Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Mae’r nodiadau hyn i’w defnyddio gan ysgolion uwchradd a gynhelir, ysgolion canol ac awdurdodau lleol wrth gasglu data ôl-16 ym mis Medi/Hydref 2023. 

Wrth sôn am ‘y flwyddyn academaidd’, rydym yn golygu’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar 01/09/2022 ac yn gorffen ar 31/08/2023. 

Wrth sôn am ‘y flwyddyn academaidd + 1’, rydym yn golygu’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar 01/09/2023 ac yn gorffen ar 31/08/2024. 

Byddwn yn cynghori i chi darllen y nodiadau cwblhau technegol llawn wrth ochr y ddogfen hwn. Mae’r nodiadau cwblhau technegol ar gael o Casglu data ôl-16.

2. Frequently asked questions

2.1 Pa cyfeirnod dyliwn ddefnyddio ar gyfer Gweithgareddau Dysgu?

Mae cyfeirnodau gweithgareddau bellach wedi eu disodli gan rifau Cymeradwyo/Dynodi Cymhwysterau Cymru (QWAD). Gellir dod o hyd i'r rhain ar wefan Cymwysterau yng Nghymru (QiW).

2.2 Sut y caiff y data eu defnyddio wrth fonitro a dyrannu'r cyllid?

Caiff y data eu defnyddio mewn nifer o ffyrdd.

Cynllunio

  1. cymharu perfformiad yn erbyn y cynlluniau cyflenwi terfynol a gyflwynir ym mis Mawrth bob blwyddyn
  2. cymharu perfformiad yn erbyn dyraniadau'r blynyddoedd blaenorol

Cyllid

  1. pennu gwerth cyfartalog y rhaglenni a fydd yn sail i ddyraniadau ar gyfer y blynyddoedd i ddod
  2. cymharu perfformiad yn erbyn dyraniadau’r blynyddoedd blaenorol
  3. sicrhau y cydymffurfir â manyleb y rhaglenni
  4. cymharu a chyferbynnu gwahanol ddulliau cyflenwi

2.3 Sut fydd y data yn cael ei ddefnyddio yn y mesurau perfformiad ôl-16?

Mae'r casgliad ôl-16 yn gyflwyniad data blwyddyn gyfan sy'n defnyddio codau rhaglenni dysgu a gweithgaredd i nodi rhaglenni, cymwysterau, pwnc a lefel y gweithgareddau dysgu a gynhaliwyd yn y flwyddyn academaidd flaenorol. Mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r data i gyfrifo'r mesurau cyflawniad, sy'n cynnwys cadwraeth a chyflawniad dysgwyr sy'n ymgymryd â rhaglenni Safon Uwch, galwedigaethol a Bagloriaeth Cymru.

2.4 Sut rydych yn cofnodi dyddiad dechrau a gorffen y Rhaglen lle mae'r gweithgareddau dysgu yn digwydd dros ddwy flwyddyn academaidd?

Ar gyfer pob rhaglen, dylid nodi’r gweithgareddau dysgu perthnasol sydd ynghlwm wrthi. Dylid nodi’r dyddiad y bydd y gweithgaredd dysgu cyntaf yn dechrau fel dyddiad cychwyn y rhaglen, a’r dyddiad gorffen fydd y dyddiad y mae'r gweithgaredd dysgu olaf yn cael ei gwblhau. Os yw disgybl yn gollwng gweithgaredd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd, dylai’r statws cwblhau a’r dyddiad gorffen adlewyrchu hynny.

Dylid cofnodi'r rhaglen UG fel cwblhawyd oherwydd bydd yr ysgol yn cofnodi rhaglen A2 ar gyfer yr ail flwyddyn astudio. Dylid cofnodi unrhyw weithgaredd dysgu sy'n rhychwantu dwy flynedd (e.e. Bagloriaeth Cymru, Tystysgrif Her Sgiliau, neu Ddiploma Estynedig BTEC) fel parhaus ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf er mwyn gallu cofnodi'r rhaglen fel y'i cwblhawyd. Yna dylid ei gynnwys yng nghasgliad y flwyddyn nesaf (o dan y rhaglen A2).

2.5 Sut y mae ysgol yn penderfynu a yw Categori'r Gweithgaredd Dysgu yn ‘Brif’ Gategori neu yn Gategori ‘Arall’?

Safon UG, Safon Uwch, BTEC, neu Bagloriaeth Cymru/Tystysgrif Her Sgiliau fyddai'n 'brif' weithgareddau dysgu, tra byddai unrhyw elfen craidd a dysgu cymunedol â ffocws diwydiant (CLIF) yn weithgaredd dysgu ‘arall’. Gallai hyn gynnwys ailsefyll TGAU neu ofyniad penodol i'r diwydiant, e.e. Tystysgrif Iechyd a Diogelwch.

2.6 A ddylai ysgolion barhau i anfon manylion am gyrsiau nad oes dosbarthiadau wedi'u hamserlennu ar eu cyfer, ond lle mae'r addysgu tuag at ennill y cymhwyster yn digwydd mewn dosbarth arall, e.e. Sgiliau Hanfodol Cymru?

