Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae nodweddion y tirlun a Henebion yn rhannau pwysig o amgylchedd y wlad. Yn ogystal â rhoi cysgod i stoc, lleoedd nythu i adar ac amrywiaeth o gynefinoedd i fyd natur, maent o werth hanesyddol a diwylliannol.

Maen nhw’n nodweddion pwysig yn y tirlun, ac mae’r ffiniau hynaf yn perthyn i batrymau amgáu hen sydd o werth archeolegol a hanesyddol. Dylai ffiniau diogel hefyd ei gwneud hi’n haws rheoli patrymau pori a symud da byw.

Mae Henebion Rhestredig yn cael eu diogelu o dan GAEC 7 ac o dan Ddeddf Henebion a Safleoedd Archeolegol 1979 sy’n ei gwneud yn drosedd difrodi neu amharu ar Heneb Restredig, gan gynnwys aflonyddu’r tir.

Diffiniadau

  • Mae nodweddion y tirlun yn cynnwys perthi (gwrychoedd) waliau cerrig, ffensys llechi, cloddiau cerrig, cloddiau pridd, pyllau dŵr, ffosydd, ymylon caeau, Glaswelltir Parhaol Amgylcheddol-Sensitif a henebion. Mae rhai’n cael eu defnyddio fel ffiniau caeau traddodiadol, ond nid.
  • Mae ‘perthi (gwrychoedd)’yn cynnwys pob perth hyd at 10 metr o led.
  • Mae ‘waliau cerrig’yn golygu waliau cerrig traddodiadol ac yn cynnwys cloddiau ag iddynt ddwy wyneb o gerrig, fel ‘Walydd Penclawdd’ neu ‘Berthi Sir Benfro’.
  • Mae ‘clawdd cerrig’ yn golygu clawdd pridd gydag un ochr iddo wedi’i adeiladu o gerrig.
  • Mae‘pwll dŵr’ yn golygu pwll naturiol neu un sydd wedi’i greu o dan gynllun Datblygu Gwledig, hyd at 0.1 hectar o faint.
  • Glaswelltir Parhaol Amgylcheddol-Sensitif yw glaswelltir sydd wedi’i leoli o fewn SoDdGA.

Y prif ofynion

Henebion Rhestredig

  • Peidiwch â difrodi na difetha Heneb Restredig.
  • Peidiwch â difrodi Heneb Restredig trwy gynnal gweithgareddau sy’n achosi neu’n caniatáu erydiad pridd neu sy’n aflonyddu’r tir ar heneb restredig e.e:
    1. gorbori;
    2. gadael i lwyni a thyfiant goresgynnol dyfu drosti;
    3. sathru a stablad y pridd;
    4. rhigoli’r pridd gan gerbyd, yn enwedig ar lethrau serth neu ar dir gwlyb;
    5. porthi atodol;
    6. trin y tir yn rhy agos at ffin yr Heneb Restredig;
    7. storio offer, deunydd a sbwriel.
  • Peidiwch â gwneud gwaith ar Heneb Restredig e.e. aredig, ffensio, draenio, gwella traciau ac ati heb ganiatâd ffurfiol Cadw.
  • Cadwch at holl amodau unrhyw ganiatâd a roddir.

