Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Cyfanswm hyd y ffordd yng Nghymru yn 2021-22 oedd tua 35,100 km, cynnydd o 0.3% o'r flwyddyn flaenorol (2020-21). Nid yw cyfanswm hyd ffyrdd yng Nghymru yn newid llawer o flwyddyn i flwyddyn. Mae peth o'r cynnydd blynyddol yn ganlyniad i welliant yn ansawdd y data yn hytrach na chynnydd gwirioneddol.

Powys sy'n cynnwys rhwydwaith ffyrdd mwyaf awdurdodau lleol Cymru. Mae ganddi'r gyfran uchaf o'r holl gefnffyrdd (27.3%), ffyrdd B ac C (21.0%) a mân ffyrdd wyneb (12.0%) ac mae'n cyfrif am 15.7% o gyfanswm hyd ffyrdd Cymru.

Yn 2021-22, roedd angen monitro cyflwr strwythurol 7.3% o'r rhwydwaith traffyrdd a 2.5% o'r rhwydwaith cefnffyrdd.  Mae hyn yn cymharu â 6.4% a 2.9% yn y drefn honno yn 2020-21.

O ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae’r cyhoeddiad hwn yn llai na’r cyhoeddiad arferol gan na chynhaliwyd rhai arolygon sydd yn bwydo’r adroddiad (ee ‘arolwg cyflwr ffyrdd’ ffyrdd a reolir gan awdurdodau lleol gan Data Cymru, arolwg SCANNER). Rydym wedi parhau â’r fersiwn llai ar gyfer y cyhoeddiad diweddaraf gan nad yw’r wybodaeth hon ar gael ar hyn o bryd.

Effaith COVID-19

O ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae’r cyhoeddiad hwn yn llai na’r cyhoeddiad arferol gan na chynhaliwyd rhai arolygon sydd yn bwydo’r adroddiad (ee ‘arolwg cyflwr ffyrdd’ ffyrdd a reolir gan awdurdodau lleol gan Data Cymru, arolwg SCANNER). Rydym wedi parhau â’r fersiwn llai ar gyfer y cyhoeddiad diweddaraf gan nad yw’r wybodaeth hon ar gael ar hyn o bryd.

Hyd y ffyrdd

Image
Cyfanswm hyd ffyrdd yng Nghymru yn ôl dosbarthiad ffyrdd, 2021-22. Cyfanswm hyd ffyrdd yng Nghymru: 35,110 km; o'r rhain 4.9% traffyrdd a chefnffyrdd, 7.9% A ffyrdd sirol, 36.7% ffyrdd B ac C, 50.6% is-ffyrdd ag wyneb caled.

Mae chwe dosbarthiad ar gyfer ffyrdd â wyneb caled yng Nghymru: traffyrdd, cefnffyrdd, ffyrdd A sirol, ffyrdd B, ffyrdd C ac is-ffyrdd wyneb caled. Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd, tra bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am ffyrdd A sirol, B, C ac is-ffyrdd wyneb caled.

Casnewydd sydd â'r darn hiraf o draffordd (26 km), sy'n cyfrif am 19.2% o gyfanswm y draffordd yng Nghymru.

Powys sydd â'r rhwydwaith ffyrdd hwyaf gyda 5,509 km o ffordd, ac yna Sir Gaerfyrddin gyda 3,670  km. Mae'r rhan fwyaf o'r rhwydweithiau yn y ddau awdurdod hyn yn is-ffyrdd (categorïau B, C ac is-ffyrdd wyneb caled).

Mae manylion fesur awdurdodau Lleol yng Nghymru ar gael ar StatsCymru.

