Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS  
  • Rebecca Evans AS  
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Ymddiheuriadau

  • Hannah Blythyn MS
  • Lee Waters MS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol   
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet   
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol  
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig   
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig   
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig    
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig   
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig   
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig    
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig       
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig    
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig   
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig     
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig    
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig   
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet 
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg 
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol 
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd 
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad 
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Nick Jones, Uned y Rhaglen Ddeddfwriaethol a’i Llywodraethiant
  • Jon Oates, Pennaeth Newid Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni
  • Helen Carey, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y 13 Mehefin.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi y byddai pleidleisio’n digwydd drwy gydol Cyfnod 3 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) brynhawn Mawrth, ac y byddai’n digwydd tua 6:40pm ddydd Mercher.  

2.2 Nid oedd unrhyw gwestiynau amserol wedi cael eu cyflwyno hyd yn hyn.

Eitem 3: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn disgrifio iteriad nesaf y rhaglen ddeddfwriaethol yr oedd y Llywodraeth yn bwriadu ei gweithredu. 

3.2 Cytunodd y Cabinet ar y papur.

Eitem 4: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol Rhaglen Lywodraethu 2021-2022, gan gyflawni’r ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i adolygu’r amcanion llesiant, ac adrodd ar y cynnydd a wnaed.

4.2 Dyma adroddiad blynyddol cyntaf chweched tymor y Senedd, ac roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb naratif o’r cynnydd a wnaed ers etholiad mis Mai 2021, ynghyd ag atodiad a oedd yn rhoi diweddariad am y cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o’r 114 o ymrwymiadau a gyd-berchnogir gan y Cabinet, ac a oedd yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at gyflawni’r amcanion llesiant.   

4.3 Roedd y Rhaglen Lywodraethu wedi ei strwythuro o gwmpas deg amcan llesiant, gyda set o ymrwymiadau neu ‘gamau’ wedi eu nodi o dan bob amcan. Roedd y camau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at bob amcan llesiant unigol.  

4.4 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Cyflawni Cymru Sero Net

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn disgrifio’r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni Cymru Sero Net a’r camau gweithredu a gymerir i wireddu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru.

5.2 Roedd y cynllun Sero Net yn dangos sut y byddai Cyllideb Garbon 2 yn cael ei chyflawni gan sicrhau gostyngiad cyfartalog o 37% mewn allyriadau yn ystod y cyfnod 2021-25.

5.3 Roedd y rhain yn dargedau hynod heriol ar gyfer ail hanner y degawd, ond serch hynny y nod oedd rhagori arnynt, ac roedd yr uchelgais a fynegwyd yn y cynllun yn awgrymu gostyngiad allyriadau cyfartalog o 44% erbyn 2025.

5.4 Nodwyd bod llawer o dystiolaeth bod gweithio mewn modd cydgysylltiedig yn digwydd ar draws y Llywodraeth, yn benodol mewn perthynas â’r argyfyngau costau byw a thlodi tanwydd, a’u cyfraniadau polisi tuag at gyflawni Sero Net. Roedd yn allweddol sicrhau nad oedd y bobl dlotaf yn ein cymdeithas yn dioddef anfantais, a bod cysylltiadau cryf rhwng Sero Net a chyfiawnder cymdeithasol yn cael eu creu.

5.5 Dywedwyd bod gan bartneriaid mewn Llywodraeth Leol rôl gyflawni bwysig i’w chwarae, a’u bod yn cael y cyfle i gymryd rhan lawn yn yr agenda Sero Net.

5.6 Roedd yn glir y gellid sicrhau enillion lluosog drwy wariant y Llywodraeth ar bob lefel pe bai’r manteision yn cael eu hasesu’n gywir.

5.7 Nododd y Cabinet y papur.