Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Fy ngweledigaeth i yw y bydd pob person ifanc yn deall sut mae hanes Cymru, a'i diwylliant amrywiol, wedi ffurfio'r Gymru falch ac unigryw a welwn heddiw.

Drwy nodi'n glir bod angen i hanes pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol gael ei addysgu fel rhan o hanes Cymru a'r byd, mae'r Cwricwlwm i Gymru yn ceisio meithrin ymhlith athrawon a dysgwyr ymdeimlad o berthyn a balchder sy'n dathlu diwylliant amrywiol y Gymru fodern. Wrth helpu plentyn i feithrin cysylltiadau cryf â'i gartref a'i gymuned, a derbyn profiadau ddoe a heddiw, gall athrawon helpu dysgwyr i werthfawrogi'r graddau y maent yn rhan o gymuned ryngwladol ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a all eu hannog i gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau a herio hiliaeth. Mae hanes Cymru yn amrywiol ac yn cynnwys hanes cyfoethog y llu o gymunedau, hiliau, crefyddau ac unigolion yn ein gwlad. Rwy'n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod hyn yn galluogi ein dysgwyr i feithrin dealltwriaeth gyffredin o hanes, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau amrywiol eu hardal leol, Cymru a'r byd ehangach, ac o'r ffordd y maen nhw eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau wedi cyfrannu at ein hanes.

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad terfynol Gweithgor yr Athro Charlotte Williams OBE ym mis Mawrth 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Athro Williams i weithredu ar yr argymhellion sy'n tanlinellu pwysigrwydd addysgu profiadau a chyfraniadau amrywiol pobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ym mhob rhan o'r Cwricwlwm i Gymru.

Dros y 12 mis diwethaf, rwy'n falch bod nifer o'r argymhellion wedi cael eu rhoi ar waith ac mae'r adroddiad hwn yn nodi'r llwyddiannau hyd yma. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod y system addysg yng Nghymru yn cefnogi ac yn adlewyrchu cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ddoe a heddiw. 

Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod y cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yma yn gynaliadwy ac yn cyfrannu at newid ehangach mewn cymdeithas drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Mae adran Addysg Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn nodi dull gweithredu cyfannol o ddatblygu diwylliant gwrth-hiliol mewn ysgolion ac yn y sector addysg bellach a'r sector addysg uwch.

Hoffwn ddiolch i'r Athro Williams, sydd wedi parhau i chwarae rôl hollbwysig wrth helpu Llywodraeth Cymru i weithredu ar yr argymhellion.

Cefndir

Ym mis Gorffennaf 2020, penododd Llywodraeth Cymru yr Athro Charlotte Williams OBE i gadeirio'r Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd. Gofynnwyd i Weithgor yr Athro Williams nodi sut y gellid gwella addysgu am gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru. Cyflwynwyd adroddiad terfynol Gweithgor yr Athro Williams i Lywodraeth Cymru ar 19 Mawrth 2021 a derbyniwyd yr holl argymhellion.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma wrth roi'r argymhellion hyn ar waith er mwyn tanlinellu pwysigrwydd addysgu am brofiadau a chyfraniadau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ddoe a heddiw fel rhan o stori Cymru ym mhob rhan o'r cwricwlwm.

Mae'r datblygiadau a nodir yn yr adroddiad hwn yn mynd rhagddynt drwy weithgarwch ymgysylltu cyson ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Estyn, consortia a phartneriaethau rhanbarthol, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae cysylltiadau cryf wedi'u cynnal hefyd â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru (y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol gynt) a'r Athro Williams, sy'n helpu Llywodraeth Cymru i roi'r argymhellion ar waith mewn rôl gynghorol.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn nodi gweledigaeth, sef Cymru ‘wrth-hiliol erbyn 2030’, ac yn cynnwys camau gweithredu i fynd i'r afael â hiliaeth a gwneud ‘newidiadau ystyrlon a mesuradwy’ i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ei nod yw mabwysiadu dull o lunio polisïau sy'n dryloyw, yn seiliedig ar hawliau ac a lywir gan brofiad bywyd. Mae'r Cynllun yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw bod dysgwyr yng Nghymru yn cael gwahanol brofiadau hanesyddol, ethnig, diwylliannol a phrofiadau ar sail hil. Mae'r gwerthoedd craidd hyn yn gyson â chanfyddiadau ac argymhellion adroddiad terfynol y Gweithgor, sy'n allweddol i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nodau o weld Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.

Cynnydd hyd yma

Y Cwricwlwm i Gymru

Mae addysgu amrywiaeth ym mhob rhan o'r Cwricwlwm i Gymru yn sicrhau bod pob dysgwr yn gallu gweld ei hun a'i brofiadau yn cael eu cynrychioli yn yr hyn a addysgir. 

Yn dilyn ymgynghoriad ar gyfres o godau diwygiedig datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y Dyniaethau yn ystod hydref 2021, Cymru oedd y rhan gyntaf o'r DU i'w gwneud hi'n orfodol i hanes a phrofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol gael eu haddysgu yn y Cwricwlwm i Gymru, a gyflwynir ym mis Medi 2022.

Gan ystyried barn gyfunol arbenigwyr a'r cyngor a roddwyd ganddynt, mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y Dyniaethau bellach yn nodi:

“Drwy glywed straeon eu hardal leol a straeon Cymru yn gyson, yn ogystal â straeon y byd ehangach, gall dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, lluosieithog ac amrywiol cymunedau ddoe a heddiw. Mae’r straeon hyn yn amrywiol, yn rhychwantu gwahanol gymunedau, yn ogystal â straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn enwedig. Mae hyn hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o hanes, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau eu hardal leol, Cymru a’r byd yn ehangach.”

Mae hyn yn golygu ei bod hi'n glir bod yn rhaid i ysgolion a lleoliadau yng Nghymru astudio natur amrywiol a chymhleth hanes Cymru o fis Medi 2022. Nid yw hyn yn ymwneud â chynnwys hanes Cymru a hanes pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn un rhan o'r cwricwlwm; mae'n ymwneud ag ymgorffori dealltwriaeth o Gymru, ei diwylliant a'i hanes ym mhob maes dysgu.

Bu Bwrdd Cydraddoldeb mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Athro Williams yn ystod ei hymchwil, ac mae wedi ceisio cyflwyno ei hargymhellion i'r is-grŵp Cydraddoldeb mewn Addysg STEM er mwyn sicrhau y caiff nodau cyffredin eu cyflawni mewn ffordd gydgysylltiedig. Ers cyhoeddi adroddiad terfynol Gweithgor yr Athro Williams, mae is-grŵp Cydraddoldeb mewn Addysg STEM wedi gwahodd Dr Shehla Khan, aelod o'r Gweithgor, i gymryd rhan yn yr is-grŵp er mwyn sicrhau bod y dull gweithredu yn parhau. Mae'r is-grŵp wedi cychwyn ar sawl darn o waith hefyd, gan gynnwys gweithio gyda'r Academi Frenhinol Peirianneg ar ganfyddiadau ac argymhellion Adroddiad Comisiwn Hamilton, “Accelerating Change – Improving representation of Black people in UK Motorsport”. Mae'r is-grŵp wedi cynnal arolwg hefyd gyda dysgwyr ym mlynyddoedd 10-13 i nodi'r hyn sy'n dylanwadu ar ddysgwyr wrth ddewis pa bynciau STEM i'w hastudio (neu beidio), ac i ganfod yn benodol yr hyn sy'n dylanwadu ar ferched o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Gyda chymorth Gweithgor yr Athro Williams, aeth Cyngor Celfyddydau Cymru ati i ddatblygu prosiect gyda'r nod o leihau arwyddion o hiliaeth mewn ysgolion a chymdeithas drwy alluogi dysgwyr i ennyn gwell dealltwriaeth o'r hunaniaethau, y cymunedau a'r hanes sy'n dod ynghyd i ffurfio eu cynefin. Mae 'Cynefin: Pobol Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru' yn manteisio ar gryfder dulliau dysgu creadigol a ddefnyddir yn y cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sydd wedi galluogi ysgolion i ystyried syniadau a dulliau addysgu a dysgu newydd. Cafodd y cynnig Cynefin cychwynnol ei gyflwyno i ysgolion ym mis Ionawr 2021. Hyd yma (Mai 2022), mae 43 o ysgolion, dros 1,200 o ddysgwyr a 22 o ymarferwyr creadigol wedi ymwneud yn uniongyrchol ag ef (gyda 15 o weithwyr creadigol proffesiynol ychwanegol yn ei ategu). Rhoddodd y prosiect gyfle i ystyried hunaniaeth wrth dyfu i fyny yn y Gymru gyfoes, deall hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol, a gweithio ochr yn ochr ag Ymarferwyr Creadigol mewn amgylchedd dysgu i wella ansawdd addysgu a dysgu, ymhlith pethau eraill. Mae'r profiad a'r hyn a ddysgwyd o'r gwaith hwn wedi bod yn ddwfn iawn. Bydd trydydd cylch Cynefin, a gaiff ei lansio yn ystod hydref 2022, yn myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o'r cam cychwynnol ac yn cael ei lywio ganddo.

