Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi lansio ymgynghoriad ynglŷn â’r ddyletswydd gonestrwydd sy’n un o’r pedair rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Bwriedir dod â’r ddyletswydd i rym o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Nod y ddyletswydd gonestrwydd yw hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw yn GIG Cymru ac ategu dyletswyddau proffesiynol eraill sydd eisoes yn bodoli. Nid yw diwylliant o fod yn agored yn newydd yng Nghymru – mae’n adeiladu ar yr egwyddor o fod yn agored sydd wrth wraidd y broses Gweithio i Wella a gyflwynwyd yn 2011.   

Yn anffodus, bydd pobl weithau’n dioddef niwed pan fyddant yn cael gofal iechyd. Os bydd hynny’n digwydd, mae’n hanfodol bod pobl yn cael ymddiheuriad amserol, yn cael esboniad gonest am yr hyn ddigwyddodd a bod camau’n cael eu cymryd i ddarganfod pam ddigwyddodd y niwed hwnnw. Mae angen sicrhau pobl – a’r GIG ehangach – y bydd unrhyw wersi’n cael eu dysgu o’r digwyddiad i atal niwed o’r fath rhag digwydd eto.

Rwy’n disgwyl i’r ffocws fod ar ddysgu a gwella – nid yw hyn yn ymwneud â bai. Mae angen cefnogi staff a defnyddwyr gwasanaethau drwy broses y ddyletswydd gonestrwydd.

Byddaf yn disgwyl i sefydliadau’r GIG a darparwyr gofal sylfaenol ddilyn proses pan fydd y ddyletswydd gonestrwydd yn cael ei sbarduno. Mae’r ymgynghoriad yn nodi cyfres o gynigion ar gyfer sut y gallai hynny ddigwydd, gan gynnwys gofyniad i lunio adroddiad blynyddol ar gydymffurfio â’r ddyletswydd. 

Byddwn yn croesawu barn pobl a sefydliadau ar ganllawiau a rheoliadau’r ddyletswydd gonestrwydd. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ar newidiadau i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023 a’r canllawiau Gweithio i Wella.

Drwy’r ymgynghoriad hwn, edrychaf ymlaen at glywed gan bawb sydd â diddordeb mewn hyrwyddo diwylliant o onestrwydd a thryloywder yn y GIG. Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 13 Rhagfyr. Mae’r ddolen at yr ymgynghoriad ar gael yma: https://llyw.cymru/dyletswydd-gonestrwydd