Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Pwysigrwydd tystiolaeth gynhwysol

Un o bedwar gwerth craidd y Gwasanaeth Sifil (a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil) yw 'gwrthrychedd' a gaiff ei ddiffinio fel 'seilio'ch cyngor a'ch penderfyniadau ar ddadansoddiad trylwyr o'r dystiolaeth'. Mae angen tystiolaeth ddibynadwy drwy gydol y broses o ddatblygu polisi er mwyn cynllunio'r polisi, rhoi'r polisi ar waith a gwerthuso a oedd y polisi'n llwyddiannus a beth sydd angen ei wella. Mae angen i ni ddeall a yw polisïau'n cael effaith gadarnhaol yn gyffredinol, ar gyfer holl boblogaeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo hawliau a chanlyniadau ar gyfer pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae Tasglu Hawliau Pobl Anabl hefyd yn ystyried y camau y mae angen eu cymryd er mwyn chwalu'r rhwystrau i bobl anabl yn ein cymdeithas. Mae gennym Gynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru ac rydym wedi cyhoeddi cynllun gweithredu diwygiedig ar ôl cynnal ymgynghoriad. Rydym yn gweithio gyda grwpiau LHDTC+ ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ ar gyfer Cymru.

Mae COVID-19 a'i effeithiau wedi tynnu sylw at yr angen am dystiolaeth gadarnach er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod cael tystiolaeth ddibynadwy y gellir ei defnyddio yn hanfodol i ddeall yr anghydraddoldebau systemig y mae dinasyddion yng Nghymru yn eu hwynebu a mynd i'r afael â'r problemau, sy'n aml wedi'u gwreiddio'n ddwfn, sy'n cael effaith andwyol ar y rhai â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig. Mae data yn aml yn cuddio gwahaniaethau penodol ac unigryw rhwng hunaniaethau lleiafrifol ac achosion pan fo dwy neu fwy o nodweddion yn croestorri. Rydym yn deall bod angen sicrhau bod tystiolaeth yn cynrychioli profiadau bywyd y grwpiau y mae'n ceisio eu darlunio.

Yn sgil hyn, datblygwyd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd sy'n cynnwys

  • Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd

Bydd yr Unedau yn canolbwyntio ar wella tystiolaeth cydraddoldeb i'w defnyddio wrth wneud penderfyniadau, rhoi polisïau/ymyriadau ar waith, darparu gwasanaethau, gwaith ymchwil a thrafodaethau, o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.

Cefndir

Er ein bod wedi deall ers tro nad oedd digon o dystiolaeth ynghylch anghydraddoldebau yng Nghymru, amlygodd dau adroddiad mewn perthynas â COVID-19 yn benodol y bylchau hyn gan alw am sefydlu Unedau Tystiolaeth gwahanol:

Roedd adolygiad cyflym a gyhoeddwyd gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 ym mis Ionawr 2022 hefyd wedi amlygu'r anawsterau sy'n gysylltiedig â chael gafael ar ddata croestoriadol mewn perthynas â rhywedd ac effeithiau COVID-19.

Gan fyfyrio ar ein hymateb i bandemig COVID-19, daeth yn fwyfwy amlwg mai ychydig o dystiolaeth cydraddoldebau a oedd ar gael i lunwyr polisi ei defnyddio wrth wneud penderfyniadau ynghylch iechyd y cyhoedd. Ym mis Ionawr 2021, gwnaethom waith ymchwil i gwmpasu rôl yr Unedau Tystiolaeth a argymhellwyd gan ganolbwyntio ar dystiolaeth cydraddoldeb. Fel rhan o'r gwaith, cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Dwy thema amlwg a ddeilliodd o'r gwaith ymgysylltu â'n rhanddeiliaid oedd ei bod yn bwysig cynnwys pobl â phrofiadau bywyd ar bob cam yn y broses o greu a rhedeg yr Unedau Tystiolaeth, a gweithio mewn ffordd groestoriadol. Cytunodd y gwaith cwmpasu â'r argymhellion o'r ddau adroddiad uchod ac arweiniodd at argymhellion mewn perthynas â sefydlu'r Unedau Tystiolaeth, yr adnoddau gofynnol a'r trefniadau llywodraethu. Mae'r argymhellion hyn i gyd wedi'u datblygu ymhellach ar gyfer y Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb hon.

Cyflwyniad

Ym mis Ionawr 2022, gwnaethom sefydlu tair Uned wahanol, pob un â'i rhaglen dystiolaeth ei hun, sef:

  • Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd

Bydd yr Unedau yn cydweithio fel yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd gyda Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb gyffredinol er mwyn sicrhau synergedd, effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chydlyniant.

Er hwylustod, defnyddir ‘yr Unedau’ i gyfeirio at yr Unedau ar y cyd yn y ddogfen hon.

Mae'r strategaeth hon yn disgrifio cwmpas, cylch gwaith a bwriadau'r Unedau yn ogystal â strategaeth gyffredinol ac rydym hefyd wedi cyhoeddi rhestr o flaenoriaethau ar gyfer yr Unedau. Mae'r blaenoriaethau yn cynnwys tasgau y mae'n rhaid eu cyflawni er mwyn sefydlu'r Unedau a'r blaenoriaethau ymchwil allweddol. Fe'u datblygwyd gyda rhanddeiliaid yn seiliedig ar ymrwymiadau sydd eisoes wedi'u gwneud a gofynion newydd o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Tasglu Hawliau Pobl Anabl, Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru, Cynllun Gweithredu LHDTC+ drafft, a chynlluniau a strategaethau allweddol eraill Llywodraeth Cymru.

Lluniwyd y strategaeth hon ar sail y sgyrsiau lu a gafwyd â rhanddeiliaid â'r ystod lawn o nodweddion wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu amrywiol Llywodraeth Cymru a chwmpasu'r Unedau. Trafodwyd y strategaeth â rhanddeiliaid ac mae wedi esblygu i'r fersiwn sydd gennym heddiw. Y bwriad yw bod y Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb hon yn ddogfen fyw. Wrth i'r Unedau ddatblygu a chyflawni, gall cylch gwaith yr Unedau amrywio a gall blaenoriaethau rhanddeiliaid newydd. Byddwn hefyd, drwy ein cydberthnasau, yn dysgu mwy am ofynion rhanddeiliaid. Wrth i ni roi'r strategaeth ar waith, byddwn yn parhau i gynnwys rhanddeiliaid yn y gwaith o ddatblygu ac adolygu blaenoriaethau a chytuno arnynt. Felly, caiff y strategaeth hon ei ailwampio a'i diwygio yn ôl yr angen.

Y weledigaeth i Gymru: Cymru sy'n fwy cyfartal

Caiff gweledigaeth Llywodraeth Cymru i Gymru ei hamlinellu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru gan sicrhau bod unrhyw bolisïau a ddatblygir yn gwella bywydau pobl ar hyn o bryd a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r Ddeddf yn amlinellu saith nod llesiant er mwyn sicrhau bod holl gyrff y sector cyhoeddus yn gweithio tuag at yr un diben.

Un o nodau'r Ddeddf yw “Cymru sy'n fwy cyfartal”. Bydd gwaith yr Unedau i gyflawni'r strategaeth hon yn bwysig er mwyn helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyflawni'r nod hwn a mesur effaith ym mhob nod ar bawb sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw Cymru yn wlad gyfartal ar hyn o bryd a bod profiadau llawer o gymunedau o'i mewn yn wahanol iawn. Mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn wynebu achosion o wahaniaethu a hiliaeth. Mae pobl anabl wedi brwydro ers tro am yr hawl sylfaenol i fyw'n annibynnol ac maent wedi datblygu'r datganiad ‘Dim byd amdanon ni hebddon ni’. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod pobl anabl wedi profi gwahaniaethu a'u bod wedi cael eu cyfyngu a'u heithrio o ganlyniad i bandemig COVID-19, ac mae'n derbyn hefyd bod angen i ni gynnwys pobl anabl yn llawn wrth gynllunio polisïau.

