Neidio i'r prif gynnwy

Nifer gwelyau’r GIG ar lefel Cymru a Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Cyfartaledd fesul blwyddyn ariannol yw'r data a gyflwynir yn y pennawd ystadegol hwn ac maent yn dangos y newid blynyddol yng nghyfraddau’r gwelyau llawn a’r gwelyau sydd ar gael. Mae cyfres data fisol waelodol ar gael hefyd drwy’r ddolen yn yr adran ddata isod.

Mae'r data hyn yn cwmpasu pandemig y coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar wasanaethau'r GIG.

Effaith COVID-19 ar yr ystadegau hyn

Yn ystod y pandemig, ad-drefnwyd gwasanaethau ysbytai yng Nghymru o ganlyniad i fesurau gwell ar gyfer atal a rheoli heintiau, a'r ffaith bod angen trin cleifion COVID-19 a chleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19 ar wahân.

Wedi hynny, cafodd nifer y llawdriniaethau a gynllunir o flaen llaw eu lleihau’n sylweddol, a chafwyd llai o dderbyniadau di-frys i ysbytai drwy adrannau achosion brys. O ganlyniad, mae cyfraddau gwelyau llawn mewn ysbytai yn dal ychydig yn is yn 2021-22 nag yn y blynyddoedd blaenorol.

Felly, dylid bod yn ofalus wrth gymharu cyfraddau gwelyau llawn rhwng 2020-22 a’r blynyddoedd blaenorol.

Adroddiad Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar y sefyllfa o ran COVID-19 yw'r brif ffynhonnell ddata ar gyfer ffigurau cyfnodau yn yr ysbyty ar gyfer COVID-19, ac mae data yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru (StatsCymru). Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad ystadegol hwn yn seiliedig ar ffynhonnell wahanol, diffiniadau gwahanol a mathau gwahanol o ysbytai. Felly, ni ddylid cymharu’r ddau gasgliad hwn yn uniongyrchol.

Prif bwyntiau

  • Mae’r data diweddaraf ar gyfer 2021-22 yn dangos bod y gwelyau sydd ar gael yn y GIG yn dychwelyd i’r lefel a gafwyd cyn y pandemig o ran Cymru gyfan. Fodd bynnag, gellir gweld effaith y pandemig o hyd yng nghyfradd defnydd y gwelyau, sydd, er ei bod yn uwch na 2020-21 dal yn is nag yn y flwyddyn cyn y pandemig.
  • Yn 2021-22, nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau a oedd ar gael oedd 10,275.6, sef gostyngiad o 65 (0.6%) o'i gymharu â 2020-21.
  • Yn 2021-22, nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau llawn oedd 8,342, sef cynnydd o 1,171.7 (16.3%) o'i gymharu â 2020-21.
  • Yn 2021-22, canran gwelyau llawn y GIG oedd 81.2%. Mae hyn yn gynnydd o 11.8 pwynt canran o gymharu â 2020-21.
  • Mae’r ffaith bod nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau llawn a chanran y gwelyau llawn yn 2020-21 yn is yn adlewyrchu'r lefelau is o weithgarwch gofal wedi’i gynllunio o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Newid hirdymor

Ers i'r casgliad data presennol ddechrau ym 1996-97, mae nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau llawn a'r gwelyau sydd ar gael wedi bod yn gostwng.

Cynyddodd canran y gwelyau llawn tan 2016-17, ac ers hynny mae wedi gostwng, yn gyffredinol. Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diweddaraf, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith benodol ar y ganran hon.

Cefndir pellach

Noder mai'r strategaeth hirdymor ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru yw darparu gofal yn agosach at y cartref drwy gynyddu gwasanaethau cymunedol a meddygon teulu. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn 'Cymru iachach: y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol'.

Mae datblygiadau mewn technoleg gofal iechyd hefyd wedi arwain at hyd arhosiad byrrach a mwy o lawdriniaethau dydd. Mae data ar yr hyd arhosiad cyfartalog i’w cael ar Data PEDW ar-lein.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Rhys Strafford

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.