Canllaw am hawliau plant, eu rhieni a phobl ifanc o dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Canllaw ar hawliau o dan y system ADY.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r canllaw hwn yn esbonio hawliau plant, eu rhieni a phobl ifanc o dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae’r hawliau hyn wedi’u:
- nodi yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘y Ddeddf ADY’)
- esbonio’n fanylach yn y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (‘y Cod ADY’), sy’n darparu canllawiau ar sut y dylid cymhwyso’r gyfraith yn ymarferol
Mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r canlynol:
- hawliau plant, eu rhieni a phobl ifanc o dan y system ADY
- beth i’w wneud os ydynt yn anghytuno â phenderfyniadau a wneir gan feithrinfa, ysgol, coleg neu awdurdod lleol
- pa gymorth sydd ar gael iddynt drwy’r system ADY
Pan fo’r canllawiau yn dweud ‘meithrinfa’ neu ‘ysgol’, mae hyn yn golygu meithrinfa neu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
Pan fo’r canllawiau yn dweud ‘rhiant’, mae hwnnw’n cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, ac unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn.
Y system ADY
Mae’r Ddeddf ADY, y Cod ADY a’r rheoliadau ategol yn nodi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer bodloni ADY plant a phobl ifanc o’u geni hyd at 25 oed yng Nghymru.
Gelwir y fframwaith cyfreithiol hwn yn system ADY.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Mae’r Ddeddf ADY a’r Cod ADY yn nodi’r diffiniad o ADY y mae rhaid i feithrinfeydd, ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ei ddefnyddio wrth benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY.
Mae gan blentyn neu berson ifanc ADY os oes anabledd neu anhawster dysgu yn ei gwneud yn fwy anodd iddo ddysgu na’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc o’r un oedran. Efallai y bydd ar y plant a’r bobl ifanc hyn angen cymorth ychwanegol neu wahanol i’r hyn a roddir i eraill.
Mae’r broses ar gyfer nodi a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY yn wahanol ar gyfer plant o dan oedran ysgol gorfodol. Esbonnir hyn ymhellach yn y Pecyn cymorth i rieni a gofalwyr plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Hawliau o dan y system ADY
Rhoddir hawliau i blant o dan y system ADY ac mae’r mwyafrif o’r hawliau hyn hefyd yn cael eu rhoi i’w rhieni.
Pan fydd plentyn yn dod yn berson ifanc, rhaid cael ei gydsyniad. Mae hyn yn golygu nad oes gan rieni yr un hawliau pan fydd eu plentyn yn dod yn berson ifanc.
O dan y system ADY, mae gan blant a phobl ifanc hawl i:
- gynllun statudol: y cynllun datblygu unigol (CDU)
- herio penderfyniadau am ADY y maent yn anghytuno â nhw
- gofyn i awdurdod lleol ailystyried penderfyniad a wnaed gan feithrinfa neu ysgol
- cael mynediad at wasanaeth eiriolaeth annibynnol
- apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC) ar benderfyniadau penodol a wneir gan goleg neu awdurdod lleol
Hawl i gynllun statudol: y cynllun datblygu unigol (CDU)
Os nodwyd bod gan blentyn neu berson ifanc ADY, bydd gan y plentyn neu berson ifanc gynllun cyfreithiol o’r enw cynllun datblygu unigol (CDU). Bydd y CDU yn cynnwys:
- y math o ADY sydd gan y plentyn neu’r person ifanc (yr angen)
- pa gymorth sydd ei angen ar y plentyn neu’r person ifanc (y ddarpariaeth)
- yr hyn y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn ei gyflawni pan fydd y cymorth yn cael ei roi ar waith (canlyniad)
- unrhyw gwybodaeth berthnasol arall
Mae CDU yn cael ei baratoi, ei gynnal a’i adolygu’n rheolaidd gan ysgolion, colegau neu awdurdodau lleol. Nid oes gwahaniaeth pwy sy’n cynnal y CDU, mae’n gynllun cyfreithiol.
Bwriedir i’r CDU fod yn ddogfen hyblyg. Bydd yn amrywio o ran hyd a chymhlethdod yn dibynnu ar wahanol anghenion y plentyn neu berson ifanc.
