Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwirio trwyddedau gyrru

Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn tendro am gytundeb newydd yn lle'r fframwaith gwirio trwyddedau gyrru presennol, a fydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2022. Mae disgwyl i'r cytundeb newydd fynd yn fyw ar 5 Rhagfyr 2022. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru

Prydlesu cerbydau

Rydyn ni wedi dechrau gweithio ar fframwaith prydlesu cerbydau newydd. Mae disgwyl i'n fframwaith newydd ddechrau ym mis Ebrill 2023. Rydyn ni wedi creu grŵp ffocws cwsmeriaid, ac os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru

Tanwydd a chynhyrchion cysylltiedig

Rydyn ni’n bwriadu creu grŵp ffocws cwsmeriaid i drafod cytundeb newydd ar gyfer y fframwaith tanwydd a chynhyrchion cysylltiedig presennol, a ddaw i ben ym mis Ebrill 2023.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp ffocws, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru

Teiars

Ers 1 Medi 2022, mae newid o ran pris ar gyfer teiars wedi'i weithredu. Ewch i'r gofrestr contractau ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi) i gael y rhestrau prisiau diweddaraf. Fel arall, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru