Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am raglenni dysgu Twf Swyddi Cymru+ a'r dysgwyr sydd wedi cofrestru arnynt ar gyfer Hydref 2022 i Rhagfyr 2022.

Mae'r ffigyrau’n rhai dros dro hyd nes i’r data terfynol gael ei gyhoeddi ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn, sydd i fod i ddigwydd ym mis Mehefin 2023. Cafodd rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ei lansio ar 1 Ebrill 2022.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod mis Hydref i Ragfyr 2022 roedd 2,725 o raglenni Twf Swyddi Cymru+ gweithredol, gyda 1,740 ohonynt yn parhau o’r chwarter blaenorol a 985 ohonynt yn ddechreuadau newydd. Ddiwedd Rhagfyr roedd 2,035 o raglenni yn parhau.
  • Daeth 685 o raglenni Twf Swyddi Cymru+ i ben yn ystod mis Hydref i fis Rhagfyr 2022, gyda 405 o’r rheiny wedi'u cwblhau. O'r rhaglenni a ddaeth i ben, cafodd 48% o’r rhai a oedd yn gadael canlyniad cadarnhaol yn seiliedig ar eu cyrchfan o fewn pedair wythnos ar ôl cwblhau'r rhaglen.

Ffigur 1: Cyrchfan ar ôl gadael rhaglen Twf Swyddi Cymru+, Gorffennaf 2022 i Fedi 2022 (dros dro)

Image

Disgrifiad o Ffigwr 1: Mae’r siart gylch hon yn dangos cyfran ymadawyr Twf Swyddi Cymru + mewn nifer o gyrchfannau ar ôl cwblhau’r rhaglen. Y categori unigol mwyaf yw ‘Ceisio gwaith/di-waith’ sy’n 42% ond at ei gilydd cafodd 48% o ymadawyr ganlyniad positif.

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)

Cefndir a chyd-destun

Pwrpas Rhaglen Ieuenctid Twf Swyddi Cymru+ yw darparu hyfforddiant, datblygiad a chefnogaeth gyflogadwyedd gyfunol ac unigol i bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n cael eu hasesu’n NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ar yr adeg y maent yn dechrau rhaglen Twf Swyddi Cymru+.

Bydd rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn cefnogi cyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r canlyniadau a'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â phobl ifanc yn NEET, sy'n rhan annatod o'r Gwarant i Bobl Ifanc, Cymru gryfach, decach a gwyrddach (y cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau), y Rhaglen Lywodraethu a’n Hamcanion Llesiant.

Amcanion rhaglen Twf Swyddi Cymru+

  • Cyfrannu tuag at leihau nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n NEET.
  • Sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc 16 i 18 oed sydd mewn perygl o fod yn NEET.
  • Cyfrannu at gyflawni amcanion Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy ddarparu cymorth cyflogadwyedd i bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n cynnig cyfle cyfartal (gan gynnwys y Gymraeg), yn hybu lles a gwaith teg, ac yn helpu i ymgorffori dulliau amgylcheddol sy'n lleihau niwed.

Roedd y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2022 a 31 Mawrth 2022 yn gyfnod pontio i ddysgwyr a oedd yn arfer bod ar y rhaglen Hyfforddeiaethau.

Canlyniadau cadarnhaol

Caiff canlyniadau cadarnhaol eu mesur yn ôl cyrchfan y dysgwr o fewn pedair wythnos ar ôl gadael rhaglen Twf Swyddi Cymru. I ddysgwyr ar y llinynnau Ymgysylltu a Datblygu, canlyniad cadarnhaol yw naill ai symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, symud ymlaen i gyflogaeth (llawnamser, rhan-amser neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i Brentisiaeth. I ddysgwyr ar y llinyn Cyflogaeth, canlyniad cadarnhaol yw naill ai symud ymlaen i gyflogaeth (llawnamser, rhan-amser (16 awr neu fwy yr wythnos) neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i Brentisiaeth.

I ddysgwyr anabl, mae cyflogaeth o lai na 16 awr yr wythnos hefyd yn cael ei ystyried yn ganlyniad cadarnhaol.

Mae gwaith gwirfoddol, dysgu pellach ar yr un lefel neu lefel is, a chyflogaeth o lai na 16 awr yr wythnos yn cael eu hystyried yn ganlyniadau niwtral. Caiff dysgwyr â'r canlyniadau hyn eu heithrio o'r enwadur wrth gyfrifo cyfraddau canlyniadau cadarnhaol.

Mae chwilio am waith/di-waith a phob canlyniad arall (gan gynnwys lle nad yw'r gyrchfan o fewn pedair wythnos yn hysbys) yn cael eu hystyried yn ganlyniadau negyddol.

Ffynhonnell ddata

Mae’r data’n seiliedig ar ddata a gasglwyd ym mis Chwefror 2023 ar gyfer Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Rhaid i Gontractwyr Twf Swyddi Cymru+ gyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth Cymru yn fisol o leiaf ar bob person ifanc a’u rhaglenni, gweithgareddau a dyfarniadau o dan raglen Twf Swyddi Cymru+.

Mae’r holl ffigurau wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf. Cyfrifir y canrannau ar sail y ffigurau heb eu talgrynnu.

Cyswllt

Ian Shipley

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.