Rhaid i’r CDU gael ei adolygu o leiaf bob 12 mis. Fodd bynnag, efallai y bydd y plentyn, y person ifanc, yr ysgol neu’r coleg yn gofyn am adolygiad cynharach. Caiff yr awdurdod lleol hefyd benderfynu cynnal adolygiad cynharach.
Gellir dod o hyd i enghraifft o ffurflen safonol ar gyfer CDU ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dylid creu CDUau gan ddefnyddiodull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn golygu bod y bobl sy’n adnabod y plentyn neu’r person ifanc orau i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i feithrin dealltwriaeth a rennir o’r hyn sydd ei angen ar y plentyn neu’r person ifanc.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yma Anghenion dysgu ychwanegol: canllawiau ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Amserlenni ar gyfer dyroddi CDU
Os nodwyd bod gan blentyn neu berson ifanc ADY, yna mae angen paratoi’r CDU yn unol ag amserlen benodol, oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr ysgol, y coleg neu’r awdurdodau lleol. Mae’r amserlenni yn dibynnu ar bwy sy’n gwneud y penderfyniad.
- Mae gan ysgol o fewn 35 diwrnod ysgol o’r adeg y dygwyd i’w sylw y gallai fod gan y plentyn ADY.
- Mae gan goleg o fewn 35 diwrnod tymor o’r dyddiad y cydsyniodd y person ifanc i benderfyniad a wneir ynghylch ei ADY posibl.
- Mae gan awdurdod lleol 12 wythnos o’r adeg y dygwyd i sylw’r awdurdod lleol, neu yr oedd yn ymddangos i’r awdurdod lleol, y gallai fod gan blentyn neu berson ifanc ADY.
Bydd copi o’r CDU neu’r CDU diwygiedig yn cael ei roi i’r plentyn, ei riant neu’r person ifanc. Rhaid i hwn gael ei ddarparu ochr yn ochr â gwybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad neu’r CDU, gan gynnwys gwybodaeth am hawliau apelio a’r defnydd o wasanaethau eirioli annibynnol.
Hawl i herio penderfyniadau am ADY
Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc herio penderfyniadau a wneir gan yr ysgol, coleg neu awdurdod lleol ynghylch ADY os ydynt yn anghytuno â nhw.
Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ynghylch:
- a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY
- y ffordd y disgrifir ADY plentyn neu berson ifanc mewn CDU
- y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y CDU
- pwy sy’n gyfrifol am gynnal CDU
Hawl i ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad a wnaed gan ysgol
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y mae ysgol wedi’i wneud ynglŷn ag ADY, bydd angen ichi siarad â chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) eich ysgol neu athro dosbarth yn y lle cyntaf.
Os ydych yn dal i anghytuno â’r penderfyniad a wnaed gan ysgol o hyd, neu os yw’r ysgol wedi gwrthod gwneud penderfyniad o’r fath, gallwch ofyn i’r awdurdod lleol cyfrifol ailystyried y penderfyniad. Y broses ailystyried yw’r enw ar hyn.
Dylid gwneud pob cais ailystyried yn uniongyrchol i’r awdurdod lleol. Er nad oes angen ffurflen benodol, mae’n well gwneud y cais yn glir yn ysgrifenedig gan esbonio eich bod yn gofyn i’r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad. Dylai’r cais gynnwys:
- yr holl wybodaeth sydd gennych am eich plentyn
- unrhyw lythyrau penderfyniad
- unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth ategol arall rydych yn meddwl sy’n berthnasol
Dylai’r ysgol roi gwybodaeth ichi ynghylch sut i gysylltu â’r awdurdod lleol.
Rhaid i'r awdurdod lleol:
- roi gwybod i’r ysgol am y cais
- gwahodd yr ysgol ac unrhyw weithwyr proffesiynol perthnasol eraill i ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol i helpu’r awdurdod lleol i wneud ei benderfyniad
- gweud penderfyniad yn brydlon
- rhoi gwybod ichi am ei benderfyniad ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad o fewn 7 wythnos ar ôl i’r cais ddod i law
Mae’r broses yn wahanol ar gyfer CDUau a gynhelir gan goleg neu awdurdod lleol, gan y gall penderfyniadau yn yr achosion hyn gael eu hapelio i’r TAC.
Hawl i ofyn am eiriolwr i siarad ar eu rhan
Rhywun a fydd yn siarad ar ran plentyn neu berson ifanc yw eiriolwr. Gall fod yn ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n gweithio i asiantaeth broffesiynol.
