Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr o fynychwyr

Sefydliadau trydydd sector

San Leonard (SL), Cwmnïau Cymdeithasol Cymru 
Lloyd Williams (LW), Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST)
Ben Lloyd (BL), CGGC
Matthew Brown (MB), CGGC
Derek Walker (DW), Cwmpas
Gareth Coles (GC), Creative Lives
Gurmit Singh Randhawa (GR), Cyngor Rhyng-ffydd Cymru
Sue Husband (SH), Busnes yn y Gymuned
Lisa Wills (LW), Y Ffatri Gelf
Matthew Williams (MW), Cymdeithas Chwaraeon Cymru
Tabea Wilkes (TW), Cyswllt Amgylchedd Cymru
Hazel Lloyd Lubran (HL), Cyngor Gwirfoddol Sirol Cymru
Phil Lewis (PL), Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Llywodraeth Cymru

Vaughan Gethin MS (MEcon), Gweinidog yr Economi (Cadeirydd)
Dawn Bowden MS (DMASCW), Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip (Cadeirydd)
Andrew Chapman (AC), Llywodraeth Cymru (ysgrifenyddiaeth)
Alison Sandford (AS), Llywodraeth Cymru
Janet Owen Jones (JJ), Llywodraeth Cymru
Elizabeth Crowther (EC), Llywodraeth Cymru
Steffan Roberts (SR), Llywodraeth Cymru
Lisa Claridge (LC), Llywodraeth Cymru
Gail Merriman (GM), Llywodraeth Cymru
Paul Kindred (PK), Llywodraeth Cymru

Eitem 1 ar yr agenda : cyflwyniad

Croesawodd DMASCW bawb i’r cyfarfod a dywedodd nad oedd angen cyflwyniadau ffurfiol. Nododd ei bod yn gadarnhaol bod cynifer o bobl yn cymryd rhan yn yr alwad a nodwyd bod tair prif eitem ar yr agenda y byddai angen ymdrin â nhw yn yr amser a oedd ar gael.

Rhoddodd DMASCW wybod i’r mynychwyr fod MEcon ar ddyletswydd yn rhywle arall ac y byddai’n ymuno ymhen ychydig. Gofynnodd DMASCW i MW, o Gymdeithas Chwaraeon Cymru, gyflwyno’i bapur.  

Eitem 2 ar yr agenda: asedau a chyfleusterau cymunedol

Matthew Williams, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Gareth Coles, Creative Lives.

Diolchodd MW i’r grŵp a DMASCW am dderbyn y papur, a gafodd ei ysgrifennu ar y cyd â GC. Roedd y papur yn cwmpasu nifer o faterion y mae sefydliadau chwaraeon, diwylliant a ffydd, a sefydliadau cymunedol eraill, yn eu hwynebu yn sgil y pandemig. Esboniodd MW sut roedd problemau yn ymwneud â hygyrchedd, argaeledd a diffyg cynnal a chadw yn cael effaith negyddol gynyddol ar weithgareddau lleol.  

Yn ogystal, nododd MW fod problemau ehangach wedi codi ynghylch y ffaith nad yw gwirfoddolwyr wedi dychwelyd i’r sector ar ôl y pandemig. Roedd yr argyfwng costau byw, yn enwedig y cynnydd ym mhrisiau ynni, yn cael effaith niweidiol ar weithgareddau grŵp ar lawr gwlad (gyda llawer o sefydliadau lleol yn ei chael yn anodd creu digon o incwm i dalu’r costau cynyddol ar gyfer eu hadeiladau eu hunain, neu’r rheini y maent yn eu rhentu). 

Rhoddodd MW sylw i enghreifftiau cadarnhaol diweddar, gan gyfeirio at symiau bach o gyllid grant a ddyrennir gan Chwaraeon Cymru, a gofynnodd a fyddai modd cymryd camau tebyg ar gyfer y sector diwylliannol, ac ar draws y maes portffolio yn ehangach, er mwyn wynebu’r her hon. Awgrymodd MW hefyd fod yr wybodaeth sydd ar gael am y lleoliadau bach (sydd yn aml yn cael eu cynnal gan sefydliadau a grwpiau ffydd) yn gyfyngedig, ac y dylid gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru (drwy ddull aml-bartneriaeth) i gynnal archwiliad o’r sefydliadau a’r problemau ar lawr gwlad.  

Ategodd GC y prif broblemau yr oedd MW wedi’u codi, ac awgrymodd y byddai angen ymateb iddynt drwy ddull cydweithredol. 

Myfyriodd DMASCW ar y problemau yr oedd MW a GC wedi’u cyflwyno. Awgrymodd DMASCW y dylid rhoi sylw manwl i’r papur a llunio ymateb ysgrifenedig iddo (oherwydd bod terfyn ar amser y cyfarfod a bod y problemau’n eang eu cwmpas).

Amlinellodd DMASCW sut roedd Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod symiau mawr o gyllid ar gael i’r sector chwaraeon a’r sector diwylliant yn ystod y pandemig, gyda’r nod o alluogi sefydliadau i dyfu ac i ddatblygu ar ôl iddo ddod i ben. Esboniodd DMASCW hefyd sut roedd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob dull o ddylanwadu a oedd ar gael iddi i helpu’r bobl hynny yr oedd yr argyfwng costau byw yn effeithio arnynt fwyaf. Byddai’n dda hefyd pe byddai modd cael darlun cliriach o’r sefyllfa gyfredol o ran cyfleusterau cymunedol. 

Roedd yn bwysig hefyd fod sefydliadau’n ystyried gwneud cais am gymorth drwy’r rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, yn enwedig yn achos problemau sy’n ymwneud ag adeiladau neu waith atgyweirio. Mae Llywodraeth Cymru ar effro i’r problemau mae’r cynnydd mewn costau rhedeg yn eu peri, yn enwedig pan fo costau’n cael eu pasio ymlaen i grwpiau defnyddwyr. Nododd DMASCW ei bod yn bwysig sicrhau nad yw’r bobl hynny sydd eisoes yn ei chael yn anodd cymryd rhan mewn gweithgareddau yn cael eu hallgáu ohonynt ymhellach. 

Roedd MW a GC yn croesawu adborth DMASCW.

Pwynt gweithredu

Swyddogion i ystyried y papur a ddarparwyd gan MW a GC a llunio ymateb ysgrifenedig iddo.

Eitem 3 ar yr agenda: y Papur Gwyn ffyniant bro

Matthew Brown, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Esboniodd MB sut roedd yr amgylchiadau o safbwynt y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi newid ychydig ers i’r papur gael ei ysgrifennu’n wreiddiol. Serch hynny, mae’r negeseuon cyffredinol a amlinellir yn y papur yn parhau i fod yn berthnasol. Atgoffodd MB y grŵp fod yr adroddiad yn rhoi sylw i broblemau i’r trydydd sector yng Nghymru o ganlyniad i gyhoeddi Papur Gwyn Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ynghyd â phroblemau gyda phrosesau sy'n ymwneud â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Tynnodd MB sylw at y ffaith y bydd cyllid o Gronfa Cymdeithasol Ewrop yn dod i ben yn fuan. Bydd hyn yn achosi nifer o broblemau (yn achos rhaglen Cynhwysiant Gweithredol CGGC er enghraifft). Byddai’n fanteisiol pe gellid symud ffocws cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ôl i Ebrill mewn modd ôl-weithredol. Soniodd MB hefyd am y pryderon a rannwyd mewn perthynas â’r amserlen a sut y gallai olygu bod llai o gyfathrebu’n digwydd â’r trydydd sector. Byddai’n ddefnyddiol sicrhau cefnogaeth y Gweinidogion er mwyn cryfhau llais y trydydd sector yn ystod trafodaethau, a  fydd yn cael eu cynnal ar lefel ranbarthol.

Esboniodd MB hefyd ei bod yn bwysig sicrhau bod cyllid a phrosesau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dryloyw. Gofynnodd a fyddai’n bosibl i’r trydydd sector a Llywodraeth Cymru gyllido rhai rhaglenni a phrosiectau ar y cyd, a hynny er mwyn targedu blaenoriaethau allweddol.

Diolchodd DMASCW i MB am y papur a nododd sut roedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi peri heriau mawr. Mae hyn hefyd yn berthnasol i’r trydydd sector, sydd wedi codi problemau ynghylch cael mynediad uniongyrchol i gyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Ymunodd MEcon â’r cyfarfod ac esboniodd nifer o anawsterau allweddol sydd wedi deillio o’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi bod yn hwyr yn cynnal deialog ystyrlon â Llywodraeth Cymru, a nododd y byddwn yn wynebu amserlenni heriol.

Dywedodd MEcon, wrth symud ymlaen, fod cyflawni cynlluniau buddsoddi o fewn amserlenni yn eithriadol o uchelgeisiol. Bydd MEcon yn cynnal cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel y gellir sicrhau bod y drafodaeth yn canolbwyntio ar gyfraniadau’r trydydd sector. Soniodd MEcon am y ffaith mai lefel ranbarthol sydd fwyaf priodol o dan yr amgylchiadau, oherwydd mai’r dewis arall fyddai cynlluniau unigol a chynigion cysylltiedig fesul awdurdod. Caiff her onest ei chyhoeddi er mwyn galluogi’r trydydd sector i gymryd rhan. Mae Cwmpas Cymru’n rhan o hyn hefyd. Mae awdurdodau lleol yn ymwybodol o’r heriau a wynebir.

Amlinellodd MEcon sut y gellid rheoli’r gweithgareddau ymgysylltu (mewn partneriaeth), gan ganolbwyntio ar greu grŵp ehangach o randdeiliaid a allai ystyried sut mae cynlluniau’n cael eu datblygu a’u gweithredu. Byddai hyn yn lleihau nifer y cyfarfodydd ac yn ddull uniongyrchol ac ymarferol. Bydd pwysau hefyd ar yr hyn y gellir ei gyllido o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae’n bosibl na fydd pethau sydd o werth gwirioneddol yn dod o dan ei chwmpas yn uniongyrchol.  

Atgoffodd MEcon y grŵp am y pwysau y mae Llywodraeth Cymru o danynt o ganlyniad i Ddatganiad y Gwanwyn a’r lefelau chwyddiant presennol. Roedd MEcon yn cefnogi’r rhan y gallai’r trydydd sector ei chwarae ynghyd â’i ddylanwad ar lefel genedlaethol.   

Croesawodd DW y syniad o grŵp rhanddeiliaid. Byddai’n rhoi sedd i’r trydydd sector wrth y bwrdd ynghyd ag asgwrn cefn ar gyfer trafodaethau ar lefel ranbarthol a ledled Cymru, gan gyflwyno modd cydlynol o weithredu. Soniodd DW y gall fod yn werth ystyried y posibilrwydd o ddarparu arian cyfatebol drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, os oes cyllid ar gael, i gyd-fynd â buddsoddiadau rhanbarthol, ac i gyflawni gwerthoedd a rennir.

Nododd MEcon ei fod yn parhau i fod yn optimistaidd er gwaethaf yr heriau sydd ynghlwm wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’n bosibl y bydd angen cynnal rhagor o drafodaethau ag awdurdodau lleol mewn perthynas â chymorth busnes nad yw’r gronfa ganolog yn ei gwmpasu. Yn ogystal, atgoffodd MEcon y grŵp am y rhaglen Multiply (Llywodraeth y DU).

Pwysleisiodd MEcon bwysigrwydd buddsoddi yn y bobl, y cymunedau a’r sectorau cywir er mwyn gwneud gwahaniaeth ac i barhau i geisio dylanwadu ar benderfyniadau er mwyn sicrhau bod y cyllid yn helpu’r bobl hynny y mae ei angen arnynt fwyaf. Mae creu cynlluniau o fewn amserlenni o’r fath yn heriol, ac awgrymodd MEcon y dylai’r angen i fod yn hyblyg fod ymhlith yr ystyriaethau pennaf o ran cyflawni blaenoriaethau dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Economi sy’n Fuddiol i Natur drwy Atebion sy’n Seiliedig ar Natur

Tabea Wilkes, Cyswllt Amgylchedd Cymru.

Amlinellodd TW gyfres o argymhellion polisi ar gyfer cyflawni economi sy’n fuddiol i natur. Roedd hyn yn cynnwys cynigion ynghylch y tair prif thema, sef galluogi busnesau i ffynnu mewn economi sy’n seiliedig ar natur, datblygu fframwaith polisi eglur ar gyfer buddsoddiadau preifat ym myd natur, a sbarduno trawsnewid cyfiawn tuag at weithlu gwyrdd drwy Wasanaeth Natur Gwladol. Croesawodd TW y datblygiadau diweddar iawn ynghylch y Gwasanaeth Natur Gwladol a’r cyfleoedd a allai godi o ganlyniad iddynt. Eglurodd TW hefyd y cysylltiad rhwng y Gwasanaeth Natur Gwladol a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd. Yn ogystal, siaradodd TW am yr angen i greu cysylltiadau rhwng buddsoddiadau preifat a chyhoeddus er lles bioamrywiaeth ac adferiad byd natur.  

Dywedodd MEcon ei fod wedi cwrdd â TW yn ddiweddar a bod y papur wedi cyfrannu at ran fawr o’r uchelgais presennol sy’n cynnwys sawl elfen allweddol. Nododd MEcon ei bod yn bwysig cynnal trafodaethau ar draws adrannau oherwydd bod byd natur yn fater sy’n berthnasol i bob portffolio.

Nododd MEcon fod Llywodraeth Cymru eisoes yn ymgymryd â chynllun peilot y Gwasanaeth Natur Gwladol a’i bod yn bwysig meddwl am y cynnydd a wnaed. Esboniodd MEcon fod creu economi wyrddach yn golygu llawer mwy na gosod tyrbinau, a soniodd hefyd am her sefydlu dangosyddion amgylcheddol cadarn.  

Dywedodd MEcon ei bod yn bwysig gwneud rhagor o feddwl ynghylch sut mae’r cynigion yn cael eu mesur a sut y pennir gwerth iddynt. At hynny, mae angen ystyried sut i bennu gwerth i unrhyw beth sydd y tu allan i’r cynigion hynny. Rhaid sicrhau bod penderfyniadau i fuddsoddi yn seiliedig ar sefydlu cerrig milltir clir. 

Esboniodd MEcon bwysigrwydd gwneud yn siŵr bod drysau swyddogion yn parhau i fod ar agor, a phwysigrwydd gweithio ar ddatblygiadau mewn perthynas â pheilot y Gwasanaeth Natur Gwladol.

Nododd PL ei ddiolch i MEcon am y cyfle i drafod y datblygiadau ynghylch cynllun peilot y Gwasanaeth Natur Gwladol a’i gysylltiad â rhaglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Dywedodd PL y cafwyd mewnbwn gwerthfawr gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a Cwmpas hefyd, o ran cyflawni prawf o gysyniad. Amlinellodd PL y ffordd yr oedd wedi creu cysylltiadau â rhwydweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn edrych ar gynaliadwyedd a chynnydd.

Nododd TW yr hoffai wybod beth yw rôl y Llywodraeth o safbwynt nodi buddsoddiadau preifat a sut y gallai hynny lenwi bylchau. Byddai TW yn croesawu unrhyw wybodaeth bellach am y pwnc.

Tynnodd MEcon sylw at faterion yn ymwneud â gwyrddgalchu, yn enwedig mewn perthynas â defnyddio tir a sut y cyflawnir y bwriad polisi o’i gymharu â rheoli tir. Amlinellodd MEcon hefyd y graddau y mae agenda Cymru yn cyd-fynd ag agenda ehangach y DU, a’r ffaith nad oedd Cymru, ar hyn o bryd, yn profi unrhyw fanteision uniongyrchol gyda’r systemau sydd ar waith ar hyn o bryd. 

Esboniodd MEcon fod hyn yn ymwneud â chreu marchnad a strwythur yng Nghymru er mwyn ailfuddsoddi cyllid ym maes adfer natur. Nododd MEcon fod yr amseru’n dda ar hyn o bryd oherwydd bod y cyhoedd wedi’u cysylltu â’r amgylchedd o’u cwmpas. Fodd bynnag, ceir heriau o hyd sy’n ymwneud â gostyngiadau mewn cyllid, a newidiadau iddo, sy’n gysylltiedig â Brexit.

Unrhyw fusnes arall

Nid oedd unrhyw fusnes arall.