Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw diogelu iechyd pobl a’r cyhoedd trwy rwystro gweddillion y sylweddau hyn mewn cig a bwydydd eraill rhag ymuno â chadwyn fwyd pobl. Maen nhw’n berthnasol i bob anifail fferm. Y gobaith yw ennyn hyder y cwsmer fod cig yn ddiogel.

Y prif ofynion

  • peidiwch â rhoi ‘sylweddau cyfyngedig’ i anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd oni bai’ch bod yn eu rhoi yn unol â’r eithriadau a ganiateir. Bydd angen caniatâd ymlaen llaw i ddefnyddio’r sylweddau hyn
  • mae ‘sylweddau cyfyngedig’ yn golygu sylweddau thyrostatig, stilbenau, sylweddau sy’n deillio o stilbenau, eu halwynau a’u hesterau, oestradiol 17B a sylweddau tebyg i’r esterau sy’n deillio ohono a sylweddau sy’n cael yr un effaith ag oestrogen, androgen neu gestogen, a betaweithyddion
  • peidiwch â chadw’r sylweddau canlynol ar eich fferm:
    • sylweddau sy’n perthyn i oestradiol 17B neu sy’n deillio ohono
    • beta-weithyddion sy’n rhwystro gwartheg rhag esgor cyn pryd
    • sylweddau sy’n cael effaith hormonaidd neu thyrostatig, oni bai bod y milfeddyg yn eu rhoi ar bresgripsiwn
  • os oes gennych anifail sy’n cynhyrchu bwyd ar eich fferm a’ch bod wedi rhoi sylwedd cyfyngedig iddo, peidiwch â’i anfon i’w ladd na gwerthu’i gig (nac unrhyw gynnyrch arall ohono), oni bai bod y sylwedd wedi’i roi yn unol â’r eithriadau a ganiateir
  • defnyddiwch foddion milfeddygol at eu diben swyddogol yn unig, neu yn unol â chyfarwyddiadau’r milfeddyg
  • gofalwch eich bod yn cofnodi pob gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys y sylweddau sy’n cael eu defnyddio gan eich milfeddyg
  • cadwch eich llyfr cofnodion milfeddygol yn gyfoes
  • cadwch at y cyfnodau ‘cadw o’r gadwyn fwyd’ os oes sylweddau cyfyngedig wedi’u rhoi i anifeiliaid cynhyrchu bwyd yn unol â’r eithriadau a ganiateir

Archwiliadau maes

  • i archwilio’r llyfr a’r storfa feddyginiaethau. Chwiliwch yn benodol am unrhyw gofnod o’r triniaethau therapiwtig uchod a bod y cyfnodau cadw o’r gadwyn fwyd wedi’u cadw
  • i archwilio cyflwr y gwartheg, a’i gymharu â nodweddion y brid
  • i ofalu nad oes cynhyrchion sydd heb ganiatâd wedi’u defnyddio

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar y fferm) a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (mewn lladd-dai) yn cynnal profion am olion sylweddau gwaharddedig ar ran y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol o dan y Cynllun Gwyliadwriaeth Cenedlaethol. Hysbysir Llywodraeth y Cynulliad am bob sampl positif neu gadarnhad bod sylweddau gwaharddedig wedi’u defnyddio.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol 

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2024).