Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod 25 o leoedd ychwanegol ar gael i raddedigion sy’n astudio meddygaeth yn 2022 ym Mhrifysgol Abertawe – mae’r rhaglen yn cynnig y llwybr cyflymaf ar gyfer hyfforddi meddygon yng Nghymru, gyda’r myfyrwyr yn graddio ar ôl pedair blynedd yn hytrach na phump.

Y llynedd, cytunwyd i weithredu cynnydd cychwynnol o 25 o leoedd, gyda chynnydd arfaethedig o 25 o leoedd ar ben hynny eleni yn amodol ar werthusiad cadarnhaol. Bu’r gwerthusiad yn edrych ar effeithiau’r lleoedd ychwanegol, ac ar ôl inni edrych ar y dystiolaeth a gasglwyd rydym yn hyderus na fu unrhyw effeithiau niweidiol ar brofiadau’r myfyrwyr nac ansawdd yr hyfforddiant.

Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl waith sy’n cael ei gyflawni gan ein gweithlu yn GIG Cymru. Heb y rheini sy’n dewis ymroi i ofalu am eraill yn ein cymdeithas, ni fyddai gan bobl Cymru wasanaeth y gallan nhw a’u teuluoedd ddibynnu arno. Mae’n bwysig felly ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i hwyluso addysg broffesiynol ym maes gofal iechyd, gan annog graddedigion i aros a gweithio yng Nghymru.  

Rhan bwysig o’r rhaglen hon yw bod Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe i adeiladu ar eu cynlluniau mentora a datblygu presennol, er mwyn creu ystod o fentrau cadw mwy uchelgeisiol i sicrhau bod myfyrwyr meddygol sy’n cael eu haddysgu yng Nghymru yn aros yng Nghymru am gyfnod hir ar ôl graddio.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaf i’r Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.