Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer mesur data cynhyrchiant llafur ar gyfer rhanbarthau islaw lefel Cymru ar gyfer 2002 i 2020.

Caiff amcangyfrifon o gynhyrchiant llafur isranbarthol [troednodyn 1] ei gyfrifo drwy rannu allbwn (gwerth ychwanegol crynswth, GYC) â mesuriad o fewnbwn llafur (cyfanswm yr oriau a weithiwyd neu swyddi)

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru [troednodyn 2]

  • Bod y GYC fesul awr a weithiwyd (o’i gymharu â’r DU) yn 2020 yn 84.3%, cynnydd o 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol.
  • Y ffigur hwn oedd yr ail isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.
  • Bod y GYC fesul swydd yn 2020 yn 82.9% o ffigur y DU, cynnydd o 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol.
  • Y ffigur hwn oedd yr un isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.
  • Bod amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022 yn dangos bod GYC y pen (o’i gymharu â’r DU) yn 72.7%.
  • Dyna’r GYC y pen ail isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.

Amcangyfrifon is-Gymru [troednodyn 3]

  • Powys oedd yr ardal â’r GYC isaf fesul awr a weithiwyd o’r holl ardaloedd yn y DU yn 2020 (sef 61.3% o ffigur y DU), a Conwy a Sir Ddinbych yn ogystal â Gwynedd oedd y pedwerydd isaf (gyda 69.9% o ffigur y DU).
  • Powys hefyd oedd yr ardal â’r GYC ail isaf fesul swydd yn y DU yn 2020 (61.9% o ffigur y DU).
  • Sir y Fflint a Wrecsam oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru o ran ar gyfer y ddau GYG yr awr a GYG y swydd (at 94.1% a 94.9% o ffigur y DU yn y drefn hyn).

Troednodiadau

[1] Ystyrir bod GYC yr awr a weithir yn ddangosydd mwy cynhwysfawr o gynhyrchiant llafur na GYC fesul swydd a lenwyd, gan ei fod yn cyfrif am wahanol oriau gwaith a sut mae'r rheini'n wahanol ar draws rhanbarthau. Sylwch fod y ddau fesur yn well i asesu cynhyrchiant na GYC y pen, sy'n cynnwys pobl nad ydynt yn y gweithlu a gall llifoedd cymudo hefyd effeithio'n sylweddol arno.
[2] Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi ffigurau ar gyfer Cymru fel rhan o’r datganiad blynyddol ar gynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y DU a’r datganiad chwarterol ar gynhyrchiant llafur. Caiff y ffigurau ar gyfer Cymru yn y ddau ddatganiad hyn eu cyfrifo gan ddefnyddio’r un fethodoleg ond maent wedi’u seilio ar ddwy ymagwedd wahanol o ran GVA. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru a gynhwysir yn y pennawd ystadegau hwn wedi’u cymryd o’r datganiad cynhyrchiant is-ranbarthol er mwyn bod yn gyson â gweddill y data a ddefnyddir yn y pennawd ystadegau hwn.
[3] Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITL) yw system ddaearyddol dosbarthiad newydd y DU. Mae hyn wedi disodli y system Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth (NUTS). Mae’r ITL yn ddosbarthiad daearyddol sydd yn gwahanu y DU i ranbarthau at dair lefel wahanol (ITL 1, 2 a 3, yn y drefn hyn, yn symud o unedau bras i unedau fach). Mae amcangyfrifion Is-Gymru uchod yn cyfeirio at ITL3.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.