Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Cydraddoldeb 2010: Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu ar sail:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Cyfeirir at y categorïau hyn fel y 'nodweddion gwarchodedig'.

Mae Deddf 2010 hefyd yn cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sydd â thri nod cyffredinol. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd roi sylw dyledus i'r angen i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl sydd heb nodwedd o'r fath
  • meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl sydd heb nodwedd o'r fath

Nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw sicrhau bod y rhai sy'n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Yn achos Llywodraeth Cymru mae hyn yn cynnwys llunio polisïau a darparu gwasanaethau, ac mewn perthynas â chyflogeion.

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (Rheoliadau 2011)

Yng Nghymru, mae rhai cyrff cyhoeddus hefyd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau penodol sydd i’w gweld yn Rheoliadau 2011 a elwir yn ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru. Nod y dyletswyddau hyn yw galluogi’r sefydliadau i weithredu’r Ddyletswydd yn well drwy fynnu, er enghraifft, cyhoeddi amcanion cydraddoldeb ynghyd ag asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gofynion ymgysylltu, adroddiadau cynnydd, casgliadau data a mwy.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithredu fel rheoleiddiwr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chyflawni’r camau sy’n cefnogi’r Ddyletswydd. Mae gwybodaeth am ei rôl reoleiddio, cyfrifoldebau a phwerau unioni i'w gweld yn Nyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar wahân i‘r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Mae gwybodaeth am y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a'r sefydliadau sy'n ddarostyngedig iddi (sy'n wahanol i'r rhestr o sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) i'w gweld ar Dyletswydd Gymdeithasol-economaidd: trosolwg.

Sefydliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Gweinidogion Cymru yn darparu diweddariadau cynnydd rheolaidd ar waith sy'n cael ei wneud i gydymffurfio â’r Ddyletswydd gan Gyrff Cyhoeddus yng Nghymru a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu dyletswyddau. Mae'r rhain yn cynnwys:

Llywodraeth Cymru

  • Prif Weinidog Cymru
  • Gweinidogion Cymru
  • Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru

Cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Byrddau Iechyd Lleol

Ymddiriedolaethau’r GIG

Llais – Eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol 

Mae Llais yn gorff annibynnol sy’n: 

  • ymwneud ag aelodau o’r cyhoedd
  • cynrychioli llais pobl i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol
  • darparu eiriolaeth a chymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer cwynion

Llywodraeth Leol

Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol.

Mae 4 partneriaeth ranbarthol neu Gyd-bwyllgor Corfforedig lle mae sefydliadau Llywodraeth Leol wedi dewis cydweithio er budd pawb.

  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin

Er eu bod wedi'u cynnwys o fewn Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, nid oes ganddynt wefan eu hunain. Gellir cael gwybodaeth am eu gweithgareddau drwy gysylltu â'r Awdurdodau Lleol perthnasol

Awdurdodau tân ac achub

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Sefydliadau Addysgol

Awdurdodau cyhoeddus eraill

Comisiynwyr Cymru

Prifysgolion Cymru

Sefydliadau Addysg Bellach

Sefydliadau’r DU sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr

Sefydliadau trawsffiniol (ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr): Awdurdodau trawsffiniol Cymru

Mae sawl sefydliad ar draws y DU sy'n gweithredu yng Nghymru, nad ydynt yn rhan o Adroddiad Gweinidogion Cymru gan eu bod yn gweithredu ar lefel y DU.