Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog, Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS

Yn ystod y degawd ers cyflwyno'r strategaeth digwyddiadau mawr gyntaf ar gyfer Cymru yn 2010, rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddatblygu portffolio blynyddol amrywiol o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ac, yn fwy diweddar, rydym wedi ymuno â'r farchnad digwyddiadau busnes am y tro cyntaf. Rydym wedi gweithio gyda pherchenogion digwyddiadau lleol a rhyngwladol, wedi defnyddio ein lleoliadau o'r radd flaenaf a'n tirweddau naturiol ac wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau ledled Cymru i gefnogi digwyddiadau sy'n creu buddiannau economaidd, yn arddangos ein gwlad, yn codi ein proffil ac a wnaeth ein helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Rydym wedi cynyddu ein capasiti a'n gallu i gynnal digwyddiadau ac wedi datblygu enw da Cymru fel gwlad a all gynnal digwyddiadau o'r radd flaenaf, gan gystadlu'n effeithiol â goreuon y byd.

Gwnaethom ddechrau gweithio ar ddatblygu strategaeth newydd yn 2019 ychydig cyn pandemig COVID-19. Roedd effaith y pandemig yn sylweddol. Roedd y sector digwyddiadau ymhlith y sectorau cyntaf i gau a'r olaf i agor a chafodd pwysigrwydd digwyddiadau i'r economi ymwelwyr ac i lesiant y genedl ei gydnabod drwy'r cymorth a roddwyd i'r sector o dan y Gronfa Adferiad Diwylliannol a'r gwaith ymgysylltu agos, agored a chadarn a wnaed â rhanddeiliaid yn ystod y pandemig. Roedd y lefel ymgysylltu honno a'r cydweithredu hanfodol a fu rhwng y sector a'r Llywodraeth yn un o elfennau cadarnhaol prin y pandemig. Wrth ddatblygu'r strategaeth digwyddiadau newydd hon, cafwyd cytundeb barn eithriadol y dylai trefniadau cydweithredu barhau a dyna yw thema sylfaenol allweddol y strategaeth. Mae'n strategaeth ar y cyd rhwng y diwydiant a'r llywodraeth ac wrth i ni gymryd y cam nesaf, a datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y strategaeth, byddwn yn gwneud hynny mewn partneriaeth â'r diwydiant.

Mae'r strategaeth yn anelu at sicrhau ein bod yn ehangu'r cyfraniad y mae digwyddiadau eisoes yn ei wneud i saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ac mae'n adeiladu ar ein llwyddiannau, yn dysgu o'n heriau ac yn ystyried cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu ein Strategaeth Digwyddiadau Genedlaethol newydd a'i chymeradwyo wrth i ni edrych ymlaen at ddegawd uchelgeisiol arall i'r sector digwyddiadau yng Nghymru. 

Rhagair gan y diwydiant

Mae'r sector digwyddiadau yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi a diwylliant Cymru a'r Gymraeg ac mae'n croesdorri'r economi ymwelwyr ehangach sy'n cynnwys twristiaeth, hamdden a lletygarwch. Wrth i ni adfer ar ôl pandemig COVID-19, gallwn fyfyrio mewn ffordd gadarnhaol ar y bartneriaeth lwyddiannus sydd wedi tyfu rhwng ein sector a Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys ymgynghori â 60 o randdeiliaid sector fel rhan o'r strategaeth hon.

Rydym hefyd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cymorth ariannol a roddwyd gan y Llywodraeth a fu'n hanfodol o ran goroesiad llawer o randdeiliaid.

Caiff y strategaeth hon i'r diwydiant cyfan ei chyflwyno ar adeg hanfodol o ran adfer, wrth i'r sector wynebu heriau parhaus gan gynnwys bylchau yn y gadwyn gyflenwi, prinder sgiliau, costau cynyddol ac, yn fwyaf diweddar, costau byw. Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos â Llywodraeth Cymru i greu system sy'n cefnogi ein diwydiant, ein rhanddeiliaid, y sawl sy'n mynychu ein digwyddiadau, a Chymru gyfan ar adeg mor bwysig.

Er y bydd Llywodraeth Cymru, drwy Digwyddiadau Cymru, yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni yn erbyn y strategaeth hon, rydym yn cydnabod ein rôl ni fel rhanddeiliaid a gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r diwydiant wrth gymryd perchenogaeth dros y strategaeth hon a'i rhoi ar waith. Mae Grŵp Cynghori'r Diwydiant Digwyddiadau Cymru yn ymrwymedig i weithio gyda Digwyddiadau Cymru i benderfynu sut y gallwn fwrw ati i roi'r strategaeth hon ar waith er budd ein diwydiant ac er budd Cymru.

Steve Hughson, Cadeirydd Grŵp y Sector Digwyddiadau Diwylliannol

Jill Manley, Cadeirydd Grŵp y Sector Digwyddiadau Busnes

Matt Newman, Cadeirydd Grŵp y Sector Digwyddiadau Chwaraeon

Y weledigaeth i Gymru

Bod Cymru yn cynnal digwyddiadau eithriadol sy'n cefnogi llesiant ei phobl, ei lleoedd a'r blaned.

Datganiad cenhadaeth

Diwydiant digwyddiadau cysylltiedig sy'n cynnig, yn sicrhau, yn cefnogi ac yn cynnal portffolio cytbwys o ddigwyddiadau ledled Cymru, sy'n gwneud cyfraniadau mesuradwy at y saith nod llesiant.

Cyflwyniad

Yn ystod y blynyddoedd ers lansio “Strategaeth Digwyddiadau Mawr ar gyfer Cymru” yn 2010, gwnaed cynnydd cadarn yn nodi'r buddiannau proffil economaidd a rhyngwladol i Gymru sy'n gysylltiedig â digwyddiadau. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn digwyddiadau yn y sector busnes, y sector diwylliannol a'r sector chwaraeon, gan gynnwys digwyddiadau rhyngwladol a chynhenid ledled Cymru fel uwch-gynhadledd NATO, WOMEX, FOCUS Cymru, Tafwyl, gwyliau canmlwyddiant Dylan Thomas a Dahl, y Dyn Gwyrdd, Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, hanner marathon Caerdydd (a'r Byd) a llawer o ddigwyddiadau eraill, ac wedi dysgu o'r digwyddiadau hyn, gan helpu Cymru i gyflawni uchelgais y strategaeth digwyddiadau sef “serennu ar lwyfan y byd”.   

Yn anad dim efallai, ar lefel y diwydiant, mae gallu a chapasiti'r rhai hynny sy'n gweithio gyda digwyddiadau ac i ddigwyddiadau yng Nghymru wedi parhau i ddatblygu ac mae digwyddiadau wedi llwyddo'n gyson i ddangos eu cyfraniad at ffyniant economaidd Cymru ac at ein proffil rhyngwladol.

Buddsoddwyd hefyd mewn cyfleusterau fel Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru a Venue Cymru ar ei newydd wedd, a wnaeth ein hannog i ymuno â'r farchnad digwyddiadau busnes am y tro cyntaf, gan ddenu digwyddiadau fel y Farchnad Teithiau Golff Rhyngwladol, y tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn y DU.

Mae Arena newydd wedi agor yn Abertawe ac mae Arena Caerdydd wrthi'n cael ei datblygu er mwyn gwella'r ddarpariaeth i berchenogion digwyddiadau ochr yn ochr â chyfleusterau sefydledig fel Stadiwm y Principality, Maes y Sioe Frenhinol ac, wrth gwrs, ein tirweddau naturiol sy'n parhau i ddarparu llwyfan naturiol bendigedig ar gyfer cymaint o ddigwyddiadau.

Mae angen i ni bellach ailystyried ein bwriadau ar gyfer cynnal digwyddiadau a chymryd y cam nesaf ymlaen er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau i'r diwydiant digwyddiadau, i Gymru ac i'w phobl. Rydym yn gwbl ymwybodol bod maint, cymhlethdod a natur gystadleuol y diwydiant digwyddiadau wedi parhau i dyfu a bod dealltwriaeth well ohono erbyn hyn yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae'r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru yn cynnwys y sector preifat, y sector cyhoeddus, y trydydd sector, rheolwyr cyfleusterau, llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru (Digwyddiadau Cymru, yr Uned Digwyddiadau Mawr gynt), trefnwyr digwyddiadau lleol, perchenogion digwyddiadau rhyngwladol, darparwyr llety a lletygarwch, y gadwyn gyflenwi ehangach, cyrff rheoleiddio a rhanddeiliaid eraill. Er mwyn i'r diwydiant ffynnu, rhaid i'r rhai hynny sy'n rhan o'r eco-system hon fod yn ymwybodol o'i gilydd ac o anghenion y diwydiant digwyddiadau cyfan. Bydd diwydiant cysylltiedig yn sicrhau canlyniadau gwell i bawb. 

