Neidio i'r prif gynnwy

WelTAG yw ein canllawiau ar gynllunio ac arfarnu rhaglenni, polisïau, cynlluniau a phrosiectau trafnidiaeth yng Nghymru. Dim ond rhaglenni a phrosiectau sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyllido a bwriedir i WelTAG helpu i ddatblygu rhaglenni a phrosiectau sy'n mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn o'r cychwyn cyntaf. Bydd hyn yn osgoi gwastraffu amser ac arian yn ddiweddarach.

Dylid defnyddio WelTAG ar lefel strategol, er mwyn asesu ymyriadau trafnidiaeth rhanbarthol a mwy neu grwpiau o ymyriadau teithio cynaliadwy, yn ogystal ag ar lefel prosiectau unigol.

Strategaeth drafnidiaeth Cymru

Nodir ein blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yn strategaeth drafnidiaeth Cymru.

Mae'r strategaeth hon yn pennu gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon. Mae pedwar uchelgais hirdymor, yn dda i bobl a chymunedau, yn dda i'r amgylchedd, yn dda i'r economi a lleoedd ac yn dda i ddiwylliant a'r Gymraeg. 

Ategir yr uchelgeisiau hyn gan dargedau heriol, gan gynnwys targed i gynyddu cyfran y teithiau a wneir gan ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy. Yn dilyn cyhoeddi Cymru Sero Net, mae'r targed hwn wedi'i bennu ar 45% erbyn 2040. Mae trafnidiaeth yn allyrru llawer o nwyon tŷ gwydr. Mae angen inni newid y ffordd rydym yn teithio er mwyn mynd i'r afael â hynny ac mae hynny'n golygu gwneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, mwy o gerdded a beicio a llai o allyriadau o gerbydau.

Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn pennu tair blaenoriaeth er mwyn helpu i gyflawni'r uchelgeisiau hyn. Y flaenoriaeth gyntaf yw lleihau'r angen i ddefnyddio ceir bob dydd drwy ystyried ble rydym yn lleoli gwasanaethau a thai newydd. Yr ail flaenoriaeth yw buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth gynaliadwy, gan ddechrau â chynnal a chadw seilwaith presennol a'i uwchraddio. Lle mae angen seilwaith newydd arnom, byddwn yn defnyddio'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy i roi blaenoriaeth i feicio a cherdded, trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel iawn dros ddulliau eraill o deithio ar ffyrdd. Y drydedd flaenoriaeth yw newid ymddygiad.  Nid oes diben buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith cynaliadwy oni fyddwn hefyd yn annog mwy o bobl i'w defnyddio ac yn sicrhau y gallant wneud hynny. Felly, mae'n rhaid i bob rhaglen a phrosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â newid ymddygiad. Mae angen inni ddeall pam nad yw pobl yn defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy, nodi'r rhwystrau i'w goresgyn a'r cymhellion i annog pobl i wneud hynny, er mwyn nodi atebion ac ymyriadau.

Gwerth am arian

Mae WelTAG 2022 yn pennu pum maen prawf y byddwn yn eu defnyddio i benderfynu a ddylem ystyried cefnogi rhaglen neu brosiect,  sef:

  1. Cydweddiad strategol: a yw'r rhaglen neu’r prosiect yn cyweddu â'r blaenoriaethau yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru?
  2. Llesiant: a yw'r rhaglen neu’r prosiect yn sicrhau manteision llesiant a nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, gan gynnwys targedau ar gyfer newid dulliau teithio?
  3. Fforddiadwyedd: a yw'r rhaglen neu’r prosiect yn fforddiadwy o ran costau byrdymor a hirdymor?
  4. Cyflawnadwyedd: a ellir cyflawni'r rhaglen neu’r prosiect yn effeithiol ac yn effeithlon?
  5. Rheoli: a gaiff unrhyw risgiau eu rheoli'n briodol?

Oni fydd prosiect, rhaglen neu bolisi yn bodloni'r ddau faen prawf cyntaf, ni chaiff ei ystyried i'w ddatblygu ymhellach nac ar gyfer cyllid na chymorth. 

Achos busnes WelTAG

Rhaid i brosiectau, polisïau a rhaglenni gael eu hategu gan achos busnes sy'n dangos sut y byddant yn sicrhau gwerth am arian yn erbyn y meini prawf hyn.  Rhaid i'r pum adran ddangos sut y bydd y prosiect neu’r rhaglen yn ymdrin â'r pum maen prawf – cydweddiad strategol, llesiant, fforddiadwyedd, cyflawnadwyedd a rheoli.  Er y dylai'r achos busnes ei hun fod yn grynodeb lefel uchel byr, bydd angen iddo gael ei ategu gan wybodaeth fanylach gan gynnwys manylion y prosiectau, costau, arfarniad llesiant integredig a gwaith modelu pellach mewn perthynas â manteision ac effeithiau yn y dyfodol (gweler isod).

Camau WelTAG

Mae'r gwaith o ddatblygu rhaglen a phrosiect yn dechrau drwy gyflwyno'r achos cychwynnol dros newid, yna dewis opsiynau, datblygu'r achos busnes, cyflawni'r rhaglen neu’r prosiect a'i (h)adolygu neu ei (g)werthuso wedyn. 

Rhaid i bob rhaglen a phrosiect ddechrau drwy nodi'r achos dros newid, pam mae angen gwneud rhywbeth a beth yw'r amcanion. Nid oes unrhyw ddiben datblygu rhaglen neu brosiect ymhellach oni nodir hyn yn glir.

