Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad technegol ar fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022 (‘y Rheoliadau’). Rwyf hefyd yn cadarnhau bod y Rheoliadau, fel y’u drafftiwyd ac fel yr ymgynghorwyd arnynt, wedi’u gwneud ac y byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.

Rhwng 9 Mawrth a 1 Mehefin 2022, bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynnig i wneud is-ddeddfwriaeth a fyddai’n egluro’r amgylchiadau pan ddylai dwy uned o eiddo neu ragor gael eu trin fel un o fewn y system ardrethi annomestig, a hynny mewn pryd ar gyfer dechrau rhestr ardrethu 2023. Ar 24 Mehefin 2022, cyhoeddais grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw a chyhoeddais y byddai rheoliadau’n cael eu llunio i weithredu’r cynnig yr ymgynghorwyd arno.

Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar Reoliadau drafft i weithredu’r cynnig rhwng 4 Awst a 16 Medi 2022. Gofynnodd am safbwyntiau ynghylch eglurder y Rheoliadau ac am unrhyw sylwadau eraill amdanynt. Yn dilyn yr ymgynghoriad, nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r Rheoliadau fel y’u drafftiwyd.

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad technegol ar gael yma:

https://llyw.cymru/fersiwn-ddrafft-o-reoliadau-ardrethu-annomestig-eiddo-mewn-meddiannaeth-gyffredin-cymru-2022