Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae gwybodaeth am Stoc Welyau Llety yng Nghymru yn allweddol i gael darlun cywir o gyfansoddiad un o'r rhannau pwysicaf o'r Economi Ymwelwyr yng Nghymru. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig at ddibenion cynllunio a buddsoddi, yn arbennig ar lefelau lleol. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol wrth gynllunio digwyddiadau mawr ac mae wedi cael ei defnyddio yn yr ymateb i bandemig COVID-19, er enghraifft wrth asesu'r cyflenwad o lety i weithwyr allweddol a phobl agored i niwed yn ystod cyfnodau'r cyfyngiadau symud.

Ers sawl blwyddyn mae arolygon Stoc Welyau Llety yn faes lle ceir cydweithrediad cadarnhaol rhwng Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Phartneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol. Mae'r arolygon wedi'u hariannu ar y cyd ac wedi'u cynnal yn unol â dull safonol (gan ddefnyddio holiaduron a diffiniadau safonol), gyda'r canlyniadau yn cael eu darparu gan Awdurdodau Lleol unigol i'w coladu'n ganolog gan Lywodraeth Cymru. 

Mae'r darlun o ran stoc welyau llety yn newid drwy'r amser wrth i leoliadau newydd agor neu gau, ehangu neu leihau, uwchraddio neu arallgyfeirio. Felly, dim ond y ’ciplun’ gorau sydd ar gael o'r sefyllfa ar adeg benodol y gall y cofnodion ei roi. Ar y cyfan, caiff cofnodion eu diweddaru'n barhaus gan yr Awdurdodau Lleol, gydag arolwg llawn yn cael ei gynnal bob ychydig flynyddoedd, Mae'r cyfanswm cyfansawdd cyfanredol hwn ar gyfer Cymru yn seiliedig ar y wybodaeth orau a oedd ar gael ym mis Mehefin 2022. Ar ryw ystyr mae cofnodion stoc welyau bob amser yn ‘waith sy'n mynd rhagddo’ ond, gyda phob iteriad, gwelir gwelliannau o ran cywirdeb a chysondeb.

Mae'r Adroddiad Interim hwn ar Stoc Welyau Llety yn diweddaru'r ffigurau a gyhoeddwyd yn 2013 ar gyfer 20 o'r 22 o Awdurdodau Lleol.  Mae'r ddau Awdurdod Lleol arall (Sir y Fflint a Wrecsam) yn bwriadu cynnal arolygon stoc welyau llawn a disgwylir i adroddiad wedi'i ddiweddaru'n llawn gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. 

Mae'r tablau yn Adran 3 o'r adroddiad hwn, sy'n ymwneud â lleoliadau llety, a gwelyau llety, yn crynhoi'r prif ffigurau sy'n seiliedig ar ddata a gasglwyd gan 20 o'r 22 o Awdurdodau Lleol rhwng 2017 a 2022. Ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam defnyddiwyd ffigurau 2013.

Methodoleg

Roedd pob Awdurdod Lleol yn gyfrifol am gasglu data ar ddarparwyr llety yn eu hardal gan ddefnyddio holiaduron a diffiniadau safonol a choladwyd y data hyn gan Lywodraeth Cymru i'w dadansoddi ymhellach.

Bwriedir i'r ymarfer casglu data roi darlun mor gyflawn â phosibl o'r cyflenwad o lety ymwelwyr yng Nghymru ac, felly, cysylltir â phob darparwr llety a gofynnir iddo gwblhau'r arolwg. Fodd bynnag, nid yw'n ymarferol bosibl nodi a chasglu data gan bob busnes ac, felly, y ffigurau yn yr adroddiad hwn sy'n rhoi'r ‘ciplun’ gorau sydd ar gael o'r cyflenwad o lety ar adeg benodol. Rhoddir y ffigurau a ddangosir yn yr adroddiad hwn yn ddidwyll yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Awdurdodau Lleol ond gall fod rhai anghysondebau o ran y ffordd y mae llety wedi'i gategoreiddio.

Mae'r ffigurau ar gyfer y stoc welyau yn rhoi uchafswm nifer y gwelyau sydd ar gael, er y gall rhai lleoliadau fod ar gau neu'n rhannol ar gau ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn sy'n golygu nad yw pob ystafell, uned na gwely a gyfrifwyd ar gael bob amser. Yn benodol, mae safleoedd carafannau a gwersylla yn debygol o fod yn gweithredu'n dymhorol ac o fod ar gau neu'n gweithredu gyda llai o welyau yn ystod y gaeaf.

Ni chynhwyswyd nifer yr ystafelloedd gwely yn y dadansoddiad ar gyfer yr adroddiad hwn am na chafodd ei gynnwys yn yr adroddiad stoc welyau a gyhoeddwyd yn 2013. Pan gaiff y data nas darparwyd eto gan yr Awdurdodau Lleol eraill eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn, caiff dadansoddiad o ystafelloedd gwely ei gynnwys.

Os bydd ymatebion i arolygon yn anghyflawn a bod Awdurdodau Lleol wedi methu â chysylltu â lleoliadau, gellir cynnwys amcangyfrifon o unedau, ystafelloedd gwely a gwelyau. Os mai dim ond nifer yr unedau/ystafelloedd neu nifer y gwelyau sy'n hysbys, gellir mewnbynnu'r gwerth coll gan ddefnyddio cymhareb ragnodedig, yn ôl y math o lety. Os na fydd nifer yr unedau/ystafelloedd na nifer y gwelyau yn hysbys, gellir mewnbynnu gwerth amcangyfrifedig yn seiliedig ar gyfartaleddau ar gyfer pob math o lety o ddata arolygon blaenorol, neu wybodaeth leol, os bydd yn awgrymu amcangyfrif mwy cywir. Ceir manylion llawn yn Adran A (MS Excel 26KB).

Gall cartrefi a osodir dros dro neu ystafelloedd preifat unigol mewn cartrefi preifat (h.y. eiddo a osodir ar rent am gyfnodau byr ar wefannau megis Airbnb) gael eu cyfrif yn anghyson yn y data hyn ar y stoc welyau oherwydd natur amrywiadwy'r cyflenwad.

Dylid nodi y gall fod gwahaniaethau yn y ffordd y mae llety amgen yn cael ei gategoreiddio rhwng Awdurdodau Lleol, a all fabwysiadu dulliau gweithredu gwahanol wrth ystyried a ddylid dosbarthu lleoliad yn ‘llety amgen’ neu'n ‘safle carafannau a gwersylla’. Dylai lleoliadau gael eu categoreiddio yn unol â'r canllawiau ac yn seiliedig ar y llety a'r cyfleusterau sydd ar gael ond, am fod y sector yn datblygu drwy'r amser, gall fod rhywfaint o wrthrychedd yn perthyn i'r broses hon.

Defnyddir ymchwil ddesg a chronfeydd data rhestrau eraill i nodi'r holl leoliadau llety mewn ardal a chael manylion cyswllt. Wedyn, anfonwyd holiaduron casglu data drwy e-bost a/neu'r post yn unol â dymuniad y lleoliadau. Cysylltwyd â lleoliadau dros y ffôn a/neu drwy e-bost er mwyn annog cyfranogiad llawn lle roedd hynny'n bosibl ond mae'n anochel na wnaeth rhai busnesau ddarparu data i'w cynnwys.

Os bydd safle yn cynnig mwy nag un math o lety e.e. gwely a brecwast a hunanddarpar, cofnodir pob math o lety ac, felly, byddai safle yn cael ei gyfrif yng nghyfanswm y Lleoliadau ar gyfer llety  Gwasanaeth a llety Hunanddarpar. Felly, gall cyfanswm y lleoliadau fesul categori mewn ardal benodol fod yn fwy na chyfanswm y lleoliadau a gofnodwyd. Caiff ystafelloedd a gwelyau eu categoreiddio'n unigol ac, felly, bydd swm pob ystafell a gwely ar gyfer y categori o lety yn cyfateb i'r cyfanswm cyffredinol.

