'r system ADY yn gynt na'r bwriad trwy ofyn am hysbysiad CDU. Gellir gwneud cais am hysbysiad CDU ar lafar neu'n ysgrifenedig.

10.9 Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a'i riant cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol yn dilyn cais am yr hysbysiad.

10.10 Os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod gan y plentyn ADY, a'i fod yn rhoi hysbysiad CDU, rhaid i'r awdurdod lleol lunio CDU o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, ac eithrio pan fydd amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.

10.11 Pan fydd cais yn cael ei wneud i symud i'r system ADY ac nad oes angen i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw orchymyn ar ôl i apêl gael ei phenderfynu'n derfynol, disgwylir y bydd yr awdurdod lleol yn cyhoeddi hysbysiad CDU o fewn 15 diwrnod gwaith.

10.12 Nid yw'r hawl i wneud cais yn berthnasol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mae apêl ar waith mewn perthynas â phlentyn
  • mae'r plentyn wedi symud yn awtomatig i'r system ADY oherwydd, er enghraifft, newid mewn amgylchiadau

10.13 Gall yr awdurdod lleol roi hysbysiad ADY mewn amgylchiadau eithriadol (ac eithrio pan mae apêl ar y gweill mewn perthynas â'r plentyn).

10.14 Os nad oes yw awdurdod lleol yn cael cyfle i ddarparu hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn a'i riant yn y flwyddyn ysgol roedd y plentyn i fod i symud (ac nad yw'r plentyn wedi symud i'r system ADY eisoes), bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar ddiwedd y flwyddyn ysgol (31 Awst).

10.15 Fodd bynnag, ni fydd plentyn yn symud yn awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn os oes apêl ar y gweill ar 31 Awst neu os yw'r awdurdod lleol wedi cael gorchymyn i roi cam gweithredu ar waith oherwydd bod apêl wedi cael ei phenderfynu'n derfynol ac nad yw'r cam wedi'i roi ar waith erbyn 31 Awst.

10.16 Pan fydd awdurdod lleol yn cael gorchymyn i roi cam gweithredu ar waith, ac nad yw’r cam gweithredu wedi’i roi ar waith erbyn 31 Awst yn y flwyddyn ysgol roedd y plentyn i fod i symud, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig o'r system AAA i'r system ADY ar y diwrnod ar ôl i'r awdurdod lleol roi'r cam gweithredu ar waith yn unol â'r gorchymyn (neu'r holl gamau gweithredu os oes mwy nag un cam gweithredu).

10.17 Pan fydd plentyn yn rhan o achos datganiad sydd ar y gweill ar 31 Awst 2025, bydd y plentyn yn trosglwyddo i'r system ADY:

  • y diwrnod ar ôl i'r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl ddod i ben, lle nad oes apêl wedi'i chyflwyno
  • y diwrnod ar ôl i'r apêl gael ei phenderfynu'n derfynol, ac eithrio pan fydd yr awdurdod lleol yn cael gorchymyn i roi cam gweithredu ar waith
  • y diwrnod ar ôl i'r awdurdod lleol roi'r cam gweithredu ar waith yn unol â'r gorchymyn ar ôl i'r apêl sydd ar y gweill gael ei phenderfynu'n derfynol (neu'r holl gamau gweithredu os oes mwy nag un cam gweithredu)

10.18 Bydd plant nad ydynt wedi'u symud eisoes i'r system ADY yn symud yn awtomatig o'r system AAA i'r system ADY yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mae awdurdod lleol yn peidio â chynnal eu datganiad
  • mae plentyn yn symud o ardal yr awdurdod lleol a oedd yn cynnal ei ddatganiad ar 1 Medi 2022

10.19 Pan fydd awdurdod lleol yn peidio â chynnal datganiad ar gyfer plentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar y dyddiad y bydd yr awdurdod lleol yn peidio â chynnal y datganiad. Mae'r ddeddfwriaeth ADY, gan gynnwys y cod ADY, yn berthnasol i'r plentyn o'r dyddiad hwn.