Mae gan blant a phobl ifanc hawl i gael eiriolwr. Maent yn helpu plant a phobl ifanc ac yn siarad ar eu rhan os oes anghytundeb a gallant helpu â’r canlynol:
- defnyddio gwasanaethau datrys anghydfod
- gwneud apêl i’r TAC
- siarad ar ran plant a phobl ifanc mewn apêl
Rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau i wneud yn siŵr bod gan blant, eu rhieni a phobl ifanc wybodaeth, cyngor a mynediad at wasanaethau eirioli annibynnol. Nid oes cost am y gwasanaeth a rhaid iddynt fod yn ddiduedd.
Hawl i apelio i’r TAC
Mae’r TAC yn penderfynu ar apeliadau ynghylch penderfyniadau ADY a hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae gan blant, eu rhieni a phobl ifanc hawl i apelio i’r TAC yn erbyn penderfyniadau penodol a wneir gan eu hawdurdod lleol neu goleg.
Pan fo’r penderfyniad yn cael ei wneud gan ysgol, mae angen i’r plentyn, ei riant neu’r person ifanc ofyn i’r awdurdod lleol yn gyntaf i ailystyried eu penderfyniad cyn apelio i’r TAC. Nid oes hawl i apelio i’r TAC yn seiliedig ar benderfyniad yr ysgol yn unig.
Ni cheir apelio bob penderfyniad; ceir gwneud apêl:
- os yw coleg neu awdurdod lleol wedi penderfynu ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY
- a oes angen CDU ar berson ifanc
- os yw’r awdurdod lleol yn gwrthod newid neu gynnal CDU
- os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu rhoi terfyn ar y CDU (peidio â’i gynnal)
- os yw’r awdurdod lleol yn gwrthod edrych ar rywbeth eto oherwydd eu bod yn dweud nad oes unrhyw beth wedi newid
Caiff y plentyn, ei riant neu berson ifanc hefyd apelio yn erbyn adrannau penodol o’r CDU. Mae’r rhain wedi’u hamlygu mewn print trwm a choch ac wedi’u tanlinellu ar Gynllun Datblygu Unigol (CDU): enghraifft o ffurflen safonol. Mae’r adrannau hyn o’r CDU yn cynnwys:
- 2A: disgrifiad o ADY y plentyn neu’r person ifanc
- 2B.2: y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i’w darparu
- 2B.3: A ddylid darparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg?
- 2B.5: dyddiad dechrau
- 2B.6: dyddiad gorffen neu adolygu
- 2C.2: y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i’w darparu gan un o gyrff y GIG
- 2C.3: A ddylai’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddarperir gan un o gyrff y GIG gael ei darparu yn Gymraeg?
- 2C.5: dyddiad dechrau y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i’w darparu gan un o gyrff y GIG
- 2C.6: dyddiad gorffen neu adolygu’r darpariaeth ddysgu ychwanegol i’w darparu gan un o gyrff y GIG
- 2D: lle mewn ysgol a enwir, sefydliad arall neu fwyd a llety
Bydd gan y plentyn, ei riant neu berson ifanc 8 wythnos i apelio i’r TAC o’r dyddiad pan fydd yr awdurdod lleol yn gwneud ei benderfyniad terfynol mewn llythyr.
Os byddwch yn penderfynu defnyddio Gwasanaeth Datrys Anghydfod eich awdurdod lleol cyn ichi apelio i’r TAC, bydd gennych 8 wythnos ychwanegol i wneud cais. Byddai hyn yn gwneud y terfyn amser yn 16 wythnos o ddyddiad llythyr penderfyniad yr awdurdod lleol. Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth y TAC eich bod wedi defnyddio’r Gwasanaeth Datrys Anghydfod os byddwch yn gwneud cais yn ystod y cyfnod ymestyn hwn o 8 wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth am wneud apêl ar gael ar wefan y TAC.
Cymorth sydd ar gael
Gwybodaeth am ADY a’r system ADY
Mae’r system ADY yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth a chyngor diduedd am ADY a’r system ADY. Dylai fod cymorth a gwybodaeth ar gael i ysgol neu goleg y plentyn neu’r person ifanc hefyd.
Bydd yr wybodaeth a’r cyngor yn esbonio i plant, eu rhieni a phobl ifanc:
- eu hawliau
- beth i’w wneud os nad ydynt yn cytuno â’r penderfyniadau a wneir
Gallwch ddefnyddio’r offeryn chwilio i ddod o hyd i dudalen wybodaeth ADY yr awdurdod lleol.
I gael rhagor o gyngor a chymorth, gallwch hefyd gyfeirio at y Pecyn cymorth i rieni a gofalwyr plant ag ADY yn ogystal â Phennod 6 o’r Cod ADY.
Defnyddio gwasanaethau datrys anghydfod
Weithiau, mae anghytundebau’n gallu codi. Mae gwasanaethau datrys anghydfod neu anghytundeb yn wasanaethau annibynnol sy’n helpu’r plentyn, ei riant, y person ifanc, ysgolion ac awdurdodau lleol i ddatrys anghytundebau ynghylch ADY.
Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru wneud trefniadau a darparu mynediad at wasanaethau datrys anghydfod annibynnol i helpu i ddatrys anghytundebau. Mae’r gwasanaeth datrys anghydfod yn gwneud hyn drwy helpu pawb dan sylw i drafod yr anghytundeb a gweithio tuag at ddatrysiad.
Yn gyffredinol, dylai gwasanaethau datrys anghydfod yn:
- lleihau’r angen i fynd ag anghytundeb i’r TAC
- arwain at setlo anghytundebau’n gyflymach
Nid yw defnyddio gwasanaethau datrys anghydfod yn orfodol. Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc wneud apêl i’r TAC heb ddefnyddio gwasanaethau datrys anghydfod.
Nid yw defnyddio’r gwasanaeth datrys anghydfod yn atal plentyn, ei rieni na pherson ifanc rhag gwneud apêl. Hyd yn oed os oes apêl wedi’i gwneud, gall plant, eu rhieni a phobl ifanc barhau i siarad â’r awdurdod lleol i geisio dod i gytundeb.
GIG Cymru: cwynion a phryderon
Enw’r broses ar gyfer codi pryderon, cwynion neu anghytundebau yn y gwasanaeth iechyd, GIG Cymru, yw Gwrando ar Bobl.
Os oes gennych bryderon am ofal neu driniaeth yn y GIG, mae’n well siarad â’r staff dan sylw cyn gynted â phosibl. Byddant yn ceisio datrys eich pryderon ar unwaith.
Os nad yw hyn o gymorth, neu os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn siarad â’r staff, gallwch gysylltu â thîm cwynion y bwrdd iechyd neu’r ymddiriedolaeth.
Cael help gan gyfaill achos
Efallai y bydd angen help ar rai plant neu bobl ifanc i ddeall eu hawliau o dan y system ADY. Os nad yw plentyn neu berson ifanc yn meddu ar y galluedd meddyliol i ddeall y materion hyn, gall cyfaill achos:
- siarad ar ran plentyn neu berson ifanc
- eu cefnogi i wneud penderfyniadau
- eu helpu i ddeall gwybodaeth am ADY
- gwneud apêl i’r TAC ar eu rhan
Gallwch chi neu eich plentyn ofyn i’r TAC am gyfaill achos.
Mae Pennod 32 o’r Cod ADY yn rhoi mwy o wybodaeth am ddefnyddio cyfeillion achos i gefnogi plant nad oes ganddynt alluedd ac am ddefnyddio cynrychiolwyr i gefnogi pobl ifanc nad oes ganddynt alluedd i arfer eu hawliau a gwneud penderfyniadau o dan y Ddeddf ADY.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ADY ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gallwch hefyd gysylltu:
Y Gangen ADY
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Dolenni defnyddiol
- Anghenion dysgu ychwanegol: canllawiau ar gyfer rhieni a gofalwyr: yn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall y system ADY a’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc.
- Tribiwnlys Addysg Cymru (TAC): yn gwneud penderfyniadau ar apeliadau ynghylch ADY a hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: yn darparu cyngor a gwybodaeth ddiduedd ynglŷn ag amrywiaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc (o enedigaeth hyd at 25 oed).
- Niwrowahaniaeth Cymru: yn darparu adnoddau wedi’u hanelu at gynyddu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth o niwrowahaniaeth i rieni a gofalwyr pobl niwrowahanol.
- Gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion: canllawiau ar y gyfraith i awdurdodau lleol: yn amlinellu’r dyletswyddau cyfreithiol sydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cyngor, datrys anghydfodau a gwasanaethau eirioli.
- Anabledd Dysgu Cymru: elusen genedlaethol sy’n cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru. Mae’n hyrwyddo pwysigrwydd addysg ôl-16 hygyrch a chynhwysol i ddysgwyr sydd ag anghenion cymhleth, gan godi pryderon am rwystrau yn y broses ddiwygio ADY bresennol.
- Gwrando ar Bobl: y broses ar gyfer codi pryderon, cwynion neu anghytundebau o fewn GIG Cymru.
Geirfa
Mae’r geirfa hon yn rhoi ystyr geiriau ac ymadroddion, gan gynnwys byrfoddau, a ddefnyddir yn y canllaw hwn.
Adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Ffordd o adolygu cynnydd a chefnogaeth plentyn sy’n sicrhau bod ei lais a llais rhieni yn cael y lle canolog. Mae’n wahanol i adolygiad traddodiadol o ran bod barn pawb yr un mor bwysig â’i gilydd.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu neu anableddau sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu.
Apeliadau
Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc wneud apeliadau i’r TAC yn erbyn penderfyniadau penodol a wneir gan goleg neu awdurdodau lleol ynghylch ADY.
Awdurdod lleol
Cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru, ac eithrio lle cyfeirir yn benodol at awdurdod lleol yn Lloegr (i gael gwybod ystyr hynny gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996).
Cod ADY
Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.
Coleg
Sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Cyfaill achos
Person a benodir i gynrychioli, cefnogi a gweithredu ar ran plentyn.
Cynllun datblygu unigol (CDU)
Y cynllun ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag ADY. Mae’n esbonio eu ADY a’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen arnynt.
Cynrychiolydd
Person a gaiff weithredu ar ran plentyn neu berson ifanc, yn enwedig pan nad oes ganddynt alluedd, gan gynnwys mewn achosion TAC neu brosesau ADY.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol
Enw ar gyfer y cymorth ychwanegol a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag ADY.
Ddeddf ADY
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Eiriolwr
Mae eiriolwr yn rhywun sy’n darparu cyngor a chymorth i blentyn neu berson ifanc (gan gynnwys cyfaill achos plentyn) sy’n ystyried neu’n gwneud apêl i’r TAC neu’n cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer osgoi neu ddatrys anghytundeb.
Galluedd
Gallu plentyn i ddeall a gwneud penderfyniadau ynghylch arfer ei hawliau o dan y system ADY.
Gwasanaeth datrys anghydfod
Trefniadau a wneir gan awdurdodau lleol i helpu i ddatrys anghytundebau.
Gwasanaeth eirioli annibynnol
Gwasanaeth sy’n darparu cyngor, cymorth a chynrychiolaeth annibynnol i gefnogi plentyn neu berson ifanc i fynegi eu barn. Mae hefyd yn helpu gyda’r broses apelio neu wasanaethau datrys anghytundeb.
Hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd
Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd yn yr ysgol i’r TAC.
Lleoliad addysg
Unrhyw le lle darperir addysg, gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion, colegau neu drefniadau eraill fel addysg heblaw yn yr ysgol.
Person ifanc
Person sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, ond sy’n iau na 25 oed.
Plentyn
Person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (y caiff ystyr hynny ei roi gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996).
Proses ailystyried
Y broses lle caiff plentyn, rhiant neu berson ifanc ofyn i awdurdod lleol ailystyried penderfyniad a wnaed gan ysgol a gynhelir.
Rhiant
Yr ystyr a roddir i ‘parent’ yn adran 576 o Ddeddf Addysg 1996. Mae’n cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn.
System ADY
Y system statudol ar gyfer bodloni ADY plant a phobl ifanc. Mae’n cynnwys y Ddeddf ADY, y Cod ADY a’r Rheoliadau.
Tribiwnlys Addysg Cymru (TAC)
Mae’r TAC yn gwrando ar apeliadau ac yn penderfynu ar anghydfodau sy’n ymwneud â phenderfyniadau ar ADY a CDUau.
Mae geirfa fwy cynhwysfawr o dermau ar gael ym Mhennod 1 o’r Cod ADY.