Rydym yn ymrwymedig hefyd i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau er mwyn creu Cymru lle caiff grym ei rannu'n gyfartal rhwng menywod, dynion a phobl anneuaidd. Yn ogystal, mae ymrwymiad o hyd i ddatblygu gwlad lle mae holl bobl LHDTC+ Cymru yn ddiogel i fyw a charu yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain.

Y cyd-destun polisi

Mae'r adran hon yn amlinellu'r prif ddarnau o ddeddfwriaeth, strategaethau a chynlluniau sy'n ymwneud â chydraddoldeb yng Nghymru.

Deddfwriaeth cydraddoldeb

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae'n gosod dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ystyried sut y gallant leihau anghydraddoldebau i grwpiau allweddol pan fyddant yn gwneud penderfyniadau.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf yw:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Mae cwmpas yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn seiliedig ar y rhestr hon ond rydym wedi ymestyn ein cwmpas i gynnwys yr hyn rydym yn eu galw'n ‘nodweddion cysylltiedig’ sy'n adlewyrchu statws economaidd-gymdeithasol, yn cynnwys y gymuned LHDTC+ ehangach wrth i gysyniadau ynghylch rhyw a rhywedd ddatblygu, yn ogystal â cheiswyr lloches a ffoaduriaid o dan hil. Ceir rhestr o'r nodweddion a gwmpesir yn yr adran Cwmpas.  Er mwyn deall anghydraddoldebau ac effeithiau polisïau ar y grwpiau hyn, rhaid cael tystiolaeth.

Mae Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus sy'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, i roi sylw priodol i'r angen i wneud y canlynol:

  • dileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin cydberthnasau da rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu

Rheoliadau penodol i Gymru yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 sy'n adeiladu ar y Ddeddf ac yn gosod sylfaen bellach ar gyfer datblygu cydraddoldeb yng Nghymru gyda'r nod o sicrhau bod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn gweithredu'n well. O dan y Rheoliadau hyn, mae'n ofynnol i gyrff datganoledig yn y sector cyhoeddus a restrwyd, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, bennu, adolygu a diwygio amcanion cydraddoldeb ac mae tystiolaeth yn allweddol yn hyn o beth. Mae Adran 5 o'r Ddeddf yn cynnwys gofyniad i adolygu'r amcanion hyn gyda chynrychiolwyr pobl â nodweddion gwarchodedig, a gallai tystiolaeth a gesglir gan yr Unedau hyn hwyluso'r gwaith hwn drwy dechnegau ymchwil ymgynghori.

Daeth Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru i rym yn 2021 a'i nod yw sicrhau canlyniadau gwell i'r rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Nod cyffredinol y ddyletswydd yw sicrhau canlyniadau gwell i''r rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol drwy wneud yn siŵr bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau strategol yn ystyried y dystiolaeth, yn ymgynghori ag unigolion ac yn ysgogi newidiadau cadarnhaol. Mae tystiolaeth yn dangos bod grwpiau lleiafrifol yn fwy tebygol o fod o dan anfantais economaidd-gymdeithasol ac, felly, mae cysylltiad clir rhwng y dystiolaeth sydd ei hangen i asesu statws economaidd-gymdeithasol a thystiolaeth ar nodweddion gwarchodedig. Mae mwy o waith i'w wneud i ddiffinio statws economaidd-gymdeithasol a bydd yr Unedau yn helpu i ddatblygu'r gwaith hwn.

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998  yn nodi'r hawliau a'r rhyddidau sylfaenol sydd gan bawb yn y DU. Mae'n ymgorffori'r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith ddomestig Prydain. Mae angen asesu hawliau dynol yn ôl nodweddion er mwyn sicrhau y gall holl aelodau ein cymunedau arfer eu hawliau dynol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru i bobl ar hyn o bryd a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r Ddeddf yn nodi saith nod gan gynnwys

  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus

Mae'r Ddeddf yn golygu y caiff penderfyniadau gwell eu gwneud drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ystyried ac yn cynnwys pobl o bob oed ac amrywiaeth. Y ffocws yw sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn addas nawr ac yn y dyfodol. Bydd tystiolaeth cydraddoldeb o ansawdd uwch yn ein helpu i asesu a yw'r nodau llesiant yn cael eu cyflawni.

Mae'n dod yn fwyfwy eglur na ellir cyflawni'r nod o greu Cymru sy'n fwy cyfartal hyd nes y gallwn gael gwared ar wahaniaethu a gwahaniaethau o'n cymdeithas.

Ymrwymiadau Llywodraeth Cymru

Mae Rhaglen Lywodraethu 2021 Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymrwymiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2026. Mae ymrwymiad penodol i wneud y canlynol

  • Creu Uned Gwahaniaethau ar sail Hil ochr yn ochr ag Uned Data Cydraddoldeb i sicrhau sylfaen dystiolaeth gynhwysol i lywio’r broses o wneud penderfyniadau yn y llywodraeth.

Mae ymrwymiadau cysylltiedig hefyd y bydd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn cyfrannu atynt o ran cyngor, arweiniad a chymorth ynghylch tystiolaeth.

  • Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math
  • Gweithredu ac ariannu’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol
  • Defnyddio’r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu i gau’r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy’n gweithio
  • Edrych ar ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog ar sail rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu
  • Sicrhau bod cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n cael arian cyhoeddus yn mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog
  • Rhoi targedau ar waith ynghylch Cyllidebu ar sail Rhyw
  • Cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd, yn seiliedig ar 80 i 100 o Aelodau; system bleidleisio sydd yr un mor gyfrannol,neu’n fwy cyfrannol, â’r un bresennol a chyflwyno cwotâu rhywedd wedi’u pennu mewn cyfraith

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 Llywodraeth Cymru yn nodi'r amcanion cydraddoldeb i Gymru yn erbyn nodau hirdymor. Mae'r camau gweithredu hyn wedi'u rhannu yn ôl meysydd polisi (addysg, gwaith, safonau byw, iechyd, cyfiawnder a diogelwch personol a chyfranogiad). Bydd gwaith yr Unedau yn bwydo i mewn yn uniongyrchol i'r broses o fesur i ba raddau y mae'r camau gweithredu a nodwyd wedi cael eu rhoi ar waith ac i ba raddau y llwyddwyd i gyflawni'r nodau. Datblygwyd Fframwaith Canlyniadau Rhaglenni Cyllid Cydraddoldeb er mwyn helpu rhaglenni cyllid cydraddoldeb i asesu a dangos yr hyn y maent wedi'i gyflawni yn erbyn y nodau hirdymor a geir yn y cynllun cydraddoldeb strategol.

Dilynodd Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru o Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 ac yn sgil yr anghydraddoldebau a gafodd eu hamlygu a'u dwysáu yn ystod pandemig COVID-19. Ymgynghorwyd ar gynllun drafft a chyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig ym mis Mehefin 2022. Mae'r cynllun yn nodi mai gweledigaeth Llywodraeth Cymru i Gymru yw gwlad sy'n falch ei bod yn wrth-hiliaeth, lle y caiff pawb eu trin fel dinasyddion cydradd. Mae angen ymdrechion ymwybodol a chamau gweithredu pendant i gynnig cyfleoedd cyfartal i bawb, ar lefel unigol, sefydliadol a systemig. Yn ogystal, mae angen cynnwys unigolion o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ym mhob lefel o'r broses gwneud penderfyniadau fel bod eu hanghenion a'u profiadau o anghydraddoldebau yn cael eu deall a'u hystyried. Mae'r cynllun yn nodi bod yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil yn adnodd allweddol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn seiliedig ar dystiolaeth a'i fod yn cael ei fonitro a'i werthuso.

Mae Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi cael ei sefydlu yng Nghymru i ystyried y rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl ac fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19. Mae'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a arweinir gan Weinidog yn gweithio i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a nodwyd yn adroddiad Drws ar Glo ac yn goruchwylio'r gwaith i ddatblygu'r camau gweithredu a fydd yn rhan o Gynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl. Un o argymhellion allweddol yr adroddiad oedd y dylid defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo mewn egwyddor ers 2002 a chafodd yr ymrwymiad ei ailddatgan gan y Pwyllgor Gweithredol ym mis Rhagfyr 2019. Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd yn gweithio'n agos gyda'r Tasglu i sicrhau bod tystiolaeth addas ar gael i ategu, monitro a gwerthuso'r cynllun.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru ym mis Mawrth 2020 ac mae'n nodi amcanion allweddol dros y tymor byr i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Bydd yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb yn gweithio'n agos gyda'r arweinwyr polisi i sicrhau bod tystiolaeth addas ar gael i ategu, monitro a gwerthuso'r cynllun.  Bydd yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddylunio ail fersiwn y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru a fydd yn gosod y fframwaith ar gyfer gwaith Gweinidogion Cymru ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau o 2023 ymlaen.

Cafodd Cynllun Gweithredu LHDTC+ drafft Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi er mwyn ymgynghori arno ym mis Gorffennaf 2021. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hadolygu ac mae cynllun diwygiedig yn cael ei ddatblygu. Nod y cynllun yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau strwythurol y mae cymunedau LHDTC+ yn eu hwynebu ar hyn o bryd, herio gwahaniaethu a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain. Bydd yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb yn gweithio'n agos gydag arweinwyr polisi i sicrhau bod tystiolaeth addas ar gael i gefnogi, monitro a gwerthuso'r cynllun.

Mae adroddiad Llywodraeth Cymru Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn rhoi manylion gwaith ymchwil a gomisiynwyd fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu clir yng Nghymru i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hystyried a'u diogelu'n llawn. 

Mae canfyddiadau'r ymchwil yn amlinellu dulliau o gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, ac yn cynnwys argymhellion ar gyfer diwygiadau i ddeddfwriaeth, polisïau neu ganllawiau, neu ddiwygiadau eraill er mwyn cyflawni'r amcan hwn. Mae nifer o argymhellion yn cyfeirio at amcanion, targedau, dangosyddion ac asesiadau effaith. Bydd tystiolaeth cydraddoldeb yn cefnogi'r prosesau hyn.

Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at argymhellion Tasglu Data Cynhwysol Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r argymhellion yn disgrifio'r ffordd orau o wneud newid sylweddol o ran cynhwysiant data a thystiolaeth yn y DU.

Bydd angen gwybodaeth ddibynadwy a pherthnasol am nodweddion cydraddoldeb ar gyfer gweithgareddau a chamau gweithredu eraill oherwydd caiff y nodweddion hyn eu hystyried ym mhob maes polisi ac fel rhan o bob penderfyniad:

Cenhadaeth yr Unedau

Datganiad cenhadaeth

Bydd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig er mwyn inni ddeall yn llawn lefel yr anghydraddoldebau a'r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru.

Bydd hyn yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ledled Cymru i ddatblygu polisïau sy'n seiliedig ar wybodaeth well a mesur eu heffaith. Bydd hyn yn ein hysgogi i sicrhau gwell canlyniadau i bobl â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig ac yn cyfrannu at greu ‘Cymru fwy cyfartal’ fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Bydd hyn yn cyflwyno her glir i Lywodraeth Cymru a Chyrff y Sector Cyhoeddus o ran y dystiolaeth y mae angen iddynt ei monitro a'r camau gweithredu y mae angen eu cymryd o ganlyniad i'r dystiolaeth a gyflwynir.

Diffiniadau sy'n ymwneud â'r datganiad cenhadaeth

Y nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

Er ein bod yn cydnabod nad yw'r termau ‘hunaniaeth rhywedd’ na ‘mynegiant rhywedd’ yn nodweddion gwarchodedig yn ôl diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod polisïau sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer yr unigolion hynny sy'n ystyried eu hunain yn bobl ‘trans’ (yn hytrach na deuaidd) yn ddull gweithredu mwy cynhwysol ac mae'n sicrhau y gall Gweinidogion Cymru gydymffurfio â'n holl ddyletswyddau statudol sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb a hyrwyddo llesiant yng Nghymru. Felly, rydym yn cynnwys nodweddion cysylltiedig y tu hwnt i'r rhai a ddiffinnir yn y Ddeddf Cydraddoldeb; yn benodol, rydym yn cynnwys pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol a chwiar/cwestiynu (LHDTC+) (ac mae'r + yn cynrychioli hunaniaethau eraill gan gynnwys anneuaidd).

O ganlyniad i'r berthynas gref rhwng grwpiau lleiafrifol a statws economaidd-gymdeithasol, caiff hyn ei gynnwys hefyd er mwyn cefnogi Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n ceisio sicrhau canlyniadau gwell i'r rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Caiff ceiswyr lloches a ffoaduriaid, yn ogystal â'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, eu cynnwys yn benodol fel rhan o'r nodwedd hil am nad ydynt i'w gweld mewn ffynonellau tystiolaeth ar hyn o bryd.

Byddwn hefyd yn ystyried croestoriadedd, sef natur ryng-gysylltiedig nodweddion a all ddwysáu gwahaniaethu neu anfantais gan greu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy'n gorgyffwrdd ac yn rhyngddibynnol.

Caiff yr holl nodweddion a gwmpesir eu rhestru yn yr adran Cwmpas.

Argaeledd

Sicrhau bod gwybodaeth ar gael i fwy o sefydliadau a mwy o bobl, ac i'r cyhoedd os yw hynny'n briodol.

Ansawdd

Gweithio i ddeall sut mae'r dystiolaeth rydym yn ei defnyddio a'i hyrwyddo yn cyrraedd safonau proffesiynol a deall cyfyngiadau'r ffynonellau tystiolaeth sydd ar gael i ni. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr tystiolaeth i wella ansawdd y dystiolaeth fel y gallwn ei defnyddio'n hyderus at nifer o ddibenion. Rydym yn ymrwymedig i'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a Chod Ymchwil Gymdeithasol a Phrotocol Cyhoeddiadau Llywodraeth y DU.

Manylder

Er mwyn deall profiadau cymunedau lleiafrifol a phobl sydd â mwy nag un nodwedd, mae angen i ddefnyddwyr allu mynd drwy'r dystiolaeth â chrib fân i weld profiadau unigryw grwpiau lleiafrifol gwahanol. Mae'n anodd gwneud hyn gan fod poblogaethau lleiafrifol yn arwain at samplau bach mewn arolygon a phroblemau'n ymwneud â datgelu data. Byddwn yn ystyried pob ffordd o ddod o hyd i dystiolaeth addas a'i chyflwyno gan sicrhau na chaiff gwybodaeth ei datgelu a chyflwyno gwybodaeth ar y lefel isaf bosibl.

Hygyrchedd

Sicrhau bod tystiolaeth ar gael mewn fformatau, ieithoedd a chan ddefnyddio technoleg briodol sy'n golygu ei bod yn hygyrch i bawb, gan gynnwys y cymunedau y mae'r dystiolaeth yn eu cynrychioli.

Tystiolaeth

Gall gwahanol fathau o dystiolaeth helpu i lywio polisïau. Mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn cyflawni dibenion gwahanol ond gellir eu defnyddio hefyd i gefnogi ac ategu ei gilydd. Mathau o dystiolaeth:

  • Profiad bywyd
  • Ymchwil gymdeithasol
  • Gwerthuso (proses, effaith ac economaidd)
  • Ystadegau
  • Ymchwil economaidd
  • Gwybodaeth arbenigol a gwaith ymgynghori â rhanddeiliaid
  • Ymchwil weithredol 

Cwmpas

Gwyddom fod data yn aml yn cuddio gwahaniaethau penodol ac unigryw rhwng hunaniaethau lleiafrifol ac achosion pan fo dwy neu fwy o nodweddion yn croestorri.  Bydd y tair uned yn ystyried croestoriadedd yn eu gwaith a bydd angen i'r tair uned gydweithio â'i gilydd ar sawl prosiect. Bydd y tair uned hefyd yn gweithio ym mhob maes polisi allweddol. Mae materion o ddiddordeb trawsbynciol yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill: statws economaidd-gymdeithasol; pobl sydd angen gofal neu gymorth; gofalwyr di-dâl; pobl ddigartref; carcharorion, pobl sydd wedi dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder.

Bydd yr Uned Gwahaniaethau ar Sail Hil yn canolbwyntio'n benodol ar y canlynol:

  • ethnigrwydd
  • crefydd a chred
  • mudwyr
  • ffoaduriaid
  • ceiswyr lloches
  • Sipsiwn, Roma a theithwyr

Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd yn canolbwyntio'n benodol ar y canlynol: y model cymdeithasol o anabledd, namau corfforol, namau meddyliol, anghenion dysgu ychwanegol; niwrowahaniaeth.

Bydd yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb yn canolbwyntio'n benodol ar y canlynol: rhywedd (gan gynnwys menywod, dynion a phobl anneuaidd gan gynnwys poblogaethau cisryweddol a thrawsryweddol); ailbennu rhywedd; LHDTC+ (gan gynnwys ffocws ar gydraddoldeb rhywiol sy'n cwmpasu poblogaethau cisryweddol a thrawsryweddol); oedran; rhyw (gan gynnwys gwryw, benyw a rhyngrywiol); priodas a phartneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth.

Ein cylch gwaith

Fel y nodir yn y genhadaeth, nodau'r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yw gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig.

Bydd gwell ffynonellau tystiolaeth a mynediad gwell iddynt o fudd i Lywodraeth Cymru yn ogystal â'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, sefydliadau cymdeithas sifil a'r gymuned ehangach. Er nad yw bod yn wasanaeth cynghori ar gyfer data cydraddoldeb yn rhan o'n cylch gwaith ar hyn o bryd, mae gan yr Unedau rôl i'w chwarae o ran helpu a pharatoi'r ystod eang o ddefnyddwyr i ddod o hyd i dystiolaeth cydraddoldebau a'i defnyddio'n effeithiol. Gallai hyn olygu mynediad at ffynonellau data, adnoddau a dulliau gweithredu datblygedig neu newydd. Byddwn yn siarad hefyd â'n hystod eang o randdeiliaid er mwyn gwahodd blaenoriaethau o'r tu allan i Lywodraeth Cymru a'u cynnwys yn ein rhaglen waith.

Gan fod yr Unedau'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, byddwn yn canolbwyntio i ddechrau ar asesu'r dirwedd a sicrhau bod unrhyw dystiolaeth, cyngor ac arweiniad ar gael mor eang â phosibl fel y gallant fod o fudd i bawb. Y blaenoriaethau cychwynnol yw darparu tystiolaeth ar gyfer ymrwymiadau Llywodraeth Cymru fel y nodir yn yr adran Polisi ond dylai datblygu tystiolaeth yn y meysydd hyn fod o fudd i'r sector cyhoeddus cyfan. Caiff unrhyw gyngor, arweiniad a thystiolaeth a ddatblygir eu rhannu'n gyhoeddus fel bod mynediad cyfartal iddynt a'u bod yn cyflwyno'r budd mwyaf wrth i ni arwain, meithrin gallu a rhannu gwybodaeth.

Dadansoddwyr presennol Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol o hyd am gasglu data rheolaidd a'u dadansoddi, ymchwil, gwerthuso a cheisiadau ad-hoc am dystiolaeth polisi oni bai eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig â strategaethau cydraddoldeb allweddol fel gofynion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol neu'r Tasglu Pobl Anabl.

Cyfrifoldebau allweddol yr Unedau Tystiolaeth  Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yw:

  • Asesu'r dirwedd dystiolaeth bresennol mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig o safbwynt argaeledd, ansawdd, hygyrchedd a manylder tystiolaeth cydraddoldeb.
  • Deall ac asesu effaith bylchau mewn tystiolaeth cydraddoldebau o anghenion y sector cyhoeddus ehangach, sefydliadau cymdeithas sifil a'r gymuned ehangach.
  • Mewn ymateb i fylchau, asesu, blaenoriaethu a chwmpasu prosiectau i lenwi bylchau allweddol drwy wella a chysylltu ffynonellau data presennol a datblygu ffynonellau newydd o dystiolaeth cydraddoldebau, lle bo angen. Byddwn yn datblygu set o feini prawf i gefnogi ein proses flaenoriaethu, a fydd yn cynnwys ystyried anghenion rhanddeiliaid.
  • Sicrhau bod pob math o dystiolaeth yn cael ei ystyried a datblygu ein defnydd a'n dealltwriaeth o brofiad bywyd drwy sefydlu dull cydgynhyrchu. Byddwn yn hyrwyddo'r defnydd o dystiolaeth profiad bywyd fel tystiolaeth sy'n gydradd â ffynonellau eraill gan sicrhau y caiff hanesion pobl eu clywed.
  • Gwella ansawdd a hygyrchedd ffynonellau data am gydraddoldebau at ddefnydd Llywodraeth Cymru a defnydd allanol ehangach. Sicrhau y caiff y data eu cyflwyno'n glir ac yn ddiamwys fel y gall grwpiau atebolrwydd herio'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch cydraddoldeb yn hyderus.
  • Darparu lefel uchel o gyngor, arweiniad, cymorth a her i lunwyr polisi fel y gellir defnyddio'r data'n briodol er mwyn helpu i wneud penderfyniadau polisi gwell, gan gynnwys asesiadau o effeithiau polisïau. Rhagwelir y gwneir hyn ar ffurf adnoddau cyhoeddus a fyddai'n cynnwys, er enghraifft, arweiniad cyffredinol ar eiriad cwestiynau safonol mewn perthynas ag arolygon a monitro cydraddoldebau, neu wrth gasglu ffynonellau data am gydraddoldeb. Bydd y cyngor a'r arweiniad hwn ar gael i bawb sy'n llunio polisïau yng Nghymru ond ni fydd gwasanaeth cynghori ar gael y tu allan i Lywodraeth Cymru. O fewn Llywodraeth Cymru, gall yr Unedau, ynghyd â dadansoddwyr presennol, ddarparu arweiniad ychwanegol er mwyn galluogi llunwyr polisi i gynnal asesiadau o effeithiau polisïau allweddol ond ni fydd yr Unedau yn cynnal asesiadau o effaith ar eu rhan.
  • Defnyddio tystiolaeth i amlygu arferion da a newidiadau cadarnhaol a chynnal asesiadau cymharol o bolisïau a sefydliadau.
  • Darparu tystiolaeth a chyngor i gefnogi a gwerthuso cynlluniau gweithredu cydraddoldeb allweddol Llywodraeth Cymru, fel Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru, y Cynllun Gweithredu LHDTC+ drafft.
  • Ymgysylltu a gweithio'n barhaus â grwpiau a fforymau cydraddoldeb er mwyn deall a llywio meysydd ymchwil â blaenoriaeth gan gynnwys Grŵp Atebolrwydd Cymru Wrth-hiliol, y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, yr Is-grŵp Cydraddoldeb Rhywiol a'r Grŵp Rhanddeiliad Arbenigol LHDTC+.

