Neidio i'r prif gynnwy

Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Gorffennaf 2021 i Fehefin 2022.

O fis Ionawr 2022, mae'r ffordd y mae CThEM yn casglu ystadegau masnach mewn nwyddau wedi newid sy'n effeithio ar ddata fewnforion o'r UE i Brydain Fawr.

Mae hyn yn arwain at doriad yn y gyfres amser, felly dylai defnyddwyr gymryd gofal wrth gymharu â chwarteri a blynyddoedd cyn 2022 (gweler Nodiadau). Ceir esboniad pellach o'r newidiadau ar wefan Cyllid a Thollau EM (UK Trade Info).

Mae'r data ar gyfer 2021 a 2022 yn amcangyfrifon dros dro a chânt eu diwygio fel mater o drefn dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni sydd wedi'u dychwelyd yn hwyr.

Y flwyddyn y gorffen Mehefin 2022

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £18.4 biliwn, i fyny £4.9 biliwn (36.7%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021.
  • O gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2019 (cyn y pandemig), mae allforion nwyddau o Gymru wedi cynyddu gan £0.7 biliwn (3.7%) sy'n nodi bod allforion nwyddau wedi gwella y tu hwnt i'r lefelau cyn y pandemig.
  • Gwelwyd cynnydd o £2.5 biliwn (31.1%)  mewn allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a chynnydd o £2.4 biliwn (45.2%) mewn allforion i wledydd y tu allan i'r UE o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd allforion i'r UE yn cyfrif am 57.6% o allforion Cymru o'i gymharu â 51.5% ar gyfer y DU.
  • Mae allforion o Gymru yn parhau i gael eu dominyddu gan 'Beiriannau ac Offer Trafnidiaeth' a oedd yn cynnwys £6.9 biliwn (37.5%) o allforion. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd mawr yn allforion Tanwyddau Mwynol, cynnydd o £2.6bn (211%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfrifodd allforion Tanwyddau Mwynol am 20.9% holl allforion o Gymru.
  • ‘Peiriannau cynhyrchu pŵer ac offer' oedd y cynnyrch mwyaf gwerthfawr yn y categori 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' gyda £2.6bn (13.9%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd o £0.9bn (51.6%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • O fewn y categori Tanwyddau Mwynol, 'Petroliwm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig’ oedd y cynnyrch gyda’r gwerth uchaf - £3.7bn (20.3%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd o £2.6 biliwn (211.1%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £20.6 biliwn, i fyny £6.2 biliwn (43.2%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021.
  • O gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2019 (cyn y pandemig), mae mewnforion nwyddau i Gymru wedi cynyddu £1.8 biliwn (9.7%) sy'n dangos bod mewnforion nwyddau wedi gwella ers lefelau cyn y pandemig.
  • Gwelwyd cynnydd o £0.8 biliwn (13.8%) mewnforion o wledydd yr UE a chynnydd o £5.4 biliwn (65.0%) mewnforion o wledydd y tu allan i'r UE o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd mewnforion o'r UE yn cyfrif am 33.9% o fewnforion o Gymru o'i gymharu â 48.2% ar gyfer y DU.
  • 'Tanwyddau Mwynol' bellach yw'r categori mewnforio mwyaf gyda 33.2% o gyfanswm y mewnforion. Mae wedi goddiweddyd 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' sef yr ail gategori mwyaf erbyn hyn gyda 29.9% o gyfanswm y mewnforion.
  • Yn y categori 'Tanwyddau Mwynol', 'Petroliwm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig’ oedd y cynnyrch gwerth uchaf gyda £5.9bn (28.5%) o fewnforion o Gymru. Mae hwn yn gynnydd o £3.7 biliwn (168.7%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Peiriannau cynhyrchu pŵer ac offer' oedd y cynnyrch gwerth mwyaf yn y categori 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' gyda £2.3bn (11.4%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd o £0.8bn (53.2%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEM (UK Trade Info) ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio gan CThEM fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan 'UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Mae'r ystadegau arbrofol diweddaraf (ar gyfer 2020) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu roedd allforion gwasanaethau Cymru yn cyfateb â 28% o gyfanswm holl allforion Cymru yn 2020, tra oedd mewnforion gwasanaethau yn cyfateb i ryw 19% o gyfanswm ein fewnforion.

Mae canlyniadau allweddol yn cael eu cyhoeddi yn chwarterol.

Os hoffech roi unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, anfonwch e-bost at ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cerys Ponting

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.