Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Ar 1 Ebrill 2013, cafodd Budd-dal y Dreth Gyngor ei ddisodli gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yng Nghymru a chafodd aelwydydd cymwys eu trosglwyddo'n awtomatig i'r cynllun newydd. Roedd Rheoliadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor wedi'u seilio'n agos ar reolau blaenorol Budd-dal y Dreth Gyngor. Roedd hyn yn sicrhau bod aelwydydd yn cadw’u hawl i gael cymorth i fodloni eu hatebolrwydd i dalu’r dreth gyngor. Rydym wedi diwygio'r rheoliadau gwreiddiol bob blwyddyn er mwyn cynnal yr hawliau.

Darparwyd £244 miliwn i’r awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013 i 2014 i'w galluogi i roi’r hawl llawn i gymorth i bob aelwyd oedd yn gymwys. Rydym wedi cynnal y trefniadau cyllido hyn bob blwyddyn ers hynny.

Mae'r Adroddiad Blynyddol yn rhoi diweddariad ar weithredu’r Cynllun yng Nghymru o fis Ebrill 2021 hyd at fis Mawrth 2022. Mae hyn yn helpu i sicrhau tryloywder mewn maes lle mae cyllid sylweddol yn parhau i gael ei ddyrannu.

Y prif ffigurau

  • Roedd 268,020 o aelwydydd yng Nghymru yn cael gostyngiad yn eu treth gyngor ym mis Mawrth 2022, o'i gymharu â 282,227 ym mis Mawrth 2021, sef 14,207 (5.0%) yn llai o achosion.
  • Amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth y gostyngiadau a ddarparwyd drwy'r Cynllun yng Nghymru yn 2021 i 2022 yn £287.6 miliwn, o'i gymharu â £292.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol flaenorol, sef £4.9 miliwn (1.7%) yn llai.
  • Cafodd 103,987 o aelwydydd pensiynwyr yng Nghymru ostyngiad ym mis Mawrth 2022, o'i gymharu â 106,854 ym mis Mawrth 2021, sy'n golygu bod 2,867 o achosion (2.7%) yn llai o ran pensiynwyr
  • Cafodd 164,033 o aelwydydd oedran gweithio yng Nghymru ostyngiad ym mis Mawrth 2022, o'i gymharu â 175,373 ym mis Mawrth 2021, sef 11,340 yn llai o achosion (6.5%).
  • O'r 268,020 o aelwydydd yng Nghymru oedd yn cael gostyngiad, ni thalodd 213,959 (79.8%) unrhyw dreth gyngor o gwbl.
  • Ym mis Mawrth 2022, roedd 47% o aelwydydd oedd yn cael gostyngiad yn achosion wedi’u pasbortio, tra bod 19.8% yn achosion safonol heb eu pasbortio. Roedd 33.2% o’r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad y dreth gyngor yn cael Credyd Cynhwysol
  • Y math mwyaf cyffredin o achos wedi’i basbortio oedd Credyd Pensiwn, oedd yn cyfrif am 22.4% o holl achosion gostyngiadau’r dreth gyngor.
  • Roedd 93.7% o’r aelwydydd oedd yn cael gostyngiad yn byw mewn eiddo ym Mandiau A i C ym mis Mawrth 2022.
  • Derbyniodd Tribiwnlys Prisio Cymru 36 o apeliadau newydd mewn perthynas â’r Cynllun o fis Ebrill 2021 hyd at fis Mawrth 2022, o'i gymharu â 28 yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Rhagor o wybodaeth

Dylid cyfeirio ymholiadau am yr adroddiad blynyddol llawn at:

Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: PolisiYDrethGyngor@llyw.cymru