Heriau

Rydym yn ymwybodol o nifer o heriau mawr a fydd yn ein hwynebu wrth weithredu'r Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb hon ac rydym yn ymrwymedig i weithio gyda chymunedau a'n rhanddeiliaid i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau sy'n bodoli. Mae ein cynllun a'n ffyrdd o weithio yn dechrau mynd i'r afael â'r heriau hyn.

Ymddiriedaeth

Deallwn fod diffyg ymddiriedaeth ymhlith rhai cymunedau wrth roi data i'r llywodraeth.

Byddwn yn gweithio gyda'r cymunedau hyn i feithrin cydberthnasau ac ymddiriedaeth. Byddwn yn datblygu dealltwriaeth o ddiogelwch data, sut y caiff yr wybodaeth ei defnyddio a manteision rhoi data er mwyn helpu pobl i wneud penderfyniadau. Gwyddom fod cydberthnasau ac ymddiriedaeth wedi gwella mewn rhai meysydd a byddwn yn dysgu o'r meysydd hyn.

Sicrhau bod data gweladwy yn arwain at newid gwirioneddol

Mae diffyg tystiolaeth difrifol ynghylch cydraddoldeb ond mae digon o dystiolaeth i ddangos bod anghydraddoldeb yn bodoli a bod angen gweithredu. Yn gysylltiedig ag ymddiriedaeth, efallai na fydd cymunedau'n hyderus y bydd tystiolaeth well yn arwain at newidiadau i fywydau a phrofiadau unigolion.

Byddwn yn adrodd i grwpiau atebolrwydd fel y gallant ddefnyddio ein tystiolaeth yn hyderus i herio polisïau a sefydliadau fel y gellir sicrhau newid gwirioneddol. Mae grwpiau atebolrwydd presennol yn cynnwys:

  • Grŵp Atebolrwydd Cymru Wrth-hiliol
  • Tasglu Hawliau Pobl Anabl
  • Is-grŵp Cydraddoldeb Rhywiol
  • Grŵp Rhanddeiliad Arbenigol LHDTC+

Newid ffynonellau presennol

Mae'n aml yn anodd newid casgliadau data ystadegol a hynny'n aml am resymau da iawn, fel eisiau cymharu'r un wybodaeth dros gyfnod hir. Yn ogystal, gall fod yn anodd o safbwynt ymarferol ac, felly, yn gostus i newid adnoddau casglu data a phrosesau adrodd. Lle bo angen i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus wneud y newidiadau hyn, efallai na fydd ganddynt yr adnoddau na'r sgiliau i wneud hynny. Mae rhai casgliadau data pwysig yn destun rheoliadau sy'n pennu beth y gellir ei gasglu a gall hyn fod yn rhwystr i newid.

Byddwn yn gweithio gyda'r sawl sy'n rheoli casgliadau data perthnasol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn a dod o hyd i atebion ymarferol. Bydd angen i ni asesu costau newidiadau yn erbyn blaenoriaethau a buddiannau.

Diffyg trefniadau rhannu data

Er bod trefniadau rhannu data rhwng adrannau'r llywodraeth a chyrff sector cyhoeddus wedi gwella, mae meysydd o hyd lle na chaiff data eu rhannu ac mae angen gwneud mwy i adeiladu ar ddulliau rhannu data diogel a dibynadwy.

Mae poblogaethau lleiafrifol yn llai gweladwy mewn tystiolaeth

Mae'n aml yn anodd dadansoddi data arolygon ar gyfer poblogaethau bach gan nad yw'r samplau yn ddigon mawr i roi amcangyfrifon ar gyfer y grwpiau hyn. Ni chaiff rhai nodweddion neu gyfuniadau o nodweddion eu casglu mewn data arolygon neu ddata gweinyddol.

Byddwn yn edrych ar gysylltu data a chwyddo samplau er mwyn mynd i'r afael â'r her hon. Gallai data gweinyddol fod yn ffynhonnell dda o ddata am boblogaethau lleiafrifol (os ydynt wedi datgan eu nodweddion gwarchodedig neu gysylltiedig) gan eu bod yn ehangach nac arolygon ar eu pen eu hunain. Fodd bynnag, gall ansawdd ffynonellau data gweinyddol mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig amrywio a bydd gwaith i feithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth o ran casglu a darparu'r wybodaeth hon yn dylanwadu ar ansawdd unrhyw dystiolaeth a ddatblygir.

Adnoddau a systemau ar gyfer cyd-ddylunio a chydgynhyrchu

Mae'r ffordd draddodiadol o wneud gwaith ymchwil wedi arwain at fylchau yn y dystiolaeth sydd ei hangen i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Rydym am ddysgu cydgynhyrchu ymchwil gyda phobl â phrofiadau bywyd o anghydraddoldebau ac ymchwilwyr o sefydliadau eraill er mwyn llenwi'r bylchau hynny. Er mwyn gwneud hyn, bydd rhaid rheoli gwaith ymchwil mewn ffyrdd gwahanol i feithrin ymddiriedaeth; rhannu penderfyniadau am sut i wneud ymchwil a sicrhau bod cydweithio o fudd i bawb.
Rydym yn ymchwilio i arferion gorau ac yn ymgynghori â'n rhanddeiliaid er mwyn datblygu dulliau cydgynhyrchu effeithiol. Rydym hefyd yn adolygu gweithdrefnau sefydliadol a allai danseilio cydgynhyrchu ac yn dod o hyd i ffyrdd o wobrwyo neu dalu cydnabyddiaeth i gyfranwyr sy'n cydgynhyrchu. Byddwn yn treialu ac yn gwerthuso trefniadau i gydgynhyrchu prosiect ymchwil, yn mireinio ein dull gweithredu ac yn rhannu'r hyn a ddysgwn er mwyn annog eraill i gydgynhyrchu gwaith ymchwil.

Gwahaniaethau blaenoriaethu rhwng grwpiau rhanddeiliaid neu feysydd polisi

Rydym yn cydnabod yr angen gwirioneddol am dystiolaeth cydraddoldeb well ym mhob grŵp rhanddeiliaid ac rydym yn deall y gallai blaenoriaethau amrywio ac y gall adnoddau fod yn brin ar adegau.

Rydym yn meithrin cydberthnasau ac yn gweithio gyda'r holl grwpiau rhanddeiliaid er mwyn deall eu hanghenion yn llawn a byddwn yn cynnwys pob grŵp mewn trafodaethau ynghylch blaenoriaethau mewn ffordd agored.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Mae'r strategaeth hon yn sail i gynlluniau tystiolaeth manylach sy'n cael eu datblygu ar gyfer yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd. Nid nod y strategaeth yw rhestru prosiectau a gynhelir gan yr Unedau; yn hytrach, dogfen strategol ydyw sy'n amlinellu cyfeiriad a nodau ein gwaith. 

