Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

Agenda ar gyfer 13 Mehefin 2022

Time

Item

Papers

15:00

Croeso

Cofnodion a Chamau Gweithredu

Cofnodion 28 Mawrth 2022

15:10

Diweddariad gan Keith a chyflwyniad i’r Cadeirydd oedd newydd gael ei phenodi

 

15:20

Diweddariad Llywodraeth Cymru (LlC)

 

15:40

Trafodaeth ynghylch “Trosglwyddo” rhwng aelodau’r Bwrdd a’r Cadeirydd newydd

 

16:40

Diweddariad pob Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth (SPG)

 

16:50

Unrhyw fater arall

 

17:00

Diwedd

 

Yn bresennol

Aelodau’r Bwrdd:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent
  • Simon Stewart (SS): Deon Cyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
  • Dusty Kennedy (DK): Academi Model Adferiad o Drawma (TRM) 
  • Efa Gruffudd Jones (EGJ): Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Jo Sims (JS): Cyngor Sir Blaenau Gwent, Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • Hayley Jones (HJ): Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid
  • Hannah Wharf (HW): Dirprwy Gyfarwyddwr Cymorth i Ddysgwyr
  • Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid
  • Donna Lemin (DL): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
  • Dyfan Evans (DEv): Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid

Cofnodion a chamau gweithredu

Cytunwyd bod cofnodion 28 Mawrth 2022 yn gofnod cywir a gwir.

Diweddariad gan Keith Towler (KT)

Croesawodd KT bawb i'r cyfarfod cymysg cyntaf. Llongyfarchodd SL ar ei phenodiad fel Cadeirydd y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd. Dywedodd ei fod yn teimlo ei fod yn benodiad da a nododd fod ymateb y rhanddeiliaid a'r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Diolchodd SL i KT am ei negeseuon caredig, a dywedodd ei bod wedi bod yn broses drylwyr iawn. Mae wrth ei bodd ei bod wedi bod yn llwyddiannus ac yn croesawu cefnogaeth y Bwrdd presennol. Dywedodd hefyd ei bod yn falch fod y broses recriwtio wedi cynnwys rhai o aelodau'r Pwyllgor Pobl Ifanc. Diolchodd i KT, fel y cadeirydd oedd yn gorffen, a thynnodd sylw at ei ymrwymiad a'i arweiniad cadarn oedd wedi creu ffordd gadarnhaol o weithio gyda'r Bwrdd.

Nododd KT ymrwymiad y Gweinidog i’r gwaith hwn a’r adnoddau a ganfuwyd i gefnogi’r agenda hon. Sylwodd eu bod wedi cyflawni dull a arweinir gan y sector ac wedi datblygu mesur o fomentwm, a’i fod yn teimlo eu bod wedi gwneud gwahaniaeth wrth symud yr agenda hon yn ei blaen.

Diweddariad Llywodraeth Cymru

  • Nododd DEv fod cryfhau’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid wedi cael blaenoriaeth gan y Gweinidog. Mae swyddogion wedi cael trafodaethau mewnol gyda chydweithwyr deddfwriaethol i gael eglurder ar y dewisiadau sydd ar gael a sut orau i symud ymlaen â’r argymhelliad hwn.
  • Nododd DEv fod yr ymgynghoriad ynghylch gofynion cofrestru arfaethedig y Cyngor Gweithlu Addysg (CGA) ar gyfer gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid bellach wedi cau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n dadansoddi'r ymatebion a chyhoeddir dogfen ymateb i'r ymgynghoriad ym mis Gorffennaf. Rhoddir ystyriaeth bellach i faterion cysylltiedig megis ffioedd cofrestru a newidiadau deddfwriaethol mewn ymgynghoriad pellach yn ddiweddarach yn 2022. Tynnodd DEv sylw at y ffaith y bu lefel dda o ymateb i'r ymgynghoriad, yn cynnwys y sector gwirfoddol a'r sector a gynhelir.
  • O ran yr adolygiad cyllid, dywedodd HJ fod dau ddewis dan ystyriaeth: yn gyntaf trwy lwybr ‘traddodiadol’ a gomisiynwyd, a llwybr gwahanol yn gweithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch (SAU). Mae'r gwaith hwn wedi cael ei wthio ymlaen fel blaenoriaeth. Derbyniodd y tîm gynnig amlinellol gan y SAU i’w ystyried. Caiff hwn ei fwydo i mewn i’r cyngor a gyflwynir yn fuan i'r Gweinidog ar y ddau ddewis. Yn y naill achos neu'r llall caiff grŵp llywio ei sefydlu i gefnogi'r gwaith hwn ac mae ET eisoes wedi nodi ei bod yn dymuno cymryd rhan. Gwnaeth ET y sylw yr hoffai weld y fanyleb yn cael ei datblygu cyn gynted â phosibl ac y byddai'n awyddus i weld beth fyddai’n cael ei gynnwys fel rhan o hynny. Nododd ymhellach fod swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn awyddus i archwilio ymhellach gydag Archwilio Cymru pam nad oeddent yn teimlo y byddai’n briodol eu defnyddio hwy ar gyfer y gwaith hwn. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr angen i fod yn siŵr bod y gwaith hwn yn cael ei wneud yn drylwyr ac yn gadarn.
  • Cafwyd trafodaeth ynglŷn â beth allai ddigwydd yn awr a beth allai aros nes bod y Bwrdd newydd yn ei le i’w oruchwylio. Cytunwyd y dylai'r gwaith hwn barhau i allu llywio gwaith y Bwrdd newydd yn y dyfodol, yn enwedig yr adolygiad ariannu a deddfwriaeth.
  • Dywedodd DEv y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i wneud cynnydd pellach eleni ar argymhelliad y Bwrdd drwy ystyried dewisiadau i ehangu meysydd cydraddoldeb ac amrywiaeth a’r Gymraeg. Gallai hyn gynnwys ailystyried cyllid pellach ar gyfer grant Cefnogi Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol (SVYWO) a gweithio ar gynlluniau peilot y Gymraeg yn y dyfodol. Awgrymodd EGJ y byddai defnyddio’r dysgu o gynllun peilot y Gymraeg, a gweithio ar draws Cymru gyfan, yn fuddiol. Croesawai’r Bwrdd y cyfle i ddarparu cyllid tymor hwy ar gyfer gwaith ar y Gymraeg a gofynnodd am gael gweld yr adroddiadau terfynol ar gynlluniau peilot y Gymraeg a dysgu oddi wrthynt.

Cam gweithredu: DR i anfon yr adroddiadau terfynol ar y Gymraeg ymlaen.

  • Dywedodd DR, fel rhan o’r gwaith ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, y byddwn yn adeiladu ar y dull a ddefnyddiwyd gyda’r cyllid iechyd meddwl ychwanegol y llynedd i’w gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol weithio gyda’r sector gwirfoddol i gyflawni unrhyw brosiectau, ond y dylai hyn hefyd gynnwys amrywiaeth ehangach gan gynnwys hil, anabledd a chynhwysiant digidol. Cytunai KT y byddai'r ymagwedd hon yn fuddiol a’i bod yn eilio’r trafodaethau cynnar gafwyd gyda phobl ifanc.
  • Dywedodd DK fod ar y grŵp digidol eisiau sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan yn y gwaith o ddylunio gwasanaethau, ac y dylai hyn hefyd gynnwys ystyried y Gymraeg, digidol ac yn y blaen.
  • Cododd ET yr angen i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn rhan o'r cynllun gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ac Amrywiaeth, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gydlynol ar draws pob maes gwaith.
  • Rhoddodd DE ddiweddariad i'r Bwrdd ar recriwtio gweddill aelodau'r Bwrdd ar gyfer y Bwrdd Gweithredu. Nodwyd bod yr hysbyseb ar gyfer recriwtio i’r Bwrdd wedi mynd allan yr wythnos yn dechrau 6 Mehefin ac y bydd yn cau ar 4 Gorffennaf. Rhoddodd drosolwg o'r broses a gaiff ei dilyn, fydd yn cynnwys pobl ifanc, gan sicrhau amrywiaeth yn y panel ac yn y Bwrdd ei hun hefyd. Dywedodd y dylai'r Bwrdd llawn fod yn ei le erbyn mis Medi.
  • Cafwyd trafodaeth ynglŷn â rôl pobl ifanc ar y Bwrdd newydd a’r tâl i’r bobl ifanc hynny. Dywedodd SL hefyd fod cydlynwyr y pwyllgor pobl ifanc yn datblygu cynllun gwaith a gâi ei gyflwyno cyn bo hir.

Cam gweithredu: DE ac SL i drafod dulliau gyda Phwyllgor y Bobl Ifanc.

Cam gweithredu: SL i siarad â Catrin James ynghylch cynnydd cynllun Pwyllgor y Bobl Ifanc.