Mae'r cyd-destun ehangach hefyd wedi newid yn sylweddol, ac yn arbennig, yr ymdrech fyd-eang i ddatblygu diwydiant digwyddiadau mwy cynaliadwy, a chaiff hyn ei adlewyrchu ar lefel genedlaethol. Yn ystod y degawd diwethaf, deddfodd Cymru ei Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf Llesiant”). Mae'r Ddeddf hon yn anelu at wella “llesiant cymdeithaosl, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru” drwy gyflawni saith nod llesiant. Mae llawer o ddigwyddiadau eisoes yn helpu i gyflawni'r nodau hyn i Gymru ac mae'r canlyniadau economaidd a phroffil wedi cael eu meintioli a'u cofnodi. Bydd canolbwyntio'n gadarn ar y nodau hyn, a mesur yn benodol sut mae digwyddiadau yn helpu i'w cyflawni, yn cynnig llwybr strategol cliriach i randdeiliaid gyfiawnhau ac atgyfnerthu'r cymorth y maent yn ei gynnig i ddigwyddiadau. Er enghraifft, mae digwyddiadau yn amlwg yn gydnaws â chanlyniadau dymunol strategaethau eraill y mae Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhan greiddiol ohonynt fel Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach, sef cynllun hirdymor i atal a gostwng gordewdra yng Nghymru.  Am y rheswm hwn, er bod yr enillion economaidd a'r llwyddiant masnachol sy'n deillio o ddigwyddiadau yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol, caiff diben cyffredin blaenoriaethau llesiant eraill hefyd ei adlewyrchu ym mhob rhan o'r strategaeth hon.

Effeithiodd COVID-19 llawn cymaint, os nad mwy, ar y sector digwyddiadau nag unrhyw sector arall ac mae'r diwydiant yn dal i deimlo'r effeithiau ar bob agwedd ar y broses o ddatblygu a chynnal digwyddiadau. Rydym wedi bod yn ymwybodol ers amser y gall digwyddiadau newid barn y byd o Gymru a'n barn ni o'r byd, gallant gyflwyno buddiannau economaidd a chymunedol, cryfhau'r ffocws ar gynaliadwyedd amgylcheddol, cynyddu lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon a'r celfyddydau, cynnig cyfleoedd pŵer meddal a llawer mwy. Gall cyrhaeddiad digwyddiadau estyn ledled y byd a gallant gyfrannu at ein nod o ddenu mwy o bobl i Gymru yn ogystal ag annog mwy o bobl ifanc i deimlo'n gadarnhaol ynghylch cynllunio eu dyfodol yma. Mae'r amcanion hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni anelu at Gymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach ac, fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, er mwyn helpu ein sectorau twristiaeth, y celfyddydau a chwaraeon adfer ar ôl y pandemig. Felly, mae'r strategaeth hon hefyd yn cynnwys thema ailadroddus, sef cefnogi diwydiant cadarn drwy gysylltu a chydweithio.

Datblygwyd y strategaeth hon drwy ymgynghori'n helaeth â llawer o bartïon amrywiol sy'n rhan o'r ecosystem digwyddiadau a chan ystyried adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau mawr a gynhaliwyd cyn datblygu'r strategaeth. Llywiodd y sgyrsiau hynny'r prif feysydd ffocws a'r camau gweithredu a argymhellwyd wedi hynny a nodir yn y strategaeth. Nid yw'r camau gweithredu hyn a argymhellwyd yn gynhwysfawr a bydd angen eu hadolygu'n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol dros oes y strategaeth. Y camau nesaf tuag at roi'r strategaeth ar waith yn ehangach fydd datblygu cynllun gweithredu ar gyfer Digwyddiadau Cymru gan ar yr un pryd annog partneriaid ehangach yn y diwydiant i ystyried y strategaeth hon wrth gynllunio er mwyn helpu i roi'r strategaeth ar waith.

Cynrychiolydd o'r sector digwyddiadau busnes:

"Mae Cymru …. yn gwneud pethau mawr ac mae'r potensial ganddi i barhau i wneud pethau arbennig nawr ein bod yn fwy hyderus a blaengar

Cynrychiolydd o sector y celfyddydau a diwylliant:

"Does dim angen newid cyfeiriad y system yn sylweddol, yn fy marn i – rydym wedi cyrraedd pwynt allweddol yn y gwaith o ddatblygu ar gyfer yr hirdymor. Edrych ar y darlun mawr, pennu'r strategaeth briodol a chanolbwyntio ar yr hyn sydd orau i Gymru.

Dull gweithredu strategol

Mae ein strategaeth yn seiliedig ar dair thema allweddol:

  • Cysoni'r diwydiant: er mwyn bod yn gydnerth ac yn ffyniannus, bydd y diwydiant yn datblygu llais cryf sy'n sicrhau bod pob rhanddeiliaid yn gweithredu'n gyson ac yn cydweithio tuag at nodau cyffredin.
  • Dilysrwydd: bydd gan ddigwyddiadau yng Nghymru 'Gymreictod' penodol, ni waeth beth fo'u maint, eu graddfa na'u lleoliad. Bydd hyn y cynnwys y Gymraeg, yn adlewyrchu Brand Cymru Wales, a meini prawf y Ddeddf Llesiant.
  • Cymru Gyfan: bydd ein diwydiant yn manteisio i'r eithaf ar asedau sy'n bodoli eisoes, yn sicrhau bod ei ddigwyddiadau wedi'u gwasgaru ledled Cymru a thrwy'r flwyddyn ac yn anelu at gyflawni cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 

Yn ystod camau cychwynnol y broses o ddatblygu diwydiant digwyddiadau, mae'n bosibl mai cynnal digwyddiadau mawr fydd yr amcan allweddol, yn bennaf gan fod hynny'n helpu i ddatblygu capasiti a gallu'r sector er mwyn caniatáu ar gyfer twf yn y dyfodol. Mae Cymru wedi pasio'r pwynt hwn yn hyderus. Nid oes unrhyw rai o'r themâu lefel uchel hyn a restrir uchod yn cynrychioli gweithgarwch newydd yng Nghymru, ond drwy dynnu sylw atynt fel meysydd strategol allweddol, y nod yw cyflymu cynnydd. Gallwn bellach fod yn fwy penodol o ran ein rhesymau dros ddewis y digwyddiadau y byddwn yn eu dewis, a'r hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni drwy'r digwyddiadau hynny. Bydd cysoni o dan ddiben cyffredin strategaeth unigol i'r diwydiant yn ein helpu i gymryd y camau nesaf hyn.

Cynrychiolydd o sector y celfyddydau a diwylliant:

"Gall Cymru …… wahaniaethu ei hun drwy ei meddyliau, ei hymddygiad a'i gweithredoedd.

Cysoni'r diwydiant

Mae cysoni'r diwydiant yn cynnwys dwy ran. Un agwedd ar gysoni yw sicrhau bwriad strategol clir a ddeellir yn helaeth er mwyn gwneud yn siŵr bod gan bawb yn y diwydiant uchelgeisiau lefel uchel cyffredin sy'n cefnogi gwaith cynllunio rhagweithiol wedi'i dargedu. Yr ail agwedd ar gysoni yw dod â phartneriaid digwyddiadau ynghyd i weithio ar ran ei gilydd a chyda'i gilydd ac i ddangos tystiolaeth o fuddiannau'r sector digwyddiadau.

Ffordd gyson o feddwl er mwyn cynllunio mewn ffordd ragweithiol

Mae angen mwy nag un unigolyn neu un endid hyd yn oed i greu digwyddiadau cadarn, arloesol sy'n addas at y diben. Bydd dealltwriaeth gyffredin ym mhob rhan o'r diwydiant o ran pa ddigwyddiadau sydd o fudd i Gymru yn helpu i greu syniadau cryfach, mwy mentrus a chadarn.

