Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rydyn ni wedi paratoi’r cyngor hwn ar gyfer:

  • ffermwyr
  • perchenogion ceffylau
  • cludwyr ac
  • eraill

i’w helpu i osgoi problemau pan fydd y tywydd yn troi’n eithafol.

Dylai fod gennych gynllun ar gyfer gofalu am les yr anifeiliaid rydych yn eu cadw yn ystod tywydd eithafol. Yn ddelfrydol, dylech fod wedi trafod y cynllun hwn gyda’ch milfeddyg.

Os hoffech ragor o gyngor ar ofalu am anifeiliaid o dan amodau cyffredin, ewch i’n tudalennau Lles Anifeiliaid.

Tywydd twym (poeth)

Mae gwres mawr, aer llaith a newid sydyn yn yr amodau yn gallu bod yn beryglus i anifeiliaid.

Nid yw pob anifail yn delio â gwres yn yr un ffordd.  Mae anifeiliaid cnoi cil fel gwartheg a defaid yn cynhyrchu gwres yn fewnol wrth dreulio bwyd.  Dydyn nhw ddim yn gallu chwysu i golli gwres.  Dydy moch ddim yn gallu rheoli’u gwres chwaith trwy chwysu. Mae’n bwysig felly bod gan yr anifeiliaid hyn ddigon o gysgod a dŵr.

  • cadwch olwg rheolaidd ar eich anifeiliaid, yn enwedig yr ifanc a’r hen
  • dysgwch sut i adnabod arwyddion straen gwres (maen nhw’n amrywio)
  • deliwch ag unrhyw broblem ar unwaith e.e. trwy gynnig cysgod a/neu ddŵr. Bydd eich milfeddyg yn gallu’ch cynghori ar sut i’w hoeri. Bydd yn ystyried anghenion gwahanol anifeiliaid.
  • peidiwch â symud anifeiliaid pan fydd y diwrnod ar ei dwymaf (mwyaf poeth).  Ni ddylai gwartheg orfod mynd yn bell i gael eu godro.
  • cydweithiwch â’ch cymdogion os bydd dŵr neu fwyd yn mynd yn brin neu’n anodd cael gafael arno

Cyngor yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar beryglon tywydd twym i iechyd a lles.

Cludo anifeiliaid mewn tywydd twym (poeth)

Mae’n drosedd cludo anifail mewn ffordd allai achosi, neu sy’n debygol o achosi, niwed neu ddioddefaint diangen i’r anifail.

  • gwnewch yn siŵr bod yr anifail yn ffit i deithio
  • peidiwch â chludo’r anifail os bydd hi dros 30°C oni bai bod modd rheoli’r tymheredd yn y cerbyd. Edrychwch beth fydd y tymheredd ‘teimlo fel’ os yw’r aer yn llaith.
  • gofalwch fod y systemau awyru a dyfrio yn y cerbyd yn gweithio
  • gofalwch fod gan yr anifeiliaid ddigon o ddŵr
  • cynlluniwch ymlaen llaw. Cadwch y daith mor fyr â phosib a gofalwch fod gennych gynllun wrth gefn ar gyfer pob taith. Fel arfer, ni fydd oedi’n cael fawr o effaith, ond mewn tywydd twym, gall y sefyllfa droi’n beryglus.
  • peidiwch â theithio pan fydd y diwrnod ar ei dwymaf (mwyaf poeth). Beth am gludo’r anifeiliaid gyda’r hwyr, yn y nos neu’n gynnar yn y bore, hyd oed yn oes yw’r daith yn fyr. Parciwch mewn mannau cysgodol pan fyddwch yn cael hoe. 
  • beth am gludo llai o anifeiliaid? Gofalwch fod y system awyru yn gweithio, yn enwedig yn rhannau mwyaf cynnes y cerbyd. Dylai fod digon o le i bob anifail allu rheoli’i dymheredd ei hun.
  • cadwch olwg rheolaidd ar yr anifeiliaid yn ystod y daith 
  • dysgwch arwyddion straen gwres (maen nhw’n amrywio rhwng anifeiliaid gwahanol)

Sychder

Gofalwch fod gan eich anifeiliaid y canlynol:

  • naill ai gyflenwad o ddŵr addas neu’ch bod yn gallu mynd â digon o ddŵr yfed glân iddyn nhw bob dydd
  • neu eu bod yn gallu yfed digon o ddŵr trwy ffordd arall

Y perygl mwyaf i unrhyw anifail o ddiffyg dŵr yw ei fod yn dadhydradu. Mae’r perygl mwyaf i anifeiliaid ifanc, anifeiliaid sy’n cael eu cadw dan do ar fwyd sych ac anifeiliaid sy’n cynhyrchu llaeth.

  • dylai fod gennych gynllun wrth gefn rhag ofn caiff eich cyflenwad dŵr ei dorri. Os caiff y cyflenwad ei dorri, rhaid gallu troi at gyflenwad arall. Holwch eich milfeddyg i wneud yn siŵr bod y cyflenwad arall hwn yn ddiogel.
  • os nad oes modd cael digon o ddŵr i’ch anifeiliaid, dylech eu symud nhw i le ble mae yna ddigon o ddŵr
  • cydweithiwch â’ch cymdogion os bydd dŵr yn mynd yn brin neu’n anodd cael gafael arno
  • os oes unrhyw ansicrwydd ynghylch cyflwr eich anifeiliaid, holwch eich milfeddyg ar unwaith. Ystyriwch symud neu werthu’ch anifeiliaid fel bod gennych lai i’w dyfrio. Fel dewis olaf, dylech ystyried lladd eich anifeiliaid yn hytrach na’u gadael i ddioddef.  Holwch eich milfeddyg am ei gyngor os ydych yn ystyried gwneud hyn.

​​​​Dŵr yn cael ei ddogni

Os oes yn rhaid dogni dŵr, rhaid darparu’r canlynol:

  • buchod godro - 38 i 52 litr
  • gwartheg eraill - 38 litr
  • ceffylau - 20 i 45 litr
  • moch - 4 i 11.5 litr
  • defaid - 6 litr
  • dofednod (dwys) - 0.5 litr

Efallai y bydd angen mwy o ddŵr ar anifeiliaid ifanc iawn neu hen, os bydd y tymheredd yn codi neu os bydd yr aer yn llaith.

Holwch eich milfeddyg a allwch roi llai o ddŵr i’ch anifeiliaid trwy:

  • roi llai o fwyd iddyn nhw
  • sychu anifeiliaid sy’n dod at ddiwedd eu blwyddyn laetha
  • eu hatal rhag dodwy

Os ydy’r dŵr yn cael ei ddogni, gofalwch rhag achosi gwenwyn halen i foch.

Mae’r cyngor canlynol ar gael:

 

Llifogydd

Os ydych chi’n cadw anifeiliaid allan mewn ardal lle mae perygl o lifogydd, dylai fod gennych gynllun i’w diogelu nhw.  Dylai gynnwys:

  • ble byddwch chi’n symud yr anifeiliaid os bydd llifogydd
  • sut byddwch chi’n eu cael nhw yno

Yn ystod ac ar ôl llifogydd, gall carthion, tail a chemegau lygru dŵr, tir a bwyd.

  • cadwch olwg ofalus ar eich anifeiliaid (yn enwedig y rhai ifainc)
  • holwch eich milfeddyg am ei gyngor os byddan nhw’n yfed dŵr llifogydd neu’n bwyta bwyd allai fod wedi’i lygru

Gweld eich risg llifogydd (Cyfoeth Naturiol Cymru) 
Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd (Cyfoeth Naturiol Cymru)

 

Tywydd oer

Gall tywydd eithafol o oer fod yn fygythiad mawr i les anifeiliaid.  Mae’n bwysig bod cysgod, bwyd a dŵr ar gael i’ch anifeiliaid.

  • rhaid rhoi bwyd a dŵr yn rheolaidd
  • gofalwch fod gennych gynllun rhag ofn na fydd modd cael dŵr a bwyd iddyn nhw 
  • clirio iâ mewn cafnau dŵr  
  • mynd â dŵr i anifeiliaid os bydd pibau ac ati yn rhewi 
  • gweithiwch gyda’ch cymdogion os bydd dŵr neu fwyd yn brin neu’n anodd cael gafael arno 
  • os ydych yn cadw ceffylau neu ferlod allan dros y gaeaf, gofalwch fod cysgod ar gael iddyn nhw bob amser. Gall fod yn gysgod naturiol neu artiffisial.  Os nad oes cysgod, rhaid ichi eu symud nhw i le ble mae cysgod neu eu cadw dan do.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am gyngor os ydych yn ei chael hi’n anodd mynd â bwyd neu ddŵr i’ch anifeiliaid.

Cludo da byw mewn tywydd oer

Mae’n drosedd cludo anifail mewn ffordd allai achosi, neu sy’n debygol o achosi, niwed neu ddioddefaint diangen i’r anifail.

  • gwnewch yn siŵr bod yr anifail yn ffit i deithio
  • gofalwch fod y systemau dyfrio ac awyru yn y cerbyd yn gweithio a bod pob anifail yn gallu cael at ddŵr. Caewch dyllau awyru allai oeri’r anifeiliaid ond gofalwch fod aer yn cylchredeg.
  • cynlluniwch ymlaen llaw. Gofalwch fod y ffordd rydych am deithio arni’n glir ac yn ddiogel a bod gennych gynllun wrth gefn ar gyfer pob taith. Fel arfer, ni fydd oedi’n cael fawr o effaith, ond mewn tywydd oer, gall y sefyllfa droi’n beryglus.
  • rhaid darparu sarn (deunydd gorwedd) ar gyfer:
    • lloi o dan 6 mis
    • ebolion o dan 4 mis
    • perchyll o dan 10kg
    • ŵyn o dan 20kg
  • ystyriwch roi rhagor o sarn yn ystod tywydd oer, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid hŷn a thrymach
  • ystyriwch a fydd angen bwydo’r anifeiliaid yn ystod y daith 
  • cadwch olwg ar yr anifeiliaid yn ystod y daith
  • dysgwch arwyddion straen oerfel (blinder, crynu neu gwtsio)

Marchnadoedd

Mae’n drosedd achosi neu ganiatáu dioddefaint i anifail mewn marchnad.

  • rhaid corlannu’r anifeiliaid yn ddiogel a rhoi digon o sarn (deunydd gorwedd), bwyd a dŵr iddyn nhw
  • bydd angen i rai anifeiliaid fod o dan do (gweler Gorchymyn Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd 1990)
  • dylai marchnadoedd gau os bydd tywydd eithafol yn golygu nad ydyn nhw’n gallu diwallu’r anghenion hyn