Ffyrdd a Reolir gan Lywodraeth Cymru

Cyflwr strwythurol traffyrdd a chefnffyrdd A

O ddiwedd Mawrth 2022, mae canlyniadau arolygon Defflectograff (gweler y nodiadau) yn awgrymu bod rhan fwyaf y rhwydwaith yn cael ei ystyried mewn cyflwr da ar hyn o bryd ac amcangyfrifir na fydd angen monitro 77.2% o'r draffordd na 85.0% o gefnffyrdd yn agos am o leiaf 20 mlynedd.

Mae'r adran hon yn ymdrin â chyflwr y rhwydwaith ffyrdd, a chynhelir arolwg bob blwyddyn i ganfod ei gyflwr strwythurol. Dangosodd yr arolwg fod angen monitro 7.3% o'r draffordd a 2.5% o'r rhwydwaith cefnffyrdd yn agos ar hyn o bryd. Dangosodd yr arolwg hefyd y bydd angen monitro 2.8% o'r draffordd a 2.1% o gefnffyrdd yn ystod y 4 blynedd nesaf.

Un ffactor sy'n effeithio ar gyflwr ffyrdd yw swm y traffig. Yn 2020, roedd y traffig yn 2.8 biliwn cilomedr cerbyd ar y draffordd, a 5.2 biliwn cilomedr cerbyd ar gefnffyrdd. Mae traffig fesul darn o'r ffordd yn llawer uwch ar draffyrdd o'i gymharu â chefnffyrdd, ffyrdd sirol ac is-ffyrdd (traffig ffyrdd).

Image
Y cyflwr strwythurol traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru, 2018-19 i 2021-22. Yn 2021-22, roedd angen cadw golwg fanwl ar gyflwr stwythurol 7.3% o’r rhwydwaith traffyrdd a 2.48% o’r rhwydwaith cefnffyrdd.

Atal sgidio ar draffyrdd a chefnffyrdd A

Mae atal sgidio yn ymwneud ag arwynebau ffyrdd gwlyb neu laith. Mae'n adlewyrchu cyflwr arwyneb y ffordd drwy fesur ymwrthedd rhwng teiars cerbydau a'r ffordd wrth gyflymu, brecio neu gornelu. Cynhelir profion ar arwynebau gwlyb gan fod ffrithiant yn llai ar arwynebau ffyrdd gwlyb a'i bod yn anoddach atal sgidio. Arolygwyd 99.0% o arwynebau traffyrdd a 94.0% o arwynebau cefnffyrdd yn 2021-22.

Mae y gallu i atal sgidio ar yr M4 o safon uchel, heb unrhyw arwyneb a arolygwyd o dan lefel ymchwilio yn 2021-22. Ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd, canfuwyd bod 8.7% o'r arwyneb a arolygwyd ar lefel ymchwilio neu'n is na hynny yn 2021-22, i lawr o 9.5% yn y flwyddyn flaenorol.

Nodyn: Yn seiliedig ar ganlyniadau arolwg SCRIM (gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd am ragor o wybodaeth). Nid yw 'ar lefel ymchwilio neu'n is' yn golygu nad yw'r ffyrdd yn ddiogel; mae'n dangos bod angen ymchwilio ymhellach i bennu'r angen i gynnal a chadw'r rhan honno o'r ffordd.

Gwybodaeth am ansawdd

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau hyd ac amodau ffyrdd ac mewn cyfrifiadau Asesiad o Wariant Safonol (SSA), a ddefnyddir i ddosbarthu cyllid i awdurdodau lleol.

Cywirdeb

Gweler yr adran ar fethodoleg yn y hyd a chyflwr ffyrdd: Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Mae rhagor o wybodaeth yn y nodyn technegol a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth.

Hyd ffyrdd

Mae newidiadau blynyddol o ran hyd ffyrdd i Gasnewydd (cyfanswm a dosbarthiad ffyrdd) yn deillio o welliant yn ansawdd y data, yn hytrach na chynnydd gwirioneddol.  Wrth gasglu data 2021-22 i’w cyhoeddi, nododd Awdurdod Lleol Casnewydd nifer o ffyrdd oedd wedi eu mabwysiadu gan yr awdurdod ond nad oeddent eto wedi eu cynnwys yn eu systemau data. Mae’r mater bellach wedi ei ddatrys ac mae ffigurau 2021-22 yn adlewyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf. Cynyddodd cyfanswm hyd ffyrdd Casnewydd yn 2021-22 o 50.5 km (7.3%) o’i gymharu â 2020-21.