Y man cychwyn ar gyfer beth sydd “o fudd i Gymru” yw'r Ddeddf Llesiant. Er mai nod y Ddeddf oedd llywio polisi'r sector cyhoeddus, bydd newidiadau hirdymor a chadarnhaol o dan fframwaith saith maes y Ddeddf yn rhoi'r ansawdd gorau bywyd i bobl Cymru, sy'n bwysig i bawb yn y diwydiant. Mae'r sector cyhoeddus hwnnw hefyd yn un o gyllidwyr craidd digwyddiadau yng Nghymru.

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd y Ddeddf Llesiant ac mae polisïau fel ein “Cynllun Cymru Sero Net a'n “Strategaeth Mwy nag Ailgylchu yn nodi sut y gall pawb weithio tuag at Gymru fwy cynaliadwy a helpu i gyflawni'r uchelgeis i droi'r economi gylchol yn realiti drwy barhau i ddefnyddio adnoddau cyhyd â phosibl er mwyn i Gymru ddefnyddio ei chyfran deg o adoddau, gan gynhyrchu dim gwastraff ac allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni gyflymu camau gweithredu i gynyddu effeithlonrwydd adnoddau. Bydd cynllunio digwyddiadau mewn ffordd ragweithiol drwy ddull economi gylchol yn sicrhau y caiff gwastraff diangen ei atal ac y caiff cynhyrchion eu hailddefnyddio.

Mae'r camau gweithredu a argymhellir ar gyfer gwaith cynllunio rhagweithiol a chynaliadwy fel a ganlyn:

  • cymorth parhaus ar gyfer dull gweithredu hirdymor o ddatblygu digwyddiadau, yn hytrach na fesul blwyddyn, gan roi rhywfaint o sicrwydd i'r rheini yn y diwydiant gan gynnwys buddiannau ehangach ac etifeddiaeth yn ystod y cam cynllunio, er mwyn cynllunio ar gyfer twf, a'i gyflwyno
  • nodi digwyddiadau ag awydd a photensial i dyfu, gan eu datblygu a'u cefnogi'n strategol dros amser
  • canolbwyntio'n benodol ar ddigwyddiadau sy'n helpu i wasgaru ymwelwyr yn well dros dymhorau a/neu ardaloedd daearyddol, fel digwyddiadau busnes a digwyddiadau cyfranogiad torfol
  • trefnu digwyddiadau neu raglenni o ddigwyddiadau fel y gwnaed yn llwyddiannus, er enghraifft, yn seiliedig ar thema canmlwyddiant Dylan Thomas a chanmlwyddiant Roald Dahl
  • annog a chefnogi ymdrechion i ddatblygu strategaethau digwyddiadau llywodraeth leol cyson
  • ystyried yr adnoddau a ddefnyddir mewn digwyddiadau, er enghraifft o ble y daw'r adnoddau ac o beth y maent wedi'u gwneud.

Cynrychiolydd o sector y celfyddydau a diwylliant:

"Mae hanes ardderchog gan Gymru o feddwl mewn ffordd flaengar.

Cynrychiolydd o'r sector digwyddiadau busnes:

"Mae maint Cymru yn cynnig cyfle gwych i'r llywodraeth a'r diwydiant gydweithio i fod yn gynhyrchiol. Mae pawb am symud ymlaen a chymryd camau cadarnhaol – bydd cydweithio yn helpu i lywio polisi ac i feithrin y sector hwn, seilwaith a mwy.

Diwydiant cyson ac integredig

Bydd cysoni, integreiddio ac uno yn ategu gallu'r diwydiant digwyddiadau i fod yn gystadleuol, yn cynyddu ein helw masnachol, yn cyflawni mwy drwy'r digwyddiadau rydym yn eu cynnal ac yn cefnogi diwydiant cryfach a mwy cadarn. Bydd hyn yn ei dro yn dangos ein gwerth fel diwydiant i'r sector cyhoeddus ehangach ac i bobl Cymru.

Mae'r camau gweithredu a argymhellir ar gyfer cysoni ac integreiddio fel a ganlyn:   

  • trefnu cyfarfodydd parhaus a rheolaidd ar gyfer grŵp cynrychiolwyr y diwydiant digwyddiadau fel fforwm cydweithredol. Dylid strwythuro'r fforwm hwn i ddiwallu anghenion y diwydiant, er mwyn rhannu gwybodaeth, a sicrhau atebolrwydd wrth roi'r strategaeth hon ar waith. Dylai'r diwydiant ei arwain, dylai fod Cadeirydd annibynnol, a dylai gynnwys gwaith ymgynghori parhaus ag is-grwpiau sector
  • trefnu sioeau teithiol a chyfarfodydd rheolaidd ledled Cymru sy'n galluogi'r diwydiant i ryngweithio a dysgu gan ei gilydd; hefyd gysylltu â rhwydweithiau ledled y DU ehangach ac yn rhyngwladol er mwyn cyflwyno syniadau, arferion gorau a chysylltiadau
  • cefnogi digwyddiadau er mwyn cydweithio i'w cynnal, a'u cysoni at ddibenion twristiaeth, er mwyn gwella digwyddiadau ei gilydd e.e. ystyried cysoni cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau busnes ochr yn ochr â digwyddiadau diwylliannol neu chwaraeon mwy fel rhan o raglen ehangach
  • mabwysiadu dull mwy cydweithredol o dargedu a sicrhau digwyddiadau, gan gael barn y diwydiant ehangach fel rhan o'r broses a sicrhau bod y cymorth sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau a buddiannau'r digwyddiadau hynny yn hysbys i bawb
  • lle mae cyfleoedd i gael cyllid o fwy nag un ffynhonnell e.e. Cyngor Celfyddydau Cymru a Digwyddiadau Cymru, sicrhau bod sianelau cyfathrebu clir a'r cysondeb gorau posibl er mwyn osgoi achosion o ddyblygu a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd.

Ymhelaethir ymhellach ar sut y gellid integreiddio yn y fath fodd yn yr adran isod ar Rolau.

Cynrychiolydd o'r sector digwyddiadau chwaraeon:

"Pam a sut rydym yn mynd i ennill digwyddiadau? Nid dim ond drwy fod yn adweithiol gan edrych ar y gorwel i weld pa gyfleoedd sydd ar gael, ond drwy fod yn rhagweithiol wrth nodi beth sydd o fudd i Gymru a mynd ar drywydd y cyfleoedd hynny.

Dilysrwydd

Bydd digwyddiadau sydd “o fudd i Gymru” yn adlewyrchu ac yn dathlu'r pethau hynny sy'n wirioneddol Gymreig ym mhob agwedd, o nodi digwyddiadau hyd at eu cynnal a'u gwerthuso. Gall hwn fod yn draddodiadol neu'n gyfoes a bydd yn cefnogi'r brand cenedlaethol cryf sy'n hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol.

Mae'r camau gweithredu a argymhellir ar gyfer annog dilysrwydd fel a ganlyn:

  • sicrhau y caiff diwylliant Cymru a'r Gymraeg eu cynrychioli mewn digwyddiadau yng Nghymru, gan helpu i adrodd straeon Cymru i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd ar lefel sy'n briodol ar gyfer natur y digwyddiad dan sylw
  • sicrhau bod digwyddiadau yn gwneud cyfraniad clir at gyflawni cymaint o'r saith nod llesiant i Gymru â phosibl
  • parhau i nodi, meithrin a chefnogi digwyddiadau cartref â chapasiti i dyfu
  • darparu gwell ymdeimlad o 'Gymreictod' ar gyfer digwyddiadau drwy, er enghraifft, tirwedd, morlin, hanes, diwylliant, bwyd a cherddoriaeth
  • canolbwyntio ar eiconau enwog o Gymru er mwyn datblygu cynigion cryf ar gyfer digwyddiadau
  • meithrin gallu'r diwydiant digwyddiadau a chryfder y gadwyn gyflenwi yng Nghymru, er mwyn annog trefniadau caffael sy'n creu cadwyni cyflenwi lleol gwydn, yn unol â'r cynsail y dylem feddu ar y gallu a'r wybodaeth i ddarparu profiad gwirioneddol Gymreig
  • cefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol drwy annog cadwyn cyflenwi fyrrach a ffocws mwy lleol a rhanbarthol ar ddod o hyd i ddeunyddiau
  • cefnogi dyheadau i sicrhau bod Cymru yn genedl iachach, er enghraifft drwy hyrwyddo bwydydd iachach mewn digwyddiadau neu gefnogi lefel uwch o weithgarwch corfforol
  • nodi a dathlu digwyddiadau sy'n apelio'n lleol ac sy'n cynnig perchenogaeth gymunedol, gan gynnwys cymorth gan wirfoddolwyr
  • nodi beth sy'n gwneud y profiad digwyddiadau yn wahanol yng Nghymru, ac o ran asedau naturiol unigryw, a thynnu sylw perchenogion digwyddiadau at hynny
  • defnyddio naratif dilys y portffolio digwyddiadau fel un o wahaniaethau amlwg brand rhyngwladol Cymru.

