Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

Frances Duffy: Cadeirydd
Saz Willey: Is-gadeirydd
Bev Smith
Leighton Jones: Ysgrifenyddiaeth Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Tom Smithson: swyddog Llywodraeth Cymru (i drafod un eitem ar yr agenda)

Cyflwyniad

Cyfarfu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddydd Iau 1 Medi.

Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar drafod a chytuno ar gynllun a chynnwys adroddiad blynyddol drafft 2023, lefelau cyflog cynghorwyr cymuned a thref a'r cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid pan fydd yr adroddiad blynyddol drafft yn cael ei gyhoeddi.

Fe wnaeth y Panel hefyd ystyried ei gyllideb ar gyfer gweddill 2022 i 2023, a chytunwyd ar ymateb i’r ymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig i Brif Swyddogion Tân yr Awdurdodau Tân ac Achub.

Ymunodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru, Tom Smithson, â’r cyfarfod am gyfnod byr i drafod ei rôl yn yr adolygiad effeithiolrwydd ar y Panel.

Isod ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Panel.

Adroddiad Blynyddol Drafft 2023: strwythur a chynllun

Ystyriodd y Panel sut y gellir symleiddio'r adroddiad drafft a chanolbwyntio ar y newidiadau a fydd yn cael eu gwneud ar gyfer 2023 i 2024 yn unig. Cytunodd y Panel i gynnwys cwestiynau i randdeiliaid ymateb iddynt fel rhan o'r ymgynghoriad.

Adolygiad Effeithiolrwydd

Trafododd y Panel sut y bydd yr adolygiad effeithiolrwydd yn cael ei gynnal. Bydd yr adolygiad hwn yn helpu'r Panel gyda’i gynllun strategol a’i strategaeth ar gyfer ymgysylltu, ymchwilio a chasglu tystiolaeth. Bydd pob aelod o'r Panel yn cyfarfod yn unigol â Tom cyn cysylltu â rhanddeiliaid.

Adran 143a o Fesur Llywodraeth Leol 201: canllawiau diwygiedig

Nododd a chytunodd y Panel ar ymateb i'r canllawiau diwygiedig sy'n amlinellu nad yw rôl y Prif Swyddog Tân mewn Awdurdod Tân ac Achub o fewn cylch gwaith y Panel.

Cyllideb ar gyfer 2022 i 2023

Cytunodd y Panel i ddiwygio ei ragolwg cyllideb ar gyfer gweddill blwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Unrhyw fater arall

Bu'r Panel yn trafod ac yn cytuno ar ymatebion i ddau ymholiad a gafwyd gan Glerc Cyngor Tref ac aelod o'r cyhoedd. Roedd yr ymholiadau hyn yn gofyn i'r Panel am gyngor ac eglurhad am daliadau a wnaed i aelodau etholedig Cynghorau Cymuned a Thref.

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddydd Mawrth 20 Medi.

Os oes gennych unrhyw faterion y dymunwch eu codi gyda'r Panel, mae croeso ichi gysylltu drwy'r Ysgrifenyddiaeth drwy e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.