O fewn y Cwricwlwm i Gymru, dylai dysgwyr gael eu cyflwyno i lenyddiaeth sy'n adlewyrchu amrywiaeth a diwylliannau yn yr ardal leol, yng Nghymru ac yn y byd ehangach. Wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion feithrin diwylliant darllen cadarnhaol sy'n ymdrochi dysgwyr mewn llenyddiaeth sy'n adlewyrchu eu diddordebau ac yn ennyn eu brwdfrydedd. Bydd rhaglenni llythrennedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru megis ymgyrch rhoi llyfrau Caru Darllen Ysgolion Cyngor Llyfrau Cymru yn sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn gallu cael gafael ar amrywiaeth eang o lenyddiaeth ddiddorol o ansawdd da. Bydd y llenyddiaeth a ddarperir drwy'r ymgyrch hon yn rhoi cipolwg ar ddiwylliant, pobl a hanes Cymru a'r byd ehangach ac yn ennyn dealltwriaeth o'u profiadau, eu credoau a'u diwylliannau eu hunain a phrofiadau, credoau a diwylliannau pobl eraill. Yn gynharach eleni, cynhaliwyd cynhadledd BookTrust Cymru lle y cafodd ymarferwyr blynyddoedd cynnar gyfle i ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn llenyddiaeth a darllen er pleser. Daeth y gynhadledd â lleisiau proffil uchel ynghyd i ystyried nifer o themâu, gan gynnwys pwysigrwydd sicrhau bod pob plentyn yn gallu gweld ei hun yn y llyfrau a gaiff ei amlygu iddynt o oedran cynnar, a'r camau ymarferol y gellir eu cymryd i sicrhau bod plant a theuluoedd yn gallu cael gafael ar lyfrau cynrychioliadol.

Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd yn gam pwysig tuag at gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer datblygu dysgwyr y dyfodol. Mae rhaglen Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru yn cefnogi amlieithrwydd yn ein hysgolion ac yn sicrhau bod mwy o ddysgwyr ifanc yn astudio ieithoedd ar bob lefel. Mae prosiectau megis prosiect Mentora Prifysgol Caerdydd yn cynnig ymyriad wedi'i dargedu i ysgolion ledled Cymru hefyd er mwyn codi ymwybyddiaeth o fanteision amlieithrwydd a sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn astudio iaith ryngwladol ar lefel TGAU.

Un o bedwar diben y cwricwlwm yw helpu dysgwyr i ddod yn unigolion iach a hyderus ac mae nodweddion hyn yn cynnwys gallu meithrin cydberthnasau yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch a datblygu lles meddwl a lles emosiynol drwy ddatblygu gwydnwch ac empathi. Yn y dyfodol, bydd sgyrsiau yn cael eu cynnal am iechyd a llesiant yn y Cwricwlwm i Gymru ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a bydd cydraddoldeb a chynhwysiant wrth wraidd y sgyrsiau hynny. Mae amrywiaeth o gymorth ac arweiniad ar gael i ysgolion, gan gynnwys y Rhwydwaith Cenedlaethol.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn dwyn ynghyd nifer o gamau gweithredu sy'n ymwneud â'r cwricwlwm a chamau gweithredu ehangach ym maes addysg i gefnogi newid ac effaith hirdymor. Yn ogystal â chefnogi argymhellion Gweithgor yr Athro Williams, mae'r Cynllun yn argymell y dylid atgyfnerthu canllawiau gwrth-fwlio ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb’ Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion, a'r gofyniad i roi gwybod am ddigwyddiadau ac achosion o aflonyddu hiliol mewn ysgolion drwy broses gadarnach o gasglu data sy'n ystyried sut yr aethpwyd ati i ymdrin â'r digwyddiad, y camau a gymerwyd mewn ymateb iddo ac a gafodd y digwyddiad ei ddatrys yn llwyddiannus o safbwynt y dioddefwr.

Dysgu Proffesiynol

Prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL)

Sefydlwyd prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) mewn ymateb i argymhellion y gweithgor mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Arweinir y prosiect gan Rwydwaith BAMEed (Cymru) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Nod DARPL yw darparu model dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes addysg i feithrin dealltwriaeth o ymarfer gwrth-hiliol a'i ddatblygu. Bydd darpariaeth dysgu proffesiynol yn ystyried rolau gwahanol y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol, gan gynnwys uwch-arweinwyr, athrawon/athrawon dan hyfforddiant, cynorthwywyr addysgu, llywodraethwyr a staff ehangach yr ysgol.

Ym mis Mawrth 2022, cynhaliodd tîm DARPL ddigwyddiad Cipolwg ar Bolisïau Llywodraeth Cymru, gyda 70 o fynychwyr byw. Nod y digwyddiad hwn oedd codi ymwybyddiaeth o brosiect DARPL a'r datblygiadau cadarnhaol iawn a welwyd hyd yma ar lawr gwlad er mwyn helpu ysgolion i fynd i'r afael â materion a newidiadau sylweddol, sensitif a chymhleth i gefnogi'r broses o symud i amgylchedd gwrth-hiliol ym mhob un o'n hysgolion. Mae recordiad llawn o'r digwyddiad ar gael ar Hwb. Cafodd y recordiad hwn ei ffrydio hefyd ar sianel Cymru yn ystod Uwchgynhadledd Addysg y Byd, a gynhaliwyd ym mis Mawrth.

Mae doethuriaeth a ariennir yn llawn wedi dechrau hefyd a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â phrosiect DARPL i olrhain yr effaith gychwynnol. Mae trafodaethau ar y gweill i adeiladu ar y prosiect DARPL presennol ar gyfer ysgolion er mwyn ehangu'r ddarpariaeth i sectorau eraill.

Mae campws rhithwir newydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL). Bydd y campws yn darparu hwb canolog lle y gall ysgolion hyrwyddo digwyddiadau sydd ar ddod, ymchwil ac adnoddau newydd, a rhoi llwyfan i bartneriaid sy'n gysylltiedig â DARPL.

Mae'r consortia a'r partneriaethau rhanbarthol wedi bod yn bartneriaid allweddol ym mhrosiect DARPL, yn cynnig dysgu proffesiynol, cyngor a chymorth, yn adolygu deunyddiau ac yn cefnogi'r gwaith o hyrwyddo rhaglenni.

Mae ymateb grŵp DARPL wedi bod yn anhygoel hyd yma o ran ei egni, ei ymrwymiad a'i awch. Y prosiect cychwynnol hwn yw man cychwyn siwrnai heriol dros y 18 mis nesaf i uwchsgilio gweithwyr addysg proffesiynol a dysgwyr ledled Cymru, gan weithio tuag at Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil 2030.

Rhwydwaith Cenedlaethol

Cynhaliwyd sgyrsiau gan y Rhwydwaith Cenedlaethol a oedd yn canolbwyntio ar hanes Cymru a hanes pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ag athrawon ar ddechrau mis Ebrill. Mae'r rhain yn fan cychwyn i fwy o sgyrsiau ag athrawon a fydd yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth bellach o'r cymorth dysgu proffesiynol sydd ei angen. Gwnaethom hefyd ariannu digwyddiadau dysgu proffesiynol a drefnwyd gan Brifysgolion Cymru o dan y teitl “Hanes Cymru a Chwricwlwm i Gymru”. Aeth y gweithdai hyn ati i ystyried cyfraniadau Cymru at yr Ymerodraeth Brydeinig, caethwasiaeth, y Rhyfel Byd a diwydiant o safbwynt amrywiol a chynhwysol. Yn y misoedd sydd i ddod, byddwn yn gwerthuso'r adborth a gafwyd gan athrawon yn sgil y digwyddiadau hyn er mwyn sicrhau bod athrawon yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i addysgu hanes Cymru sy'n wirioneddol amrywiol ac yn adlewyrchu ein holl gymunedau yn gywir.

Wrth i'r Rhwydwaith Cenedlaethol ddatblygu, bydd sgyrsiau yn parhau i ganolbwyntio ar themâu trawsbynciol er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r Cwricwlwm newydd i Gymru a'i roi ar waith. Dros amser, bydd ffocws y sgyrsiau yn cynnwys Meysydd Dysgu a Phrofiad a lywir gan anghenion athrawon.

Addysg Gychwynnol i Athrawon

Tynnodd Gweithgor yr Athro Williams sylw at bwysigrwydd sicrhau bod proffil ethnigrwydd y gweithlu addysg yn fwy amrywiol. 

Mae cynyddu amrywiaeth yn y gweithlu yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, nid yn unig o ran cynrychiolaeth yn yr ardaloedd hynny â demograffig ethnig lleiafrifol uwch ymhlith dysgwyr ond ym mhob ardal yng Nghymru.

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddwyd ein cynllun i sicrhau bod mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn cael eu recriwtio i Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA). Y cynllun hwn yw'r cam cyntaf o ran recriwtio a chadw mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn y gweithlu addysg. Mae'n nodi cyfres o gamau cychwynnol y gall rhanddeiliaid gwahanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Phartneriaethau AGA, eu cymryd i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â recriwtio lleiafrifoedd ethnig i Addysg Gychwynnol i Athrawon. Bydd angen i'r strategaeth ehangach gynnwys camau gweithredu ym mhob rhan o faes addysg os ydym am fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag anghydraddoldeb o ran hil yn llawn, a chaiff hyn ei gefnogi drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. 

Rydym wedi recriwtio Mentoriaid Cymunedol sydd â chefndir a phrofiadau perthnasol i helpu Partneriaethau AGA i gyflawni'r camau gweithredu unigol yn y cynllun recriwtio. Bydd y gwaith hwn yn cryfhau prosesau recriwtio ac yn helpu i gadw pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn y proffesiwn addysgu.

O fis Medi 2022, rydym yn cyflwyno cymhelliant ariannol am y tro cyntaf i ddenu newydd-ddyfodiaid o leiafrifoedd ethnig i ddilyn cyrsiau AGA. Bydd hyn yn ychwanegol at ein cymhellion presennol, a allai gynnig hyd at £15,000 i newydd-ddyfodiad a hyd at £20,000 os yw'r unigolyn yn astudio i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Categori Newydd ar gyfer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru

Roedd Gweithgor yr Athro Williams yn cydnabod pwysigrwydd dangos a gwobrwyo enghreifftiau ar lefel genedlaethol er mwyn galluogi ac annog newid. 

Ar 22 Hydref 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru gategori newydd ar gyfer Gwobrau Addysg Proffesiynol Cymru, sef 'Gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol'.

Mae'r wobr newydd hon yn hyrwyddo ac yn dathlu cynhwysiant ac yn cydnabod ymwybyddiaeth ardderchog o bwysigrwydd addysg gynhwysol fel rhan o gymdeithas sy'n herio pob math o hiliaeth ac yn mynd i'r afael â'r broblem. Caiff enillydd y categori newydd ei gyhoeddi yn y seremoni wobrwyo ym mis Gorffennaf 2022.

Ceir rhagor o fanylion am Wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.

Arweinyddiaeth

Cyrff Llywodraethu Ysgolion

Mewn trafodaethau â llywodraethwyr ysgol, nododd Gweithgor yr Athro Williams fod angen arweiniad, hyfforddiant ac adnoddau i rymuso cyrff llywodraethu i gefnogi ysgolion.