Cynrychiolydd o sector y celfyddydau a diwylliant:

"Mae'r diwydiant digwyddiadau yn cynnig llwyfan perffaith ar gyfer cyfleu hunaniaeth genedlaethol a gwerthoedd y genedl. 

Cymru Gyfan

Mae'r maes strategol hwn yn ymwneud â sicrhau bod digwyddiadau ledled Cymru yn cael eu cynnal mor eang â phosibl yn ddaearyddol a'u bod yn cael eu cynnal yn ystod gwahanol dymhorau. Rydym am annog ymwelwyr i ddod i bob cwr o'n gwlad drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r camau gweithredu a argymhellir fel a ganlyn:

  • dadansoddi gwasgariad digwyddiadau portffolio presennol a digwyddiadau portffolio yn y dyfodol a gefnogir gan Digwyddiadau Cymru er mwyn sicrhau bod cymorth digwyddiadau wedi'i ddosbarthu ledled y wlad gyfan, gan gynnwys yr ardaloedd hynny y gallai twristiaeth ddomestig yn seiliedig ar ddigwyddiadau yn ogystal ag ymweliadau rhyngwladol fod o fudd iddynt
  • ffocws penodol ar sicrhau bod digwyddiadau yn cwmpasu amrywiaeth eang o genres er mwyn apelio at gymaint o bobl â phosibl. Bydd portffolio cytbwys yn ystyried oedran, rhanbarth, ethnigrwydd, crefydd, cost mynychu ac ati er mwyn sicrhau bod y digwyddiadau a gynigir yn gyffredinol gynhwysol a hygyrch
  • nodi digwyddiadau y gellir eu cynnal yn ystod y tu allan i'r tymor twristiaeth traddodiadol a'r rheini â'r potensial mwyaf i'w tyfu
  • gweithio gyda chymunedau sy'n cynnal digwyddiadau er mwyn sicrhau ymrwymiad ac ychwanegedd. Bydd adrodd straeon yr holl ddigwyddiadau a'r buddiannau lleol, y tu hwnt i'r buddiannau economaidd yn unig, o gymorth yn hyn o beth
  • cysylltu â phartneriaid a all helpu drwy gyrraedd cymunedau gwahanol e.e. creu gwell cysylltiadau rhwng digwyddiadau busnes a darparwyr trydyddol ar gyfer cynnwys a gall
  • sicrhau y caiff cynnwys digwyddiadau ei hyrwyddo i gynulleidfa y tu allan i Gymru er mwyn annog ymweliadau a phroffil rhyngwladol cadarnhaol.

Cynrychiolydd o sector y celfyddydau a diwylliant:

"Gellir cyflawni pethau mawr, ac mae'r effaith barhaus yn decplyg. Mae angen i ni ymrwymo i'r weledigaeth, credu yn yr hyn a wnawn a rhoi cyfle iddo lwyddo.

Sylfeini cadarn

Er mwyn gweithredu'r strategaeth hon, mae angen sylfeini cadarn, yn seiliedig ar dri maes:

  1. Pobl: datblygu sgiliau, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus i'r rheini yn y diwydiant a'r rheini â llwybrau gyrfa yng Nghymru 
  2. Lle: defnyddio asedau Cymru yn y ffordd orau bosibl, yn ogystal ag ystyried anghenion yn y dyfodol
  3. Planed: ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol hirdymor a helpu digwyddiadau i fesur a lleihau eu hôl troed

Pobl

Mae cysoni'r diwydiant digwyddiadau yn dod â rhanddeiliaid ynghyd o bob asiantaeth, busnes a sefydliad, ond mae'n cynnig sylfaen o bobl alluog o fewn yr endidau hynny a fydd yn atgyfnerthu dyfodol y diwydiant. Bydd diwydiant cryf yn creu cyfleoedd swydd, a bydd gofalu am y bobl hynny yn helpu i gadw llawer ohonynt yng Nghymru ac yn cefnogi gwaith teg a Chymru gryfach, decach a gwyrddach.

Mae'r camau gweithredu a argymhellir ar gyfer rhaglen wedi'i harwain gan y diwydiant i ddatblygu pobl yn y sector fel a ganlyn:

  • cefnogi twf sgiliau, gwybodaeth a gallu sy'n benodol i'r diwydiant digwyddiadau drwy gynadleddau, gweminarau a chyfleoedd rhannu gwybodaeth, gan gynnwys cyfleoedd systematig i uwchsgilio gan arbenigwyr blaenllaw yn lleol ac yn rhyngwladol
  • manteisio ar waith cyrff eraill fel y sector addysg a darparwyr hyfforddiant, er mwyn cynnig rhaglen gydgysylltiedig ar gyfer meithrin sgiliau mwy cyffredinol e.e. hygyrchedd, iechyd a diogelwch, cynaliadwyedd ac amrywiaeth ddiwylliannol
  • gweithio gyda Gyrfa Cymru i greu cyflenwad o bobl ifanc i ymuno â'r diwydiant, gan gynnwys digwyddiadau i ddenu unigolion sy'n gadael yr ysgol a graddedigion yn lle'r llu o bobl a gollodd y diwydiant yn ystod pandemig COVID-19, gan gynnwys defnyddio ei adnodd swyddi gwag i bob oedran
  • chwilio am gyfleoedd mentora, lleoliadau a theithiau arsylwi gan amrywiol rannau o'r diwydiant er mwyn i drefnwyr allu dysgu gan ei gilydd
  • gweithio gyda'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ledled Cymru i nodi bylchau sgiliau ac ymdrin â nhw ac i roi camau gweithredu ar waith gyda'r diwydiant Nodi meysydd lle y gall fod angen sgiliau penodol, fel digwyddiadau busnes ac e-ddigwyddiadau, a chynigion newydd i lenwi'r bylchau hyn
  • hyrwyddo'r canllawiau sydd ar gael i gefnogi'r defnydd o’r Gymraeg mewn digwyddiadau
  • hyrwyddo'r canllawiau a'r hyfforddiant sydd ar gael i helpu unigolion i uwchsgilio wrth gynnal digwyddiadau cynaliadwy, gan gynnwys sut y gellir mesur a lleihau effaith amgylcheddol digwyddiad
  • dod o hyd i ffyrdd o gyfathrebu â gwirfoddolwyr, eu cydgysylltu a'u datblygu y tu hwnt i hyfforddiant fesul digwyddiad unigol
  • annog busnesau yn y diwydiant digwyddiadau i helpu eu pobl i uwchsgilio.

Lle

Mae defnyddio asedau sy'n bodoli eisoes yn golygu y gellir cynnal digwyddiadau yn haws ac yn fwy costeffeithiol, felly hefyd rwydwaith cadarn o'r amwynderau cyhoeddus ehangach sydd eu hangen i helpu i gyflwyno'r digwyddiad. Byddai'r sylfaen hon yn sicrhau y caiff asedau sy'n bodoli eisoes ac asedau yn y dyfodol eu hoptimeiddio cymaint â phosibl ar gyfer y diwydiant digwyddiadau.