Trosglwyddo rhwng y Byrddau

Er mwyn bod o gymorth i baratoi ar gyfer y Bwrdd newydd, gofynnodd SL beth oedd y themâu a’r materion sylfaenol ar gyfer y Grwpiau Cyfranogiad Strategol (SPG) ar hyn o bryd ac a fyddai gwerth mewn cynnal cyfarfod ‘pob SPG’ rhwng hyn a sefydlu’r Bwrdd newydd. Roedd sylwadau gan aelodau’r Bwrdd fel a ganlyn:

  • Dywedodd KT fod y Grwpiau SPG yn dal i gyfarfod, ac eithrio'r SPG Hygyrch a Chynhwysol sydd bellach wedi dod i ben.
  • Dywedodd JS fod SPG Datblygu'r Gweithlu yn dal i gyfarfod a'i fod wedi paratoi papur byr ar gyfer y Bwrdd newydd, a gaiff ei gyflwyno pan fydd y grŵp wedi cytuno arno.
  • Dywedodd DK fod y grŵp Digidol yn awyddus iawn i barhau a chynllunio'r rhaglen newydd, a bod awydd gwirioneddol am gynhadledd i rannu arfer gorau. Roedd hefyd yn hapus i gynrychioli Cymru ar ERYICA (Asiantaeth Wybodaeth a Chyngor Ieuenctid Ewrop), ac roedd modd i'r sectorau gwirfoddol a statudol hefyd gymryd rhan.
  • Dywedodd EGJ y gallai'r grŵp Cymraeg ddod i ben ac y gallai’r aelodau eistedd ar grwpiau eraill i sicrhau bod materion yn ymwneud â'r Gymraeg yn cael eu prif ffrydio ac yn aros ar bob agenda. Roedd EGJ hefyd yn hapus i barhau i ymwneud â'r gwaith hwn hyd nes y byddai’r Bwrdd newydd yn ei le.

Cytunid bod y grwpiau SPG wedi ei gwneud yn bosibl gweithio’n effeithiol ar draws y sector i sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu ac yn helpu i lunio’r ffordd ymlaen. Mae’r dull wedi cael ei groesawu gan aelodau’r grwpiau SPG a’r Bwrdd hefyd.

Cafwyd trafodaeth ynghylch cyfarfod nesaf ‘pob SPG’ a chytunwyd y câi ei gynnal yn hwyrach nag yr awgrymwyd yn wreiddiol ac y byddai’n gyfle gwerthfawr i ystyried y camau nesaf yn ogystal â rhoi’r newyddion diweddaraf iddynt ar y cynnydd o ran recriwtio aelodau’r Bwrdd. Cytunwyd hefyd y byddai’n gyfle gwerthfawr i’r Gweinidog ymgysylltu â’r gwaith yn gynnar.

Awgrymodd SS newid enw o'r SPG i adlewyrchu'r ffordd newydd ymlaen; yn ei farn ef, roedd angen cael pwyslais ar gyflawni, ymdeimlad o ‘dorchi llewys’ a chydweithio. Awgrymwyd y gallai LlC gynnal arolwg i adeiladu ar yr adborth a dderbyniwyd yn y cyfarfod ‘pob SPG’ blaenorol ynghylch yr hyn sydd wedi gweithio a’r hyn nad yw wedi gweithio a’r hyn y mae rhanddeiliaid yn teimlo sydd angen ei roi yn ei le i helpu i greu model cynaliadwy ar gyfer y gwaith.

Cam gweithredu: LlC i ddatblygu arolwg ac anfon adborth o’r cyfarfod Pob SPG blaenorol at aelodau’r Bwrdd.

Awgrymodd SS pe câi grwpiau newydd eu sefydlu y byddai angen hyfforddiant ar gyfer aelodau newydd fyddai’n canolbwyntio ar y gwerthoedd a fu'n ganolog i waith y grwpiau SPG hyd yn hyn ynghyd â llinellau atebolrwydd er mwyn helpu i osgoi colli momentwm.

Unrhyw Fater Arall

I gloi, dymunodd KT bob lwc i SL gyda'r rôl newydd a diolchodd i aelodau'r Bwrdd am eu holl waith dros y bedair blynedd ddiwethaf i gyrraedd y pwynt hwn. Diolchodd y Bwrdd hefyd i’r swyddogion am eu cefnogaeth dros y bedair blynedd ddiwethaf.