Roedd cyfraddau ymateb ac, felly, gyfrannau o werthoedd amcangyfrifedig a ddefnyddiwyd yn amrywio rhwng Awdurdodau Lleol ac yn ôl y math o lety. At ei gilydd, roedd 28% o'r gwelyau a gyfrifwyd ledled Cymru yn seiliedig ar werth amcangyfrifedig, naill ai lle roedd nifer yr ystafelloedd/unedau yn hysbys ac y cafodd amcangyfrif o nifer y gwelyau ei gyfrifo gan ddefnyddio cymhareb neu lle y cafodd nifer yr ystafelloedd/unedau a'r gwelyau eu hamcangyfrif yn seiliedig ar fewnbynnau cymedrig categorïau o ddata arolygon blaenorol. Ymhlith llety carafannau a gwersylla roedd cyfran y gwelyau amcangyfrifedig ar ei uchaf ac roedd 35% o'r gwelyau hyn yn seiliedig ar amcangyfrif. Efallai nad yw hyn yn syndod gan yr ystyrir yn aml fod lleiniau pebyll a charafannau yn darparu lle i uchafswm o 4 unigolyn, ar gyfartaledd. Defnyddiodd y ffigurau ar gyfer llety hunanddarpar y gyfradd isaf o welyau amcangyfrifedig, sef dim ond 8%.

Ymchwilir i ddulliau casglu data amgen ar gyfer arolygon stoc welyau yn y dyfodol er mwyn cael darlun mwy cyflawn ac amserol o'r cyflenwad o lety ymwelwyr.

Y cyflenwad o lety ymwelwyr

Lleoliadau llety

Tabl 3.0: Nifer y lleoliadau yn ôl y categori o lety yn ôl awdurdod lleol
Ardal  Gwasanaeth Hunanddarpar Carafán / Gwersylla Hostel Amgen Cyfanswm
Cymru 2,582 12,145 1,434 244 195 16,600
Ynys Môn 78 125 96 2 3 304
Blaenau Gwent 14 27 1  -   1 43
Pen-y-bont ar Ogwr 40 48 12 1  -   101
Caerffili 28 43 4 3 2 80
Caerdydd 79 33 1 21  -   134
Sir Gaerfyrddin 166 493 95 5 22 781
Ceredigion 256 628 155 17 19 1075
Conwy 323 848 151 16 8 1346
Sir Ddinbych 79 304 45 3 8 439
Sir y Fflint* 43 13 17 0 0 73
Gwynedd 345 3,165 366 52 24 3952
Merthyr Tudful 21 22 3 8 1 55
Sir Fynwy 133 293 31 9 44 510
Castell-nedd Port Talbot 35 100 7 2 1 145
Casnewydd 53 63 5 1  -   122
Sir Benfro 226 4,618 226 22 21 5113
Powys 415 694 137 63 28 1337
Rhondda Cynon Taf 27 20 1 6  -   54
Abertawe 62 403 42 7 3 517
Torfaen 11 3  -    -    -   14
Bro Morgannwg 96 170 17 4 10 297
Wrecsam* 52 32 22 2 0 108

*Mae'r ffigurau ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam ar gyfer 2013 wedi'u cynnwys fel amcangyfrifon. Bydd ffigurau wedi'u diweddaru ar gael yn ddiweddarach yn 2022.

Image
Mae'r mwyafrif o leoliadau llety yn rhai hunanddarpar ac yna lety â gwasanaeth.

Nodwyd 16,600 o safleoedd/lleoliadau llety yng Nghymru. Ar 12,145, roedd y mwyafrif (73%) yn lleoliadau hunanddarpar. Roedd 2,582 (16%) yn llety â gwasanaeth ac roedd 1,434 (9%) yn safleoedd gwersylla a/neu garafannau. At hynny, nodwyd 244 o hosteli a 195 o leoliadau llety amgen (sy'n cynnwys strwythurau nomadaidd megis tipis, pebyll crwyn, podiau, bythynnod bugail a charafannau Romani).

Image
De-orllewin Cymru a Gogledd Cymru sydd â'r nifer mwyaf o leoliadau llety, mae gan Dde-ddwyrain Cymru a Chanolbarth Cymru lawer llai.

De-orllewin Cymru sydd â'r nifer mwyaf o leoliadau llety o blith y pedwar rhanbarth (6,557), sy'n cyfateb i ddau o bob pum lleoliad llety (39%) yng Nghymru. Roedd y mwyafrif, sef 5,615, yn lleoliadau hunanddarpar.

Gogledd Cymru sydd â'r gyfran fwyaf ond un o leoliadau, sef 37% (6,219). Yn debyg i Dde-orllewin Cymru, mae'r mwyafrif, sef 4,482, yn lleoliadau hunanddarpar.

Mae gan Ganolbarth Cymru 2,413 o leoliadau (15% o'r cyfanswm) ac mae gan Dde-Ddwyrain Cymru 1,411 (9%).

Gwelyau

Tabl 3.1: Nifer y gwelyau yn ôl y categori o lety yn ôl awdurdod lleol
Ardal  Â Gwasanaeth   Hunanddarpar   Carafán / Gwersylla   Hostel   Amgen   Cyfanswm 
Cymru  70,585 78,510 434,286 19,413 2,417 605,211
Ynys Môn  1,414 2,216 27,528 193 121 31,472
Blaenau Gwent  387 127 240  -   s2 756
Pen-y-bont ar Ogwr  1,671 422 14,184 12  -   16,289
Caerffili  1,014 241 1,348 50 19 2,672
Caerdydd  10,767 620 130 5,858  -   17,375
Sir Gaerfyrddin  3,067 5,006 18,053 142 294 26,562
Ceredigion  3,711 5,497 36,974 2,931 244 49,357
Conwy  9,460 4,433 61,959 458 49 76,359
Sir Ddinbych  2,992 1,655 26,404 145 38 31,234
Sir y Fflint* 1,712 115 16,893 0 0 18,720
Gwynedd  6,387 18,444 108,482 2,737 506 136,556
Merthyr Tudful  438 129 252 194 18 1,031
Sir Fynwy  2,996 1,746 2,971 249 413 8,375
Castell-nedd Port Talbot  1,446 785 468 124 15 2,838
Casnewydd  3,749 342 593 718  -   5,402
Sir Benfro  4,815 26,963 67,493 1,311 347 100,929
Powys  6,038 5,259 24,698 1,911 228 38,134
Rhondda Cynon Taf  911 144 144 1,158  -   2,357
Abertawe  3,786 3,160 21,983 939 48 29,916
Torfaen  367 22  -    -    -   389
Bro Morgannwg  2,160 1,016 1,427 56 75 4,734
Wrecsam*  1,297 168 2,062 227 0 3,754

*Mae'r ffigurau ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam ar gyfer 2013 wedi'u cynnwys fel amcangyfrifon. Bydd ffigurau wedi'u diweddaru ar gael yn ddiweddarach yn 2022.

Image
Y categori carafán a gwersylla sydd â'r nifer mwyaf o welyau llety o bell ffordd. Mae gan y categorïau llety hunanddarpar a llety â gwasanaeth nifer llai a thebyg o welyau. Ychydig iawn o welyau sydd gan Hosteli a Llety amgen.

Nodwyd cyfanswm o 605,211 welyau mewn llety ymwelwyr ledled Cymru. Ar 434,286, roedd y mwyafrif o'r gwelyau (72%) mewn lleoliadau carafannau a gwersylla. Roedd 78,510 (13%) mewn llety hunanddarpar ac roedd nifer tebyg, sef 70,585 (12%), mewn llety â gwasanaeth. Roedd hosteli yn cyfrif am ddim ond 3% o welyau (19,413) ac roedd and llety Amgan yn cyfrif am lai nag 1% (2,417).

Image
Mae gan Ogledd Cymru lawer mwy o welyau llety na'r rhanbarthau eraill.

Gogledd Cymru sydd â'r nifer mwyaf o welyau o blith y pedwar rhanbarth (298,095), sy'n cyfateb i bron hanner (49%) y gwelyau yng Nghymru. Mae mwy na 4 o bob 5 (82%), 243,328, yn welyau mewn lleoliadau carafannau a gwersylla.

De-orllewin Cymru sydd â'r gyfran fwyaf ond un (26%), gyda 160,245 o welyau. Mae 2 o bob 3 (107,997) mewn lleoliadau carafannau a gwersylla ond mae mwy nag un o bob pump, sef 35,914, mewn lleoliadau hunanddarpar.

Mae gan Ganolbarth Cymru 87,491 o welyau (14% o'r cyfanswm) ac mae gan Dde-ddwyrain Cymru 59,380 (10%).

Image
Mae gan leoliadau carafannau a gwersylla lawer mwy o welyau fesul lleoliad na'r mathau eraill. Mae hosteli hefyd uwchlaw'r cyfartaledd ac mae pob categori arall islaw'r cyfartaledd (36 o welyau fesul lleoliad).

Lleoliadau Carafannau a Gwersylla sydd â'r nifer mwyaf o welyau fesul lleoliad, gyda 303 o welyau fesul safle, ar gyfartaledd.

Yn 2013, nifer cyfartalog y gwelyau fesul lleoliad â Gwasanaeth oedd 25 (o gymharu â 27 yn yr adroddiad hwn), roedd gan y sector Hunanddarpar ychydig o dan 9 gwely fesul lleoliad, ar gyfartaledd (o gymharu â 6 yn yr adroddiad hwn). Roedd gan y sector Gwersylla a Charafannau 302 o welyau fesul lleoliad, ar gyfartaledd (o gymharu â 303).

Ar y cyfan, mae'r ffigurau hyn yn awgrymu nad yw maint cyfartalog llety wedi newid er bod y sectorau wedi ehangu (neu leihau, yn achos y sector llety â gwasanaeth).

Mae'n debyg bod y nifer mawr o welyau fesul lleoliad ar gyfer carafannau a gwersylla i'w briodoli i'r unedau lluosog fesul safle.

Amrywiadau rhanbarthol

Image
Gogledd Cymru sydd â'r gyfran fwyaf o leoliadau Llety â Gwasanaeth a lleoliadau Carafannau a Gwersylla.   De-orllewin Cymru sydd â'r gyfran fwyaf o lety hunanddarpar, Canolbarth Cymru  sydd â'r gyfran fwyaf o Hosteli a De- ddwyrain Cymru sydd â'r gyfran fwyaf o leoliadau Amgen.

Gyda'i gilydd, mae De-orllewin Cymru, sydd â 6,557, a Gogledd Cymru, sydd â 6,038, yn cyfrif am dri chwarter y lleoliadau llety ond mae'r dosbarthiad yn amrywio yn ôl categori. Mae lleoliadau amgen wedi'u dosbarthu'n eithaf cyfartal rhwng y rhanbarthau, er y dylid nodi maint bach y bôn (195).

Image
Lleoliadau hunanddarpar yw'r mwyafrif o'r lleoliadau ym mhob rhanbarth.

Mae dosbarthiad y mathau o lety ymwelwyr yn amrywio ledled Cymru. Yn Ne-orllewin Cymru, mae cyfran uwch yn lleoliadau hunanddarpar ac yn Ne-ddwyrain Cymru mae cyfran y lleoliadau â gwasanaeth gryn dipyn yn uwch nag ydyw mewn rhanbarthau eraill. Mae safleoedd carafannau a gwersylla yn uwch na'r mynegai yng Nghanolbarth Cymru a Gogledd Cymru.

Image
Mae Gogledd Cymru yn cyfrif am hanner y gwelyau, yna De-orllewin Cymru, yna Canolbarth Cymru ac yna De-ddwyrain Cymru ond mae'r gyfran ranbarthol yn amrywio yn ôl y math o lety.

Mae hanner yr holl welyau mewn llety ymwelwyr yng Ngogledd Cymru (49%) ac mae chwarter (26%) yn Ne-orllewin Cymru. Mae'r dosbarthiad hwn yn wahanol i ddosbarthiad lleoliadau llety yn y ddau ranbarth, sy'n adlewyrchu'r nifer mwy o leoliadau carafannau yng Ngogledd Cymru a'r nifer mwy o leoliadau hunanddarpar yn Ne-orllewin Cymru. Mae mwy na hanner (56%) y gwelyau mewn lleoliadau carafannau a gwersylla yng Nghymru yng Ngogledd Cymru.

Ceir 14% o welyau yng Nghanolbarth Cymru, er ei fod yn cyfrif am chwarter y gwelyau mewn hosteli.

Dim ond 10% o welyau sydd yn Ne-ddwyrain Cymru, er bod mwy na 4 o bob 10 gwely mewn hosteli (43%) a mwy nag 1 o bob tri gwely mewn lleoliadau â Gwasanaeth (35%) i'w cael yno.

Image
Dosbarthiad Gwelyau Llety yn ôl rhanbarth yng Nghymru

Mae cyfansoddiad y cyflenwad o lety yn amrywio rhwng rhanbarthau. Mae De-ddwyrain Cymru yn uwch na'r mynegai mewn perthynas â gwelyau mewn lleoliadau â Gwasanaeth, lle mae 4 o bob 10 yn perthyn i'r categori hwn, ond mae cyfran y gwelyau mewn lleoliadau carafannau a gwersylla gryn dipyn yn is nag ydyw ledled Cymru, ar gyfartaledd. 