Mae'r camau gweithredu a argymhellir ar gyfer optimeiddio asedau yng Nghymru fel a ganlyn:

  • cynnal archwiliad llawn o asedau sy'n benodol i ddigwyddiadau yng Nghymru, sydd ar gael i'r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru a'i ddarpar gleientiaid (fel trefnwyr cynadleddau proffesiynol ar gyfer digwyddiadau busnes) a sicrhau y caiff ei gynnal ar sail awdurdodau lleol er mwyn datblygu perchenogaeth leol a ffordd o feddwl strategol mewn perthynas â digwyddiadau
  • nodi a hyrwyddo asedau naturiol, fel morliniau a thirwedd, sy'n helpu i ddiffiio Cymru ac y gellir eu cynnwys wrth gynnal a hyrwyddo'r digwyddiad
  • sicrhau bod digwyddiadau a gaiff eu nodi fel rhai i'w tyfu yn addas at y diben i bob rhanbarth, gan gynnwys eu maint a'r seilwaith ategol
  • rhoi system atgyfeirio ar waith sy'n helpu lleoliadau i gydweithio lle bynnag y bo'n bosibl, fel y caiff opsiwn mwy priodol ei awgrymu os na fydd un lleoliad yn addas, gan ddefnyddio asedau cymaint â phosibl
  • nodi'r ffactorau sy'n atal twf digwyddiadau fel llety, trafnidiaeth gyhoeddus, Wi-Fi, cyfleusterau gwefru trydan i geir ac eiriolwyr o blaid datblygiadau allweddol a fyddai'n galluogi newid sylweddol yn y diwydiant (gan ddefnyddio digwyddiadau i gefnogi'r achos busnes o blaid hynny).

Cynrychiolydd o sector y celfyddydau a diwylliant:

"Gwneud i bethau anhygoel ddigwydd mewn lleoedd anarferol ac annhebygol.

Cynrychiolydd o sector y celfyddydau a diwylliant:

"Mae presenoldeb gweithgareddau diwylliannol drwy gydol y flwyddyn yn bwysig ar gyfer llesiant ac yn rheswm i bobl fyw ac aros mewn ardaloedd gwledig, bach – gan gynnwys annog pobl ifanc i aros, datblygu iechyd a chyfoeth ardaloedd lleol.

Planed

Rhaid i bob un ohonom roi blaenoriaeth i ofalu am yr amgylchedd naturiol. Dylai digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru anelu at gyrraedd y safonau uchaf posibl o ran cynaliadwyedd amgylcheddol. Mae gan Gymru gyfle sylweddol i fod yn arweinydd byd-eang o ran yr agwedd hon ar gynnal digwyddiadau.

Fel y nodir uchod, mae datblygu economi gylchol yn gam allweddol tuag at gyflawni ein nod llesiant o fod yn 'Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang'. Mae'n sicrhau bod adnoddau a deunyddiau yn cael eu defnyddio cyhyd â phosibl ac yn osgoi pob gwastraff yn hytrach na'r 'economi linol' gynhenid lle y caiff nwyddau eu gwneud, eu defnyddio ac wedyn eu gwaredu. Mae symud tuag at economi gylchol yn allweddol o ran cyflawni'r canlyniadau amgylcheddol dymunol oherwydd gall leihau allyriadau carbon ac achosion o orddefnyddio adnoddau naturiol yn sylweddol yn ogystal â helpu i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Yn hanfodol, gall hefyd wella'r canlyniadau economaidd a chymdeithasol ar gyfer digwyddiadau. Yn economaidd, drwy weithredu mewn ffordd gylchol sy'n byrhau cadwyni cyflenwi, yn creu buddiannau i gymunedau lleol ac yn cefnogi ymrwymiad lleol, gall wella effeithlonrwydd, creu cyflogaeth a chynyddu cystadleurwydd. O ran buddiannau cymdeithasol, bydd byrhau cadwyni cyflenwi a lleihau allyriadau yn lleihau effeithiau iechyd digwyddiadau wedi'u hachosi gan lygredd ar gymunedau lleol.

Mae'r camau gweithredu a argymhellir fel a ganlyn:

  • datblygu a rhannu methodoleg safonol, lle y bo'n bosibl yn unol â dangosyddion a mesurau presennol, ar gyfer digwyddiadau o bob maint er mwyn mesur eu hôl troed amgylcheddol
  • mesur effaith amgylcheddol y portffolio digwyddiadau ehangach, a dangos sut mae'r effaith hon yn lleihau dros amser
  • datblygu pecyn cymorth amgylcheddol er mwyn ei gwneud hi'n haws rhannu gwybodaeth ar draws sectorau digwyddiadau er mwyn bod yn fwy effeithlon a sicrhau y caiff gwersi a ddysgir o arferion gorau eu lledaenu'n eang
  • addysgu trefnwyr digwyddiadau unigol a'u helpu i fod yn hyrwyddwyr ac i rannu enghreifftiau gweithredol o'r arferion amgylcheddol gorau
  • annog twristiaeth gynaliadwy, gan ddarbwyllo pobl i ymgymryd â llai o deithiau ond i aros am gyfnod hwy, gan annog pobl sy'n mynychu digwyddiadau i geisio ymestyn eu cyfnod twristiaeth
  • annog dull gweithredu ar sail economi gylchol drwy leihau ac ailddefnyddio ac ystyried defnyddio deunyddiau ac adnoddau wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailweithgynhyrchu, eu hadnewyddu a'u hailgylchu neu sy'n dod o ddeunyddiau carbon isel a chynaliadwy fel pren.

Cynrychiolydd o'r sector digwyddiadau cerddoriaeth:

"Mae sicrhau bod Cymru yn meddwl mewn ffordd flaenllaw am y dyfodol a'n cyfrifoldebau o safbwynt gwleidyddol a chynaliadwy yn holl bwysig i'r wlad ac i'r blaned. Felly, mae'n diffinio ein cenedl.

Y fecaneg

Caiff y rhain eu cyflawni drwy egluro'r canlynol:

  1. Rolau: i bob sefydliad ac asiantaeth, yn rhai cyhoeddus ac yn rhai prefiat
  2. Ymchwil a gwerthuso: â mesurau sy'n gyson â'r Ddeddf Llesiant ac amcanion eventIMPACTS
  3. Adolygiadau: o'r strategaeth, wedi'u cynnal yn rheolaidd, er mwyn sicrhau ei bod yn parhau'n berthnasol.

Rolau: gweithio gyda'n gilydd dros Gymru er mwyn rhoi'r strategaeth ar waith

Mae deall y rôl sydd gan bob cyfranogwr i'w chwarae wrth helpu i gynnal digwyddiadau yn fuddiol i drefnwyr, y rhai sy'n mynychu a rhanddeiliaid ehangach ac mae'n rhoi eglurder ynghylch disgwyliadau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd.

Bydd diwydiant cysylltiedig a chydweithredol, sy'n canolbwyntio ar amcanion cyffredin, yn atgyfnerthu'r unigolyn a'r cyfan.

Mae angen i bob rhan o'r diwydiant digwyddiadau chwarae rhan wrth gyfrannu at ddatblygu digwyddiadau, twf digwyddiadau ac apêl digwyddiadau, ac wrth gynnal digwyddiadau mewn ffordd sy'n rhoi gwell argraff o Gymru ac sy'n gwella ei henw da. Mae pawb o'r cyflenwr lleiaf i'r lleoliadau a'r digwyddiadau mwyaf yn rhan o sector eang: meithrin gallu a darparu llif gwaith cyson er mwyn sicrhau bod yr olwyn yn dal i droi, sydd wedyn yn sail i'r broses o gynnal pob digwyddiad, boed bach neu fawr, brodorol neu ryngwladol. Mae deall y rhan y mae rhanddeiliaid yn ei chwarae, waeth beth fo'u maint na'u haen, yn creu ymrwymiad ac arbedion gweithredol.