Yn ogystal â’r uchod, diweddarodd Awdurdod Lleol Casnewydd y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddosbarthu ffordd sirol A fel ffordd adeiledig neu ffordd anadeiledig. Mae’r dosbarthiad nawr yn ystyried cyfyngiad cyflymder y ffyrdd hyn. Yn flaenorol, dim ond amcangyfrifon poblogaeth a ddefnyddiwyd ac mae’r newid hwn wedi ei ddefnyddio ar gyfer data 2021-22. Yn 2021-22, cynyddodd cyfanswm hyd ffyrdd adeiledig Casnewydd (ac eithrio traffyrdd) o 110.5km (24.6%) a gostyngodd cyfanswm hyd ffyrdd anadeiledig Casnewydd (ac eithrio traffyrdd) o 60 km (27.7%) o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol flaenorol.

Prydlondeb

Mae'r ystadegau ar hyd ac amodau ffyrdd yn ymwneud â data a gafwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22. Mae ystadegau ar amodau ffyrdd awdurdodau lleol yn ymwneud â data ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21, 2021-22.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae'r bwletin ystadegol hwn wedi'i gyhoeddi ymlaen llaw ac yna'n cael ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau Cymru ac mae tablau ar ein gwefan StatsCymru yn cyd-fynd ag ef. Rydym yn croesawu barn defnyddwyr ar ofynion presennol ac yn y dyfodol ar gyfer y data hwn.

Cymaroldeb a Chydlyniad

Hyd traffyrdd

Nid oedd unrhyw newidiadau gwirioneddol i hyd y draffordd yn 2018-19 ond newidiodd yr amcangyfrif ychydig oherwydd methodoleg gwell. Dim ond mân newidiadau i hyd y draffordd (yn ogystal â neu minws uchafswm o 0.2 km) y mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi'u gweld, gan arwain at gynnydd cyfunol o 0.3 km yn gyffredinol.

Y ddau eithriad yw'r cynnydd yn Sir Fynwy a Chasnewydd (0.8 km a 0.7 km yn y drefn honno). Mae'r rhain o ganlyniad i gynnwys rhannau o'r ffordd a ddehonglwyd yn flaenorol fel ffordd ymuno; lle mae'r M48 yn ymuno â'r M4 yn Sir Fynwy a lle mae'r A48(M) yn ymuno â'r M4 yng Nghasnewydd. Ystyrir bod y darnau ymuno hyn yn draffyrdd ac nid yn ffyrdd ymuno am nad yw cerbydau'n gadael un ffordd i ymuno â'r llall, maent yn uno gyda'i gilydd.

Amodau ffyrdd awdurdodau lleol

Mewn cyhoeddiadau blaenorol, adroddwyd bod cyflwr y ffyrdd ar gyfer pob awdurdod lleol yn un ffigur sy'n ymwneud â chanran y rhwydwaith ffyrdd cyfan a reolir gan yr awdurdod lleol mewn cyflwr gwael. Mae'r data bellach yn cael eu cofnodi ar wahân yn ôl dosbarth ffordd i roi cynrychiolaeth fwy cywir o berfformiad pob awdurdod lleol. Y rheswm am hyn yw bod ffyrdd C mewn cyflwr gwaeth ar y cyfan na ffyrdd A neu B, felly roedd gan awdurdodau lleol sy'n cynnwys cyfran uwch o ffyrdd C gyfran lawer uwch o ffyrdd mewn cyflwr gwael.