Yng Ngogledd Cymru, mae gwelyau mewn lleoliadau carafannau a gwersylla yn cyfrif am 4 o bob 5 o'r stoc welyau, gyda gwelyau mewn lleoliadau â Gwasanaeth a lleoliadau Hunanddarpar yn cyfrif am gyfran is o'r ddarpariaeth o gymharu â rhannau eraill o Gymru.

Mae De-orllewin Cymru yn uwch na'r mynegai mewn perthynas â gwelyau mewn lleoliadau Hunanddarpar ac mae gan y rhanbarth hwnnw lai o welyau mewn lleoliadau Carafannau a Gwersylla o gymharu â'r cyfartaledd.

Mae dosbarthiad gwelyau yng Nghanolbarth Cymru yn ôl categori yn debyg iawn i gyfartaledd Cymru.

Amrywiadau rhwng awdurdodau lleol

Mae'r cyflenwad o welyau mewn llety ymwelwyr yn amrywio'n fawr rhwng rhanbarthau ac ardaloedd awdurdod lleol. Gyda'i gilydd, mae Sir Benfro a Gwynedd yn cyfrif am 55% o'r holl leoliadau llety a 41% o'r gwelyau yng Nghymru. Sir Benfro sydd â'r nifer mwyaf o leoliadau llety, sef 5,113, ond Gwynedd sydd â'r nifer mwyaf o welyau, sef 136,556, sydd i'w briodoli i'r gyfran fwy o leoliadau carafannau a gwersylla a geir yn yr olaf, sy'n cyfrif am 79% o'i gwelyau. Yn Sir Benfro mae 90% o'r lleoliadau yn rhai hunanddarpar.

Powys sydd â'r nifer mwyaf o leoliadau â gwasanaeth, sef 415, yna Gwynedd sydd â 346 a Chonwy sydd â 323. Caerdydd sydd â'r nifer mwyaf o welyau mewn lleoliadau â Gwasanaeth, sef 10,767 (a'r maint cyfartalog mwyaf, sef 136 o welyau fesul lleoliad) a Chonwy sydd â'r nifer mwyaf ond un, sef 9,460. Mae gan Wynedd a Phowys fwy na 6,000 o welyau mewn lleoliadau â Gwasanaeth yr un.

Gwynedd sydd â'r nifer mwyaf o safleoedd carafannau a gwersylla (366) a gwelyau (108,482), yna Sir Benfro sydd â 226 o safleoedd a 67,493 o welyau.

Sir Benfro sydd â'r nifer mwyaf o leoliadau hunanddarpar (4,618) a gwelyau (26,963), yna Gwynedd sydd â 3,165 o leoliadau a 18,444 o welyau.

Powys (63) a Gwynedd (52) sydd â'r nifer mwyaf o leoliadau Hostel ond Caerdydd (5,858) a Cheredigion (2,931) sydd â'r nifer mwyaf o welyau mewn Hosteli.

Sir Fynwy (44) a Phowys (28) sydd â'r nifer mwyaf o leoliadau llety Amgen ac, er mai Sir Fynwy sydd â'r nifer mwyaf ond un o welyau (413), yng Ngwynedd y ceir y nifer mwyaf o welyau mewn llety amgen (506) sydd wedi'u rhannu rhwng 24 o leoliadau.

Dadansoddi newidiadau dros amser

Mae'r dadansoddiad canlynol yn cymharu'r data presennol â gwerthoedd cyfatebol 2013 lle maent wedi'u diweddaru. Felly, nid yw'r adran hon yn cynnwys dadansoddiad o stoc welyau Wrecsam na Sir y Fflint.

Lleoliadau llety

O gymharu â 2013, nodwyd 41% yn fwy o leoliadau llety ymwelwyr yn yr arolygon diweddar.

Roedd hyn i'w briodoli'n bennaf i gynnydd o 72% yn nifer y lleoliadau hunanddarpar yn gyffredinol, o 7,022 yn 2013 i 12,145. Gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer y lleoliadau carafannau a gwersylla, lleoliadau Hostel a lleoliadau Amgen.

Yn Sir Benfro y gwelwyd y cynnydd absoliwt mwyaf, lle y gwnaeth nifer y lleoliadau hunanddarpar ddyblu bron o 2,419 yn 2013 i 4,618; ac yng Ngwynedd lle y cynyddodd nifer y lleoliadau 63% o 1,940 i 3,165.

Llety â gwasanaeth yw'r unig gategori lle y bu lleihad yn nifer y lleoliadau, sydd wedi lleihau 20% o 3,110 yn 2013 i 2,582. Er i nifer y lleoliadau llety â gwasanaeth leihau ym mhob rhanbarth, rhanbarth y De-orllewin a gofnododd y lleihad mwyaf, gyda 310 yn llai o leoliadau â gwasanaeth. Daeth y Gogledd yn ail gan golli 230 o leoliadau.

Gwelyau

I'r gwrthwyneb, mae nifer y gwelyau ond wedi cynyddu 13% ers 2013, o 537,217 i 605,211.

Bu cynnydd o 25% yn nifer y gwelyau hunanddarpar a chynnydd o 72% yn nifer y lleoliadau hunanddarpar ac mae hyn yn golygu bod llai o welyau fesul lleoliad, ar gyfartaledd, o gymharu â 2013. Cynyddodd nifer y gwelyau mewn lleoliadau carafannau a gwersyll 9% gan ychwanegu 35,162 o welyau at y stoc welyau (sef y cynnydd mewn termau absoliwt). Cynyddodd nifer y gwelyau mewn hosteli 12% hefyd, sy'n cyd-fynd â'r cynnydd o 9% yn nifer y lleoliadau hostel.

Unwaith eto, yr unig gategori a gofnododd leihad yn y cyflenwad oedd llety â gwasanaeth. Roedd 11% yn llai o welyau mewn llety â gwasanaeth o gymharu â 2013 (sef 8,313 yn llai o welyau). Yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Gwynedd a Sir Benfro y gwelwyd y newidiadau absoliwt mwyaf a chofnodwyd o leiaf 1,500 yn llai o welyau mewn llety â gwasanaeth ym mhob un o'r pedair sir hyn, o gymharu â 2013. Nododd Ynys Môn fod nifer y gwelyau mewn llety â gwasanaeth wedi haneru (49% yn llai) ac yn Nhorfaen y gwelwyd y lleihad mwyaf ar gyfartaledd, sef 42%, er bod hynny o gyflenwad cychwynnol cymharol is.

Er bod y cymysgedd o fathau o lety wedi newid rywfaint ers 2013 ac er bod cynnydd canrannol sylweddol wedi'i gofnodi yn y cyflenwad o lety amgen o 1013 yn 2013 i 2417 yn 2022, mae'r math hwn o lety yn dal i gyfrif am gyfran fach iawn o'r llety ymwelwyr sydd ar gael.

Rhestr termau

Lleoliad

Safle unigol lle y darperir llety ymwelwyr h.y. gall hyn gynnwys gwestai, safleoedd gwersylla, cyfadeiladau hunanddarpar neu fwthyn hunanddarpar unigol.

Gwely

Capasiti mwyaf uned, llain neu ystafell i oedolion sy'n aros dros nos h.y. mae gwely dwbl yn cyfrif fel dau wely.

Uned

Tŷ, rhandy neu eiddo arall unigol, at ddefnydd y meddianwyr yn unig.

Llain

Lle unigol ar safle carafannau neu wersylla, sy'n addas i unrhyw un o'r canlynol: pebyll, carafannau neu gartrefi modur.

Llety â gwasanaeth

Mae'n cynnwys lleoliadau llety sydd wedi'u categoreiddiofel a ganlyn: Gwesty, Gwely a Brecwast, Ffermdy, Tafarn, Bwyty gydag Ystafelloedd, Llety Gwesteion

Gwesty

Mae ganddo o leiaf 6 ystafell wely i'w gosod, pob un â chyfleusterau en-suite neu gyfleusterau preifat. Darperir prydau bwyd gyda'r nos o leiaf bum diwrnod yr wythnos ac mae bar neu fan eistedd â Thrwydded Alcohol. Rhaid i westy fod ar agor saith diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor gweithredu a darparu cyfleuster derbyn sydd wedi'i ddynodi'n glir.

Gwely a brecwast

Llety a ddarperir mewn tŷ preifat, a redir gan y perchennog a lle nad oes mwy na chwe gwestai sy'n talu.

Tŷ llety

Llety a ddarperir ar gyfer mwy na chwe gwestai sy'n talu ac a redir ar sail fwy masnachol na llety gwely a brecwast. Fel arfer, mae mwy o wasanaethau, er enghraifft, cinio, a ddarperir gan staff yn ogystal â'r perchennog.

Ffermdy

Llety gwely a brecwast neu dŷ llety a ddarperir ar fferm weithredol neu dyddyn neu grofft.

Tafarn

Llety a ddarperir mewn mangre â thrwydded lawn. Bydd y bar ar agor i unigolion nad ydynt yn breswylwyr ac yn darparu bwyd gyda'r nos (nid 7 noson yr wythnos o reidrwydd).

Bwyty gydag ystafelloedd

Bwyty sy'n gyrchfan sy'n cynnig llety dros nos, ond y bwyty yw'r prif fusnes, sydd ar agor i unigolion nad ydynt yn breswylwyr. Dylai'r bwyty gynnig bwyd o safon uchel a gwasanaeth bwyty o leiaf bum noson yr wythnos. Mae angen trwydded alcohol a hyd at 12 o ystafelloedd gwely.

Llety gwesteion

Mae unrhyw leoliad sy'n bodloni'r gofyniad mynediad sylfaenol yn gymwys i fod yn yr isgategori cyffredinol hwn.

Llety hunanddarpar

Math o lety heb wasanaeth, gan gynnwys bythynnod, tai, byngalos, fflatiau a chaban gwyliau.

Llety gwersylla/carafannau

Parciau gwyliau, safleoedd carafannau sefydlog, carafannau teithio neu wersylla.

Parc gwyliau

Parciau y mae eu prif fusnes yn ymwneud â gosod carafannau gwyliau, er y gallant gynnig rhai lleiniau i garafannau teithio.

Parc teithio

Parciau â lleiniau i garafannau teithio, cartrefi modur a phebyll yn unig.

Parc gwersylla

Parciau sydd ond yn darparu ar gyfer pebyll.

Parc gwyliau a theithio

Parciau lle y ceir yr un faint o leiniau e.e. ar gyfer carafannau sefydlog a charafannau teithio.

Parc gwyliau a gwersylla

Pan fydd yr un faint o leiniau e.e. ar gyfer carafannau sefydlog a phebyll.

Parc teithio a gwersylla

Parciau lle y ceir yr un faint o leiniau e.e. ar gyfer pebyll a charafannau teithio.

Parc gwyliau, teithio a gwersylla

Parciau lle y ceir yr un faint o leiniau e.e. ar gyfer carafannau sefydlog, carafannau teithio a phebyll.

Hostel / llety grwpiau

Mae lleoliadau yn cynnwys: Hostel, Llety Grwpiau, Llety Gweithgaredd, Llety Heicwyr, Tŷ Bynciau, Ysguboriau Gwersylla, Llety ar Gampws

Hostel

Llety â gradd sêr mewn ystafelloedd a rennir gyda gwelyau bync yn aml, gall ystafelloedd i deuluoedd hefyd fod ar gael.

Llety grwpiau

Llety â gradd sêr mewn ystafelloedd a rennir gyda gwelyau bync yn aml.

Llety gweithgaredd

Llety â gradd sêr a ddarperir ar sail grŵp fel arfer. Bydd y lleoliad hefyd yn cynnig gweithgareddau wedi'u hachredu'n llawn neu wedi'u trwyddedu gan A.A.L.A.

Llety heicwyr

Yn debyg iawn i hostel, ond gall gael ei redeg mewn ffordd lai ffurfiol megis mynediad 24 awr.

Tŷ bynciau

Llety â gradd sêr yng nghefn gwlad. Gall gwasanaethau a chyfleusterau fod yn gyfyngedig, ond byddant yn cynnwys cyfleuster hunanddarpar.

Ysguboriau gwersylla

Llety dros nos syml mewn lleoliad gwledig y cyfeirir ato'n aml fel “pebyll cerrig”.

Llety ar gampws

Preswylfa i fyfyrwyr a godwyd i'r pwrpas sy'n cynnig llety ac sydd ar gael yn ystod y gwyliau yn bennaf

Llety amgen

Llety anarferol neu unigryw gan gynnwys carafannau Romani, carafannau llif aer, eco-bodiau/eco-gabanau neu bodiau neu gabanau glampio, bythynnod bugail, tai pen coed, cychod/bysiau wedi'u haddasu, goleudai ac ati, a strwythurau nomadaidd megis tipis/pebyll crwyn/pebyll saffari.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Phil Nelson
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 58/2022
ISBN digidol 978-1-80364-675-6

Image
GSR logo