Ym mhob rhan o'r diwydiant, gall hyn gynnwys, er enghraifft:

  • cyrff i helpu i sicrhau digwyddiadau, helpu i'w cyflwyno a chyflawni canlyniadau etifeddol, gan gynnwys deiliaid hawliau yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol ar gyfer digwyddiadau chwaraeon, busnes a diwylliannol a chyrff llywodraethu; UK Sport; Chwaraeon Cymru; sefydliadau trydyddol; asiantaethau diwylliannol, y Bartneriaeth Ymweliadau a Digwyddiadau Busnes, VisitBritain a'r Gymdeithas Ryngwladol Cynadleddau a Chonfensiynau
  • asiantaethau ar gyfer ysgogi a chyflawni mewn perthynas â meysydd cysondeb strategol, fel Cyngor Celfyddydau Cymru; Cymru Greadigol, ffora economaidd; sefydliadau celfyddydol proffesiynol, gwirfoddol a chymunedol; Sefydliadau Twristiaeth Rhanbarthol
  • endidau masnachol, fel perchenogion lleoliadau, cyflenwyr a gweithredwyr, perchenogion digwyddiadau a threfnwyr yng Nghymru yn bennaf ond hefyd ledled y DU ac yn rhyngwladol
  • cyrff rheoleiddio a'r rheini sy'n cefnogi trefniadau gweithredol, fel grwpiau diogelwch  a grwpiau cynghori, awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru Comisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, asiantaethau cymorth hygyrchedd
  • darparwyr trafnidiaeth, lletygarwch a llety, sy'n hanfodol er mwyn cynnal digwyddiadau ac yn greiddiol wrth ystyried hyfywedd cyffredinol pob digwyddiad
  • gwasanaethau Golau Glas, mae ein gwasanaethau brys yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i gynllunio a chynnal digwyddiadau, yn arbennig diogelwch a llesiant pawb sy'n eu mynychu
  • asiantaethau diogelwch fel cydweithwyr o fewn Llywodraeth y DU, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, a Tarian (uned seiberdroseddu'r heddlu yng Nghymru)    

Rôl y sector preifat

Dangosodd gwaith ymgynghori a wnaed gyda'r sector preifat wrth ddatblygu'r strategaeth hon ffafriaeth glir o blaid strategaeth i'r diwydiant cyfan, yn hytrach na dim ond strategaeth yn ymwneud â rôl Llywodraeth Cymru wrth gefnogi digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru. Mae angen ymrwymiad y diwydiant cyfan ar strategaeth i'r diwydiant cyfan ac mae angen i'r diwydiant hefyd dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb dros helpu i'w rhoi ar waith er mwyn iddi lwyddo.

Mae capasiti yn her ym mhob rhan o'r sector, yn enwedig ar ôl Brexit a COVID-19, felly er na fydd modd o bosibl i bob bunses yn y sector preifat chwarae rhan uniongyrchol, mae'n bosibl i bob rhan o'r diwydiant digwyddiadau sicrhau y caiff ei safbwyntiau eu hystyried drwy sicrhau cynrychiolaeth briodol o fewn ffora allweddol, fel grŵp cynrychiolwyr y diwydiant digwyddiadau.

Mae cymryd rhan mewn digwyddiadau rhwydweithio a rhannu gwybodaeth o fudd i'r rheini sy'n derbyn gwybodaeth ac i'r rheini sy'n rhannu gwybodaeth.

Yn holl bwysig, y sector preifat sydd â'r rhan fwyaf blaenllaw i'w chwarae wrth gynnal digwyddiadau a datblygu cynhyrchion newydd ac felly sydd yn y sefyllfa orau i wireddu nodau cyflenwi'r strategaeth hon yn y ffordd fwyaf uniongyrchol, gyda Chymru yn cael ei chydnabod fel lleoliad eithriadol ar gyfer digwyddiadau amgylcheddol gynaliadwy sy'n cynnig buddiannau cadarn i Gymru a llesiant ei phoblogaeth gyfan.

Rôl llywodraeth leol

Mae angen ymrwymiad awdurdodau lleol ar gyfer pob digwyddiad, ond mae capasiti awdurdodau lleol a'r tebygolrwydd y byddant yn cefnogi digwyddiadau yn wahanol. Er enghraifft, nid oes gan bob awdurdod lleol strategaeth digwyddiadau. Felly, ceir amrywiaeth eang o ran adnoddau, strategaeth a gallu ar draws awdurdodau. Er gwaethaf hynny, mae pob awdurdod lleol yn chwarae rhan wrth helpu i weithredu digwyddiadau, o brosesau trwyddedu hyd at reoli gwastraff, ac maent yn cynrychioli eu pobl a sefydliadau yn y rhanbarth hwnnw.

Mae'r un mor bwysig, o dan y strategaeth hon, i sicrhau cysondeb o ran bwriad a diben cyllid wrth ysgogi digwyddiadau a gaiff eu cynnal a'u rhedeg yn lleol. Gall cymorth gan lywodraeth leol, gyda meini prawf cyllido sy'n addas at y diben, gan gynnwys Gwerth mewn Nwyddau sy'n rhyddhau pwysau ar y gyllideb, adlewyrchu dyheadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a'r saith maes cyffredin o dan y Ddeddf Llesiant.

Dylai awdurdodau lleol hefyd strategeiddio mewn perthynas â digwyddiadau er mwyn deall y mathau o ddigwyddiadau sy'n addas ar gyfer eu hardaloedd ac a fydd yn llywio'r math o effeithiau byrdymor a hirdymor y maent am eu gwireddu.  Fel enghraifft bwysig, gallai lleoliadau, cynhyrchion a phrofiadau gael eu cysoni â Chynlluniau Rheoli a Marchnata Cyrchfannau Awdurdodau Lleol, a dylid gwneud hynny.

Rôl Llywodraeth Cymru (Digwyddiadau Cymru a thu hwnt)

Er nad yw'n asiantaeth cynnal digwyddiadau ei hun, Digwyddiadau Cymru sy'n bennaf cyfrifol o fewn Llywodraeth Cymru am arwain y gwaith o roi'r strategaeth hon ar waith, drwy gysylltu'r diwydiant a dod â phob parti ynghyd. Fel y nodir uchod, bydd angen datblygu cynllun gweithredu a chytuno arno ar y cyd â'r diwydiant er mwyn ategu hyn, yn enwedig sut i flaenoriaethu'r adnoddau sydd ar gael. Yn ogystal â chwarae rhan arweiniol yn y strategaeth, bydd Digwyddiadau Cymru yn parhau i roi cymorth cyllido ar gyfer digwyddiadau.

Mae cyllid yn amlwg yn rhan bwysig o'r ffordd y mae Digwyddiadau Cymru yn cefnogi'r diwydiant. Argymhellir y dylid strwythuro'r cyllid er mwyn cyflawni'r canlynol:

  • helpu i gynnal digwyddiadau wedi'u targedu drwy geisiadau, trefniadau asesu a chymorth grant yn seiliedig ar feini prawf ac wedi'u cyfeirio a'u targedu'n glir, cyllid wedi'i dargedu er mwyn sicrhau canlyniadau sy'n gydnaws â'r saith nod llesiant, ond gan barhau'n ddigon hyblyg i ymdrin â digwyddiadau anarferol ac arloesol
  • cicrhau y caiff buddiannau digwyddiadau, yn enwedig yr elw economaidd ar fuddsoddiad a'r proffil rhyngwladol, eu cadw ac y datblygir arnynt ochr yn ochr ag amrywiaeth o effeithiau ehangach
  • cefnogi portffolio digwyddiadau cytbwys yng Nghymru a mwy o fuddsoddiad mewn digwyddiadau yng Nghymru a all dyfu, yn ogystal â digwyddiadau sy'n gwrthbwyso tymoroldeb ac sy'n addas ar gyfer gwahanol ranbarthau Cymru
  • cymorth cadarn i ddigwyddiadau y nodir eu bod yn parhau i gyflawni canlyniadau blaenoriaeth er mwyn rhoi mwy o eglurder, a'r gallu i gadw adnoddau a gallu
  • cymorth cyllido ar gyfer datrysiadau amgylcheddol arloesol i ddatblygu'r sector
  • cymorth cyllido er mwyn helpu i ddatblygu gallu'r sector
  • ffocws parhaus a phenodol ar ddigwyddiadau busnes er mwyn adeiladu ar y cynnydd a wnaed ers dechrau ar y gwaith yn 2018. Tarfodd COVID-19 ar y cynnydd hwnnw ac felly caiff adnoddau penodedig eu dyrannu er mwyn parhau i feithrin gallu yn y byrdymor er mwyn pennu'r elw hirdymor posibl ar fuddsoddiad gan ystyried i ba raddau y bydd y diwydiant yn ymgysylltu.

