Neidio i'r prif gynnwy

Mae Senedd Cymru a Senedd y DU yn craffu ar y Bil Caffael o hyd, sy’n golygu gallai’r Bil newid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae rhannau o'r Bil sydd ddim yn berthnasol ar hyn o bryd i awdurdodau contractio yng Nghymru (a elwir yn eithriadau mesurau). Mae’r rhain wedi’u rhestru isod gyda'r rhesymau pam na fyddan nhw’n berthnasol yng Nghymru:

  • Mae'r Bil yn nodi, ar gyfer contractau sy'n werth dros £2 miliwn, neu gontractau wedi'u haddasu sy’n werth dros £2m, bod yn rhaid i awdurdodau contractio gyhoeddi copi o'r contract hwnnw ar y Llwyfan Canolog. Fodd bynnag, ni fydd yn ofynnol i awdurdodau contractio Cymru ddilyn y rheol hon gan fod Gweinidogion Cymru wedi cytuno y bydd y rhan fwyaf o'r wybodaeth hon eisoes yn gyhoeddus.
  • Mae'r Bil yn dweud na ddylid defnyddio cam cyn-gymhwyso (PQQ) ar wahân ar gyfer caffael sydd islaw’r trothwy. Ni fydd hyn yn wir am awdurdodau contractio Cymru a all barhau i ddefnyddio'r cam cyn-gymhwyso ar gyfer caffael islaw’r trothwy os ydyn nhw'n gweld budd mewn gwneud hynny.

At hynny, mae’r Bil yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru gyhoeddi Datganiad Polisi Caffael Cymru, ac i awdurdodau contractio Cymru ystyried hyn wrth gyflawni swyddogaethau caffael.

Mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau pwerau annibynnol, cyfatebol i wneud rheoliadau yn y rhan fwyaf o feysydd y Bil a bydd angen iddynt ddatblygu a gweithredu is-ddeddfwriaeth berthnasol. Byddwn ni’n ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y Bil Caffael, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru