Archwilio'r rhwystrau i ymweld â safleoedd treftadaeth yn y DU.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r ymchwil hon yn archwilio’r rhesymau pam na chafodd safleoedd treftadaeth eu hystyried ar gyfer dyddiau allan, ac yn ceisio deall beth sy’n debygol o ddenu ymweliadau yn y dyfodol.
Canfu’r ymchwil fod yna sawl ffactor sy’n atal ymwelwyr rhag ymweld â safleoedd treftadaeth yn amlach neu o gwbl, gan gynnwys nid ydynt yn hawdd i’w cyrraedd ar gyfer diwrnodau allan ac nad yw pobl yn gwybod digon am yr hyn sydd yno i’w wneud / gweld pan fyddan nhw’n cyrraedd yno.
Roedd yna ffactorau lluosog a fyddai’n cynyddu’r tebygolrwydd o ymweliad gan y rhai nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn ymweld yn aml neu o gwbl, gan gynnwys caffi ar y safle, mwy o wybodaeth ryngweithiol, mwy i blant ei wneud, a mwy o ddigwyddiadau. Roedd diffyg ymwybyddiaeth hefyd am enghreifftiau o’r uchod sydd eisoes yn bodoli ar safleoedd Cadw.