Yn ogystal, argymhellir y dylai rôl Digwyddiadau Cymru hefyd gynnwys y canlynol:

  • hwyluso cysylltiad rheolaidd â'r diwydiant digwyddiadau ehangach er mwyn sicrhau, cynnal ac ysgogi digwyddiadau, gan weithio gyda grŵp cynrychiolwyr y diwydiant digwyddiadau a thrwy'r grŵp hwnnw
  • gweithio gydag endidau lleol a rhanbarthol i nodi digwyddiadau y gellid eu tyfu, a lle y bo'n bosibl, helpu i gyflawni'r twf hwn
  • arwain y broses o fwrw ati mewn ffordd ragweithiol i nodi cyfleoedd i gyflwyno cynigion a'r digwyddiadau rhyngwladol priodol i Gymru, wedi'u cefnogi gan gydberthnasau cadarn â pherchenogion digwyddiadau mawr, rhaglenwyr cyfleusterau, dylanwadwyr a rhanddeiliaid
  • ystyried cyfleoedd ehangach i gydweithio â llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig i gynnal digwyddiadau mawr
  • darparu canllawiau a Dangosyddion Perfformiad Allweddol i ddigwyddiadau gyflawni (a nodi a mesur) yn erbyn y Ddeddf Llesiant, gan ddefnyddio arbenigwyr o'r diwydiant digwyddiadau i'w helpu i wneud hynny 
  • helpu i gyflawni yn erbyn yr economi gylchol, gan gynnwys cynyddu cyfraddau ailgylchu, annog ailddefnyddio a lleihau deunydd pecynnu diangen
  • cydgysylltu'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu gallu a chapasiti yn y diwydiant a amlinellir      yn y strategaeth hon
  • cysylltu digwyddiadau ag asiantaethau ysgogi perthnasol er mwyn sicrhau'r buddiannau gorau posibl i Gymru
  • cefnogi'r achos o blaid buddsoddiad parhaus mewn digwyddiadau, yn bennaf o fewn Llywodraeth Cymru ond hefyd ar draws yr ecosystem digwyddiadau ehangach
  • hyrwyddo Cymru Iachach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Ymchwil a Gwerthuso

Mae ymchwil a gwerthuso yn hanfodol er mwyn deall cynnydd yn y diwydiant a'r hyn y mae'n ei gyflawni iddo'i hun ac i Gymru. Mae hyn, yn ei dro, yn bwysig er mwyn atgyfnerthu'r achos ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol.

Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd y broses o werthuso canlyniadau digwyddiadau yn gyson â'r mesurau a'r canlyniadau sydd eisoes yn cael eu defnyddio yng Nghymru, felly asgwrn cefn y mesurau hyn, fel y strategaeth, fydd dangosyddion cenedlaethol y Ddeddf Llesiant. Gan fod ymwelwyr, proffil rhyngwladol a chynnwys diwylliannol oll yn allweddol i'r diwydiant digwyddiadau, mae cysondeb â Blaenoriaethau i'r Economi Ymwelwyr 2020 i 2025, Y strategaeth ryngwladol a'r Cynllun Gweithredu Diplomyddiaeth Gyhoeddus a Chymell Tawel 2020 i 2025 a'i dargedau i ddefnyddio digwyddiadau at ddibenion cymell tawel, a Strategaeth Ddiwylliannol Cymru sydd wrthi'n cael ei datblygu, hefyd yn bwysig. Gall targedau ar gyfer digwyddiadau penodol hefyd fod yn gyson â safonau eventIMPACTS a defnyddio meini prawf rhyngwladol, er enghraifft, y dangosyddion cyffredin ar gyfer mesur effaith digwyddiadau i randdeiliaid digwyddiadau a bennwyd gan Gymdeithas Ffederasiynau Rhyngwladol Gemau Olympaidd yr Haf.

Ac eithrio'r themâu cyson, sef pobl, lle a phlaned, a sicrhau cysondeb â'r Ddeddf Llesiant, tabl dangosol yw'r tabl isod. Fel rhan o'r cynllun gweithredu, caiff mesurau sy'n realistig ac yn berthnasol eu datblygu ymhellach gan Digwyddiadau Cymru a grŵp arfaethedig y diwydiant digwyddiadau. Bydd mesurau ar gyfer digwyddiadau unigol yn eu tro yn cyfrannu at waith Digwyddiadau Cymru i gasglu gwybodaeth am y diwydiant cyfan, gan ddangos tystiolaeth bod y strategaeth hon wedi'i rhoi ar waith a'r buddiannau portffolio cyfan y mae digwyddiadau yn eu creu i bobl, lle a phlaned.

Cynrychiolydd o sector y celfyddydau a diwylliant:

"Mae'n llawer haws cael effaith fawr ac annog pobl i gymryd rhan mewn gwlad fach.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Pobl

Maes effaith
Sylwadau
Enghraifft o gysoni â'r dangosyddion cenedlaethol
Mesurau enghreifftiol ar gyfer digwyddiadau penodol
Iachach Mae'r digwyddiadau yn darparu llwyfan proffil uchel i gyfleu negeseuon cadarnhaol a chynnig profiadau go iawn i bobl i'w hannog a'u helpu i wella eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol. Er enghraifft, gall cyfranogiad torfol mewn digwyddiadau chwaraeon helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd ymarfer corff rheolaidd.

35: canran y bobl sy'n bresennol neu sy'n cyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn

38: canran y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos

29: llesiant meddyliol

Nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon neu ddiwylliannol drwy ddigwyddiadau

Canran yr ymwelwyr sy'n dweud bod eu profiadau mewn digwyddiadau wedi cael effaith gadarnhaol ar eu teimladau o lesiant (gan arwain at gamau gweithredu cadarnhaol)

Mwy cyfartal Gall digwyddiadau llwyddiannus helpu pobl a chymunedau i gyflawni eu potensial llawn drwy hygyrchedd a datblygiadau arloesol cynhwysol – gan gynnwys rhaglenni allgymorth wedi'u targedau at grwpiau anodd eu cyrraedd a grwpiau lleiafrifol.

17: gwahaniaeth cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd

16: canran y bobl sydd mewn cyflogaeth, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy'n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol

26: canran y bobl sy'n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw

Nifer y polisïau cydraddoldeb sydd wedi'u llunio a'u rhoi ar waith

Nifer y gweithgareddau allgymorth a chymunedol sy'n gysylltiedig â digwyddiad

Nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn a gafodd eu creu neu eu cefnogi gan ddigwyddiad

Nifer y digwyddiadau sydd wedi cofrestru ar gyfer y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Cymunedau cydlynus Mae digwyddiadau llwyddiannus yn ymgysylltu â chymunedau drwy: camau gweithredu gwirfoddol lleol, cyfranogiad, profiad byw i wylwyr a llwyfannau'r cyfryngau.

28: canran y bobl sy'n gwirfoddoli

27: canran y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal; bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu'n dda; a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch

Nifer y gwirfoddolwyr lleol

Nifer yr ymwelwyr lleol sy'n dod i ddigwyddiad

Nifer y gweithgareddau allgymorth a chymunedol lleol sy'n gysylltiedig â digwyddiad
Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu Mae digwyddiadau yn arddangos ac yn atgyfnerthu hunaniaeth a threftadaeth ddiwylliannol unigryw Cymru; maent yn gatalydd ar gyfer arloesedd a mynegiant diwylliannol ac yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i'w hartistiaid a'i hathletwyr blaenllaw arddangos eu doniau ar lwyfan y byd.

35: canran y bobl sy'n bresennol neu sy'n cyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn

36: canran y bobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o'r iaith

37: nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg

38: canran y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos

Nifer y bobl sy'n cyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth drwy ddigwyddiadau

Hyrwyddo a defnyddio'r Gymraeg mewn digwyddiadau

Nifer y polisïau Cymraeg sydd ar waith

Lle

Ffyniannus

Gall digwyddiadau ysgogi mentrau newydd a thwf busnes, gan greu swyddi hirdymor o ansawdd Maent yn arddangos ac yn hyrwyddo twristiaeth mewn marchnadoedd allweddol, ac yn cefnogi ymdrechion i arallgyfeirio'r economi wledig. Fel sector dynamig a chreadigol sy'n seiliedig ar wybodaeth, mae angen sgiliau o ansawdd uchel, gan gynnwys sgiliau rheoli prosiectau, cyllid, marchnata, y cyfryngau a chyfathrebu, sydd oll yn sgiliau sy'n cefnogi economi modern a chreadigol.

09: Gwerth Ychwanegol Gros am bob awr a weithir (o’i gymharu â chyfartaledd y DU)

16: canran y bobl sydd mewn cyflogaeth, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy'n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol

17: gwahaniaeth cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd

21 a 22: canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi'i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran

Nifer y cyfleoedd hyfforddiant sgiliau a gynigir yn y diwydiant digwyddiadau

Gwerth Ychwanegol Gros a gynhyrchir gan ddigwyddiad fel y'i cyfrifir gan eventimpacts.com

Nifer y bobl a gaiff eu cyflogi yn y diwydiant digwyddiadau (cyfwerth ag amser llawn)

Nifer y swyddi (cyfwerth ag amser llawn) a gafodd eu creu neu eu cefnogi gan ddigwyddiadau

Canran yr oedolion a gaiff eu cyflogi yn y diwydiant digwyddiadau sy'n nodi lefelau boddhad boddhaol neu uchel â'u swyddi

Planed

Cydnerth

Gall digwyddiadau fod yn enghreifftiau o sut i gynnal a gwella'r amgylchedd naturiol.

Mae digwyddiadau yn cynnig llwyfan hynod weledol, a gallant godi ymwybyddiaeth o opsiynau amgen, ac annog newidiadau mewn arferion, sydd yn y pen draw yn cefnogi cydnerthedd economaidd, cymdeithasol ac ecolegol.

Byddai enghreifftiau yn cynnwys defnyddio ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth integredig, ailgylchu gwastraff a chaffael nwyddau a gwasanaethau lleol.

11: canran y busnesau sydd wrthi'n arloesi

12: capasiti (mewn MW) yr offer ynni adnewyddadwy sydd wedi'i osod

15: swm y gwastraff a gynhyrchir ac na chaiff ei ailgylchu, y pen

Caiff astudiaethau achos busnes o ddigwyddiadau arloesol eu cofnodi a'u rhannu

Caiff swm y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi ei fesur ar gyfer pob digwyddiad

Nifer y cynlluniau rheoli digwyddiadau cynaliadwy sydd ar waith

Canran y contractau digwyddiadau a ddyfernir i gwmnïau sydd wedi cofrestru ar gyfer y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi (llyw.cymru) a gwerth y contractau hynny
Yn gyfrifol yn fyd-eang Yn ogystal â gwella agweddau ar lesiant i Gymru, gall digwyddiadau rhyngwladol a gynhelir yn effeithiol ddarparu templed i'w rannu â'r byd. Mae hyn yn gwella enw da a phroffil Cymru yn rhyngwladol fel gwlad ffyniannus, ddatblygol a blaengar.

12: capasiti (mewn MW) yr offer ynni adnewyddadwy sydd wedi'i osod

48: canran y siwrneiau a wneir ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus

Canran y digwyddiadau sydd wedi llunio polisïau i leihau allyriadau ac wedi'u rhoi ar waith

Canran y digwyddiadau sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy

Canran y digwyddiadau sy'n annog opsiynau trafnidiaeth lesol a chynaliadwy neu'n cynnig opsiynau o'r fath

Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020 i 2025

Mesurau twristiaeth Mae digwyddiadau yn denu ymwelwyr ond gellir eu defnyddio hefyd i dargedu mathau penodol o ymwelwyr, er mwyn dosbarthu ymwelwyr ledled Cymru ac ar wahanol adegau o'r flwyddyn. Mae digwyddiadau hefyd yn creu proffil rhyngwladol, sydd yn ei dro yn helpu i leoli Cymru fel cyrchfan er mwyn ysbrydoli ymwelwyr yn y dyfodol.

Gwerth a swmp teithiau domestig dros nos o Brydain Fawr

Gwerth a swmp ymweliadau dydd gan dwristiaid domestig o Brydain Fawr

Gwerth a swmp ymweliadau rhyngwladol

Nifer yr ymwelwyr newydd sy'n dod i Gymru

Ymwybyddiaeth o frand a diddordeb mewn ymweld

Dosbarthiad tymhorol ymwelwyr a gwariant

Gwerth a swmp ymwelwyr sy'n cael eu denu i Gymru, yn ôl digwyddiad

Nifer yr unigolion sy'n mynychu digwyddiad ac mae dyma eu hymweliad cyntaf

Sylw yn y cyfryngau rhyngwladol wedi'i ysgogi'n benodol gan ddigwyddiadau mewn marchnadoedd o ddiddordeb

Cyfran y digwyddiadau a gynhelir y tu allan i'r prif dymor twristiaeth

Adolygu

Mae'r amseroedd paratoi ar gyfer digwyddiadau yn golygu bod ymrwymiadau sylweddol eisoes ar waith ar gyfer 2023 a thu hwnt. Yn y cyd-destun hwnnw ac o ystyried y gyfradd newidiadau gartref a thramor, ni all unrhyw strategaeth aros yn ei hunfan. Felly, dylid ailystyried y strategaeth hon, a'r cynlluniau gweithredu cysylltiedig, bob dwy flynedd, o ddiwedd 2024. Dylai grŵp cynrychiolwyr y diwydiant digwyddiadau gynnal yr adolygiad er mwyn cadarnhau ei fod yn gwneud synnwyr ac er mwyn sicrhau bod y blaenoriaethau a nodir ynddo yn cyfleu'r anghenion mwyaf o hyd, a bod y camau gweithredu a argymhellir yn parhau'n ddilys ac yn addas at y diben o ran cyflawni'r blaenoriaethau hynny. 

Yn fwyaf nodedig, dylai'r adolygiad ystyried unrhyw newid mewn blaenoriaethau o ganlyniad i'r canlynol:

  • newidiadau yn y dangosyddion cenedlaethol ar gyfer y saith nod llesiant y gall digwyddiadau eu cefnogi
  • cyfleusterau neu alluoedd newydd yng Nghymru i ddarparu gwell cyfleoedd ar gyfer cynnal digwyddiadau
  • newidiadau o ran cyllidebau ar lefel llywodraeth leol ac ar lefel Llywodraeth Cymru
  • cyfleoedd neu heriau a nodir gan y diwydiant ehangach, gan gynnwys y gadwyn gyflenwi hanfodol
  • lefelau ymgysylltu o fewn y diwydiant o ran helpu i roi'r strategaeth ar waith yn gyffredinol ac o ran datblygu'r agenda digwyddiadau busnes a'r agenda sgiliau yn benodol
  • tueddiadau newydd, datblygiadau technolegol neu ddatblygiadau arloesol a gaiff eu datblygu ar gyfer cynnal digwyddiadau (yn enwedig ar ôl y pandemig) fel digideiddio, cynnal digwyddiadau hybrid, gemau ac e-chwaraeon
  • asesiad yn seiliedig ar ganlyniadau o effeithiolrwydd ffocws wedi'i dargedu ar ddigwyddiadau busnes yn Digwyddiadau Cymru      
  • digwyddiadau byd-eang sy'n cael effaith sylweddol ar Gymru e.e. pandemigau, aflonyddwch byd-eang.

Sut beth fydd llwyddiant?

Erbyn 2030, os bydd y strategaeth hon yn llwyddiannus, dylem weld newid amlwg yn y portffolio digwyddiadau, y diwydiant digwyddiadau yn ehangach, ac i Gymru. Byddai hyn yn cynnwys y canlynol:      

  • diwydiant sy'n gysylltiedig ac yn gydweithredol, yn gydnerth ac yn gydlynus
  • portffolio o ddigwyddiadau sy'n adlewyrchu pobl Cymru a Chymru fel cenedl yn gadarn      
  • portffolio ar gyfer Cymru gyfan, wedi'i ddosbarthu ar draws tymhorau, genres, a chan apelio'n eang i bawb
  • portffolio o ddigwyddiadau lle caiff y canlyniadau a gyflawnir i Gymru eu mesur a'u rhannu
  • diwydiant lle caiff pobl gyfle i feithrin sgiliau newydd
  • diwydiant lle mae cryfderau asedau yn hysbys ac yn cael eu hoptimeiddio
  • diwydiant sy'n arweinydd ym maes cynaliadwyedd ac a gaiff ei gydnabod fel diwydiant sy'n gyfrifol yn fyd-eang
  • strategaeth a roddir ar waith ym mhob rhan o'r diwydiant, lle y caiff rolau penodol pob parti eu deall a'u dwyn ynghyd o dan gorff cynrychiolwyr y diwydiant digwyddiadau
  • strategaeth sy'n parhau'n ddogfen fyw ac sy'n adlewyrchu newidiadau cyfnewidiol Cymru a'r diwydiant digwyddiadau wrth iddo barhau i ddatblygu.