10.20 Pan fydd plentyn yn symud i grŵp blwyddyn sydd i fod i symud yn ystod blwyddyn ysgol 2022 i 2023 ar ôl 1 Medi 2022, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a rhieni'r plentyn yn ystod blwyddyn ysgol 2023 i 2024. Mae'r ddeddfwriaeth ADY, gan gynnwys y cod ADY, yn berthnasol o ddyddiad yr hysbysiad, ac nid yw'r system AAA yn berthnasol bellach. Dyma'r sefyllfa oni bai bod y plentyn neu ei rieni yn gofyn i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu fod yr awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad ADY.

Trefniadau ar gyfer plant hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 11 sydd ag achos cyn datganiad ar y gweill ar 1 Medi 2022

11.1 Mewn achos cyn datganiad ar y gweill, nid oes gan blentyn neu berson ifanc ddatganiad, ond mae'n ceisio cael datganiad.

11.2 Rhaid i awdurdodau lleol symud plant sy'n rhan o achos cyn datganiad ar y gweill trwy roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022, oni bai bod apêl ar y gweill o dan Ddeddf Addysg 1996.

11.3 Os oes apêl i'r Tribiwnlys ar y gweill ar 1 Medi 2022, dylai'r awdurdod lleol priodol naill ai roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn, a'i rieni, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r apêl gael ei phenderfynu'n derfynol.

11.4 Rhaid rhoi CDU o fewn 12 wythnos i'r hysbysiad CDU ac eithrio yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • nid yw'r plentyn yn ardal yr awdurdod lleol mwyach
  • mae'r awdurdod lleol yn peidio â bod yn gyfrifol am y plentyn
  • nid yw plentyn sy'n derbyn gofal yn ardal yr awdurdod lleol mwyach
  • mae'r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn ADY mwyach
  • mae yna amgylchiadau eithriadol

11.5 Rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig a roddwyd i’r plentyn yn union cyn symud i'r system ADY.

11.6 Gall plant, neu eu rhieni, ofyn am gael symud i'r system ADY yn gynt na'r bwriad trwy ofyn am hysbysiad CDU.

11.7 Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a'i riant cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol yn dilyn cais am yr hysbysiad.

11.8 Pan fydd cais yn cael ei wneud i symud i'r system ADY ac nad oes unrhyw orchymyn i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag apêl sydd ar y gweill, disgwylir y bydd yr awdurdod lleol yn cyhoeddi hysbysiad CDU o fewn 15 diwrnod gwaith.

11.9 Nid yw'r hawl i wneud cais yn berthnasol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mae achos cyn datganiad ar y gweill mewn perthynas â phlentyn
  • mae'r plentyn wedi symud yn awtomatig i'r system ADY oherwydd, er enghraifft, newid mewn amgylchiadau

11.10 Os nad yw awdurdod lleol wedi cael y cyfle i symud plentyn i'r system ADY erbyn 30 Awst 2024, bydd plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 31 Awst ac eithrio yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mae'r plentyn yn rhan o apêl sydd ar y gweill ar 30 Awst 2024
  • mae'r awdurdod lleol wedi cael gorchymyn i roi cam gweithredu ar waith oherwydd bod apêl ar y gweill ac nad yw'r cam gweithredu wedi'i roi ar waith erbyn 30 Awst 2024

11.11 Pan fydd plentyn yn rhan o apêl sydd ar y gweill ar 30 Awst 2024, bydd y plentyn yn trosglwyddo i'r system ADY:

  • y diwrnod ar ôl y diwrnod pan fydd yr apêl yn cael ei phenderfynu'n derfynol
  • y diwrnod ar ôl i'r awdurdod lleol roi'r cam gweithredu ar waith (neu'r holl gamau gweithredu os oes mwy nag un cam gweithredu) os yw'r awdurdod lleol yn cael gorchymyn i weithredu ar ôl i'r apêl gael ei phenderfynu'n derfynol

11.12 Os yw'r awdurdod lleol wedi cael gorchymyn i roi cam gweithredu ar waith o ganlyniad i apêl sydd ar y gweill ac nad yw'r cam gweithredu wedi'i roi ar waith erbyn 30 Awst 2024, bydd y plentyn yn symud i'r system ADY ar y diwrnod ar ôl i'r awdurdod lleol roi'r cam gweithredu ar waith (neu'r holl gamau gweithredu os oes mwy nag un cam gweithredu).

