Neidio i'r prif gynnwy

Terfyn Cyflymder 20mya Diofyn

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Bwrdd ar y gweithgareddau cyfathrebu ar gyfer cyflwyno terfyn cyflymder 20mya diofyn yn 2023. Mae deddfwriaeth statudol wedi’i chynllunio ar gyfer mis Mehefin 2022. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd a gwledydd eraill ddiddordeb sylweddol mewn cyflwyno terfyn cyflymder 20mya diofyn, gan gynnwys Sbaen, Lloegr, Iwerddon a’r Alban, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod â swyddogion cyfatebol yn yr ardaloedd hyn.

Nod yr ymgyrch arfaethedig yw canolbwyntio ar y manteision, gan feithrin dealltwriaeth ar y cyd o sut mae hyn yn rhywbeth cadarnhaol ar gyfer cymunedau.

Y ddau gysyniad strategol, sydd wedi cael eu profi mewn grwpiau ffocws, yw:

  • ‘Diogelu ansawdd bywydau. Defnyddio nodiadau o ddiolch fel math o gydnabod ac atgyfnerthu cadarnhaol.
  • ‘O’r diwedd, rhywbeth y gallwn ni gytuno arno’. Ailgyfeirio angerdd pobl dros eu cymunedau tuag at newid cadarnhaol.

Bydd yr ymgyrch yn rhaglen barhaus sy’n cynnwys cyfryngau amrywiol ynghyd â mentrau newid ymddygiad megis yr offeryn WOW travel tracker gan Living Streets, sydd ar waith mewn 12 ysgol ar draws ardaloedd y treial. Bydd mesurau gorfodi gan yr heddlu ac addysg yn cael eu cyflwyno hefyd.

Trafododd y Bwrdd sawl eitem mewn ymateb i’r cyflwyniad, gan gynnwys gweithio’n uniongyrchol â gyrwyr proffesiynol er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r newidiadau, defnyddio cerbydau’r sector cyhoeddus a cherbydau fflyd eraill fel modd o arwain traffig ar y cyflymder cywir – a’r ymgynghoriad a phryderon ynghylch y posibilrwydd y gallai partïon sy’n gwrthod y newid drefnu ymatebion unedig er mwyn dylanwadu ar y canlyniadau.  

Ymgyrch Newid Hinsawdd

Mae’r gwaith o ddatblygu ymgyrch newid hinsawdd yn ei gamau cynnar. Bydd newid ymddygiad wrth wraidd yr ymgyrch genedlaethol tair blynedd hon. Mae’r briff yn cael ei gadarnhau er mwyn caffael asiantaeth farchnata, a chaiff ymgynghoriad ar y strategaeth ei chynnal maes o law. Mae manyleb y tendr yn gwahodd ceisiadau sy’n cynnwys enghraifft o newid ymddygiad ar sail annog teithio llesol. Bwriedir lansio’r ymgyrch yn ystod Wythnos Newid Hinsawdd Cymru ym mis Tachwedd 2022.  

Bydd pob elfen o’r ymgyrch yn cynnwys ‘gofyniad’ ymddygiadol gan y cyhoedd, megis sut rydym yn gwresogi ein cartrefi, sut rydym yn teithio, beth rydym yn ei fwyta ac ati. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n asesu pa ofynion ymddygiadol y dylid eu targedu, a’r amserlen ar gyfer pob un.

Ochr yn ochr â’r gwaith hwn mae cynlluniau ar droed ar gyfer lansio porthol ar-lein ar gyfer Canolfan Hinsawdd Cymru, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am yr argyfwng hinsawdd ac elfennau rhyngweithiol.

Trafododd y Bwrdd y gwaith o gysylltu â rhanddeiliaid yn ehangach er mwyn cefnogi’r gwaith hwn.

Adolygu’r Ddeddf Teithio Llesol

Rhoddwyd trosolwg i aelodau’r Bwrdd o’r dull arfaethedig ar gyfer cynnal yr Adolygiad o’r Ddeddf Teithio Llesol. Nodwyd i’r Bwrdd fod yr adolygiad yn cynnwys dau ofyniad statudol fel a ganlyn:

  • gweithredu’r Ddeddf
  • llwyddiant y Ddeddf o ran sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau cysylltiedig ac o ran gwella llwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig.

Cyn belled ag y bo’r gofynion statudol hyn yn cael eu cyflawni, gall cwmpas a chynnwys yr adolygiad fod mor eang neu gul ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol. Nodwyd y mathau gwahanol o dystiolaeth y gellid eu defnyddio i adolygu’r Ddeddf, ynghyd â chynnig Llywodraeth Cymru i gomisiynu arolwg cyhoeddus i archwilio’r graddau y mae’r Ddeddf wedi effeithio ar bobl yng Nghymru. Gofynnwyd i aelodau’r Bwrdd wirfoddoli i helpu i lywio’r gwaith hwn.  

Cafodd y Bwrdd wybod hefyd am waith Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Ddeddf Teithio Llesol sy’n cynnal ei adolygiad annibynnol ei hun o’r Ddeddf Teithio Llesol. Mae panel wedi’i gynnull, sy’n cynnwys sawl aelod o’r Bwrdd Teithio Llesol, a byddant yn cynnal cyfweliadau manwl er mwyn adolygu’r Ddeddf.

Dangosfwrdd y Bwrdd Teithio Llesol

Cafodd y Bwrdd restr o fesurau posibl y gellid eu cynnwys mewn dangosfwrdd ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol. Gofynnwyd i aelodau’r Bwrdd nodi pa fesurau y dylid eu blaenoriaethu yn eu barn nhw, a chynnig unrhyw fesurau  ychwanegol y dylid eu cynnwys.

Cynnydd Is-grwpiau’r Bwrdd Teithio Llesol

Teithio Llesol i Ysgolion

  • Mae cyhoeddusrwydd yn cael ei roi i’r arolwg Dwylo i Fyny fel rhan o’r paratoadau ar gyfer ei gyflwyno’n genedlaethol ym mis Ebrill.
  • Mae gwaith datblygu’n mynd rhagddo i ddarparu gwybodaeth i ysgolion megis y canran o ddisgyblion a allai deithio’n llesol, ar sail gwaith mapio GIS (systemau gwybodaeth ddaearyddol). Bydd hyn yn darparu dangosydd i bob ysgol o ran sawl disgybl allai deithio’n llesol, ac mae’n rhan o ddarn ehangach o waith yn ymwneud â theithio llesol i’r ysgol, sy’n cynnwys ystyried y dalgylch lleol mewn modd mwy ansoddol. Cytunodd y Bwrdd fod y gwaith hwn yn bwysig ac mae gan yr aelodau ddiddordeb yn ei ganfyddiadau.

Newid Ymddygiad

  • Ar hyn o bryd, mae’r is-grŵp yn canolbwyntio ar Gasnewydd, ac wedi’i gysylltu â gwaith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.
  • Rhannodd y cadeirydd adborth o gyfarfod â grŵp Casnewydd mewn perthynas â chynlluniau ar gyfer mesurau newid ymddygiad. Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Newport Bus wedi ymgymryd â’r broses, sy’n gadarnhaol. Mae’r ymgynghoriad ar y draffordd teithio llesol rhwng Caerdydd a Chasnewydd wedi denu nifer sylweddol o ymatebion hyd yn hyn, ac mae pobl yn gadarnhaol yn ei chylch.

Teithio Llesol Cynhwysol

  • Cytunwyd ar y cylch gorchwyl, ac mae’r is-grŵp bellach yn ceisio cynyddu amrywiaeth ei gynrychiolaeth.
  • Bydd yr is-grŵp yn ystyried cynllunio cynhwysol yn fwy manwl, ynghyd ag ystyr y term ‘cynhwysol’.

Bydd y Gynhadledd Teithio Llesol yn cael ei chynnal ar 31 Mawrth gyda ffocws ar deithio llesol cynhwysol. Mae’n cael ei threfnu gan Sustrans ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 9 Mehefin 2022