Dylen. Rydym am gynnwys unrhyw weithgaredd a ddilynir gan ddysgwr yn y datganiad am ddysgwyr ôl-16. Nid y ffordd y mae'n cael ei amserlennu sy'n bwysig, gan nad ydym bellach yn gofyn am oriau cyswllt dan arweiniad ar lefel y gweithgaredd. Fodd bynnag, rydym am wybod yr hyn sy'n cael ei addysgu, a'r hyn y gallai neu na allai dysgwyr ei gyflawni. Caiff yr wybodaeth am y gweithgaredd dysgu ei thynnu'n awtomatig o'ch system gwybodaeth reoli, os yw hynny'n bosibl. Ond os nad yw gwybodaeth am ddosbarth wedi'i rhoi yn y system ar gyfer disgybl, rhaid i'r datganiad am ddysgwyr ôl-16 gael ei addasu â llaw neu ei ychwanegu at y system ar ôl i'ch meddalwedd gynhyrchu'r casgliad cyntaf yn awtomatig ar gyfer eich datganiad.

Er enghraifft, lle rydych yn darparu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn cwricwlwm integredig, efallai nad yw’r cymwysterau hyn wedi’u hamserlennu ar wahân, ond serch hynny dylid eu cynnwys fel gweithgaredd a ddarperir yn y datganiad.

2.7 O ran cymhwyster Bagloriaeth Cymru, a ddylai pob gweithgaredd dysgu gael ei gynnwys yn eu rhinwedd eu hunain ynghyd â chymhwyster trosfwaol Bagloriaeth Cymru?

Dylen. Er mwyn cyflawni Bagloriaeth Cymru ôl-16, rhaid i ddysgwyr gael Tystysgrif Her Sgiliau ar y lefel berthnasol ynghyd â phrif gymwysterau a chymwysterau ategol. Rydym hefyd am nodi lle mae disgyblion yn cyflawni cydrannau, hyd yn oed lle nad ydynt yn ennill y Fagloriaeth gyfan. Dylid cynnwys unrhyw weithgaredd, felly, a ddilynir gan ddysgwr wrth geisio cyflawni’r Fagloriaeth ôl-16, yn y data a gesglir am ddysgwyr ôl-16.

2.8 Beth y dylem ei gofnodi os bydd disgybl yn symud o un rhaglen i un arall yn ystod y flwyddyn academaidd?

Mae coeden penderfyniad wedi'i gynnwys yn y nodiadau cwblhau technegol i helpu gyda'r camau gweithredu ar gyfer trosglwyddiadau ac alldyniadau.

2.9 Sut y dylai'r oriau cyswllt dan arweiniad gael eu cofnodi ar gyfer pob rhaglen?

Yn achos y rhaglen ddysgu hon ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol o ran y casgliad data ôl-16, dylid rhoi amcangyfrif o nifer yr oriau addysgu, cyfarwyddo neu asesu a ragwelir ar gyfer y rhaglen (wedi’u talgrynnu i nifer cyfan). Os bydd rhaglen yn cwmpasu dwy flynedd, dim ond yr oriau cyswllt dan arweiniad a ragwelir ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol o ran y casgliad data sydd eu hangen.

Nid yr hyn a argymhellir gan gyrff dyfarnu y dylid ei nodi, ond yr hyn mae eich ysgol yn bwriadu ei amserlennu. Er enghraifft, os yw eich ysgol yn darparu cymwysterau Safon UG am 4 awr yr wythnos, dros gyfnod o 30 o wythnosau ysgol, byddai pob cymhwyster Safon UG yn cyfrif am 160 o oriau yn erbyn cyfanswm oriau cyswllt dan arweiniad y rhaglen.

2.10 A oes terfyn amser is y disgwyliedig ar gyfer pob rhaglen sy’n cael ei chwyflwyno?

Na nid oes amserlen benodol yr ydym yn disgwyl i ysgolion ei dilyn i gyflwyno pob rhaglen. Caiff pob rhaglen ei chyllido ar sail nifer penodol o oriau cyswllt dan arweiniad. Mae’n dderbyniol cwblhau’r rhaglen mewn llai o amser, ond caiff hyn ei nodi wrth fonitro’r rhaglen (gweler C1) er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn dysgu’n gywir.

2.11 Sut ydw i'n cofnodi disgybl os nad yw ei weithgareddau dysgu yn i mewn i raglen a amlinellir yn y cyfeirlyfr rhaglenni?

Lle nad oes union raglen sy’n adlewyrchu’r gweithgareddau dysgu a ddilynir gan y disgybl, dilynwch y rheolau cyffredinol canlynol:

  • cymysgedd o gymwysterau UG ac A2 - gwnewch yn gyfwerth ag A2
  • cymysgedd o gymwysterau UG a chymwysterau eraill (e.e. BTEC ) - gwnewch yn gyfwerth ag UG
  • cymysgedd o A2 a chymwysterau eraill (e.e. BTEC ) - gwnewch yn gyfwerth ag A2
  • lle bydd disgybl yn dilyn cymwysterau TGAU fel rhan o raglen Safon Uwch neu raglen gyfatebol, disgwylir bod y cymwysterau TGAU yn cael eu cyflawni fel rhan o elfen ‘CLIF’ y Rhaglen Ddysgu (cofnodir hyn fel ‘arall’ yn y data am ddysgwyr ôl-16).
  • os yw disgybl yn ymgymryd â rhaglen alwedigaethol ond hefyd yn dilyn cwrs Safon UG, dylid defnyddio cod rhaglen alwedigaethol.

Mae’r tabl isod yn nodi’r cymwysterau Rhaglenni y cawsom ymholiadau yn eu cylch hyd yn hyn:

Cymwysterau Rhaglen Cod
2 A2, 1 TGAU a Bagloriaeth Cymru 2 A2 a Bagloriaeth Cymru 0023C03B
1 A2, 1 UG a Bagloriaeth Cymru Yn cyfateb i 2 A2 a Bagloriaeth Cymru 0023C03B
1 A2, 1 UG, 1 TGAU a Bagloriaeth Cymru Yn cyfateb i 2 A2 a Bagloriaeth Cymru 0023C03B
2 UG, 1 TGAU a Bagloriaeth Cymru 2 UG a Bagloriaeth Cymru 0013D03B
3 A2, 1 TGAU a Bagloriaeth Cymru 3 A2 a Bagloriaeth Cymru 0024C03B
2 A2, 1 UG a Bagloriaeth Cymru Yn cyfateb i 3 A2 a Bagloriaeth Cymru 0024D03B
1 A2, 2 UG a Bagloriaeth Cymru Yn cyfateb i 3 A2 a Bagloriaeth Cymru 0024D03B
3 UG, 2 TGAU a Bagloriaeth Cymru 3 UG a Bagloriaeth Cymru 0014C03B
2 UG, 4 TGAU a Bagloriaeth Cymru Yn cyfateb i 2 UG a Bagloriaeth Cymru 0013D03B
3 A2, 1 UG a Bagloriaeth Cymru Yn cyfateb i 4 A2 a Bagloriaeth Cymru 0025D03B
4 UG, 1 TGAU a Bagloriaeth Cymru 4 UG a Bagloriaeth Cymru 0015C03B
3 UG, 1 cymhwyster cyfatebol a Bagloriaeth Cymru Yn cyfateb i 4 UG a Bagloriaeth Cymru 0015D03B
2 UG Rhaglen heb ei chyllido 99999999
Yn cyfateb i 2 UG Rhaglen heb ei chyllido 99999999
1 A2 ac 1 sgil allweddol Rhaglen heb ei chyllido 99999999
Disgybl atodol (sydd wedi’i gofrestru mewn ysgol arall hefyd) yn cymryd 1 UG/A2 Rhaglen heb ei chyllido (dylai gael ei gofnodi gan y brif ysgol) 99999999

2.12 Pa ddata y ddylai gael ei gofnodi yn y ddau faes newydd 'hyd y rhaglen' a 'blwyddyn o raglen'?

Defnyddir y ddau faes hyn i'w nodi:

  • hyd y rhaglen (gallai’r rhaglen â’r cyfeirnod 0401A03B 'Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Lefel 3’ fod yn Ddiploma L3, sy'n para blwyddyn (felly byddai cod 1 yn cael ei ddefnyddio) neu Ddiploma Estynedig sy’n para dwy flynedd (felly byddai cod 2 yn cael ei ddefnyddio)
  • blwyddyn y rhaglen (os yw'r dysgwr yn dilyn cwrs diploma estynedig dwy flynedd ac yn ail flwyddyn y rhaglen, byddai cod 2 yn cael ei ddefnyddio)

2.13 Sut dylid cofnodi arholiadau a gaiff eu hailsefyll?

Pe bai disgybl yn gwneud gweithgaredd cyfan eto (h.y. yn cymryd yr un gweithgaredd dysgu ac addysgu dwy flynedd yn olynol) bydd y gweithgaredd hwn yn cael ei gofnodi eto yn yr ail flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys un neu fwy o weithgareddau wedi'i amserlennu (a allai’n gynnwys dosbarthiadau adolygu).
Fodd bynnag, os bydd yn sefyll yr un arholiad eto (ddwywaith, neu fwy) am unrhyw reswm yw’r unig peth mae'r disgybl yn gwneud, dylid nid cofnodi hynny fel gweithgaredd dysgu fel rhan o'r Rhaglen.

2.14 Sut fyddwch chi’n sicrhau bod pob ysgol yn cynnwys pob dysgwr yn eu datganiad am ddysgwyr ôl-16?

Dylai pob disgybl a gofnodir ar CYBLD mis Ionawr y flwyddyn academaidd ymddangos ar ddatganiad mis Hydref hefyd, a byddwn yn cymharu’r ddau i sicrhau hyn.

2.15 A oes angen i Unedau Cyfeirio Disgyblion gyflwyno datganiad am ddysgwyr ôl-16?

Nac oes, does dim gofyn i Unedau Cyfeirio Disgyblion gyflwyno datganiad ôl-16.