Aethpwyd ati i brofi a datblygu disgrifiad rôl enghreifftiol ar gyfer Hyrwyddwyr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a oedd yn adlewyrchu'r egwyddorion cyffredin y cytunwyd arnynt ag arbenigwyr y trydydd sector a'r gweithgor, ar y cyd â swyddogion cymorth llywodraethwyr awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Er mwyn dangos ein hymrwymiad i'r mater hwn, rydym wedi cynnal arolwg o gyrff llywodraethu ysgolion i ganfod sut mae'n cael ei ddefnyddio mewn ysgolion ac rydym yn casglu enghreifftiau o arferion da i'w rhannu. 

Mae gweithgor o swyddogion cymorth llywodraethwyr wedi cael ei sefydlu hefyd i adolygu ein canllawiau i ysgolion ar sut i ddelio â chwynion gyda'r bwriad o'u cryfhau mewn perthynas â chwynion am wahaniaethu.

Cymerodd yr Athro Williams ran mewn trafodaethau â swyddogion cymorth llywodraethwyr er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth gyffredin o'r angen i weithredu, eu rôl a'r cymorth pellach y gallai fod ei angen. Nododd rhai ysgolion fod angen hyfforddiant pellach ac, mewn ymateb i'r canfyddiadau, mae cymorth pellach i lywodraethwyr wedi'i gynnwys yn Llythyr Cylch Gwaith yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol ar gyfer 2022-26 er mwyn cau'r bwlch hwn. Bydd yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn arwain y gwaith o ddatblygu adnoddau er mwyn cefnogi rôl Hyrwyddwyr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyrff llywodraethu ysgolion, gyda'r nod o arwain dull ysgol gyfan o ddathlu amrywiaeth mewn ysgolion.

Undebau Athrawon

Argymhellodd Gweithgor yr Athro Williams y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â'r Undebau er mwyn mynd i'r afael â materion sy'n wynebu staff, gan gynnwys profiadau o wahaniaethu, cael eu gorlethu a diffyg arweiniad mewn perthynas â chynnydd.

Mae trafodaethau ymchwiliol wedi mynd rhagddynt ag undebau'r Gweithlu Addysg ac mae pob un ohonynt yn awyddus i weithredu ar yr ymrwymiad hwn. Mae pob undeb yn y Gweithlu Addysg (sy'n cynnwys penaethiaid, athrawon a staff cymorth) wrthi'n rhoi'r ddau gam canlynol ar waith:

  1. Pob Undeb Addysgu i ystyried y mathau o achosion y maent yn ymdrin â nhw a godir gan gydweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Y nod yma oedd meithrin gwell dealltwriaeth o'r data a ddelir eisoes a gweld a oedd unrhyw batrymau amlwg.
  2. Pob Undeb Addysgu i ystyried y cymorth penodol y maent yn ei roi ar hyn o bryd yn erbyn yr amcan hwn ar gyfer staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Unwaith bod y darlun cyffredinol wedi ei gadarnhau, bydd Llywodraeth Cymru a'r Undebau yn parhau i gydweithio er mwyn ystyried y materion a nodi camau gweithredu penodol i gyflawni'r argymhelliad hwn.

Ymchwil

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Athro Williams wedi cyflwyno canfyddiadau adroddiad terfynol y Gweithgor i nifer o grwpiau ymchwil ledled Cymru, gan gynnwys y Grŵp Ymchwil Mudo, Ethnigrwydd, Hil ac Amrywiaeth ar thema Cydraddoldeb ac Amrywiaeth drwy'r Rhwydweithiau Ymchwil Cydweithredol a'r rhai sydd wedi gorffen eu Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) drwy sawl rhaglen ledled Cymru.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Astudiaeth Aml-Garfan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), sef astudiaeth hydredol sy'n seiliedig ar arolygon manwl o ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd dethol yng Nghymru. Rydym wedi gweithio gyda WISERD i sicrhau bod yr astudiaeth yn nodi persbectifau disgyblion ar y ffordd y mae eu hysgol yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ac yn mynd i'r afael â hiliaeth, o dan y pennawd “Perthyn mewn Cymru amrywiol”. Caiff canfyddiadau'r arolwg eu rhannu â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y gellir cymryd camau gweithredu lle y bo angen.

Mae swyddogion hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysgu ar ymchwil i gefnogi'r gwaith o recriwtio a chadw athrawon o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Cyn dechrau pandemig COVID-19, nododd dadansoddiad o ddata ystadegol gan Gyngor y Gweithlu Addysg ac asesiad cyflym o dystiolaeth gan swyddogion polisi fod angen gwneud mwy i recriwtio a chadw athrawon ac arweinwyr ysgol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a'u denu i'r proffesiwn. Roedd hwn yn gyfle i gomisiynu ymchwil gan ein SAUau ar y rhwystrau a wynebir gan athrawon o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Cymwysterau Cymru

Tynnodd adroddiad terfynol y Gweithgor sylw at y rôl bwysig y gallai Cymwysterau Cymru ei chwarae i sicrhau addysg gynhwysol i ddysgwyr. Gofynnwyd i swyddogion weithio gyda Cymwysterau Cymru i ystyried ffyrdd priodol o gynllunio cymwysterau mwy amrywiol.

Mae Cymwysterau Cymru wrthi'n cynnal adolygiad o'r cymwysterau presennol ac yn datblygu cyfres newydd o gymwysterau cyffredinol o dan y prosiect “Cymwys ar gyfer y Dyfodol”. Fel rhan o'r broses gyd-lunio, bydd Llywodraeth Cymru yn nodi disgwyliadau ar gyfer y gyfres newydd o gymwysterau yng Nghymru, a fydd yn cynnwys ffocws ar amlddiwylliannaeth ac amrywiaeth, gan sicrhau y caiff yr ystyriaethau hyn eu hymgorffori wrth gynllunio cymwysterau newydd ym mhob maes pwnc, nid dim ond yn y rhai mwyaf amlwg fel hanes. Roedd yr Athro Williams yn aelod o'r grŵp cynghori ar gyfer y prosiect a bydd yn parhau i chwarae rhan wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Bydd Cymwysterau Cymru yn sicrhau ei fod yn ymgysylltu â grwpiau sy'n cynrychioli pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac yn ystyried yr ymchwil ddiweddaraf, gan gynnwys yr adroddiad diweddar Lit in Colour, a gyhoeddwyd gan Ymddiriedaeth Runnymeade, er mwyn helpu i lywio ei safbwyntiau.

Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn ymrwymedig i ystyried y posibilrwydd o gyflwyno mwy o hyblygrwydd o ran cynnwys cymwysterau a'r ffordd y cânt eu hasesu er mwyn annog ysgolion i amrywio eu profiadau addysgu a dysgu, gan gynnwys o ran persbectifau a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae hefyd wedi rhoi papurau gweithio i grwpiau sy'n gyfrifol am gyd-lunio gofynion cynllunio ar gyfer cymwysterau TGAU yn y dyfodol, sy'n cynnwys ystyriaeth o'r ffordd y gall cymwysterau adlewyrchu persbectifau, profiadau a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Adnoddau

Canfu'r Gweithgor fod prinder adnoddau dwyieithog ar Hwb a oedd yn adlewyrchu cyfraniadau a chynrychiolaeth cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiaifrifol. Argymhellwyd y dylid datblygu cyfres newydd o adnoddau datblygu proffesiynol dwyieithog sy'n edrych yn fanwl ar amrywiaeth yng Nghymru ddoe a heddiw er mwyn helpu athrawon i gynnwys cyfraniadau cymunedau ethnig lleiafrifol ym mhob un o feysydd y cwricwlwm.

Ym mis Mawrth, gwnaethom gomisiynu deunyddiau ategol a fydd yn helpu athrawon i addysgu hanes a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol fel rhan o hanes Cymru yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd y deunyddiau hyn yn hyblyg yn yr ystyr y bydd modd eu haddasu'n hawdd er mwyn helpu athrawon i ystyried sut y gallant ymgorffori ac addysgu'r themâu hyn ym mhob rhan o'r cwricwlwm, ac nid ar eu pen eu hunain. Mae cam ymchwil cychwynnol y prosiect yn mynd rhagddo a bydd sefydliadau allanol ac athrawon yn cymryd rhan ym mhob cam o'r prosiect.

Rydym hefyd wrthi'n cwblhau dwy fanyleb i ddatblygu llinell amser hanes Cymru a map rhyngweithiol hanes Cymru. Bydd yr adnoddau hyn yn cynnwys cyfraniadau gan gymunedau yng Nghymru a fydd yn helpu athrawon a dysgwyr i archwilio hanes amrywiol Cymru, darganfod eu treftadaeth, deall pwysigrwydd y Gymraeg, a meithrin dealltwriaeth o'u cynefin.

Ar ddechrau 2022, rhoddwyd llyfr ar hanes Cymru, “Hanes yn y Tir/History Grounded”, i bob ysgol yng Nghymru.

Yn ogystal ag ariannu adnoddau newydd, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymryd cyfres o gamau cychwynnol i adolygu adnoddau presennol ar Hwb sy'n ymwneud â phersbectifau, profiadau a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Bydd yr adolygiad hwn yn rhan o ymdrech ehangach i adolygu'r adnoddau sydd ar gael ar Hwb ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. 

Estyn

Mae arweiniad arolygu wedi'i ddiweddaru Estyn, ‘Beth rydym yn ei arolygu’, yn cynnwys cyfeiriadau at gydraddoldeb ac amrywiaeth a phrofiadau cymunedau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae'n nodi sut yr eir ati i arolygu pa mor dda y mae grwpiau gwahanol o ddisgyblion yn ei wneud ym mhob rhan o'r ysgol drwy ganfod a yw disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn rhydd rhag cam-drin corfforol a geiriol. Rhaid i ddisgyblion deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u trin yn deg, ac mae ein harolygwyr yn edrych ar ba mor dda y mae disgyblion yn datblygu fel dinasyddion moesegol a gwybodus. Mae arolygwyr yn ystyried i ba raddau y mae darparwyr yn helpu disgyblion i ddeall materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a datblygu gwerthoedd fel parch, empathi, dewrder a thosturi. Byddant hefyd yn ystyried sut mae'r ysgol yn datblygu ei chwricwlwm er mwyn adlewyrchu natur ddiwylliannol, ieithyddol ac amrywiol Cymru a'r byd ehangach. Mae arolygwyr yn gwerthuso pa mor dda mae ysgolion yn cynllunio ar gyfer addysgu disgyblion am hanes a phrofiadau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl LHDTC+ a disgyblion â nodweddion gwarchodedig eraill.

Yn llythyr cylch gwaith diweddaraf Estyn ar gyfer 2022-2023, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai un eitem y gall fod ei hangen ar gyfer 2023-24 yw adolygiad arfer orau o'r cwricwlwm i fynd i'r afael ag amrywiaeth. Bydd hyn yn rhoi amser i ysgolion ddatblygu arferion a chymryd camau dilynol mewn perthynas ag adroddiad thematig Estyn ar addysgu hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a gyhoeddwyd ar 7 Hydref 2021. Mae'r adolygiad hwn yn debygol o ffurfio adroddiad thematig gan ddefnyddio tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys ymweliadau ag ysgolion a thystiolaeth arolygu.

Atodiad 1 – Dolenni defnyddiol

  • Adroddiad interim gan y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd
  • Adroddiad terfynol gan y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd
  • Datganiad gweledigaeth a ddatblygwyd gan y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd ac a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021.
  • Taflen sbarduno athrawon a ddatblygwyd gan y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd ac a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021.
  • Ffeithlun ar Amrywiaeth Ethnig mewn Ysgolion yn seiliedig ar ddata gan Gyngor y Gweithlu Addysg a'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, a ddatblygwyd gan y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd ac a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021.
  • Cynllun recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021. 
  • Datganiad Llywodraeth Cymru ar ‘Dysgu hanes pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol wedi'i gynnwys yng Nghwricwlwm newydd Cymru’, a gyhoeddwyd ar 1 Hydref, sy'n nodi mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i wneud addysg hanes pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn rhan orfodol o'i chwricwlwm.
  • Datganiad Gweinidogol – Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar y gwaith o weithredu’r argymhellion yn adroddiad y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021
  • Gellir gweld ffilm ddogfen fer gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy'n ystyried proses ac effaith Cynefin: Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cymru, gan gynnwys astudiaethau achos unigol.
  • Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol – Yr hyn yr ydym yn mynd i’w wneud i wneud Cymru’n wrth-hiliol
  • Ar 7 Mehefin 2022, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Cefnogi system addysg wrth-hiliaeth.