Neidio i'r prif gynnwy

Trwyddedau a gyhoeddwyd yn 2021 i ddefnyddio trap cawell i ddal moch daear, marcio moch daear a lladd/cymryd moch daear i atal lledaeniad afiechyd

Fel rhan o'r Rhaglen, sydd wedi’i gryfhau, i Ddileu TB, rhoddir trwyddedau i farcio, maglu a chymryd moch daear i atal lledaeniad clefyd ar ffermydd sydd â buchesi ag achosion TB cronig. Dim ond moch daear a ddalwyd sydd wedi'u profi yn bositif am TB sydd yn cael eu lladd yn ddi-boen.

Rhoddwyd trwyddedau i bump daliad fel rhan o'r rhaglen. Roedd y pum taliad mewn ardaloedd sydd â risg uchel mewn perthynas â TB, ac yn cwmpasu cyfanswm arwynebedd tir o 1,241 hectar.
Roedd y cyfnodau trwyddedu ar gyfer y trwyddedau a gyhoeddwyd fel a ganlyn:

  1. roedd y drwydded gyntaf rhwng 3 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021
  2. roedd yr ail drwydded rhwng 17 Mai 2021 a 30 Medi 2021
  3. roedd y drydedd drwydded rhwng 24 Mai 2021 a 30 Medi 2021
  4. roedd y pedwaredd drwydded rhwng 7 Mehefin 2021 a 31 Rhagfyr 2021
  5. roedd y pumed drwydded rhwng 28 Mehefin 2021 a 31 Rhagfyr 2021