Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae cwmni Wizz Air wedi cyhoeddi y bydd, o 19 Medi ymlaen, yn cwtogi ei amserlen hedfan ym Maes Awyr Caerdydd dros fisoedd y gaeaf oherwydd pwysau macro-economaidd cynyddol.

Er bod y newyddion yn siom i Faes Awyr Caerdydd, mae'r cwmni awyrennau wedi pwysleisio wrth Fwrdd y Maes Awyr mai newid dros dro yw hwn i'w wasanaethau o Faes Awyr Caerdydd, a lansiwyd ym mis Ebrill eleni, ar ôl 12 mis o oedi oherwydd y pandemig. Mae’r cwmni’n parhau'n ymrwymedig i ailddechrau ei amserlen haf o Faes Awyr Caerdydd o fis Ebrill 2023 ymlaen.

Er gwaethaf y penderfyniad masnachol anodd hwn, rwy'n croesawu'r newyddion y bydd Wizz Air yn parhau i gynnig gwasanaethau o Gaerdydd dros dymor y gaeaf i Milan a Bucharest, ac i gryfhau ei ymrwymiad i Gymru; mae tocynnau ar gyfer teithio o Faes Awyr Caerdydd yn ystod haf 2023 ar gael eisoes drwy wizzair.com.

Mae Wizz Air wedi dweud y bydd yn cynnig cyfle i'w staff gael eu hadleoli dros fisoedd y gaeaf er mwyn iddynt fedru dychwelyd yn gyflym i Gymru ym mis Ebrill 2023.

Penderfyniad masnachol rhwng y cwmni hedfan a bwrdd y Maes Awyr oedd y cytundeb i weithredu o Faes Awyr Caerdydd.

Dylai teithwyr a archebodd yn uniongyrchol drwy Wizz Air gysylltu â'r cwmni hedfan; dylai'r rheini a archebodd drwy asiant teithio gysylltu â'u hasiant teithio.

Er bod yr amseru’n anffodus, mae Bwrdd y Maes Awyr yn parhau'n bositif am ei adferiad ar ôl y pandemig gan fod cryn alw o hyd am deithio eleni. Bydd fy swyddogion yn parhau i gynnal deialog agos ac agored gyda Bwrdd y Maes Awyr ac er gwaethaf y cyhoeddiad hwn, rwy'n parhau'n bositif am adferiad y maes awyr ac am ei dwf yn y pen draw.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.