Rydym yn dechrau ag archwiliad o dystiolaeth a dadansoddiad o fylchau, a fydd yn ein harwain at nifer o feysydd lle mae angen gwella tystiolaeth cydraddoldebau. Mae rhai o'r gwelliannau hyn sydd eu hangen yn hysbys yn barod ac rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar rai prosiectau penodol lle mae angen llenwi bwlch hysbys ar unwaith. Rydym yn disgwyl y bydd ein dadansoddiad o fylchau yn arwain at gyfres o dasgau y byddwn yn ceisio eu cyflawni yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir, yn dibynnu ar eu cymhlethdod a'u blaenoriaeth. Byddwn yn cynnwys anghenion rhanddeiliaid wrth flaenoriaethu ac yn ymgynghori ar gynllun tystiolaeth pob Uned.

Fodd bynnag, ar sail ein gwaith cwmpasu a thrafodaethau cychwynnol â rhanddeiliaid, rydym yn disgwyl y gallai fod angen y prosiectau canlynol yn dilyn yr archwiliad o dystiolaeth a'r dadansoddiad o fylchau:

  • Ystyried dichonoldeb chwyddo arolygon poblogaeth neu gydgasglu ar draws blynyddoedd er mwyn cynyddu maint y sampl ar gyfer ymatebwyr â nodweddion lleiafrifol.
  • Ystyried dichonoldeb gwahanol opsiynau i gyflwyno ffynonellau data newydd neu addasu ffynonellau data presennol er mwyn llenwi bylchau a nodwyd mewn data gan gynnwys technegau cysylltu data ag Ymchwil Data Gweinyddol Cymru.
  • Cynnal prosiectau ymchwil i ddeall rhwystrau o ran adrodd a deall yn well yr effeithiau croestoriadol ar bobl â nifer o nodweddion.
  • Gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau i gasgliadau data er mwyn sicrhau bod diffiniadau a geiriad cwestiynau yn cyd-fynd â safonau wedi'u cysoni yn ogystal â chymryd rhan mewn gwaith i adolygu'r safonau sydd wedi'u cysoni yn unol ag anghenion polisi Cymru.
  • Datblygu canllawiau ac adnoddau hyfforddi ar ddefnyddio tystiolaeth cydraddoldeb y gellid eu rhannu â sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Gwaith blaenoriaeth uchel sy'n mynd rhagddo yn barod

  • Cwmpasu a threialu prosiect casglu data cydraddoldeb gan Gyrff Sector Cyhoeddus yng Nghymru.
  • Helpu i ddatblygu mesurau ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • Bwydo safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar y Model Cymdeithasol o Anabledd i mewn i arolwg Uned Gwahaniaethau ar Sail Anabledd Swyddfa Gabinet y DU o bobl anabl.
  • Dadansoddi Arolwg Cenedlaethol Cymru i weld pa wybodaeth y gellir ei chyhoeddi yn ôl nodweddion.
  • Cydgynhyrchu er mwyn dylunio a phrofi cwestiynau ymchwil newydd sy'n adlewyrchu'r model cymdeithasol o anabledd (a chanllawiau ar eu defnyddio), y gellid eu defnyddio mewn ymchwil gymdeithasol yn y dyfodol.

Rydym yn ymrwymedig i fesur ein cynnydd ac adrodd yn rheolaidd ar ein cynnydd i Weinidogion a'n rhanddeiliaid.

Ffyrdd o weithio

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru wella bywydau pobl nawr a sicrhau bod hynny'n gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw Cymru yn wlad gyfartal ar hyn o bryd a bod angen gweithredu ar frys. Mae problemau systemig o ran cydraddoldeb y mae angen mynd i'r afael â nhw ac mae digon o dystiolaeth ar gael bellach i ddangos hyn. Nid oes angen i ni aros nes bod mwy o wybodaeth ar gael cyn bod anghenion cydraddoldeb y genhedlaeth bresennol yn cael eu diwallu. Nod ein hymrwymiadau drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n bodoli yn ein cymunedau heddiw.

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), byddwn yn ceisio mabwysiadu'r pum ffordd o weithio sy'n sicrhau ein bod yn cadw at yr egwyddor datblygu cynaliadwy.

Cyfranogiad a Chydgynhyrchu

Rydym eisoes wedi cynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig a sefydliadau cynrychioliadol yn y gwaith o ddatblygu'r strategaeth hon a'n blaenoriaethau ymchwil cychwynnol. Byddwn yn parhau i weithio gyda phobl a sefydliadau er mwyn deall eu profiadau a'r ffordd y cânt eu hadlewyrchu mewn tystiolaeth. Byddwn yn gwerthfawrogi profiadau bywyd. Byddwn yn gweithio gyda phobl sy'n defnyddio tystiolaeth cydraddoldeb i ddeall eu hanghenion o ran dadansoddi a thystiolaeth er mwyn helpu i lywio'r ffordd y caiff gwybodaeth ei blaenoriaethu a'i rhannu. Byddwn yn annog pobl a sefydliadau i gymryd rhan yn y gwaith o lunio a chyflawni ein rhaglenni tystiolaeth a'n prosiectau ymchwil.

Rydym yn dechrau disgrifio beth mae cydgynhyrchu yn ei olygu o ran ymchwil ac yn dysgu gan ac yn rhannu â phobl eraill yn y sefydliad a'r tu allan iddo sydd wedi neu sy'n awyddus i gydgynhyrchu. Byddwn yn cydgynhyrchu’n llawn mewn sefyllfaoedd lle gallwn rannu penderfyniadau a chyfrifoldebau mewn perthynas â chynllunio, dylunio, ymchwilio a gwerthuso prosiectau. Byddwn yn gwybod yn union pan fyddwn yn cydgynhyrchu a byddwn yn gweithio yn unol ag egwyddorion cydgynhyrchu. Os nad oes digon o adnoddau neu amser i wneud hynny neu os yw'r ymchwil yn hynod o dechnegol, byddwn yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, helpu i ddylunio'r ymchwil, gwirio bod y canfyddiadau'n gwneud synnwyr ac ystyried y goblygiadau ar gyfer datblygu polisïau neu wasanaethau.

Integreiddio

Mae cyrff yn y sector cyhoeddus yn cydweithio er mwyn dylanwadu ar fywydau pobl yng Nghymru. Byddwn yn datblygu ein blaenoriaethau a'n cynlluniau gwaith drwy ystyried anghenion pob rhanddeiliad. Caiff unrhyw ffynonellau tystiolaeth ac adnoddau a ddatblygir eu rhannu. Gan weithio gyda chyrff yn y sector cyhoeddus a'r Uned Ymchwil Data Gweinyddol byddwn yn defnyddio ffynonellau data gweinyddol a thystiolaeth arall gan gyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus fel y gellir eu dwyn ynghyd mewn un man i bawb eu defnyddio. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu sail dystiolaeth sy'n rhoi darlun mwy cyflawn o brofiad pobl sydd â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig y mae mwy nag un corff yn y sector cyhoeddus yn dylanwadu arni.

Cydweithio

Mae'r Unedau yn rhan o'r timau polisi sy'n gyfrifol am gydraddoldeb a hawliau dynol o fewn Llywodraeth Cymru ac maent hefyd yn aelodau proffesiynol o Grŵp Ystadegol y Llywodraeth a Gwasanaeth Ymchwil y Llywodraeth. Ar hyn o bryd, mae dadansoddwyr presennol Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau ystadegol i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau, dyrannu adnoddau, ymchwil a thrafodaethau o fewn y llywodraeth a'r gymuned ehangach. Bydd yr Unedau yn gweithio mewn ffordd strategol, ochr yn ochr â dadansoddwyr presennol, i edrych ar ffyrdd o wella'r sail dystiolaeth i'r dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod tystiolaeth cydraddoldeb yng Nghymru yn adlewyrchu'r dirwedd amrywiaeth yn y gymdeithas sy'n newid o hyd ac yn ein galluogi i ddeall profiadau grwpiau allweddol o bobl a all fod yn fach o ran nifer ond sydd wedi cael profiadau unigryw. Bydd yr Unedau yn gweithio hefyd gydag Ymchwil Data Gweinyddol Cymru er mwyn cynyddu ffynonellau data presennol drwy dechnegau cysylltu data.

Hirdymor

Er bod angen newid nawr, mae angen i ni sicrhau hefyd nad ydym yn gadael anghydraddoldebau fel problem i genedlaethau'r dyfodol ei datrys a bod unrhyw newid a wneir yn gynaliadwy. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau nawr i leihau anghydraddoldeb drwy lenwi'r bylchau yn y dystiolaeth am gydraddoldebau. Byddwn yn datblygu ffynonellau tystiolaeth a fydd yn parhau yn y dyfodol fel bod modd mesur ac asesu cynnydd.

Gwyddom hefyd fod cymdeithas yn esblygu a bod y ffordd y mae pobl yn diffinio eu hunain yn newid dros amser. Felly, rydym yn ehangu'r nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb i gynnwys statws economaidd-gymdeithasol; pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol a chwiar/cwestiynu (LHDTC+) (ac mae'r + yn cynrychioli hunaniaethau eraill gan gynnwys anneuaidd); a cheiswyr lloches a ffoaduriaid a gaiff eu cynnwys o dan hil. Byddwn yn parhau i gymryd rhan yn y trafodaethau wrth i hunaniaethau ddatblygu er mwyn sicrhau bod tystiolaeth yn adlewyrchu'r ffordd y mae pobl yn meddwl amdanynt eu hunain wrth i gymdeithas newid.

Atal

Drwy alluogi'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau i asesu effeithiau eu polisïau ar gydraddoldebau'n well, byddwn yn cyfyngu ar neu'n lleihau'r defnydd a wneir o systemau a strwythurau sy'n ysgogi ac yn cynnal anghydraddoldebau.

Er mwyn cyflawni ein cenhadaeth a chyfrannu cymaint â phosibl at y weledigaeth i Gymru, rydym wedi nodi set graidd o egwyddorion yn ymwneud â thystiolaeth a fydd yn sail i'n gwaith.

Ymddiriedaeth

Deallwn fod diffyg hyder ymhlith rhai grwpiau lleiafrifol ynghylch rhoi gwybodaeth i ffynonellau swyddogol am nodweddion personol. Byddwn yn gweithio i feithrin ymddiriedaeth gyda chymunedau fel y gellir cael gwybodaeth well er mwyn deall a gwella profiadau pawb. Bydd hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth am ein protocolau diogelwch yn ogystal â buddiannau defnyddio'r wybodaeth hon pan gall y sawl sy'n gwneud penderfyniadau ddefnyddio profiadau cymunedau i ddatblygu polisïau.

Gwerthfawrogi pob math o dystiolaeth a phrofiad bywyd

Byddwn yn edrych ar wahanol fathau o dystiolaeth o ddata ac ystadegau, ymchwil a phrofiad bywyd. Mae'r hanesion y mae pobl yn eu hadrodd yn hollbwysig er mwyn deall profiadau pobl a chânt eu hystyried yr un mor werthfawr â ffynonellau eraill o dystiolaeth. Byddwn yn dwyn gwahanol ffynonellau a mathau o dystiolaeth ynghyd er mwyn cyfoethogi dealltwriaeth o brofiadau pobl.

Safonau tystiolaeth

Byddwn yn gweithio i ddeall sut mae'r dystiolaeth rydym yn ei defnyddio a'i hyrwyddo yn cyrraedd safonau proffesiynol a deall cyfyngiadau'r ffynonellau tystiolaeth sydd ar gael i ni. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr tystiolaeth i wella ansawdd y dystiolaeth fel y gallwn ei defnyddio'n hyderus at nifer o ddibenion. Rydym yn ymrwymedig i'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a Chod Ymchwil Gymdeithasol a Phrotocol Cyhoeddiadau Llywodraeth y DU.

Gwneud y mwyaf o ffynonellau presennol o dystiolaeth

Byddwn yn gwella'r hyn sydd gennym cyn datblygu rhywbeth newydd. Byddwn yn edrych ar gysondeb rhwng ffynonellau data, yn ceisio gwella'r diffiniadau a'r categorïau a ddefnyddir ac yn ystyried sut y gellir dadansoddi'r data sydd ar gael yn barod ar gyfer nodweddion gwahanol neu sut y gellir cynyddu'r data a gyhoeddir drwy ddatblygiadau methodolegol. Byddwn yn edrych ar opsiynau cysylltu data a chwyddo arolygon er mwyn ystyried sut y gellir dadansoddi data o ffynonellau presennol yn ôl nodweddion gwarchodedig ac ardaloedd daearyddol er mwyn cymharu profiadau rhwng gwahanol nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig.

Annog gwaith i ddatblygu ffynonellau data yn unol â'r angen

Byddwn yn nodi ac yn esbonio'n glir yr angen am unrhyw newidiadau a argymhellwn a byddwn ond yn awgrymu y dylid casglu gwybodaeth sydd â defnydd clir ac sy'n ychwanegu gwerth at ganlyniadau pobl.

Rhannu gwybodaeth mewn ffordd hygyrch

Dylai'r dystiolaeth a gasglwn am bobl â nodweddion gwarchodedig fod yn hygyrch i'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Byddwn yn ystyried sut i wella hygyrchedd ein hallbynnau a'n cyhoeddiadau gan fynd i'r afael â materion fel iaith, diwyg a thechnoleg. Byddwn hefyd yn ystyried hygyrchedd wrth gynnwys pobl â nodweddion perthnasol yn ein gwaith cydgynhyrchu, er enghraifft, darparu gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain a rhith-fynediad i gyfarfodydd. Byddwn yn rhannu gwybodaeth mewn ffordd glir fel bod y gofynion i newid yn weladwy i bawb ac fel y gall grwpiau atebolrwydd gyflwyno her yn hyderus.

Canolbwyntio ar ychwanegu gwerth

Bydd yr Unedau yn canolbwyntio ar gynyddu hyd a lled dadansoddiadau a chasgliadau data presennol a byddant yn cyfyngu ar eu rôl mewn gwaith dadansoddi a cheisiadau ad-hoc arferol am waith ymchwil a gwerthuso.

Gweithio gydag eraill

Yn ystod y gwaith cwmpasu a wnaed cyn sefydlu'r Unedau, gwnaethom gynnal cyfres o gyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai gyda fforymau cydraddoldeb blaenorol a phresennol Llywodraeth Cymru (fel y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, y Fforwm Cydraddoldeb Hiliol, grŵp rhanddeiliaid LHDTC+, ac eraill) a rhanddeiliaid mewnol Llywodraeth Cymru. Edrychwyd ar adrannau llywodraethau eraill y DU hefyd fel rhan o'r cyfweliadau cwmpasu (fel Uned Gwahaniaethau ar sail Hil y DU, Canolfan Cydraddoldeb a Chynhwysiant SYG), gan gynnwys cyfweliad â'r Arglwydd Simon Woolley i ddysgu o'i brofiadau fel cyn-gadeirydd grŵp cynghori Uned Gwahaniaethau ar sail Hil y DU. Rydym wedi parhau i drafod â'r grwpiau hyn wrth i'r strategaeth hon ddatblygu ac rydym hefyd wedi cyfarfod â'r Is-grŵp Cydraddoldeb Rhywiol, nad oedd yn bodoli adeg y gwaith cwmpasu, i gasglu ei farn.