Wedyn, bydd rhaglenni a phrosiectau cymhleth yn gofyn am waith manylach o gymharu â phrosiectau llai o faint, symlach ac, felly, mae'r fersiwn newydd o WelTAG, sef WelTAG 2022, yn cynnwys mwy o ganllawiau ar sut i fabwysiadu dull gweithredu cymesur.

Y cyfan y mae angen i'r rhan fwyaf o brosiectau yng Nghymru ei wneud yw paratoi achos busnes, cyn cyflawni'r prosiect a'i adolygu wedyn (WelTAG Byr). Efallai y bydd prosiectau cymhleth mawr yn gofyn am arfarniad manylach o opsiynau a gwaith ychwanegol ar fodelu costau a manteision.

Arfarniad llesiant integredig

Rhaid i bob rhaglen a phrosiect ategu ei (h)achos busnes ag arfarniad llesiant integredig.  Mae hyn yn sicrhau bod ystyriaethau o ran llesiant yn cael eu cynnwys yng nghynllun rhaglen neu brosiect o'r cychwyn cyntaf. Mae hefyd yn ein helpu i asesu gwerth am arian.

Dylai'r arfarniad ateb pedwar cwestiwn syml, sef a yw'r rhaglen neu’r prosiect yn dda i bobl a chymunedau? A yw'n dda i'r amgylchedd? A yw'n dda i'r economi a lleoedd? Ac a yw'n dda i ddiwylliant a'r Gymraeg?  Mae'r rhain yn seiliedig ar y pedwar uchelgais yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dylai'r atebion i'r cwestiynau hyn gael eu hategu gan dystiolaeth ansoddol a meintiol gadarn, gan gynnwys sut y bydd y rhaglen neu’r prosiect yn cyfrannu at dargedau ar gyfer sicrhau newid mewn dulliau teithio. Mae WelTAG 2022 yn cynnwys fframwaith o fesurau er mwyn helpu i wneud hyn, sy'n ymgorffori gwybodaeth allweddol o asesiadau effaith statudol a rheoleiddiol.

Ymgysylltu â phobl

Mae ymgysylltu â phobl cyn, wrth ac ar ôl datblygu rhaglen neu brosiect trafnidiaeth yn sicrhau y bydd yn diwallu anghenion pobl. Mae hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, er enghraifft o ran gwneud defnydd gwell o drafnidiaeth gynaliadwy. Mae WelTAG 2022 yn esbonio sut i ymgysylltu â phobl fel rhan o'r broses cynllunio ac arfarnu.

Ffyrdd, rheilffyrdd a dulliau teithio eraill

Rhaid i unrhyw brosiect, rhaglen neu bolisi y mae angen cymorth Llywodraeth Cymru arno (arni) ddefnyddio WelTAG.  Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy'n cynnwys unrhyw ddull teithio, megis teithio llesol, bysiau, rheilffyrdd, cludo nwyddau, trafnidiaeth forol, y trydydd sector, tacsis a cherbydau gwasanaeth cyhoeddus a hedfanaeth.

Er ei bod yn bwysig mabwysiadu dull gweithredu integredig, er enghraifft drwy gynnwys ystyriaethau o ran teithio llesol mewn rhaglen neu brosiect ffyrdd, neu raglen neu brosiect trafnidiaeth gyhoeddus, mae gan rai dulliau teithio feini prawf penodol hefyd. 

Er enghraifft, mae'r Panel Adolygu Ffyrdd presennol yn datblygu meini prawf ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.  Ni allwn gymryd yn ganiataol y bydd buddsoddi mewn ffyrdd newydd yn datrys problemau megis tagfeydd na sicrhau manteision cymdeithasol.  Maent hefyd yn debygol o gynyddu allyriadau carbon.  Bydd angen i'r meini prawf newydd ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd gael eu hystyried fel rhan o'r pum maen prawf gwerth am arian.

Rhestrau gwirio ansawdd

Mae WelTAG 2022 yn cynnwys cyfres o restrau gwirio er mwyn gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn adroddiadau WelTAG yn berthnasol ac yn addas at y diben. 

Y peth pwysicaf yw esbonio sut y bydd y rhaglen neu’r prosiect yn ymdrin â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a sut mae llesiant wedi'i ystyried yn y ffordd y caiff ei (d)dylunio a'i ch/gyflawni. Dylai adroddiadau WelTAG fod yn fyr ac yn hawdd i'w darllen ond dylent gael eu hategu gan wybodaeth fanylach yn ôl yr angen. Dylent gael eu teilwra i ddiwallu anghenion y rhaglen neu’r prosiect, bodloni gofynion WelTAG ac osgoi gwybodaeth safonedig ac ailadroddus.  Ni all honiadau a ailadroddir gymryd lle tystiolaeth dda.

WelTAG a TAG

Rhaid i raglenni neu brosiectau y mae angen cyllid gan Lywodraeth y DU arnynt hefyd ddilyn canllawiau Llywodraeth y DU ar asesu trafnidiaeth. Fodd bynnag, er mwyn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, rhaid iddynt esbonio sut maent yn cydweddu'n strategol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn ymdrin â llesiant yng Nghymru.

Canllawiau technegol

Rydym yn datblygu canllawiau a thempledi manylach er mwyn dangos agweddau allweddol ar WelTAG 2022.  Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, friff enghreifftiol i gomisiynu astudiaethau gan ymgynghorwyr os bydd angen, canllawiau ar asesu llesiant a chanllawiau manylach ar ddulliau arfarnu technegol.