Nodweddion Eraill y Tirlun

  • Cadwch ffiniau traddodiadol fel waliau cerrig, cloddiau cerrig, perthi (gwrychoedd), cloddiau a ffensys llechi. Rhaid peidio â’u dymchwel na’u difetha ar dir sydd o dan y safonau Trawsgydymffurfio heb ganiatâd cynllunio neu ddatblygu ysgrifenedig yr awdurdod perthnasol.
  • Cewch ymestyn bwlch cae ar berth, wal, clawdd neu ffens lechi i hyd at 10 metr o led er mwyn i beiriannau neu anifeiliaid allu mynd trwyddo.
  • Cadw pob pwll ar y daliad a pheidio â llenwi neu draenio rhan o bwll.
  • Cadwch yr holl byllau sydd ar eich daliad. Rhaid cadw pob ffos (gan gynnwys ffosydd sych) ar y daliad, oni bai’ch bod wedi cael caniatâd (yr Awdurdod Lleol perthnasol) i’w chwalu.
  • Peidiwch â thrin tir (e.e. aredig, rotofatio, troi â disgiau neu bigau) o fewn 1 metr i berth, clawdd neu ddŵr wyneb, waeth beth yw maint y cae.
  • Os bydd angen cwympo mwy na 5 metr ciwbig o goed bob chwarter calendr arnoch (cyn belled nad ydych yn gwerthu mwy na 2 fetr ciwbig), bydd yn rhaid ichi ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru am Drwydded Torri Coed. Ni chewch gwympo coed o gwbl rhwng 1 Mawrth a 31 Awst, hyd yn oed â thrwydded.
  • Ni chewch dorri, tocio na chwympo coeden sy’n cael ei diogelu gan Orchymyn Amddiffyn Coed (gan Awdurdod Lleol) heb ganiatâd eich Awdurdod Lleol.
  • Ni chewch dorri na thocio coeden yn ystod tymor nythu a magu cywion adar, 1 Mawrth tan 31 Awst, oni bai:
    • bod y berth neu’r goeden yn ymestyn dros briffordd, heol, trac neu lwybr y mae’r cyhoedd yn mynd ar ei hyd a bod angen cynnal y gwaith gan fod y tyfiant sy’n ymestyn:
      • yn rhwystro cerbydau a cherddwyr;
      • yn rhwystro gyrwyr rhag gweld neu’n amharu ar oleuni lamp cyhoeddus; neu
      • yn beryglus i bobl sy’n marchogaeth ceffylau.
  • Bod angen torri neu docio’r berth neu goeden am ei bod wedi marw, am fod haint arni, am ei bod wedi cael niwed neu am fod ei gwreiddiau’n anniogel, a bod perygl iddi felly gwympo i’r briffordd, yr heol neu’r llwybr.
  • Bod angen i’r cwmni sy’n gyfrifol am gynnal llinell drydan neu ffôn uwchben docio coeden neu berth am resymau diogelwch.
  • Ar dir âr, lle bo’n arferol plannu cnwd âr y gaeaf cyn 31 Awst, cewch dorri’r berth neu’r goeden berthnasol o 1 Awst ymlaen cyn belled nad ydych yn tarfu ar adar ar eu nyth. Cyn torri’r berth, rhaid chwilio’r berth yn ofalus i sicrhau nad oes adar yn nythu neu’n magu ynddi.
  • Bod hysbysiad gorfodi wedi’i roi gan Awdurdod Lleol o dan Adran 154 o Ddeddf Briffyrdd 1980 er mwyn sicrhau nad yw cerbydau na cherddwyr yn cael eu rhwystro na’u peryglu, a bod angen felly tocio, torri neu blygu’r berth neu ganghennau’r coed yn y mannau a ddisgrifir.
  • Cewch adfer perth (gwrych) e.e. plygu neu fondocio, ym mis Mawrth cyn belled nad ydych yn ymwybodol yn tarfu ar adar sy’n nythu.
  • Bydd yr eithriadau hyn yn cael eu caniatáu cyn belled â bod ffermwyr yn ysgwyddo’u dyletswyddau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i ddiogelu adar gwyllt (SMR2). Dylech gadw tystiolaeth e.e. ffotograffau a/neu lythyrau gan yr awdurdodau cymwys perthnasol sy’n dangos yn glir pam ei bod yn bwysig torri neu docio perthi a choed rhwng 1 Mawrth a 31 Awst. Dylech ei dangos i archwilwyr sy’n gofyn amdani.
  • Caniateir adfer perthi h.y. plygu neu fondocio hyd at 30 Ebrill os yw hynny’n cael ei wneud yn benodol ar gyfer cystadleuaeth a/neu sesiwn hyfforddi a chyn belled â’ch bod yn cael caniatâd Llywodraeth Cymru cyn y digwyddiad. Rhaid i’r digwyddiad gydymffurfio hefyd â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
  • Ni ddylech drosi, aredig nac ail-hadu Glaswelltir Parhaol Amgylcheddol-Sensitif mewn ardaloedd sydd wedi eu dynodi fel SoDdGA, os nad ydych wedi cael caniatád gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Archwiliadau maes

  • I ofalu bod holl nodweddion y tirlun yn cael eu cadw yn unol â’r mapiau a’r lluniau o’r awyr.
  • I ofalu nad oes perthi na choed yn cael eu torri na’u tocio yn ystod y cyfnod gwaharddedig, heb resymau iechyd a diogelwch neu o dan yr eithriadau a restrir.
  • I ofalu nad oes perthi’n cael eu hadfer rhwng 1 Ebrill a 31 Awst.
  • I sicrhau nad yw Henebion Rhestredig wedi cael eu niweidio.
  • I weld y caniatâd ysgrifenedig sydd wedi’i roi gan yr awdurdod priodol ar gyfer dymchwel wal gerrig, clawdd cerrig, clawdd pridd, ffens lechi neu berth.
  • I weld y dystiolaeth ffotograffig o broblemau iechyd a diogelwch sy’n caniatáu torri neu docio perthi neu goed yn y cyfnod gwaharddedig.

Arfer da

  • Cynhaliwch raglen flynyddol i gynnal a chadw waliau cerrig.
  • Plannwch lwyni mewn perthi bylchog ac ystyriwch blygu perth aeddfed.
  • Gosodwch ffensys i amddiffyn ffiniau rhag eu difrodi gan anifeiliaid fferm.
  • Defnyddiwch ddulliau sensitif i reoli nodweddion y tirlun i’w helpu i oroesi i’r dyfodol (fel tocio dim ond unwaith bob dwy flynedd).
  • Nodwch leoliad pob un o’r nodweddion hanesyddol ar eich fferm (mae gan eich Ymddiriedolaeth Archeolegol leol gofnod cyfoes o bob safle a nowedd archeolegol hysbys).
  • Monitrwch gyflwr yr holl nodweddion hanesyddol i weld a oes arwyddion o aflonyddu arnyn nhw oherwydd erydu, gorbori, bwydo atodol ac ati a chymryd camau i’w hunioni a rhoi amser i’r tir ymadfer.
  • Peidiwch ag aredig na thrin y pridd yn y llain 1 metr o led o gwmpas ymyl cae na’i reoli fel rhan o’r ffin h.y. trwy docio, pori, torri.
  • Gwiriwch gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gadarnhau os yw unrhyw ran o’ch tir wedi ei ddynodi fel Glaswelltir Parhaol Amgylcheddol-Sensitif.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2022) o fewn y pecyn hwn.