Rydym wedi mapio ein rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y grwpiau allweddol a nodir uchod, ond rydym wedi cynnwys rhai eraill hefyd. Mae'r rhestr hon yn disgrifio'r mathau o gwsmeriaid a rhanddeiliaid rydym yn gweithio gyda nhw ac ar eu rhan ac yn rhoi rhai enghreifftiau o sefydliadau. Nid yw'n rhestr gyflawn ond mae'n rhoi darlun o'n gwaith rhyngweithio.

Gweinidogion

Bydd pob Gweinidog yn helpu i lunio rhaglen waith a blaenoriaethau'r Uned a sicrhau bod ein gwaith yn cefnogi ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn effeithiol. Bydd pob Gweinidog yn cael diweddariad bob tri mis ar flaenoriaethau newydd yr Unedau, yr allbynnau allweddol o'u gwaith a goblygiadau eu gwaith. Bydd yr Unedau hefyd yn cynnwys Cynghorwyr Arbennig perthnasol, pan fydd blaenoriaethau neu ganfyddiadau newydd yn canolbwyntio ar feysydd portffolio gweinidogion penodol.

Cydweithwyr polisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru

Y rhai sy'n gweithio ar feysydd cydraddoldeb penodol a meysydd polisi fel iechyd a gofal cymdeithasol, addysg ac ati. Byddwn yn rhan o Dîm Polisi Cydraddoldeb a Thîm Dadansoddwyr Llywodraeth Cymru.

Dinasyddion o grwpiau lleiafrifol

Cenhadaeth yr Unedau yw sicrhau bod mwy o dystiolaeth cydraddoldeb ar gael fel y gall llunwyr polisi wneud penderfyniadau gwell er mwyn gwella canlyniadau i bob dinesydd. Elfen allweddol wrth ddatblygu'r dystiolaeth hon yw dinasyddion Cymru sy'n perthyn i'r grwpiau sy'n profi gwahaniaethu gan gynnwys aelodau o Grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anabl, menywod ac aelodau o'r gymuned LHDTC+. Bydd hyn yn digwydd drwy gydgynhyrchu â sefydliadau cynrychioliadol a'r unigolion eu hunain. Drwy gydgynhyrchu caiff yr unigolion hyn leisio barn ar y penderfyniadau a wneir ynghylch datblygu, casglu a chyflwyno tystiolaeth.

Swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon

Y rhai sy'n gweithio ar welliannau i dystiolaeth cydraddoldebau fel y gallwn gysylltu â'n gilydd, pan fo hynny'n briodol, a dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau fel Canolfan Gydraddoldeb Swyddfa'r Cabinet a Thîm Cydraddoldebau Llywodraeth yr Alban.

Sefydliadau a grwpiau ystadegol ac ymchwil

Cydweithwyr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn enwedig o fewn yr Is-adran Cynhwysiant a Chydlyniaeth Ystadegol sy'n cynnwys y tîm cysoni, cydweithwyr sy'n gyfrifol am weithredu argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol a'r Ganolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant. Rhanddeiliaid tystiolaeth fel Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru.

Rhwydweithiau cydraddoldebau mewnol Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o rwydweithiau amrywiaeth staff y byddwn yn ymgysylltu â nhw er mwyn ategu a chefnogi profiadau bywyd o fewn yr Unedau a thrwy gynnwys rhanddeiliaid allanol a chydgynhyrchu â nhw.

Cyrff cyhoeddus yng Nghymru

Er enghraifft, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Cymru), Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn, Comisiynydd Plant, Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn. Byddwn yn gweithio gyda'r sefydliadau hyn i wella data ar draws y sector cyhoeddus er budd pawb. Byddwn hefyd yn ymgysylltu ag Undebau Llafur pan fo angen cynrychioli pobl sy'n gweithio.

Grwpiau atebolrwydd, rhanddeiliaid a thraws-sector

Byddwn yn ymgysylltu â'r sefydliadau hyn wrth ddatblygu ein gwaith, er enghraifft, Grŵp Llywio'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, yr Is-grŵp Cydraddoldeb Rhywiol, Grŵp Rhanddeiliad Arbenigol LHDTC+, a mwy. Byddwn hefyd yn cysylltu â rhanddeiliaid diduedd â phrofiadau bywyd drwy ymgynghori'n gyhoeddus lle bo hynny'n briodol.

Y Trydydd Sector

Mae nifer o sefydliadau yn y trydydd sector sy'n gweithio i wella bywydau pobl â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig. Caiff llawer eu cynrychioli ar grwpiau rhanddeiliaid ac maent yn ffordd bwysig o gysylltu ag unigolion â phrofiadau bywyd ac arbenigwyr drwy brofiad. Mae Panel Defnyddwyr Ystadegau'r Trydydd Sector yn rhanddeiliad allweddol ar gyfer yr Unedau.

Ymchwilwyr ac academyddion

Mae nifer o grwpiau ymchwilwyr ac academyddion arbenigol sydd â phrofiadau bywyd ac arbenigedd drwy brofiad ynghyd â phrofiad ym maes tystiolaeth sydd wedi gweithio yn y maes cydraddoldebau. Byddwn yn cyfeirio at eu gwaith ac yn rhoi cyfleoedd iddynt weithio gyda ni pan fyddwn yn comisiynu prosiectau penodol.

Adnoddau a llywodraethu

Un o'r prif flaenoriaethau a heriau i'r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn ystod eu blwyddyn gyntaf yw recriwtio tîm o unigolion â chyfuniad o'r sgiliau angenrheidiol a phrofiadau bywyd. Teimlwn y dylai'r tîm adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru a bydd profiadau bywyd yn ychwanegu gwerth at y ffordd rydym yn gweithio a'n hallbynnau.

Bydd y tîm yn rhyngddisgyblaethol ac yn cynnwys cymysgedd o ystadegwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisi. Yn ogystal â staff, mae gennym gyllideb i'w defnyddio i gomisiynu ymchwil allanol. Y nod yw adeiladu ar gydberthnasau presennol â'r gymuned ymchwil ac academaidd yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym yn dechrau 2022 fel tîm bach o unigolion a bydd ein hadnoddau yn tyfu erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Rydym yn cydnabod yr her o recriwtio unigolion â'r sgiliau technegol cywir yn ogystal â phrofiadau bywyd ac felly rydym yn defnyddio dulliau recriwtio arloesol o fewn y Gwasanaeth Sifil drwy gysylltu â chymunedau amrywiol.

Mae'r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn adrodd yn uniongyrchol i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a fydd yn cael diweddariadau rheolaidd. O ystyried natur drawsbynciol yr Unedau, bydd pob Gweinidog yn cael diweddariad bob tri mis ar flaenoriaethau newydd ac allbynnau allweddol a goblygiadau ein gwaith.

Byddwn yn ymgynghori â grwpiau atebolrwydd ar gyfer cynlluniau gweithredu cydraddoldeb amrywiol, fel Grŵp Llywio Cymru Wrth-hiliol a'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, ar gyfeiriad a phenderfyniadau ac yn rhoi adroddiadau rheolaidd ar gynnydd iddynt.

Mae'r tîm yn dîm technegol sy'n cynnwys ystadegwyr ac ymchwilwyr gan fwyaf, gyda rhai aelodau o staff polisi er mwyn pontio'r bwlch rhwng tystiolaeth a llunio polisïau. Bydd Atebolrwydd Proffesiynol drwy'r Prif Ystadegydd a Phrif Ymchwilydd Cymdeithasol Cymru fel penaethiaid proffesiwn a bydd yr Unedau'n gweithio'n agos gyda dadansoddwyr presennol Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth bellach

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru