Neidio i'r prif gynnwy

Manylion am y lefelau treth gyngor band D cyfartalog fesul awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024.

Pwyntiau allweddol

  • Treth cyngor band D i Gymru ar gyfer 2023-24 yw £1,879 ar gyfartaledd.  Mae hyn yn cynnwys £1,512 ar gyfer cynghorau sir, £324 ar gyfer awdurdodau’r heddlu a £43 ar gyfer cynghorau cymuned. Mae ffigurau Band D ar gyfer awdurdodau bilio, gan gynnwys yr heddlu a chynghorau cymunedol, yn amrywio o £1,693 yng Nghaerffili i £2,182 ym Mlaenau Gwent.
  • Codiadau cynghorau sir ym mand D y dreth gyngor ar gyfer 2023-24 yw £82 ar gyfartaledd, neu 5.5% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Codiadau’r heddlu yw £21 ar gyfartaledd, neu 6.8%. Mae’r codiadau hyn yn cyfuno i greu codiad band D o £102 ar gyfartaledd, neu 5.8%.
  • Conwy sydd â’r codiad canrannol band D uchaf o 8.9%. Torfaen sydd â’r codiad canrannol band D isaf o 2.7%.
  • Heddlu Dyfed-Powys sydd â’r cynnydd mwyaf ym mand D o 7.8%. Heddlu Gogledd Cymru sydd â’r  cynnydd lleiaf ym mand D o 5.1%.
  • Yn Lloegr, amcangyfrifir mai codiad cyfartalog Band D yw 5.1%.
  • Ar gyfartaledd, mae’r dreth gyngor band D yng Nghymru tua 91% o’r ffigur diweddaraf o £2,065 a amcangyfrifir ar gyfer Lloegr.

Adroddiadau

Lefelau’r Dreth Gyngor: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 410 KB

PDF
Saesneg yn unig
410 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.