11.13 O ganlyniad, ar y dyddiad y mae'r plentyn yn symud i'r system ADY, bydd y ddeddfwriaeth ADY, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol i'r plentyn a bydd Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996 yn peidio â bod yn berthnasol i'r plentyn.

11.14 Bydd plant nad ydynt eisoes wedi symud i'r system ADY yn symud yn awtomatig o'r system AAA i'r system ADY os ydynt yn symud o ardal yr awdurdod lleol lle’r oeddent yn byw ar 1 Medi 2022.

11.15 Pan fydd plentyn yn symud o ardal yr awdurdod lleol lle’r oedd y plentyn yn byw ar 1 Medi 2022, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar y dyddiad y mae'r plentyn yn symud, ac mae'r Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol i'r plentyn.

Trefniadau ar gyfer plant sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac nad oeddent yn mynychu ysgol a gynhelir neu UCD ar 1 Medi 2022

12.1 Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, bydd plant hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 11 a oedd yn cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac nad oeddent wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD ar 1 Medi 2022 yn symud o'r system AAA i'r system ADY mewn un o ddwy ffordd:

  • yn awtomatig: bydd plant nad ydynt wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD ar 1 Medi 2022, ac nad ydynt yn derbyn gofal neu nad ydynt yn ddysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol, yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 1 Medi 2022
  • pan fydd yr awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU: bydd plant nad ydynt wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD ar 1 Medi 2022 ac sy'n derbyn gofal neu sy'n ddysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol, yn cael eu symud i'r system ADY yn dibynnu ar eu grŵp blwyddyn (neu beth fyddai eu grŵp blwyddyn pe baent yn ddysgwyr cofrestredig mewn ysgol a gynhelir).

12.2 Mae'r broses o symud plant yn y grŵp hwn o'r system AAA i'r system ADY yn cael ei thrafod isod:

Plant nad ydynt yn derbyn gofal neu nad ydynt yn ddysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol

12.3 Bydd plant hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 11 a oedd yn cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac nad oeddent wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD ar 1 Medi 2022 (er enghraifft, plant sy’n mynychu ysgol annibynnol) ac nad ydynt yn blant sy'n derbyn gofal neu'n ddysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol, yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar 1 Medi 2022. O 1 Medi 2022, mae'r Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol i'r plant hyn.

Plant sy'n ddysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol neu sy'n derbyn gofal

12.4 Rhaid i awdurdodau lleol symud plant hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 11 a oedd yn cael darpariaeth addysgol arbennig trwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac nad oeddent wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir neu UCD ar 1 Medi 2022 ac sy'n blant sy'n derbyn gofal neu'n ddysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol i'r system ADY trwy roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU os ydynt yn perthyn i un o'r categorïau canlynol:

  • blwyddyn ysgol 2022 i 2023: Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4, Blwyddyn 6, Blwyddyn 8, Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 (neu y byddent yn unrhyw un o'r blynyddoedd hyn pe baent yn ddysgwyr cofrestredig mewn ysgol a gynhelir)
  • blwyddyn ysgol 2023 i 2024: Blwyddyn 6 a Blwyddyn 10
  • blwyddyn ysgol 2023 i 2024 a 2024 i 2025: Pob plentyn sy'n weddill nad ydynt eisoes wedi symud, y rhai yn y Meithrin, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4 a Blwyddyn 8 yn y flwyddyn ysgol 2023 i 2024

12.5 Rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi CDU o fewn 12 wythnos i gyhoeddi'r hysbysiad CDU ac eithrio yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • mae yna amgylchiadau eithriadol
  • mae'r awdurdod lleol yn peidio â bod yn gyfrifol am y plentyn
  • nid yw plentyn sy'n derbyn gofal yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru mwyach
  • mae'r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn ADY mwyach

12.6 Os oes yna amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi'r CDU cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

12.7 Wrth lunio CDU, rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i'r ddarpariaeth addysgol arbennig a roddwyd i’r plentyn.

12.8 Mae gan blant, neu eu rhieni, yr hawl i wneud cais, ar unrhyw adeg, i'r awdurdod lleol am gael symud i'r system ADY yn gynt na'r bwriad. Gall plant, neu eu rhieni, wneud hyn trwy ofyn i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU. Gellir gwneud cais am hysbysiad CDU ar lafar neu'n ysgrifenedig. Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU o fewn 15 diwrnod gwaith i'r cais.

