Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Ymddiheuriadau

  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol  
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Dianne Dunning, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andy Fraser, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Dŵr a Llifogydd
  • Lori Frater, Y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 27 Mehefin.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn a nodwyd bod Cyfnod tri Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (Cymru) wedi ei drefnu ar gyfer y diwrnod canlynol. Roedd deg o welliannau wedi eu cyflwyno, mewn 4 grŵp, ac roedd 90 o funudau wedi cael eu caniatáu ar gyfer y trafodaethau, ond roedd yn bosibl y byddai’r sesiwn yn gorffen yn gynharach. Ddydd Mercher, disgwylir i’r amser pleidleisio ddigwydd tua 6.25pm.

Eitem 3: Diogelwch tomenni glo

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn disgrifio’r sefyllfa bresennol o ran diogelwch tomenni glo a gwaith cysylltiedig y Tasglu, gan amlinellu’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen waith bwysig hon. Bellach roedd rhaglen y Tasglu yn ei thrydedd flwyddyn. Er inni weld cynnydd sylweddol, roedd angen cyflawni llawer mwy o waith o hyd.

3.2 Roedd y papur yn crynhoi’r cynnydd a wnaed ers y diweddariad a roddwyd i’r Cabinet ym mis Mawrth, a’r gwaith a oedd yn dal  i fynd rhagddo i helpu i liniaru’r risgiau presennol a risgiau’r dyfodol.

3.3 Cafodd y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo ei gyhoeddi ym mis Mai, gan amlinellu’r cynigion ar gyfer system statudol newydd ar gyfer rheoli tomenni glo nad ydynt yn cael eu defnyddio. Roedd hwn yn gam sylweddol ymlaen tuag at gyflawni’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol yn ystod y Senedd hon.

3.4 Roedd gwaith Comisiwn y Gyfraith wedi darparu tystiolaeth werthfawr ar gyfer y Papur Gwyn, ac roedd digwyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar wedi dangos bod cefnogaeth unfrydol tuag at y cynigion.

3.5 Ym mis Chwefror, roedd yr Awdurdod Glo wedi cwblhau trydydd cylch o archwiliadau o’r tir, a byddai’r Awdurdod yn cynnal pedwerydd cylch ar gyfer y tomenni a oedd wedi cael eu graddio ar y radd uchaf yn ogystal â threialu cynigion y Llywodraeth i gyflwyno asesiadau o berygl. Byddai hyn yn darparu mwy o eglurder ynglŷn â’r peryglon penodol.

3.6 Roedd y system reoli newydd a gynigiwyd yn y Papur Gwyn yn sicrhau bod y tomenni’n cael eu cynnal a chadw gan roi cyfle i roi pwrpas newydd iddynt er budd y cymunedau perthnasol.

3.7 Croesawodd y Cabinet yr adroddiad cynnydd diweddaraf.