Casglwyd y set ddata hon yn flaenorol fel rhan o Fesurau Atebolrwydd Cyhoeddus a arweiniwyd gan Data Cymru. Daeth y mesurau i ben yn 2020-21 ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda chydweithwyr o Data Cymru i benderfynu ar ffynonellau data amgen ar gyfer y wybodaeth hon

Arolygon defflectograff

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu dau brif ddull o brosesu data Defflectograff. Defnyddiodd Llywodraeth Cymru'r dull Defflec ar gyfer pob arolwg hyd at 2014-15. Ers 2015-16, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio dull prosesu Pandef.

Mae hyn yn arwain at derfynu'r data rhwng 2014-15 a 2015-16. Fodd bynnag, mae'r newid hwn mewn meddalwedd yn alinio Llywodraeth Cymru â'r dulliau a ddefnyddir gan weddill y DU, gan gynnwys Highways England a Transport Scotland.

Arolygon SCRIM

O ganlyniad i'r amrywiad hwn yn y nodweddion sgidio, tan 2005, cynhaliwyd arolygon SCRIM o'r rhwydwaith cefnffyrdd ar draean o'r rhwydwaith bob blwyddyn, gyda phob darn yn cael ei arolygu deirgwaith yn ystod y flwyddyn (ar ddechrau, canol a diwedd tymor yr arolwg SCRIM).

Fodd bynnag, bu newid yn y dull o arolygu cefnffyrdd o 2005, fel bod mesuriadau ymwrthedd i sgidio bellach yn cael eu gwneud bob blwyddyn o dan un drefn o arolwg blynyddol. Mae'r arolygon wedi'u trefnu fel bod y rhwydwaith, dros gyfnod o dair blynedd, yn cael ei arolygu'n gynnar, yng nghanol ac yn hwyr yn y tymor profi yn y blynyddoedd dilynol, h.y. bydd hyd a arolygwyd yn gynnar yn y flwyddyn gyntaf yn cael ei arolygu yng nghanol y tymor yn yr ail flwyddyn ac yna'n hwyr yn y tymor yn y drydedd flwyddyn.

Mae Highways England (yr Asiantaeth Priffyrdd gynt) wedi trefnu treial cydberthyniad blynyddol ar gyfer cerbydau arolwg SCRIM, sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan TRL. Mae'n ofynnol i bob cerbyd SCRIM sy'n cynnal arolygon ar gefnffyrdd basio'r treial er mwyn cynnal arolygon ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Gall gweithredwyr arolygon SCRIM eraill hefyd fynychu'r treialon, er nad yw'n orfodol. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol sy'n comisiynu arolygon SCRIM fel arfer yn disgwyl y bydd y cerbydau SCRIM a ddefnyddir ar eu rhwydwaith wedi pasio'r treialon, ac felly yn ymarferol canfuwyd fod pob cerbyd SCRIM sy'n gweithredu yn y DU yn mynd i’r treialon. Yn y treialon, ma'n ofynnol i'r cerbydau SCRIM gynnal arolygon ar nifer o safleoedd sydd â gwahanol lefelau o ymwrthedd i sgid ac mae'r data'n cael ei gymharu i nodi'r allanolynnau. Nod y treialon felly yw sicrhau cysondeb ar draws y fflyd o gerbydau sy'n gweithredu yn y DU.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac yn dynodi cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai pob ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Ychwanegu at a mireinio gwybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi.
  • Gwella ein dealltwriaeth o'r gwahanol ffynonellau data a'r fethodoleg y tu ôl iddynt, gan gynnwys eu cryfderau a'u cyfyngiadau.
  • Ychwanegu ffynonellau data perthnasol newydd i roi darlun ehangach o'r pwnc.
  • Gwell delweddau drwy symleiddio a safoni siartiau a thablau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'u hadfer pan fydd safonau'n cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau a gynhwysir yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn y gellir eu darparu drwy e-bost i ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 22/2022