12.9 Er mwyn symud unrhyw blentyn o'r system AAA i'r system ADY mewn amgylchiadau eithriadol, gall yr awdurdod lleol roi hysbysiad ADY.

12.10 Os nad yw awdurdod lleol yn cael cyfle i roi hysbysiad CDU i blentyn (nad yw wedi symud i'r system ADY eisoes) a'i riant erbyn diwedd y flwyddyn ysgol berthnasol pan oedd yn disgwyl cael hysbysiad, bydd y plentyn yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar ddiwedd y flwyddyn ysgol (31 Awst). O ganlyniad i'r ddarpariaeth hon, erbyn diwedd y flwyddyn ysgol, bydd y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol i'r plentyn a bydd Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996 yn peidio â bod yn berthnasol i'r plentyn ar ddiwedd y flwyddyn ysgol. 

12.11 Bydd plant sy'n ddysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol neu sy'n derbyn gofal ac nad ydynt wedi symud i'r system ADY eisoes yn symud yn awtomatig o'r system AAA i'r system ADY yn yr amgylchiadau canlynol:

  • pan fyddant yn peidio â bod yn blant sy'n derbyn gofal
  • pan fyddant yn peidio â bod yn ddysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol os nad ydynt yn derbyn gofal

12.12 Ar ddyddiad y naill neu'r llall o'r newidiadau hyn, bydd y Ddeddf ADY a'r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig, gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol.

12.13 Pan fydd plant yn y grŵp blwyddyn hwn yn symud i grŵp blwyddyn sydd i fod i gael hysbysiad yn ystod blwyddyn ysgol 2022 i 2023 ar ôl 1 Medi 2022, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i'r plentyn a rhieni'r plentyn yn ystod blwyddyn ysgol 2023 i 2024. Mae'r system ADY yn berthnasol o ddyddiad yr hysbysiad, ac nid yw'r system AAA yn berthnasol bellach. Dyma'r sefyllfa oni bai bod y plentyn neu ei rieni yn gofyn am hysbysiad CDU neu fod yr awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad ADY.

Trefniadau ar gyfer plant sydd â chynllun addysg, iechyd a gofal neu sydd ag achos cynllun addysg, iechyd a gofal ar y gweill ar 1 Medi 2022

13.1 Os oes gan blentyn gynllun addysg, iechyd a gofal (cynllun AIG) ar 1 Medi 2022, bydd y plentyn yn symud i'r system ADY yn awtomatig ar 1 Medi 2022. Mae hyn yn golygu y bydd y Ddeddf ADY, ac is-ddeddfwriaeth gan gynnwys y Cod ADY, yn berthnasol o'r dyddiad hwn, a bydd Deddf Addysg 1996 yn peidio â bod yn berthnasol. 

13.2 Os yw plentyn yn rhan o achos cynllun AIG ar y gweill ar 1 Medi 2022, bydd y plentyn yn symud i'r system ADY yn awtomatig ar 1 Medi 2022.

13.3 Os yw plentyn yn mynychu ysgol a gynhelir neu UCD yng Nghymru a bod ganddo gynllun AIG, nid yw dyletswydd yr ysgol neu'r UCD i benderfynu a oes gan blentyn ADY yn berthnasol.

13.4 Os yw plentyn yn mynychu ysgol a gynhelir neu UCD yng Nghymru a’i fod yn rhan o achos cynllun AIG ar y gweill ar 1 Medi 2022, bydd dyletswydd yr ysgol neu'r UCD i benderfynu a oes gan blentyn ADY (a llunio CDU os yw'n briodol) yn berthnasol pan gaiff ei ddwyn i sylw'r ysgol, neu pan fydd yn ymddangos iddi fel arall, y gallai fod gan y plentyn ADY.

13.5 Os nad yw plentyn yn mynychu ysgol a gynhelir, bydd dyletswydd yr awdurdod lleol yng Nghymru i benderfynu a oes gan blentyn ADY (a llunio CDU os yw'n briodol) yn berthnasol os yw'n gyfrifol am y plentyn a phan gaiff ei ddwyn i sylw'r awdurdod, neu pan fydd yn ymddangos iddo fel arall, y gallai fod gan y plentyn ADY.