Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r datganiad ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, sy’n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru.

Yn y strategaeth Cymru Iachach gwnaethpwyd ymrwymiad i ddatblygu Cynllun Clinigol Cenedlaethol. Y bwriad oedd nodi sut y dylid darparu gwasanaethau arbenigol a gwasanaethau ysbyty, a’r sgiliau a thechnolegau sydd eu hangen i’w cefnogi fel rhan o’r cynnig iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Yn ystod ei ddatblygiad mae wedi’i ailenwi yn Fframwaith Clinigol Cenedlaethol ac wedi’i ehangu i fod yn berthnasol i’r holl wasanaethau clinigol, boed yn arbenigol neu’n gyffredinol.

Mae cyfres o ymrwymiadau newydd yn sail i’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol fel y nodwyd yn y ‘Datganiadau Ansawdd’, sef ymrwymiad arall a wnaed yn y strategaeth Cymru Iachach. Mae Datganiadau Ansawdd yn disgrifio’r weledigaeth tymor canolig ar gyfer y gwasanaethau clinigol hyn a’r priodoleddau ansawdd penodol yr ydym yn dymuno eu cyflawni. Caiff y disgwyliadau polisi a chynllunio hyn eu cefnogi gan lwybrau clinigol a manylebau gwasanaeth manylach sy’n arwain at oblygiadau sylweddol ar gyfer darpariaeth y GIG.

Mae’r datganiad ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes wedi’i gyd-gynhyrchu gydag ystod o bartneriaid statudol a gwirfoddol. Mae wedi bod yn destun ymgynghoriad gydag arweinwyr polisi, y Bwrdd Gofal Diwedd Oes, Hosbisau, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a rhanddeiliaid allanol ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Mae’r datganiad yn disgrifio priodoleddau ansawdd gwasanaethau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru y byddem yn disgwyl eu gweld drwy roi sylw diogel, amserol, effeithiol, effeithlon a theg, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Bydd cyfran fawr a chynyddol o bobl, gan gynnwys plant, yn dioddef salwch sy’n byrhau bywyd am gyfnod o amser pan fydd eu hanghenion gofal yn ddwys. Gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl a’r rhai sy’n gofalu amdanynt, gan eu helpu i fyw cystal â phosibl, a marw gydag urddas. Bydd y Datganiad Ansawdd yn helpu i gyflawni hyn, drwy sicrhau ffocws llawer ehangach ar draws y sbectrwm iechyd a gofal cymdeithasol a darpariaeth trydydd sector yn hytrach na chanolbwyntio ar ofal lliniarol arbenigol yn unig.

Bydd y Datganiad Ansawdd hwn yn sail i’r cylch sicrhau ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes i gefnogi gwelliannau lleol yn ansawdd y gwasanaethau a mynd i’r afael ag amrywiadau mewn gofal na ellir eu cyfiawnhau

Ar ôl ei gyhoeddi, bydd Gweithrediaeth y GIG yn cefnogi’r Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i ddarparu gwell gwasanaethau diwedd oes. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud drwy Fwrdd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Diwedd Oes, ar y cyd â Rhwydweithiau a Rhaglenni eraill fel dementia, cardiofasgwlaidd, niwrolegol, diabetes a chanser.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw un sydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru yn cael mynediad at y gofal gorau posibl, ac rydym yn gwneud cynnydd da ar yr ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu i adolygu cyllid i hosbisau a chryfhau’r ffocws ar ofal diwedd oes. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n holl bartneriaid yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i gyflawni’r blaenoriaethau hyn yn y Rhaglen Lywodraethu a’r ymrwymiadau pwysig yn y datganiad ansawdd hwn.

Gallwch weld y Datganiad Ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yma:

https://llyw.cymru/y-datganiad-ansawdd-ar-gyfer-gofal-lliniarol-gofal-diwedd-oes